Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

eaafau Seneddol Newydd.

,Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn.

Ssgenlnso Plant yn Methesda.

A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn…

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan.

ILlythyr Nodedig Eunanlsiddiad.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR !

[No title]

News
Cite
Share

CYMMJ A ll FLWYDDYN 1898. Pan yn gwyixibu ar flwyddyn newydd yr ydym rywfodd, bron yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn tioi ein llygaid i cdrych yn ol ar yr han flwy- ddyn. "Dyddiau a draethant," medd rliyw un ers llawer dydd, ac y mae dechreu blwyddyn yn adeg gvfleua iawn i ni brofi gwirionodd y dywed- iad trwy wrsndo ar yr hyn a dra-ethir gan ddydd- ¡ iau y flwyddyn sydd newydd derfynti. Bydd hyn yn foddion i ddysgn doethineb i ni, ac o bosibl yn ein gwneud yn fwy parod i ymgymeryd a f dyledswyddau y flwyddyn sydd wedi dechreu. Y I mae personau unigol, ewmnioedd, cymdeithasau, a chyfundebau yn cymeryd mantaia ar yr adeg' i gymharu eu sefyllfa bresenol a'r hyn ydoedd I ers blwyddyn yn ol. V .maent yn bwrw y draul, yn tafoli y colledion a'r enillion, a threfnant ar yn tafoli y colledion a'r enillion, a threfnant ar gyfer y dyfodol yn unol a'r wybodaeth dderbynir ganddynt trwy gymharu pethau yn y modd yma. Os yw gwneud peth felly yn ddoethineb mewn cylchoedd cyfyngedig o'r fath a nodwyd, hwyrach mai nid anfuddiol hollol fuasai lielaethu ychydig ar y cylch ac edrych ar sefyllfa cenedl y Cymry o'i chymharu a'r hyn ydoedd ar ddechreu 1898. Cwestiwn pwysig i genedl, fel i berson unigol, ydyw y cwestiwn pa un ai myned rhagddi y mae ynte myned yn ol, fel y mae yn heneiddio? A ydyw y genedl wedi elwa ychydig yn ystod y flwyddyn, ac wedi dyrchafu anewn gwybodaeth, mewn moesau, ac mewn dylanwad er daioni? Y mae yn rhaid cofio mai byr iawn yw blwyddyn i beri fod un cyfnewidiaa niawt wedi ei ddwyn oddiamgylch yn mywyd ac arferion cenedl, ao nas gallwn, ddisgwyl gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn ydyw yn awr a'r hyn ydoedd ar ddechreu 1898, oddieithr fod rhywbeth eithriadol wedi cym- eryd lie. Wrth edrych yn ol aT y flwyddyn ddi- weddaf gallwn lawenhau wrth feddwl nad oes dim anarferol a sydyn wedi digwydd fel y mae lie i gredu fod unrhyw gynydd a wnaeth yn un araf a phwyllog, ac felly yn debyg o fod yn un arhosol a pharhaol. Ped-ediychwn. yn y lie cyntaf ar y golofn sydd yn dangos y colledion a gafodd Cymru yn ystod y flwyddyn, gwelwn ar unwaith, er fod amryw o ddynion da a gweithgar wedi eu cymeryd ymaith, fod 1898 yn.cymharu yn ffafriol iawn a'r blynyddoedd blaenorol. Hwyraeh na fuasem yn cyfeiliorni yn fawr pe dywedem mai y ddau Gymro mwyaf amlwg ac adnabyddus a fuont feirw yn ystod y flwyddyn oeddynt y Prifathraw Michael D. Jones a Mr Gee, o I>dinbych. iCymerwyd oddiwrthym nifer o ddynion eraill oeddynt, yn eu cylchoedd, yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i'r genedl. Y mae yr Eglwys wedi colli gwasan- aeth amryw o ddynion o ddylanwad a defnydd- ioldeb, yn eu plith yr oedd Canon Morgan, Ban- gor; Canon Allen, Barry; a'r Prifathraw Gent, 0 Lanbedr, yn nghydag eraill heb fod mor adna.- byddus. Collodd yr Ynmeillduwyr y Parch T. Job, Conwil; y Parch D. S. Davies, golygydd y "Celt;" y Parch Thomas Hughes, Machynlleth, yn nghyda nifer o ddynion llai amlw, m Y mae y genedl yn dlotach oherwydd colli hen arweinwyr profiadol oeddynt bob amser a'u bryd ar wneud daioni; ond wedi'r cwbl y mae genym achos i yjnwroli gan fod nifer lluosog o ddynion ieuainc dysgedig a medrus yn codi yn ein mysg, y rhai ddeuant yn fuan iawn i lanw y bylchau ac i'n cynorthwyo fel cenedl i orchfygu y rhwyatrau sydd o'n blaen. 0 safbwynt boliticaiddi nid oea un cyfnewidiad o bwys i'w groniclo. Cymerodd un etholiad le mewn etholaeth Gymreig yn ystod y flwyddyn ond ni wnaeth un cyfnewidiad yn y pleidiau, gan i Radical gael ei ddewis yn olynt- ydd i Radical fel cynrychiolydd sir Benfro. Nid ydym yn credu fod y iBJaid Radicalaidd wedi gwella dim ar eu sefyllfa, tra y mae rhagolygon yr Undebwyr yn fwy addawol o lawer nag yr oedd- ynt.' Mewn ystyr lenyddol bu y flwyddyn yn bwysig ar gyfrif y llrfrau gwerthfawr a gyhoedd- wyd. Dygwyd allan argraphiad newydd, mewn un gyfrol, o waith Theophilus Jones ar hanes sir Frycheiniog, ond credwn y buasai yn dda i'r cy- hoeddwr fod wedi gosod rhywun galluog i wneud y gjwaith, i ddwyn yr hanes i lawr hyd at ein dydd- iau ni. Cafwyd hefyd un gyfrol ar ysgrifau Mos- tyn fel ffrwyth llafur Mr Gwenogfryn Evans. Oyhoeddwyd argraphiad y Proffesw-r Morris Jones o'r "Bardd Owsg," gan Ellis Wyn; a dygodd y Proffeswr Anwyl allan y rhan gyntaf o'i Ram- adeg. Argraphwyd nifer o lyfrau eraill yn dal perthynas a Chymru ao yn darlunio bywyd y genedl. Mewn ystyr grefyddol, nid oes dim eithr- iadol wedi digwydd yn galw am sylw. Er gofid i Ejglwyswyr y Dywysogaeth ac i luaws o gyfeillion Ymneillduol hefyd, gorfodwyd Esgob Lloyd gan afiechyd i ymddiswyddo, a dilynir ef gan y Gwir Barchedig Ddeon Williams, Llanelwy. Bu y flwyddyn yn un ddiwyd a llwyddianus ar ran Eegob Tydd<nri yn ei ymdrechion i wneud y Gronfa Esgobaethol yn effeithiol i gyrhaedd ei hamcan. Talwyd ymweliad a'r Esgobaeth gan Archesgob Caergaint, yn nglyn ag agoriad Eglwys St. Mair, Abertawe, a rhoddwyd derbyniad calon- og iddo gan Ymneillduwyr yn ogystal a chan Eg- lwyswyr. Dangosodd yr Eglwys yn mhob rhan o Gymru ei bod yn raddol sylweddcli ei hamcan, ao y mae bob blwyddyn yn enill tir yn serchiadau a barn y genedl. Mewn cylchoedd Ymneillduol, yn ol ystadegau y gwahanol enwadau, bu y flwy- ddyn yn un o gynydd graddol a sefydlog. Er nad yw yr ysbryd chwerw mor amlwg ag y bu, eto y mae tir lawer genym fel cenedl i'w feddianu cyn y byddwn yn cyduno i wahaniaethu mewn barn tra yn oydweithio a'n gilydd i grefyddoli y werin. Un o arwyddion yr amiseroedd yw nad yw Ym- neillduwyr mor elyniaethus at yr Eglwys ag y buont, ac y mae Eglwyswyr, o'r tu arall, yn araf ganfod a chydnabod y gwaith da gyflawnir gan Ymneillduwyr gan gredu a sylweddoli mai cyd- wieithwyr ydynt yn yr un winllan. Y mae y ffaith fod y flwyddyn ddiweddaf wedi eu dwyn ychydig yn nes at eu gilydd yn achos llawenydd i'r genedl yn gyffredinol. Mewn ystyr fasnachol bu y flwydd- yn ddiweddaf yn un a hirgofir ar gyfrif yr ang- hydweliediad a fu rhwng glowyr y De a'u meistri. Bu drcfe 100,000 o weithwyr yn segur am chwe' mili o amser, ac y mae ynlHfhawdd iawn i ni ffuriio syniad am y golledi arianol aohoswyd gan hyn. Amcangyfrifir y golled aijanol yn 12,000,000 o bunau, ao er mai ychydig enillodd y gweithwyr trwy sefyll allan, y nuaent yn haeddu canmoliaeth am ymddwyn fel y gwnaethant. Er y bydd i lawer o honynt ddioddef am yspaid maith eto oddiwrth effeithiau y streic, gallant edrych yn ol ar eu hymdrech gan deimlo yn falch na ddarfu iddynt wneud dim y rhaid iddynt gywilyddio o'i herwydd. Er tlodi eu hunain cadwasant eu cym- eriad ac endllasart glod (-n. rai oeddynt yn arfer metddwl yn isel am danynt* Ar ol taflu ein golwg rA frymog felly droa hanes y flwyddyn tueddwn i gredu fod y fantol yn troi yn ein ffafr, fod ein henillion yn fwy na'n colledion. Y mae awydd cryf yn cael ei amlygu yn mhob cyfeiriad am fwy o addysg ao am fwy o wybodaeth, a thra y parhao yr awydd hwn, effeithia er daioni ar ein cynydd a'n dadblygiad cenedlaethol. Yr hyn sydd eisiau arnomi yw arweinwyr wedi eu trwytho a chariad at eu gwlad a'u cenedl heb gael eu cadwyno gan draddodiadau na dysgeidiaeth un sect na phlaid, ond yn barod i weled a chydnabod daioni pa le bynag y bydd, ac i ddefnyddio y daioni hwnw fel cymhorth i ymcsiyn at a chyrhaedd daioni mwy ac uwch. Os cawn arweinwyr o'r fath bydd pob blwyddyn yn dangos anvyddioii amlwg a diamheu- 01 fod yr hen wlad yn cael ei ciiodi'u ei hoi. Dy- munwii i bob un o':i dariienwyr, ac i bob Qymro twyauigalon, "Flwyddyn 2sewydd Dda," ac anog- wn hwy, un ac oil, i T»'iieiid eu rhan i lesoli a dyr- chafu ein cenedl.

Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda.

Marwolaeih a OJiladdedigaeth…

- Addysg Ailraddol.

Esgob Newydd Bangor.

ulTith Arglwydd Lovat" Eto.

Marwolaetb Cymro o Fon.