eaafau Seneddol Newydd. Nid 008 dim. llai na chwech o Ddeddfau Senedld- ol yn dyfod i lawn weithrediad ar y dydd cyntaf o r flwyddyn —Cfyfraith y Bywoliaethau Eglwysig, Cyfraith Meddwon, Cyfraith Carcharau, Cyfraith Cyfreithwyr (Iwerddon), Cyfraith Peirianau ar y Pnf-ffyrdd, a Chyfraith Buchfrechiad. Mewn perthynas ir gyfraith ddiw ddaf, y mae un o'i darpariaethau—yr hon sydd yn ymwneud a'r gwrthwynebwr cydwybodol"—wedi dyfod i rym pan basiwyd y gyfraith (Awst 12fed)'; ond nid yd- yw yr adranau sydd yn estyn yr amser o dri i chwe' mis yn cyfarwyddo y buchfrechwr cyhoeddus i ymweled a chartref y plentyn, pan. ddymnid arno wneud hyny gan y rhieni, ac yn cyfnewid y gyf- raith mewn ystyron eraill, gyda'r.amoan o ddylan- wadu i gael cydymffurfiad mwy rhwydd a'r angen- rheidiau deddfwrol, ac i liniaru y cospau am an- ufudd-dod, yn cael un effaitlx ymarferol hyd Ion- awr laf. Yn gyffelyb, er fod Cynghorau Sirol a Bwrdeisiol, ar ol Awst 2il,- yn gallu tynu allan gyfreithiau Ileol o dan Gyfraith y Peirianau, nid ydyw y gyfraith ei lun yn dyfod i weithrediad hyd ddechreu y flwvddyn.
Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn. Cyfarfu masnachydd o Fangor a dig^yddiad tra anhyfryd nos Fawrth diweddaf. Tra yn cerdded o Gaernarfon i Borthdinorwig, daeth crwydryn (tramp) ato mewn rhan unig o'r ffordd, yr hwn a fwngialodd rywbeth yn nghylch bod allan o waith ac heb arian. Ni chymerodd y masnachydd un sylw o hono ac aeth yn ei flaen, gan basio crwydryn arall yn ochr y ffordd. Yn mhen byr amser cafodd y masnachydd fod y crwydryn cyntaf wedi ei oddi- weddvd ef ac iddo yn sydyn ymosod arno. Llwydd- odd y masnachydd i rrael yn glir a'i ymosodydd, a rhedodd yn 01 at yr ail ddyn a gofynodd iddo am ei enw a'i gyfeiriad fel tyst o'r ymosodiad. Y dyn a sylwodd ria byddai ei enw o ddim defnydd, gan ei fod ef ei hun "ar y ffordd." Yn mhen ytbaid, fel yr oedd' yn parhau ei siwrnai, derbyniodd y masnachydd ymosodiad ffyrnig; ond y tro hwn efe a drodd at y dyn a gwnaeth doriad hyll ar ei wyneb, yr hyn barodd i'r crwydryn. fyned ymaith. Yn ddilynol aeth y masnachydd yn ei flaen am Borthdinorwig; a chan na feddai ond amser byr i ddal y tren i Fangor, methodd gael hamdden i roddi hysbysrwydd i'r heddgeidwaid yno. Yn ddiweddarach ar y nos, fel yr oedd y masnachydd yn myned i lawr y Stryt Fawr, Bangor, efe a wel- odd y dyn a ymosododd arno. Ar unwaith rhodd- odd hysbysrwydd i'r Rhingyll Breese, yr hwn ddigwyddai fod gerllaw. Y swyddoig a adwaenodd y dyn fel un o'r enw Lewis, a chymerodd ef i'r ddalfa. OYn-rwyd, ef o flaen yr ynadon ddydd Mercher; ond tynodd yr Arolygydd Rowland y cyhuddiad yn ei erbyn yn ol, sef ymgais honedig i gyflawni lladrad penffordd, ar y tir i'r trosedd honedig gael ei gyflawni o fewn cylch swyddogaeth heddgeidwaid Oaernarfon, i ofal pa rai y tros- glwyddwyd y cyhuddedig.
Ssgenlnso Plant yn Methesda. DADIjENIADAU OYWILYDDUiS: ANFON Y FAM I GARCHAR. 0 flaen ynadon Bangor,'ddydd Mawrth, dygwyd j yn mlaen Owen a Catherine Pritchard Tany- ffordd, Bethesda, y rhai a w»jsiwyd gan yr Arol- ygydd Rowlands (dros y Gymdeithas er Atal Creu- londebat Blant) am esgeuluso eu tri phlentyn- Mr Twigge Ellis, yr hwn a erlynai, a sylwodd fod yr achos yn un neillduol o ddrwg, ac yr oedd yn anhawdd credu y gallasai y fath gyflwr ar beth- au fod mewn gwlad Gristionogol. Labi-wr yn gweithio yn Ohwarel Pantdreiniog, ac yn enill tua 4p y mis, oedd y gwr. Yr oedd ef a'i wraig yn byw mewn ty dwy ystafell, yr hwn oedd wedi ei gondemnio gan yr awdurdodau iechydol lleol. Y rhent oedd chwe' «wllt yn y mis, a pherthynai y ty i ystad Cefnfaes. Yr oedd yr ardal lIe safai'r ty yn mhob ystyr yn un annymunol i fyw ynddi. Tua thair blynedd yn ol cond^emnhyyd yr holl dai yn y gymydogaeth, ond,ac eithrio un, yr oedd pobl yn byw ynddynt oil. Yr Arolygydd Rowlands a dystiodd iddo ym- weled a'r ty ar y 15fed cynfisol yn nghwmni'r Rhin- gyll Owen, a sylwodd mai hwn oedd un o'r achos- ion mwyaf difrifol fu ganddo erioed dan ei sylw. Yn y ty canfyddodd y fam a dau o'r plant yn eistedd yn y gegin o flaen rhyw ddyrnaid o dan oedd yn y grat. Nid oedd gan un o'r ddau blentyn ond crys am dano, a yr oedd cyrph y ddau wedi eu gorchuddio a phryfaid, ac mewn cyflwr difrifol. Yn y cryd gorweddai baban yn nghanol dilladau budron, ac heb ddim bron am dano. Ar ei ym- weliad a'r ystafell wely, canfyddodd y tyst wely haiarn a blanced a chwilt bvidron iawn. Yr oedd y llawr yn fudr dros ben, heidiai pryfaid ar hyd y muriau, a bu raid i'r tyst ymadael ar frys oher- wydd yr arogl. Crystun oedd yr unig beth i'w fwyta a ganfyddodd y tyst yn y ty. Dr. Roberts, Bethesda, a dystiodd iddo archwil- io .y plant, a'u -canfod mewn cyflwr difrifol. Ni ddaeth ef erioed ar draws achos mor gywilyddus. Yr oedd y Rhiilgyll Owen o'r un farn, ac ychwan- egodd fod- y gwr a'r wraig yn arfer. a diota. Yr oedd y wraig yn yr arferiad o fyned o gwmpas i ddiota gyda merohed eraill. Mr T. Lewis a sylwodd fod yr ynadon yn ystyr- ied yr achos yn un neillduol o ddifrifol. Yr oedd- ynt yn methu dealllmt oedd yr awdurdodau lleol yn caniatau i'r fath bethau fod. Mr Harry Olegg, un arall o'r ynadon: Yr wyf yn methu deall paham na fuasai yr awdurdoclan iechydol wedi cymeryd rhyw "TVrs yn nglyn a'r tai, gan belled 3'U bod wedi eu condemnio dair blynedd yn oL Gan eu bod heb wneud dim, yr wyf o'r fam y dylid cyfarwyddo y clerc i roddi hysbysrwydd am y path i Fwrdd. Llywodraeth LooL Mr T. Lewfe: Bydd i hyny gael ei wneud. Mr Twigge Ellis: Yr wyf yn faloh o glywed hyn, gan ei bod yn he» amser i gymeryd rhyw gwrs. Anfonwyd y wraig i garohar am dri mis, a dirwy- ^yd y gwr i 3Qs Vr cgatau. —'
A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn Bay. Cynhaliodd crwner Amwythigjrmchwiliad dydd Mercher ar gorph J. M'Millan Sharpe (60) tra- faeliwr masnachol, yr hwn a ganfyddwyd wedi bodda yn yr Hafren yn agos i'r Amwythig. Yd oedd cartref Sharpe yn Colwyn Bay, ond am yn agos 1 ddwy tlynedd yr oedd wedi bod yn lleUvs, yn Smitnfield-road, Amwythig. Aeth o'i letty yn gynar foreu y 29ain o Dachwedd, ac ni ohlywyd' mjwy am dano hyd ddarganfyddiad ei gomh. Tystiodd Jeanette Sharpe, yr hon a drigai gyda'i mham yn Colwyn Bay, mai ei thad oedd y tranc- edig. Yr oedd wedi bod mewn busnes fel trafael- iwr mewn dilladau hyd tua blwyddyn ol. Yn teimlo nas gallai ddal y cyfrifoldeb yn hwy, rhodd- odd ei fusncs drosodd i Mr Copeland, yr hwn a'i cyflogodd fel trafaeliwr. Derbyniai 30s yr wythnos a'i go&tau. Ychydig amser yn ol di- eddefai oddiwrth effeithiau yr anwvdwst i rhndd- odd ei le i fyny. Tua'r pryd hwW, mewn UyStyr anfonodd gartref i Colwyn Bay, dywedai "Duw, a'm cynorthwyo; credaf mai hyn yw y diwedd." Yr oedd yn ddyn cymedrol yn gyifredin, ond yn un o'i lythyrau dywedai fod cydlettywr wedi rhoddi rum iddo at yr anwydwst. Ysgrifenasant ato yn gofyn iddo roddi prawf ar bethau eraill, gan ofyn iddo beidio poeni yn nghylch dim, ond dyfod gartref i Golwyn Bay. Trefnwyd wedi hyny fod iddo fyned i aros at ei ferch oedd yn byw yn Selattyn, ger Ctroesoswallt, cyn .myned i Golwyn Bay. Ar y 29ain o Dachwedd aeth ei chwaer hi (y dyst) lr Amwythig i'w nol, ond canfyddodd ei fod wedi myned i rywle y boreu hwnw, ao nis gallai udod o hyd iddo. Ni wybu hi iddo erioed fygwtb cymeryd ymaith ei fywyd.—Tystiolaethwyd yn mhellach gan Isabella Dempster, chwaer y dyst ddiweddaf. Dywedodd ei bod yn awydd us i gynyg cartref i'w thad gan fod ei chwaer wedi gyru ati i ddweyd ei fod wedi rhoddi ei fusnes i fyny ac y byddai yn ddyogelach gyda Iii.-Dywedodd John Riley ei fod yn llettya gyda Sharpe. Yr oedd y trancedig wedi cwyno wrtho fod ei waith yn ormod iddo. Cyn hyny yr oedd wedi bod yn llwyr ym- wrthodwr cadarn, ond wed'yn ymollyngodd i yfed. Yfai lawer, ac nid oedd yn rhyw ofalus beth a gymerai. Ceisiodd y tyst ei oreu i'w gadw rhag y ddiod, ond yr oedd yn anmhosibl. Yr oodd wedi dweyd "Yr wyf yn iawn; ond y mae rhywbeth arnaf-gwanc dibaid, dychrynllyd, am ddiod. Dychwelwyd rheithfarn o "Cafwyd yn farw yn yr afon Hafren."
Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan. Dydd Mawrth canfyddodd Moses Jones, bugail, gorph dyn o ymddangosiad parchus yn gorwedd mewn pwll o ddwfr yn ymyl lodge Brynyneuadd, Llanfairfechan. Daeth yr Heddwas T. Griffith a thynodd ef o'r dwfr, ac aeth ag ef i Lanfairfechan i aros trengholiad. Archwiliwyd y corph, yr hwn dybid oedd wedi bod yn y dwfr am tua phedair awr ar hugain, gan Dr. R. Hughes, a methodd gan- fod arno unrhyw olion ymosodiad. Yn ei logellau canfyddwyd nifer o fan bethau, gyda symiau o aur ac arian, nodyn pum' punt, a "cheque book" y Mercantile Bank of Scotland. Deallwyd oddiwith bapyrau eraill gafwyd mai ei enw ydoedd George A. Eadie, a'i fod yn fab i Mr Eadie, adeiladydd, Inglefield House, Pollockshields, Glasgow. Cynhaliwyd trengholiad ddydd Mawrth gan Mr J. Bodvel-Roberts. Tystiodd Mr George Eadie, o Glasgow, mai ei nai ydoedd y trancedig. Dyn dibriod oedd, yn byw ayda'i dad, i'r hwn yr oedd yn gynorthwywx fel adeiladydd ac ymgvmerwr.—Gwelodd y tyst ef yn fyw ddiweddaf oddeutu chwe' mis yn ol, a de- allai ei fod yn Glasgow ddeufis yn ol. Yr oedd lw yn ddiweddar wedi bod yn symud o gwmpas y wlad. Gaoi fod ganddo foddion, a dim busnes,- gwnai fel y mynai. Yr oedd wedi cymeryd llwybr ofer ers oddeutu deunaw mis, a gobeithiai y tyst ei fod wedi gadael y wlad, a dynahefyd oedd dy- muniad ei dad yn y llythyr gafwyd ar y trancedig. Yr oedd ganddo foddion ar wahan i'w dad. I fyny 1 ddeunaw mis yn ol pan y gadawodd dy ei dad yr oedd yn bartner a'i dad yn y busnes, ac hyd yn bur ddiweddar yr oedd y teulu dan yr argraph ei fod wedi myned i wlad dramor. Credai y tyst-nad oedd yn dymuno ymaflyd mewn gwaith, ond ni wyddai ei fod yn byw yn anghymedrol, er ei fod yn yfed ychydig weithiau. I ddamwain hollol y priodolai y tyst ei farwolaeth. Rhoddodd Moses Jones dystiolaeth parthed can- fod y corph. Yr oedd y dwfr oddeutu dwylath o ddyfnder lie y gorweddai y pen. Nid oedd yr holl lyn ond wyth lath o led. Thomas Thomas, signalman yn ngorsaf Aber, a ddywedodd i'r trancedig ddod ato ar y platfform nos Lun tuag ugain munud wedi unarddeg. Yr oedd yn bur wlyb ac oer, ac er yn gallu cerdded yn iawn ymddangosai fel pe wedi bod mewn diod. Tyst arall o'r enw David Rowlands a ddywedodd iddo weled y trancedig yn mhentref Aber ychydig hwyrach na'r amær y gwelwyd ef gan y tyst blaen- orol. Dywedodd ei fod yn myned i Benmaen- mawr, a chyfeiriodd y tyst ef tuag yno. Yr Heddwas Griffiths a dda.ngosodd lythyr gaf- wyd ar y trancedig oddiwrth ei dad. Eglurodd y Orwner fod ei dad yn ei ddwrdio yn y llythyr. Yr oedd yn amgauedig "draft" am gan' punt. Walter K. Bass, trwyddedwr y Liverpool Ex- change Vaults, Upper Bangor, a ddywedodd fod y trancedig wedi bod yn aros yn ei dy o'r 19eg i'r 26ain o Ragfyr. Hwyr y dydd diweddaf gofyn- odd ar fod i'w bethau gael eu pacio gan ei fod yn bwriadu myned i Glasgow. Gofynodd a oedd ei dad a'i fam wedi dod- Atebodd y tyst nad oedd- ynt, pryd y dywedodd y trancedig ei fod wedi breuddwydio ddwy noson olynol eu bod yno, ai fod wedi cael ychydig o hely-nt (rvda'i dad. Ych- v.-anegai fod arno eisiau myned i Glasgow i weled ei fain. Nid oodd y tranoedig yn yfed i ormod- edd. Barnai y rheithwyT fod meddwl y trancedig yn ansefydlog iddo gyfarfod a'i ddiwedd drwy foddi, ond nad oedd dim i arddangos pa iodd yr aeth i'r dwfr.
Llythyr Nodedig Eunanlsiddiad. Cynhaliwyd trengholiad yn Lambeth, Lluridain, „ dydd Mereher, ar gorph un James Dabbs* 49 mlwydd oed, gwneuthurwr "surgical instruments," ac yn trigo yn Camberwell. Lizzie Dabbs, llysferch, a ddywedodd fod dodr- refn y trancedig, rhyw bythefnos yn olt wedi cael eu hatafaelu yn lie rhent, fod ei wraig yn awr yn marw yn yr y&bytty, a bod ei blant yn Ysgolion Norwood. Dyn o arferion anghymedrol ydoedd, ac wedi bygwth lladd ei hun amryw weithiau yn gystal a "gAvnoud" am ei deulu. Yna rhoddwj'd tystiolaeth i Dabbs gael ei ddar- ganfod yn ei dy gwag, dydd Llun, yn grogedig wrth y canllawiau ac yn hollol farw. Ar berson y trancedig cafwyd llythyr anghyffredin, yn ei law- ysgrif ef ei hun, ac wedi ei binio wrtho ddernyn a doi-wyd allan o newyddiadur yn dwyn y penawd "The Teetotaller's Alphabet." Yr oedd y llythyr crybwylledig fel y canlyn "Oddiwrth J. Dabbs at ei anwyl, anwyl blant,. Percy, Connie, Julia, a Teddy.—Hwn, fy llythyr diweddaf, sydd i ddymuno ar i chwi fod yn blant mor dda yn y dyfodol ag a fuoc-h yn y gorpbenol. "Chwi gawsooh eich dysgu i gredu megys ag y cefais inau ond yr wyf wedi gofyn i Dduw fy helpu lawer gwaith, eithr ni ddarfu iddo wneud. Pan yn yr eglwys ar Taohwecid 22ain nid oeddwn mewn cvflwr haner i«wn. Pe buaswn ddim Wedi myn'd y noson hono fe fuasai pethau yn hollol wahanol, yn lie gadael hyny hyd noswaith arall. "Mae y dernyn papyr sydd wedi ei biiiio yn ffrynt y Hythyr hwn yn wir bob gair. Cefais hyd iddo ddwy flynedd yn ol. Buasai'n dda genyf ei ganfod dracbefivfis yn ol hwyrach y eawsai effaith wahanol. Y mae pethau wedi myned gymaint o chwith nes yr wyf wedi llwyr flmo ar fywyd. Nid oes genyf ddim o fy mlaen i'm cynorthwyo. Add- efaf i mi fod yn bur ffol, ond nis gellir dadwneud hyny yn awr. "Mae eich mam wedi bod ai *ai mawr. Paham? Oherwydd i mi fod allan o fusnes a chael gormod o ddiod. Pe buasai hi wedi gadael llonydd i mi, yn fy mhrofocio a'm dreifio allan o'r ty, fe fuasai ya llawer iawn gwell. Hi a'ch dwy haner chwaer (Lil a Gert) fu yr achos i mi wneud yr hyn na fu- aswn byth yn ei wneud. Tafod eich main a Gert aehosodd i mi gymeryd at yfed. "Ar vr 22ain o Fai diweddaf hi a'm galwodd yn 'fwyst&l creulon,' a minau newydd fod yn gwadnu. a sodiu eich esgidiau chwi. Hwn. yw fy ngair olaf l chwi- Os oes Duw, bydded iddo eich helpu chwi yn well nag yr helpodd fi. Gofynais iddo lawer gwaith drosodd i'm helpu, eithr ni ddarfu iddo wneuthur hyny. Os ydyw Efe yr hyn y tybir ei fod, paham na fuasai yn gwneud? Dyma fy llythyr diweddaf atoch, fy anwyliaid.—J. Dabbs." Dychwelwyd rheithfarn o "Hunanladdiad tia mewn anmhwylledd meddylioL"
QLOBK FUKM8RING COM PAN1 COMPLETE HOUdE FXJBStBHERS, WholePIe aDd Retail. 12,14, IS, and 18, EMBKOKE-PL&.OE, LIVERPOOL. T7HJKNISH FOR CASH OR ON THE JP HIKB-PURCHASK SYSTEM AT CASH PRJOES. The &LOBK FURNISHING COMPANY, the oldest ortabliahed, and by tar the most Furnishers on the Hlre-Pnrchase System in the Provinces. supplv every reialsite for the complete Furnishing of Cottage* Hotel,or JfiDaion Considerably cheap than the majority of those flnas who aellfor cash only This we are able to do through bavins a very large capital atoommand,and being the bona fide manufacturers ot the principal goods we sell. SO SECURITY REQUIRED, NO EXTRA EXPENSES, ON OUR HIRE-PURCHASE SYSTEM fair AND equitable manner in which ear business is saxriea on, and our reaaonaDle terms and low prices are so well known throughout the North of England and Wales as to render further comment unnecessary. General terms, which however can be altered to suit the convenience of purchasers; payment Weekly, MonthJy,1>r Quarterly. j Amount of Purchase &]0 Pay meat PER Week Is 8d &20 DaOd „ £ 00 10s Od £ 100 17s 6d &aGO to aesOd, An inapectionot our stock will at once satisfy intending PURCHASERS that we give better value and offer easier pay- ments than any other house furnishers on the Hire-Pur- chase System in the Provinces. All goods are Delivered Free in OUR own or private vans and no expenses of any kind are incurred by customers Furniture sent to any part of England or Wales. CAUTION.—As some firms adopt various mch as copying our prospectuses, Sec.,—with the evident intention of inducing the public to believe they are con- tacted with us, please note our address. FURNISH FOR CASHØR ON THE BIBB. PUKCHA8E SYSTEM. Prospectus, Large, Illustrated Catalogue, Prase Opinions and Price List, sent post free on application. Please mention this paper. Business Hours, 9 a. m. to 7 p.m. Saturdays,9 a p.m. GLOBE FURNISHING COMPANY, 14,16 AND 18, PEMBROKB-PLACE, LIVERPOOL Railw tv Fares allowed to Country Customers. S. WINIFRED'S CHURCH OF ENGLAND JPublic Day and Boarding School FOR GIRLS, BANGOR, N. WALES. Visitor THE LOlID BISHOP OF BANGOR. Provost: REV. ARTHUR TALBOT. Lady Warden: MISS A, M. COLERIDGE. Hon. Chaplain: The Very ROT. THE DEAN OF BANGOR. Headmtata'ess: MISS B. L. WELOHMAN, LL.A. THIS SCHOOL offers an Education preparatory JL to Cambridge Local, R.A.M., and South KENSINGTON Etauniiiatione, with definite Church teaching. Teams for Boarders FROM) 31 Guineas per an- num Day Pupils, 9 Guineas Day Boarders, 15 Guineas. 1045 MOUNT HOUSE SCHOOL AND KINDERGARTEN, UPPER BANGOR. Principal: MISS GIBBS (Assisted by Resident and Visiting Teachers). THIS SCHOOL offers a Thorough Education to 1 JL Girls and Juniar Boys. Modem Methods. Certificated Teachers. Gymnasium. Tennis. School Library. KINDERGARTEN DEPARTMENT under a CERTIFICATED (Froebel) MISTRESS. A CLASS FOR BOYS, ag18 to 12, has commenced. Prospectus au application to the Principal 11738 tmm — — yiOLIN WESSONS. MISS ISABEL HEWITT and MISS MAR- GARET HEWITT give LESSONS at Own or Pupil's Residence. Penmaenmawr, Conway, Llandudno, and Col- wyn Bay visited. Bodafon, Upper Bangor. 14837 QRGAN, PIANO, and THEORY. Mr QELARLBS MELLODEW LEES (member of the Incorporated Society of Musicians) has Vacancies for Pupils in the above subjects. Pu- pils prepared for the various Local Examinations. Schools attended.—For terms as to the above, Organ Recitals, etc., apply to Haven House, Con- way. J 17545 BALA COUNTY SCHOOL. Headmaster:— J. C. EVANS, M.A., Formerly Powis Exhibitioner and Scholar of Jesus College, Oxford, and late Assistant-Ma ter a.t Christ College, Brecon. Mathematical and Science Master:- A. L. TURNER, B.A. {London^, Formerly Master of Stratford on Avon Graiunar School and Rochester Mathematical School. Drawing, Book-keeping, etc. :— O. R. OWEN (London University). NEW BUILDINGS admirably fitted with every convenience for Boarders. Preparation for the Universities, Civil Service, Preliminaries of the Law and Medicine, and the Oxford and Cambridge Local Examinations, and good Commercial Course. Bogs attend the place ef worship selected by parents. i BOARD AND TUITION (inclusive charge), £36 per annum. Recently Scholarships have been obtained direct from School at the University Colleges, Lampeter College, and Clifton College, also there have been several Matriculations, including Two a.t London Uni- Ten (in 1ST Division). DISTINCTIONS IN OXFORD LOCAL EXAMINA- TIONS. Amoag the Seniors 2 Certificates of Exemption from Responaiona (the First Examination at Oxford University) 7th place, in all England in English; 2ND and 50bh, England in English 33rd place Re- figious Knowledge. juniors.—7th, 13th, and 24th, in Greek 7th, 17th, h, and 58th, in Latin 11th, 36fch, 32nd, 42nd, and 58th, in English; 36th, in Mathematics; 24th and 25th, in religieua Knowfedge. For particulars apply to Headmaster. MANCHESTER GRAMMAR SCHOOL. PE 4ø PER TERM. THE NEXT TERM BEGINS TUESDAY, JANUARY 17th. 1899. EXAMINATION, MONDAY JAN i!i UARY 16th, 1809, at 9 a.m. Prospectuses, Forme of Application, etc., nmr be had at the School. A Boarding House in connection with ocuooi 11 situated in Higher Broughton. OWEN W. COX, Receiver. ST. SpPilMOT PREPARATORY. SCHOOL. 1.1 JKISQ ML, LOWATER G^QJLLTFWIAHAGH School), I THH SPRING TERM will commences MONDAY, January 2nd. References kindly allowed to J. A. Gpeen, Esq., 2-JA^JJS1TEP8LT3R MISS Mason, RA., County STOHORF fOT Girls; W. Glynn Williams, JSeq., M.A., CBTMTY School for Boys. 17600 Estabished 1807 1 ARTISTIC AND |-v GENERAL lRINTINu Promptly and Neatly Executed at Reasonable Prices, at the NORTH WALES CHRONICLE Printing Works, Caxton House, High Street, I BANGOR. MFTY NEW FOUNTS of the Latest Faces have lately been added to the JOBBING DEPARTMENT, which makes it now one o the LARGEST PRINTING PLANTS IN WALES. All the Machinery ARE DRIVEN BY A Powerful11 Otto' Gas :Engine, Which have been adapted t< run at the Quickest Speed Possible. All Orders carefully attended to. Auctioneers' PRINTING Executed with Neatness and Despatch. Particulars of SALE "With or without Plans. POSTERS Of Concerts, Bazaars, Sales, &c., PLAIN OR IN COLOURS. Church and Chapel Printing ot every Description. Programmes 8f Tickets. In Memoriam Cards, Ball Programmes, Menus, &c. ELECTION ADDRESSES. Colonr & Ornamental Printing PAMPHLETS Of Every Description in English or Welsh. Head Pubishing Office. North Wales Chronicle Omce, High St., Bangor. Branch Publishing Offices Directory Office, Upper Mostyn Street, Llandudno. Clorianydd Office, Bridge St., Llangefni. Postal Address North Wales Chronicle Office, Bangor. Tdegraphic Ad&re*§ Chronice," Bangor FELEPFGNE 1(.. r t I A C H AU D 1) A N 0 I) D YN DDISYMWTH GAB T)TT"\['P{?"P» Q Atalia Bydredd. Rhwvstrau e Xj U X1 x JuijLl O tynti. Gwareda rhag Anhunedd bymudir Neuralgic Headaches a'r XT «.•, ;T7 \] hull boenan gieuol eraill gan Bun- i l JT1 El V 111 Nervine. YrboU fferyllwyr, Is lie, '1 Oherwydd pydredd eang mewn dau gilddant dioddefais boetiau dirdynol am ddau ddiwrnod. Gymbellwyd ft i roddi treial ar Neninø. Qwnaetfaam byny. I fy m&wr hyfrydwob, ciliodd y boen yn gyflym aUwyr. Byth er hyny yr wyf draohefn a thraohefn wedi derbyn yr eamvvytbad mwyaf oedd yn boaibl oddiwrth boeo tost yn eegyrn y pen drwy gyraeryd pedwar ueo bum dyferyn (ar lvrmp o Biwgr gwyn) o Bonter's Nervine."—Parch ADBHBY C. PRICK, B.A. (diweddar Qvmrawd o'rColeg Newvdd.Rhvdvehain 1269u OHWAREL PANTDREINIOQ, BETHESDA. N EISIEU, Nifer o CHWARELWYR Profiadol ar y Graig ac yn y Lan. Ymofyner yn Swyddfa'r Chwarel, gyda WILLIAM HUGHES, 2954 Pm OruoIwTyitvrr. WANTED, a Good COOK-GENERAL, aJso tY HOUSEMAID WAITRESS. — Apply^Mra Piitchard, Tanycoed, Bangor. 2955 AMERICAN LINE. UNITED STATES MAIL STEAMERS. SOUTHAMPTON—NEW YORK SERVICE. SOUTHAMPTON to NEW YORK DIRECT. SATURDAYS, at Noon. HIGHEST CLASS of Accommodation for Sal- Li. oon, Second Cabin, and Steerage Passen- gers. LIVERPOOL PHILADELPHIA SERVICE. Every WEDNESDAY, LIVERPOOL TO PHILADELPHIA, Calling at Queenstown every Thursday. Passengers and Goods are landed at Philadel- phia on the Wharf of the Pennsylvania Railroad, which has the Shortest and most Direct Route to all places in the Western States.—Apply to ^Rich- ardson, Spence and Co., Southampton OT ^Liver- pool, or to Local Agents:—Edward Jones, 173, High-street, Bangor; Hugh Hughes, 8, Market- row, Amlwch; H. J. Williams, ■-SQ, High-street, Bethesda; T. J. Williams, Meirion-terrace, Blaenau Festiniog; J. R. StMån, Statian-road, Colwyn Bay; W. Jones, :Rose Hill-street, Con- way; O. Jones, Old PoSt-office, Penygroes; T. Evans and Co., Station'Chambers, RhyL 8136 ALLAN LINE ROYAL MAIL STEAMERS. TO CANADA and the UNITED STATES. SAILINGS FROM LIVERPOOL. S.B. CALIFORNIAN, for Halifax and and St. John, N.B. Jan. 5th s.s. MONGOLIAN, for Portland direct. Jan. 7th SoS. CARTHAGINIAN, for St. John's, N.F., and Halifax Jan. 7th s.s. LAURENTIAN, for Portland direct Jan. 12th S.s. SIBERIAN, for Halifax & Philadelphia Jan. 21 SALOON FARE FROM JB11. SECOND CABIN, JB7; STEERAGE, B5. Through Tickets to all points at special rates. CANADA.—Handbooks, Maps, Rates, and Full Particulars free on application to Allan Brothers and Co., 19, James-street, Liverpool; or to M. Goldie, 217, High-street, Bangor. 16402 AM BO AT AJRG B A PHWAIIH A LL Y FR RWYMIAD RWCH AT N ixon a-J arvis GYFERYN A'R CL00 BANGOR Im'iXEY'S f ■■ REFINED! riWdBwj^m^ EASY'POlISHINC. BEST BLACK h. LEAD. SO YEARS' WORLD-WIDE REPffTATKHIL tMimStrt i* Her tMd Q*tm. '< -8 I Cure Fits } You are not asked to spend any money to | test whether my remedy does or dees not | care Fits, Epilepsy, 5t. Vitug's Dance, etc. I All yon are asked to do is to send for a ) FREE bottle of medicine and to try it. I ) am quite prepared to abide by the ruult. ) LB. 0. ROOT, a8 Endsleigh d'd'ns, London. I wvvovvvvvovvvvvwwwwevf RAPHAEL'S ALMANAC 1899 MW rm&j. Contains hints to Farmers and GardeDelti. Birthday Information. Whem to øell, spewiN late, oto., etc. Price 6d.—Fm^mu^ 4, Pilgrks- sfc., E. o. asid al gtafepOTS. 17164 M. ALLIANCE ASSURANCE COMPANY. ESTABLISHED 1824. Capital — FIVE MILLIONS. Invested Funds over 4 Millions. THB RIGHT Ho».iLORD ROTHSCHILD, CHAIRMAN ROBERT LEWIS, CHIn SSOBBTABT. OHID OFFICE BABTHOLOMEW LAN*, LONDON. IjIF £ J= World-free and Indisputable Assurances. Large Bonuses Expenditure low and limited. Seeurity Unexcelled Special Reinstatementand Nonforfeiture Plans! Special Reinstatementand Nonforfeiture Plans. FIRE Proposals and Enquiries attended to promptly. I 3urveys and Plans for Insurance of extensive pro- t perties made free of cost. ) Rates moderate Losses settled promptly. t BRANCHES at—among other places— LIVERPOOL: 30, Ezchange-strset, East; O. MOBGAN OWIS, Seoretary. WREXHAM 28, Higk-t-treet JOHN FBAHOI8, Seoretary. Prespeotoses, ete.. may be obtained from any of AM Company's Btraadmi ot Agents..16232
AT EIN GOHEBWYR Dymuna "Alelod" adgofla "Llechidon" o'i gam- gymeria.d yr wythnos o'r blaen yn gadael all an enw un swyddog (Davidi Hughe?), yr hwn yw cadeirydd y Band of Hope ers misoedd bellach, yn nghydag amryw bethau eraill, 8ef enwau y ffyddloniaid sydd a'u hysgwyddau dan yr arabl o'r dechreuad.
CYMMJ A ll FLWYDDYN 1898. Pan yn gwyixibu ar flwyddyn newydd yr ydym rywfodd, bron yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn tioi ein llygaid i cdrych yn ol ar yr han flwy- ddyn. "Dyddiau a draethant," medd rliyw un ers llawer dydd, ac y mae dechreu blwyddyn yn adeg gvfleua iawn i ni brofi gwirionodd y dywed- iad trwy wrsndo ar yr hyn a dra-ethir gan ddydd- ¡ iau y flwyddyn sydd newydd derfynti. Bydd hyn yn foddion i ddysgn doethineb i ni, ac o bosibl yn ein gwneud yn fwy parod i ymgymeryd a f dyledswyddau y flwyddyn sydd wedi dechreu. Y I mae personau unigol, ewmnioedd, cymdeithasau, a chyfundebau yn cymeryd mantaia ar yr adeg' i gymharu eu sefyllfa bresenol a'r hyn ydoedd I ers blwyddyn yn ol. V .maent yn bwrw y draul, yn tafoli y colledion a'r enillion, a threfnant ar yn tafoli y colledion a'r enillion, a threfnant ar gyfer y dyfodol yn unol a'r wybodaeth dderbynir ganddynt trwy gymharu pethau yn y modd yma. Os yw gwneud peth felly yn ddoethineb mewn cylchoedd cyfyngedig o'r fath a nodwyd, hwyrach mai nid anfuddiol hollol fuasai lielaethu ychydig ar y cylch ac edrych ar sefyllfa cenedl y Cymry o'i chymharu a'r hyn ydoedd ar ddechreu 1898. Cwestiwn pwysig i genedl, fel i berson unigol, ydyw y cwestiwn pa un ai myned rhagddi y mae ynte myned yn ol, fel y mae yn heneiddio? A ydyw y genedl wedi elwa ychydig yn ystod y flwyddyn, ac wedi dyrchafu anewn gwybodaeth, mewn moesau, ac mewn dylanwad er daioni? Y mae yn rhaid cofio mai byr iawn yw blwyddyn i beri fod un cyfnewidiaa niawt wedi ei ddwyn oddiamgylch yn mywyd ac arferion cenedl, ao nas gallwn, ddisgwyl gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn ydyw yn awr a'r hyn ydoedd ar ddechreu 1898, oddieithr fod rhywbeth eithriadol wedi cym- eryd lie. Wrth edrych yn ol aT y flwyddyn ddi- weddaf gallwn lawenhau wrth feddwl nad oes dim anarferol a sydyn wedi digwydd fel y mae lie i gredu fod unrhyw gynydd a wnaeth yn un araf a phwyllog, ac felly yn debyg o fod yn un arhosol a pharhaol. Ped-ediychwn. yn y lie cyntaf ar y golofn sydd yn dangos y colledion a gafodd Cymru yn ystod y flwyddyn, gwelwn ar unwaith, er fod amryw o ddynion da a gweithgar wedi eu cymeryd ymaith, fod 1898 yn.cymharu yn ffafriol iawn a'r blynyddoedd blaenorol. Hwyraeh na fuasem yn cyfeiliorni yn fawr pe dywedem mai y ddau Gymro mwyaf amlwg ac adnabyddus a fuont feirw yn ystod y flwyddyn oeddynt y Prifathraw Michael D. Jones a Mr Gee, o I>dinbych. iCymerwyd oddiwrthym nifer o ddynion eraill oeddynt, yn eu cylchoedd, yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i'r genedl. Y mae yr Eglwys wedi colli gwasan- aeth amryw o ddynion o ddylanwad a defnydd- ioldeb, yn eu plith yr oedd Canon Morgan, Ban- gor; Canon Allen, Barry; a'r Prifathraw Gent, 0 Lanbedr, yn nghydag eraill heb fod mor adna.- byddus. Collodd yr Ynmeillduwyr y Parch T. Job, Conwil; y Parch D. S. Davies, golygydd y "Celt;" y Parch Thomas Hughes, Machynlleth, yn nghyda nifer o ddynion llai amlw, m Y mae y genedl yn dlotach oherwydd colli hen arweinwyr profiadol oeddynt bob amser a'u bryd ar wneud daioni; ond wedi'r cwbl y mae genym achos i yjnwroli gan fod nifer lluosog o ddynion ieuainc dysgedig a medrus yn codi yn ein mysg, y rhai ddeuant yn fuan iawn i lanw y bylchau ac i'n cynorthwyo fel cenedl i orchfygu y rhwyatrau sydd o'n blaen. 0 safbwynt boliticaiddi nid oea un cyfnewidiad o bwys i'w groniclo. Cymerodd un etholiad le mewn etholaeth Gymreig yn ystod y flwyddyn ond ni wnaeth un cyfnewidiad yn y pleidiau, gan i Radical gael ei ddewis yn olynt- ydd i Radical fel cynrychiolydd sir Benfro. Nid ydym yn credu fod y iBJaid Radicalaidd wedi gwella dim ar eu sefyllfa, tra y mae rhagolygon yr Undebwyr yn fwy addawol o lawer nag yr oedd- ynt.' Mewn ystyr lenyddol bu y flwyddyn yn bwysig ar gyfrif y llrfrau gwerthfawr a gyhoedd- wyd. Dygwyd allan argraphiad newydd, mewn un gyfrol, o waith Theophilus Jones ar hanes sir Frycheiniog, ond credwn y buasai yn dda i'r cy- hoeddwr fod wedi gosod rhywun galluog i wneud y gjwaith, i ddwyn yr hanes i lawr hyd at ein dydd- iau ni. Cafwyd hefyd un gyfrol ar ysgrifau Mos- tyn fel ffrwyth llafur Mr Gwenogfryn Evans. Oyhoeddwyd argraphiad y Proffesw-r Morris Jones o'r "Bardd Owsg," gan Ellis Wyn; a dygodd y Proffeswr Anwyl allan y rhan gyntaf o'i Ram- adeg. Argraphwyd nifer o lyfrau eraill yn dal perthynas a Chymru ao yn darlunio bywyd y genedl. Mewn ystyr grefyddol, nid oes dim eithr- iadol wedi digwydd yn galw am sylw. Er gofid i Ejglwyswyr y Dywysogaeth ac i luaws o gyfeillion Ymneillduol hefyd, gorfodwyd Esgob Lloyd gan afiechyd i ymddiswyddo, a dilynir ef gan y Gwir Barchedig Ddeon Williams, Llanelwy. Bu y flwyddyn yn un ddiwyd a llwyddianus ar ran Eegob Tydd<nri yn ei ymdrechion i wneud y Gronfa Esgobaethol yn effeithiol i gyrhaedd ei hamcan. Talwyd ymweliad a'r Esgobaeth gan Archesgob Caergaint, yn nglyn ag agoriad Eglwys St. Mair, Abertawe, a rhoddwyd derbyniad calon- og iddo gan Ymneillduwyr yn ogystal a chan Eg- lwyswyr. Dangosodd yr Eglwys yn mhob rhan o Gymru ei bod yn raddol sylweddcli ei hamcan, ao y mae bob blwyddyn yn enill tir yn serchiadau a barn y genedl. Mewn cylchoedd Ymneillduol, yn ol ystadegau y gwahanol enwadau, bu y flwy- ddyn yn un o gynydd graddol a sefydlog. Er nad yw yr ysbryd chwerw mor amlwg ag y bu, eto y mae tir lawer genym fel cenedl i'w feddianu cyn y byddwn yn cyduno i wahaniaethu mewn barn tra yn oydweithio a'n gilydd i grefyddoli y werin. Un o arwyddion yr amiseroedd yw nad yw Ym- neillduwyr mor elyniaethus at yr Eglwys ag y buont, ac y mae Eglwyswyr, o'r tu arall, yn araf ganfod a chydnabod y gwaith da gyflawnir gan Ymneillduwyr gan gredu a sylweddoli mai cyd- wieithwyr ydynt yn yr un winllan. Y mae y ffaith fod y flwyddyn ddiweddaf wedi eu dwyn ychydig yn nes at eu gilydd yn achos llawenydd i'r genedl yn gyffredinol. Mewn ystyr fasnachol bu y flwydd- yn ddiweddaf yn un a hirgofir ar gyfrif yr ang- hydweliediad a fu rhwng glowyr y De a'u meistri. Bu drcfe 100,000 o weithwyr yn segur am chwe' mili o amser, ac y mae ynlHfhawdd iawn i ni ffuriio syniad am y golledi arianol aohoswyd gan hyn. Amcangyfrifir y golled aijanol yn 12,000,000 o bunau, ao er mai ychydig enillodd y gweithwyr trwy sefyll allan, y nuaent yn haeddu canmoliaeth am ymddwyn fel y gwnaethant. Er y bydd i lawer o honynt ddioddef am yspaid maith eto oddiwrth effeithiau y streic, gallant edrych yn ol ar eu hymdrech gan deimlo yn falch na ddarfu iddynt wneud dim y rhaid iddynt gywilyddio o'i herwydd. Er tlodi eu hunain cadwasant eu cym- eriad ac endllasart glod (-n. rai oeddynt yn arfer metddwl yn isel am danynt* Ar ol taflu ein golwg rA frymog felly droa hanes y flwyddyn tueddwn i gredu fod y fantol yn troi yn ein ffafr, fod ein henillion yn fwy na'n colledion. Y mae awydd cryf yn cael ei amlygu yn mhob cyfeiriad am fwy o addysg ao am fwy o wybodaeth, a thra y parhao yr awydd hwn, effeithia er daioni ar ein cynydd a'n dadblygiad cenedlaethol. Yr hyn sydd eisiau arnomi yw arweinwyr wedi eu trwytho a chariad at eu gwlad a'u cenedl heb gael eu cadwyno gan draddodiadau na dysgeidiaeth un sect na phlaid, ond yn barod i weled a chydnabod daioni pa le bynag y bydd, ac i ddefnyddio y daioni hwnw fel cymhorth i ymcsiyn at a chyrhaedd daioni mwy ac uwch. Os cawn arweinwyr o'r fath bydd pob blwyddyn yn dangos anvyddioii amlwg a diamheu- 01 fod yr hen wlad yn cael ei ciiodi'u ei hoi. Dy- munwii i bob un o':i dariienwyr, ac i bob Qymro twyauigalon, "Flwyddyn 2sewydd Dda," ac anog- wn hwy, un ac oil, i T»'iieiid eu rhan i lesoli a dyr- chafu ein cenedl.
Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda. Ar Ionawr y 9fed, 1899, bydd glewion fechgy.u y Rhondda yn prysuro i Eaton Hall, preswylfa y Due o Westminster, i roddi esiampl o ganiadaeth Gwlad y Bryniau. Rhai misoedd yn ol, bu cor Mr Tom Stephens yn cynhal cyngherdd yn y Music Hall, Oaer. Yr oedd yn bresenol yn eu gwrando gwmni urddasol. ac yn eu plith Due a Duces Westminster, Tywysog a Thywysoges Adolphus o Teck, Arglwydd Esgob Caer, Arglwydd Raglaw y Sir, Syr John a Lady Gorst, a Maer Oaer. Cymaint y swynwyd yr urddasolion fel y galwyd ar Mv Tu. Stepb ens i gael ei gyflwyno 1'r Due, ac yn y fan gwnaed trefniadau i ddwyn cor Mr Ste- phens i Eaten Hall ar y 9fed o Ionawr. Bydd yno gwmni mawr ae urddasol yn ol pob hanes, ac yn eu plith Tywysog Cymru ac Arglwydd Hartington.
Marwolaeih a OJiladdedigaeth II iss Winifred Lewis, Bangor. Gyda gofid y mae genym i gofnodi marwolaeth Miss Winifred Louisa Lewis, merch ieuengaf Deon Bangor, yr hyn gymerodd le y dydd, Sadwrn cyn y Nadolig yn Norman Lodge, Gwrecsam. Gadawodd y foneddiges ieuanc, yr hon oedd yn 19 mlwydd oed, ei chartref tua phum' wythnos yn ol i ymweled a Miss Owen,! STorman Lodge, Gwrecsam, a'r pryd hwnw yr oedd i bob ymddang- osiad mewn iechyd dá. Pythefnos yn ol cymer- wyd hi yn wael, a gweinyddwyd ami gan Dr. Rd. Williams, Gwrecsam, yr hwn yn ystod ei gwaci- edd oedd yn dra gofalus o honi. GaJwyd y DT. Dobie, Caer, hefyd, i mewn. Ond er gwaebhaf medr y meddygon a gofal cyfeillion caredig, bu farw Miss Lewis yn dawel am haner awr wedi chwech y noson a enwyd. Achos uniongyrehol ei marwolaeth oedd "nieninoitia.14 Pan gyrhaedd- odd y newydd i Fangor parodd ofid dwfn i luawa cyfeillion y ferch ieuanc ymadawedig, a dangoswyd y cydymdeimlad dyfnaf a'r Deon, Mrs Lewis, a'r teulu yn eu trallod. Yr oedd Miss Winifred Lewis, er yn ieuanc, yn adnabyddus i gylch eang, ac yr oedd ei thueddiadau caredig a llednais wedi ei gwneud yn anwyl gan bawb y deuai i'w chwrdd. Gwnaed cyfeiriadau teimladwy at yr amgylchiad yn yr Eglwys Gadeiriol boreu Sabboth gan y Canon Walter Thomas, a chan y Parch W. Ed- wards yn y gwasanaeth Cymreig yno ac yn Eglwys St. lago yn yr hwyr. Boreu .Mercher cynhaiiwyd gwasanaeth coffadwxiaethol yn yr Egiwya Gadeir- iol, pryd yr oedd y Deon, Mrs Lewis, a Misa Emily Lewis yn bresenol. Yr oedd cynulliad da wedi dod yn nghyd, er na chafwyd amser i hysbysu y gwasanaeth yn gyhoecldus. Yr oedd y gerddor- iaeth o nodwedd unol a dymuniad yr ymadawedig, yr hon ami waith a ddatganodd y buasai yn well ganddi i wasanaeth o'r fath fod a natur Ion ac nid I Ileddf. Llywyddai Mr Westlake-Morgan wrth yr organ, ac yn ychwanegol at salmau a hymnau pri- odol canwyd yr anthemau "Hallelujah to the Father" (Beethoven), "Re8ir my prayer" (Mendel- ssohn), a "I heard a voice from Heaven," vr hon a gyfansoddwyd i'r achlysur gan yr organydd. Dar- 11 enwyd y llithiau gan y Canon Thomas, a'r gwedd- iau gan yr I&-ganon Owen. Ar y diwedd chwareu- wyd y "Dead March." CJymerodd yr angladd le am ddau o'r gloch pryd- nawn Mercher yn Eglwys Duddleston, ger Elles- mere, lie y gorwedd teulu ei mam. Y clerigwyr a wasanaethent, oeddynt Esgob newydd Bangor, y Parch Mr Dickson, ficer Duddleston, a'r Archddi- aeon Wynne Jones, Gwrecsam, ac yr oedd y gwas- anlteth yn gorawl. Dilynid y corph i'w orweddle gan Mr C. M. Lewis (brawd), Misa Lewis a Miss Ethel Lewis (chwiorydd), Miss Owen, Gwrecsam Mr a Mrs Morrall, Plas Iolyn (ewythr a modryb) Mr a Mrs Boydell (cefnder a chyfnither), Mr Han- cock, Mr Humphrey Williams, Gwrecsam, etc. Anfonwyd blodeugyrch gan y Deon a Mrs Lewis, Miss Lewis, XEss Ethel Lewis, Miss Emily Lewis, a Mr 0. M. Lewis, Mra Robertson, Mrs Gobat, Mr a Mrs Morrall, Miss Morrall, Misd Thring, Miss Owen, Mr a Mrs C. E. J. Owen, Hongwrfc U eMf, Dolgellau; Esgob newydd Bangor, Arch- ddiacon Wynne Jones, Mr a Mrs Boydell, Canon a Mrs Walter Thomas, Mrs a Miss Vincent, Tre- borth Mr a Mrs H. C. Vincent, Miss Lloyd, Y Palasdy, Bangor Mr Lloyd a Mr H. Lloyd, eto Misses Hughes, Tanyfynwent, Bangor; Miss Mar- shall, Dr. a Mrs Richard Williams, dwy "nurse" yr ymadawedig; Mr a Mrs Hancock, Mrs C. M03- tyn Owen, gwasanaethyddion Norman Lodge, GwTecsam gwasanaethyddion Plas Iolyn, Dud- dleston, Mrs Moore, Mrs Holbech, Cor Eglwys Gadeiriol Bangor, Dr. a Mrs Rowland Jones, Ban- gor Misses Hanmer Jones, Mrs Knight, Miss Morgan, Leamington, etc. „ etc.
Addysg Ailraddol. Y mae gweithrediadau Ysgolion Sirol Cymru wedi eu cyhoeddi, ac yn dangos fod erbyn heddyw 88 o Yegolion Sirol, o dan reolaeth y Cynghorau Sirol, ac yn cyfranu addysg i 6912 o ysgolheigion, 3638 o fechgyn a 3274 o enethod. Nid oes lai na 70 y cant o'r myfyrwyr ieuainc hyn yn cael eu tynn o'r safonau uchaf yn yr Ysgolion ELfenol. Rhenir 12,000p rhwng yr ysgolheigion mewn ys- I goloriaethau. Mewn 7 o'r ysgolion y mae yr addysg yn cael ei roddi i ddosbarthiadau cymysg (mixed classes).
Esgob Newydd Bangor. Mown cyfarfod dylanwadol o glerigwyr a gyn- haliwyd yn Rhyl, penderfynwyd fod tysteb i gael ei chyflwyno i'r Deon Williams, esgob newydd- apwyntiedig Bangor, gan glerig- a lleygwyr Esgobaeth Llanelwy. Mae yn awr wedi ei benderfynu yn derfynol fod i gysegriad yr esgob newydd gymeryd lie yn Myn- achlog Westminster ar yr ail ddydd o Chwefror nesai. Bydd i Ddeon a Siapter y Brifeglwys gyfarfod dydd Mawrth (heddyw), am ddeuddeg o'r gloch, er ethol esgob newydd Bangor. Mae y "conge d'eline" eisoes wedi cyrhaedd i Swyddfa Gofrestr- iadol yr Esgobaeth.
ulTith Arglwydd Lovat" Eto. CYHUDDIAD AU YdHWANEGCL YYi ERBYN MISS FRASER. Yn Llys Bow-street, Llundain, dygwyd cyliudd- iadau newyddion (ebai'r "Daily Mail") yn erbyn yr anture3 dal, brydweddol, Catherine Louisa Fraser, alias Lovat, alias Mrs Rothschild Owen. Yn y gwrandawiad blaenorol fe haerid iddi gaffael symiau mawrion o arian trwy dwyll osod ei hun allan fel nith i Arglwydd Lovat a gwraig i aelod o deulu y Rothschilds. Mr Williamson, yr hwn a erlynai ar ran y Trys- orlys, a ddywedodd fod y garehares yn ferch i weinidog Methodus yn Ngogledd Cymru. Yr oedd ers cryn amser wedi bod yn byw trwy dwyllo, gan gadw i fyny "style" dda a chaffael nwyddau gan fasnachwyr heb dalu am danynt, i siopau pa rai yr arferai ddreifio mewn cerbydau llogedig am y rhai na thalodd byth. Mewn un achos rhoddwyd tystiolaeth ddarfod i'r garchares ordro dress gwerth pum' punt gan Miss Hickman, "court dressmaker" yn cario bus- nes yn mlaen yn Francis-street, Tottenham-court- road. Ar ei dymuniad hi (Miss Fraser) anfonwyd y dress iddi i Orsaf Charing-cross, lie y cymerodd feddiant o honi ao yr anfonodd y gwas yn ol gyda chenadwri. Pan dcla-eth y gwas yn ol, yr oedd y garehares a'r dress wedi diflanu. Yn nesaf daeth un Miss Esmond yn mlaen a dywedodd y bu y garchares yn byw ar un amser gyda hi yn Regent-street, ac iddi ddweyd wrthi ei bod yn nith i Arglwydd Lovat, a bod Syr Wat- cyn Williams Wynn yn ewythr iddi. Bu iddi ymadael oddiwrthi mewn dyled o 46p. Dywedid yn mhellach ddarfod i'r gyhuddedig gymeryd ty wedi ei ddodrefnu yn Thames Dit- ton, yn mis Medi diweddaf, yn ol 33 gini yr wyth- nos, gan alw ei hun "Mrs Rothschild Owen." Ni thalodd ddim rhent, a thwyllodd lawer o fasnach- wyr yn y gymydogaeth. Gohiriwyd yr achosion yn mhellach.
Marwolaetb Cymro o Fon. Tachwedd 24ain, yn nhy ci ferch, yn Portland, Oregon, bu farw Owen R. Owens, o Beaver Creek, Oregon, yr hwn wnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Amlwch, sir Fon. Trig- I ianai yn Fron Heulog, yn nglyn a'r hwn yr oedd } 30 erw o dir; ac yr oedd gan ei dad felin flawd rhwng Llangefni ac Amlwch, yn gwneud masnach 1 ar raddfa eang. Yr oedd gan R. Owens warehouse fawr yn Amlwch, a chariai yntau fasnach yn mlaen fel ei dad. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r Anni- bynwyr hyd derfyn ei oes, a chymerodd Owen R. Owens ei le ar ei ol, gan ei lanvn urddasol. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r Parch Thomas Evans (A.) a'r Parch John Pritchard (T. C.), a gweini dogion eraill. Llanwodd y swydd o guardian y tlodion nes iddo ymadael a Chymru a byddai y swydd yn galw ar iddo fyned i Lanerchymedd bob wythnos. Pan ymadawodd am Birmingham, Lloegr, Ile y cymerodd Herm o200 erw am dair blyn- edd, wylai llawer a dderbyniodd elusen ganddo. Ymfudodd i America ddechreu 1885, gan adael ei deulu yn Birmingham. Ar ei laniad yn New York, gwelodd lythyrau gan Dafydd Thomas, Beaver Creek, yn dweyd am dir rhagorol Oregon, a daeth yma; anfonodd am ei deulu, gan fyned i'w cyfarfod i New York. Yn Beaver Creek pryn- asant fferm, ao yno y bu ef hyd ryw ychydig amser yn ol. Y mae y fferm yn eiddo i'w ferch yn awr. Yr oedd yn weithiwr diflino yn ngwinllan ei Ar- glwydd a thrwy ei lafur a'i egni ef ac eraill sefydl- wyd Eglwys Annibynol yn Beaver Creek, yn mhen blwyddyn ar ol ei gyrhaeddiad, a bu yn ffyddlon o hyd. Nid oedd heb brofedigaethau yn y byd. Tachwedd 213in, 1895, collodd ei ferch, yr hon cedd gysur lawer iddynt gartref; ac yn Mehetin, f 1894, hunodd ei anwyl briod. Arhosodd ar y fferm ei hunan am beth amser; ond yn ganlynol daeth at ei ferch (ei unig blentyn), Mrs Bauman, i Portland, lie y cafodd ergyd o'r parlys, yr hon a brofodd yn angeuol iddo. Bu yn gaeth yn ei ystafell am flwyddyn cynei farwolaeth, a chollodd ei barabl dair wythnos cyn ei farw, nes yr anailuog- wyd ef i siarad. Derbyniodd bob gofal, cysur, a charedigrwydd. Dydd Sul, Tachwedd 27ain, claddwyd ef yn Riverview Cemetery, lie y gorr/edJ ei briod a'i ferch (PoDy). -"Y Drych." j