Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

'",...... { .. jJ. 1 -: CyQafan…

Eisteddfod Penuel, Bangor.…

News
Cite
Share

Eisteddfod Penuel, Bangor. Cynhaliwyd Eisteddfod Flynyddol Capel Pen- uel (B.), Bangor, nosweithiau Llun a Mawrth di- weddaf, a phrofodd y cyfarfodydd yn rhai hynod lwyddianus ac atdyniadoL Y llywyddion eleni oeddynt y Prifathraw Silas Morris, M.A, a'r Oynghorydd W. P. Matthews tra yr arweiniwyd gan Mr David Rowlands, Bangor Uchaf, a'r Parch W. G. Owen (Llifon), Oorris. Am Llifon, teg ydyw dweyd ei fod yn arweinydd eisteddfodol pert a pharod iawn, ac yn llwyddo i gadw cynulleidfa fawr mewn hwyl a thymer dda am dair awr o am- ser. Efe hefyd ydoedd beirniad v farddoniaeth; tra y clorianwyd y traethodau gan y Prifathraw Silas Morris. Gofalwyd am y gerddoriaeth yn hjrfedr gan Mr W. T. Samuel. G. and L., Caer- dydd, a Mr E. H. Harding, Mus. Bac., Bangor. Y cyfieithiadau, y Prifathraw John Price yr ad- roddiadau, Llifon a'r Prifathraw J. Price. Ar wahanol faterion eraill beirniedid gan y personau canlynol :Mri ltd. Williams a J. P. Jones, Oae- llepa; D. Rowlands, Hill-street; G. Williams, Garth-road W. Emlyn Roberts,Penrallt-terrace R. Winter Jones, University House; Benjamin Roberts, Penrallt-terrace a J. Lloyd Jones, Hill- street. Swyddogion y pwyllgor oeddynt: —-Cad- eirydd, Mr Wm. Thomas, Bangor Uchaf; isgad- eirydd, Mr D. Rowlands, eto taysorydd, Mr Ed- win Jones, cabinet maker, High-street; a'r ysgrif- enydd, Mr J. Lloyd Jones, Hill-street, Bangor Uchaf, yr hwn a gyftawnodd amryfal ddyledswydd- au ei swydd yn feistrolgur a llwyddianus dros ben, a haedda ganmoliaeth uchel y frawdoliaeth Fed- yddiol yn Mangor. Ni ddylem anghofio crybwyll i Mr E. G. Owen, Greenwich House, roddi ei was- anaeth galluog fel cyfeilydd yn ystod yr eistedd- fod. Y OYSTADLEUAETHAU. Dechreuwyd cyfarfod nos Lun gydag unawdi ar yr ocarino, yn gampus, gan Mr H. Gwilym Owen, Greenwich House, yr hwn a chwareuodd y "001- omen wen" (R. S. Hughes) ac wedi cael anerchiad byr gan y llywydd (Prifathraw Silas Morris) aeth- pw-d yn mlaen a'r cystadleuaethau fel y canlyn: Unawd soprano, yr hon a endllwyd gan Miss Hum- phreys, aelod o gapel cenhadol Kyffin-square. Am ateb gofyniadau o Efengyl Luc: pedair merch y Parch E. Evans. Unawd ar y berdoneg: 1, Miss Wickens 2, Miss W inter J ones. Ar y llaw- yggtdfen 1, R. Gordon Roberts; 2, Willie Jones Eto: 1, Ceridwen Williams1; 2, E. M. Roberts. Unawd tenor, "Perl fy nwyfron," Mr RobertJohn i Hughes. Am y ddau englyn goreu i Gapel Penu- el: goreu, Mr E. O. Jones, Gaerwen. Unawd soprano, "Deigryn ar fedd fy mam: Miss Ellen Perry Bangor. Y prif draethawd, Pa sawl add- ewid wnaeth Duw i Abraham, a beth oedd eu natur" (cyfyngedig i efrydwyr Ooleg Bedyddwyr Bangor) cyfartal oreu, Mr J. W. Roberts a Mr E. Myrddin Thomas. Oystadleuaeth i barti o 1 blant (12-eg mewn rhif): goreu, parti Penuel, dan arweiniad Master Frank Griffith; rhoddwyd caranoliaeth uchel hefyd i ganu parti Kyfiin-sq. Beirniadaeth ar bryddest y gadair, "Mae Oen y Poethoffrwm," cyfyngedig i rai heb enill cadair o'r blaen, ac yr oedd pump yn ymgeisio. Y wobr oedd cadair dderw hardd, rhoddedig gan Mr J. P. Jones, Caellepa. Y bardd buddugol oedd y Parch J. Gwyddno Williams, gweinidog y Bedydd- wyr, Brynsiencyn, Mon, yr hwn a gadeiriwyd yn y dull arferoL Deuawd soprano a contralto Miss Maggie L. Jones, Bethesda, a'i ffrynd. Unawd ar y berdoneg 1, Miss Mathews (merch y Oyng- horydd Mathews); 2, Miss Lewis, Olaremont. Dictation Cymraeg: Miss Evans, Penrallt-road. Ateb cwestiynau mewn cerddoriaeth 1, Mr J. W. Roberts, Hirwaen House; 2, Mr J. P. Jones, Cae- llepa. Unawd, "Y bachgen dewr" (cyfyngedig i rai heb enill o'r blaen): goreu, Mr Willie Dew, Porthaethwy. Adroddiad i blant 1, Miss Maggie Evans 2, Miss Oeridwen Williams. Yn ddilyn- ol cymerodd dwy gvstadleuaeth eto Ie mewn corau plant. Cyfyngid rhif y corau cyntaf i 16, yr hon wobr a gipiwyd gan blant Kyffin-square; ond cor Penuel a gurodd yn yr ail, lie yr oodd rhif y corau i fod yn 40. Llanwyd y gadair lywyddol nos Fawrth gan y Oynghorydd W. P. Mathews, yr hwn, yn ei an- erchiad, a ddywedodd ei fod am roddi cadair fardd- ol a medal aur i gystadlu am danynt yn eisteddfod y flwyddyn nesaf. Am ganu yr unawd soprano, "Merch y morwr," enillwyd gan Miss Eiddon Jones. Pedwarawd, "Y Deigryn," cipiwydy wobr hon, gyda chanmoliaeth, gan Mr H. T. Owen a'i barti. Y traethawd goreu ar "Ddyledswydd yr Eglwys yn ngwvneb arferion yr oes" ydoedd yr un anfonwyd i mewn gan Mr David Rowlands, Bangor Uchaf. Am wneud nightdress case i ferch, dy- farnwyd y wobr i Miss Hughes, 335, High-street. Cafwyd cystadleuaeth galed ar yr unawd bass, "Teyrn y dydd:" rhanwyd y wobr cydrhwng Mr J. O. Hughes, Lerpwl, a Mr J. O. Morris, Penis- a'rwaen. Yr oedd cynifer ag 16 wedi ymgeisio ar gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg; ond dyfarnwyd eiddo Mr R. Hughes (Caellepa), Mr E. O. Jones (Gaerwen), a Mr Williams (Dinorwig House, Glan- adda) yn gyfartal oreu. Y goreu am gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ydoedd Mr J. W. Roberts, Hirwaen House, a Mrs Wynne, West End, yn *il. Am gyfansoddi ton gynulleidfaol, rhanwyd y wobr gyntaf cydrhwng Mr J. W. Roberts, Ban- gor, Mr Obadiah Edwards, Porfch, Deheudir Cymru ail, Mr R. O. Jones, Bethesda. Yn awr cafwyd cystadleuaeth dda ar chwareu darn difyfyr ar y berdoneg: 1, Miss Nellie Jones, Longford- terrace, Caergybi. Oystadleuaeth adrodd "Y boreu olaf:" allan o bedwar adroddiad penigSxnp- gafwyd ar y llwyfan, dywedai ybeirniaid mai y' goreu o ddigon ydoedd eiddo Mr E. O. Jones, Gaerwen; ail, Mr J. P. Jones, Caellepa. Am ganu yr unawd tenor, "Y rhosyn unig," enillwyd y gamp yn rhwyddgan MrJ. T. Roberts (Teg(fan), yr hwn a ganodd yn ardderchog. Mrs Roberts, Hirwaen House, -gymerodd v wobr am y traethawd cyfyngedig i ferched. Rhainwyd y wobr am dynu llun ffrynt pwlpud Penuel gyda phensil cydrhwng Masters R. Gordon Roberts a Richie Jones. Un parti gvstadlodd mewn canu y ddeuawd tenor a bass, "For so hath the Lord," sef Tegfan a Mr J. 0. Morris, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Oanu pedwarawd ar yr olwg gyntaf: ys- tyriwyd parti o Penuel yn llawn haeddu'r wobr. Yn nesaf daeth y brif gystadleuaeth gorawl ar ganu "Teilwng yw yr Oen" (Handel). Gwobr, 7p 7s, a medal aur hardd i'r arweinydd. Bodolai y brwd- frydcdd mwyaf yn awr. Ymgeisiodd tri o gorau. yn y drefn a ganlyn—Oor Pendref. Bangor, tan arweiniad y Cynghorydd John Williams Cor Pen- uel, tan arweiniad Mr Wm. Williams a Chor Llanerchymedd, tan arweiniad Mr O. Owen. Y beirniad (Mr W. T. Samuel), ar ol nodi allan rag- oriaethau lli diffygion y gwahanol berfformiadau, a ddywedodd nad oedd ganddo y petrusder lleiaf mewn cyhoeddi cor Llanerchymedd yn fuddugol, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanollionftoedd- iadau brwdfrydig ei gefnogwyr. Un o feirniaid pwysicaf pob eisteddfod a chyfar- fod llenyddol yw yr un cerddorol; a mynych iawn y bydd grwgnaoh mewn canlyniad i'w dyfarniadau. Modd bynag, credwn i Ir Harding a Mr Samuel roddi peoilaith roodlonrwvdd wrth giorianu y gerddoriaeth yn Eisteddfod Penuel. Yr oedd y cyfarfodydd mor boblogaidd ag erioed, yn neill- duol yr ail noson, a chredwn iddynt droi allan yn liwyddiant arianoL

[No title]

INODI ON O'H DEHEUDIR. j

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANRWST A'R CYLCH.

Family Notices

ifanvolaetli Mv Lhw&lyn Adams.…

---Bwrdd Gwarcheidwdd Penrtyndendraetbt…

TrycMneb yn yr Afon Uyfrdwy.

-------------TRAWSFYNYDD.