Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

'",...... { .. jJ. 1 -: CyQafan…

Eisteddfod Penuel, Bangor.…

[No title]

INODI ON O'H DEHEUDIR. j

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANRWST A'R CYLCH.

Family Notices

ifanvolaetli Mv Lhw&lyn Adams.…

---Bwrdd Gwarcheidwdd Penrtyndendraetbt…

News
Cite
Share

Bwrdd Gwarcheidwdd Penrtyndendraetbt — Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, yn Mhorth- madog, o dan lywyddiaeth Mr John Jones, Y.H., Ynysfor (llvwydd). Yr Elusenau a'r Tlodion.—Talwyd mewn elus- enau yn ystod y pythefnos ddiweddaf 228p 7s He, m- gyfer 241p 15s 4c yr un amser y llynedd, a gofynid 225p at y pythefnos nesaf. Cyfanrif y tlodion yn yr Undeb ydoedd 878, ar gyfer 925 yr un ajnser y llynedd. Y Ty.—Hysbysoda y Meistr fod 27 yn y Ty ar gyfer 71, a galwodd 30 o grwydriaid yn ystod y pythefnos.—Pasiwyd i if on plant Peter Car- TOII i Dlotty Caernarfon, bod y Olerc i wneud ymchwiliad a ydyw wedi priodi eu mham?—Mr Robert Richards o gynygiodd hyn, a Mr J oh Thomas a gefnogodd y cyfryw. Plant T. Roberts.—Gafwyd sylw ar achos plant Thomas Roberts, Rhydysarn, y rhai sydd yn y Ty mewn canlyniad iddo ef a'i wraig, Jane Ro- berts, gael eu cospi am eu hesgeuluso. Yr oedd ef wedi d'od yn ol, ond heb gartref; bellach na lettyai gyda'i chwaer oedd yn weddw.—Cynygiodd Mr W. Jones, a chefnogodd Mr Ellis W. Roberts, fod y plant yn cael eu hanfon yn ol i'w tad i ofalu am danynt.—Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd gan y Bwrdd hawl i gadw y plant yn y Ty, gan fod <eu tad yn ddyn iach ao yn abl i'w cadw. —Mr Oadwaladr Roberts a gynygiodd welliant a Mr John Thomas a gefnogodd, fod yr achos yn cael ei oedi am bythefnos er mwyn rhoddi cyf- leusdra i Thomas Roberts gael gwneud trefniadau ar gyfer y plant. Teimlent yn ddwys dros y tad, am mai trwy ei wraig, yn ol eu barn hwy, yr oedd ef a'r plant yn y fath boen barhaus.—Y Cadeirydd a sylwodd fod cynygiad i'r plant gael eu hanfon yn ol i Blaenau Ffestiniog at eu tad.— Mr W. Powell a ddywedodd na fuasai neb oedd yn gwybod rhywbeth am yr achos yn debyg o gynyg peth o'r fath. Yr oedd yn greulondeb at y plant a'r tad i wneud hyny.—Y Oadeirydd a ddywedodd mai y tad oedd yn rhwym o ofalu am y plant.— Wedi gofyn i'r meddyg (Dr. J. R. Jones) a oedd lie i'T plant gael aros yn y ty am bythefnos, ac iddo ateb nad oedd, bu i'r cynygiad basio, a bod y plant yn cael eu hanfon i ofal y tad.—Mrs Mor- gan a hysbysodd fod Oymdeithas Ddirwestol v Merched wedi cymeryd y bachgen hynaf o dan eu nawdd, a bod Mrs Morris yn garedig wedi gofalu am ei gael yn ddyogel i'w gartref newydd yn Trefriw. Credent y byddai y bachgen yn well arno, ac y caiffai bob gofal a thiriondeb. Teimlai y Bwrdd yn llawen iawn ganddynt glywed ynewydd hwn. Cofio Tlodion y Ty.—Y Meistr a ddywedodd I fod y rhai oedd yn y Ty yn dymuno arno gyf- lwyno eu diolch i'r Bwrdd am eu caredigrwydd iddynt trwy y wledd Nadolig a gawsant, a'r hon a fwynhawyd yn fawr ganddynt oil.—Yr oedd Mri Thomas Roberts, Shop Isaf, Maentwr- og; John Evans, draper, Porthmadog; John Gaa Jones, eto; a William Evans, New Square, Blaenau Ffestiniog, wedi anfon rhoddion Nadolig i'r tlodion.—Pasiwyd pleidlais o ddiolch cynhes i'r boneddigion caredig Achos Mary Elizabeth Davies.—Hysbysodd y Meistr fod Mrs Davies wedi d'od i'r Ty ar yr 21ain o Ragfvr "mewn cyflwr aflan iawn."—Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Peter Davies, cvfrif- ydd, Blaenau Ffestiniog, yn addef iddi fod yn cysgu ar gadeiriau, etc., a'i fod wedi ei hanfon i'r Ty am nad allai gael un man i fyned gyda hi. Yr oedd yn barodi ymrwymo i dalu am ei lie.— Y Meistr a ddywedodd nad oedd lie cyfaddas i achos o'r fath yn y Ty yn bresenol, gan fod ys- tafelloedd yn cael eu chwalu.—Dr. J. R. Jones a ddywedodd fod yr achos yn un drwg iawn. Dylai fod mewn yspytty.—Mr C. Roberts a feth- ai weled pa fodd yr oedd p. Davies yn methu cadw y wraig ac yn ei hanfon i'r Ty, tra yr oedd yn gallu cadw y tafarniwyr. A oedd ef wedi talu yr hyn oedd ddyledus ar ol iddi fod yn y Ty o'r blsKix 1 Oynygiai ohirio yr achos am bythefnos, a chefnogodd Mr John Thomas.—Mr W. Jones a gynygiodd ei bod yn cael ei hanfon i yspytty, a chefnogodd Mrs Morris ond wedi i'r Meddyg hysbysu nad oedd un gobaith iddi wella o'i haf- iechyd, tynasant eu cynygiad yn ol.—Pasiwyd i oedi am bythefnos, a bod y Olerc i anfon at P. Davies ar y mater. Achos Teulu Thomas Brookes.—Yr oedd y wraig a phump o'r plant yn y Ty, ac yn awr yr oedd yr Arolvgydd Moirgan yn dychlyd y papyrau a darlun Brookes i'r Bwrdd, gan ei fod yn symud o'r dosbarth, ac wedi methu cael hyd i T. Brookes.—Mr C. Roberts a fethai ddeall pa fodd nad oeddid yn d'od o hyd i'r dyn.—-Pe bu- asai wedi gwneud peth llawen llai pwysig na gtadael ei deulu, buasai wedi ei ddal erg talm. Cynygiai fod sylw Prif-Gwnstabl sir Gaernarfon a sir Feirionvdd yn cael ei alw at yr achos, a bod ymdrech briodol yn cael ei wneud i ddal y dyn. —Mrs Morgan a ddywedodd fod Cymdeithas y Merched wedi sicrhau lie i'r hynaf o'r plant i fyned i Bodlondeb, Trefriw, ac yr oeddid yn hy- deru gallu cael lie i un o'r lleill. Yna gallai y fam wneud gyda'r tri fyddai ganddi, a'u cadw hyd nes y delid ei gwr ar warant oedd allan yn ei erbyn.—Pasiwyd cynygiad Mr C. Roberts, a chymeradwyodd y Bwrdd y trefniad gyda anfon y plentyn hynaf i Trefriw. Achos Margaret Ann Roberts (Tala Rock).— Y Meistr a hysbyeodd fod M. A. Roberts yn awyddus i gael d'od allan o'r Tlotty yn Nghaer- narfon,, a'i fod yn gofyn am gael arian i dalu ei ehludiad yn ol yma. Dyvvedai y cai fyned i'r lle'r oedd cyn d'od i'r Ty.—Y Swyddog Elusenol (Mr Daniel Humphreys) a sicrhai nad oedd 11", iddi yn y fan y dywedai hi fo<L—Y Olerc a hys- bysodd iddo ef anfon llythyrau i holi am ei gwr William Roberts; ond daeth y llythyrau yn ol, a dywedodd ei dad John Roberts, Lord-street, Blaenau Ffestiniog, nad oedd yn gwybod dim am dano, ac na fu yn aros yn ei dy ef ers deu- naw mis. Yr oedd llythyr ganddo oddiwrth y tad John Roberts, yn gwneud sylwadau crwydr- ol a'i fod yn cael cam gan y Bwrdd yn yr achos. —-Mrs Morgan deimlai fod dull John Roberts o ymddwyn yn y mater yn un anheilwng, a diau y byddai i'r Bwrdd gadw hyny mewn ystyriaeth pan ddelai eto ar ofyn y cyfryw, fel y bu o'r blaen. Daliai hi fod William Roberts yn d'od gartref ar ddiwedd pob wythnos bron, ac nid oedd amheu- aeth ganddi na wyddent yn berffaithdda lle'r oedd.—Mrs Casson a gynygiodd fod y cwrs cyf- reithiol llymaf yn cael ei gymeryd yn erbyn Wil- liam Roberts am esgeuluso ei wraig a'i blentyn, gan fod yr ymddygiadgu yn yr achos yn rhai eithriadol anheilwng.—Cadben Morgan Jones a gefnogodd, a phasiwyd hyny.—Gwrthodwyd an- fon airian i'r wraig dd'od o'r Tlotty, gan nad oedd ganddi le i fyned pan ddeuai allan, ond troi yn ol am y Tlotty. Ymddiswyddiad Hen Swyddog.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Bees Roberts, swyddog elusenol dosbarth Llanfihangel, yn rhoddi ei le i fyny ar derfyn yr haner blwyddyn bresenol, Mawrth 25ain. Yr oedd yn. 86ain mlwydd oed, ac wedi bod yn gwasanaethu am 41ain mJynedd. Teimdai fod llesgedd hen ddyddiau yn galw arno ymneilldjuo.—Y Cadeirydd a deimlai, fel y Gwarch- eidwad hynaf yn y lie, fod yn ddrwg iawn ganddo glywed darlleniaid y llythyr a deall trwyddo fod eu hen swyddog anrhydeddus a chywir yn gorfod ymneillduo oherwydd henaint.—-Mr W. Jones a ddywedodd ei fod yntau yn ail i'r Cadeirydd mewn oed fel aelod o'r Bwrdd. Yr oedd yntau yn gofid- io wrth glywed darlleniad y llythyr. Yr oedd ganddo y syniadau uwchaf am Mr Rees Roberts, fel ffwas ffyddlon a dyn teg at y tlodion. Yr oedd yn well i'r tlodion yn eu cefnau yn y Bwrdd nag wrthynt yn bersoriol. Swyddog cywir, go- nest, fu ef am yr holl flynyddoedd.—Mr C. Ro- berts a ddywedodd fod yn ddrwg ganddo weled henaint wedi gwasgu Mr Rees Roberts i'r gongl yr oedd, ond yr oedd yno yn anrhydeddus a'i goron ar ei ben. Swyddog hynaf y Bwrdd yn gorfod rhoddi ei le i fyny oherwydd llesgedd henaint! Cynygiai oedi derbyn yr ymddiswydd- iad nes byddai ef ei hun yn bresenol.—Mrs Mor- gan a gefnogodd, ac wedi pasio hyny, cynygiodd Mrs Morgan, a chefnosrodd Mr R. Richards, eu bod yn anfon llythyr o gydymdeimlad a Mr Rees Roberts yn ei gystudd, a phasiwyd i'T Olerc an- ato yn y .modd cynhescf deimlad y Bwrdd. Buch-frech'i.—O.-fwyd amryw ddeisebau o Unteban eraiJ yn erbyn Dcddf Newydd Buch- frechii, a phasiodd y Bwrdd i'w cefnog:.—Cafwyd adroddisd y pwyllgor benodwyd i dynu allan y trefniadau swyddogion meddygol ar fater buch-freehu. Argymhollent fod y 3wm isaf o dan y Thtoddf, 5s am bob achos, i gael ei dalu i'r meddyg. a 2s ychwanegol am bob un fyddo yn byw dros 'Hyth jtulldir o'i breswylfod, a bod 2s 6! yr un yn cael ei dalu am gofrestru yn lie Is yr un.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. G. J. Roberts, Ffestiniog/ yn cydsynio a'r telerau uohod.—Dr, J, R. Jones a Jioffai weled rhai peth- au yn cael ystyriaeth fwy ffafriolDr W. Jones- Morria a deimlai yn ddiolchgar am yr yebryd caredig ddangosid at y swyddogion meddygoL Gwnelent hwy, fel meddygon, eu goreu i atal dyfodiad haint y frechwen i'r Undeb.—Ar gyn- ygiad Cadben Jones, a chefnogiad Mr W. Jones, derbyniwyd yr adroddiad. Ysgol G&nolraddol Porthmadog.—Ar gynygiad Mr Daniel Evans, a chefnogiad Mr J. Roger Owen, etholwyd Mr Robert Wm. Jones, Ty Cer- rig, Garn, yn aelod ar Gorph Llywodraethol yr ysgol uchod yn lie y diweddar Mr R. Rowlands, Penmorfa. Pwyllgor y Byrddio Allan.—^Darllenwyd ad- roddiad y pwyllgfor sydd yn gofalu am y plant fyrddir allain o'r Tlotty, a chymeradwywyd yr awgrymiadau Toddid ynddo yn eu .cylch.

TrycMneb yn yr Afon Uyfrdwy.

-------------TRAWSFYNYDD.