Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

CYNLLUN ANEFFEITHIOL.

News
Cite
Share

CYNLLUN ANEFFEITHIOL. IJiwyd stori? Wei, wir, y mae yn anhawdd dwoyd vr un -tori braidd nad ydych wedi ei chlywed o'r blaen. Ac y mae yn ddigon posibl fod darllenvyf "Y Cloiianydd" wsdi clywed pob stori sydd a rhy.v- 1 faint- o hwyl gyda hi. Rh-nd ini gydnabod mae v meiched ydyw y rhai goreu am ddweyd straeon. Fe I ddywedu weithiau y bydd yn hawdd iawn gan am- bell un o honynt lunio straeon, os na fydd rhai yn barod. Pa faint o wir sydd yn hyny, ni charwn bcn- derfynu. Ond y raw ambell i ddyn hefyd o ran hyny all ddweyd a gwneud llawer gormod. Sut bvnag, hen ferch o'r enw Catri-n Dafydd glywais i yn adiodd y stori hon. Byddai yn hot! iawn o ddyfod i edrych am fy nain pan oeddwn yn hogyn. Ni byddai eisiau ond yn unig enwi y gair Lerpwr na fyddai Catrin Dafydd yn sicr o ddweyd y stori hon Mi fu yn aros yn Lerpwl, ac wedi iddi ddyfod oddi- yno mi fu yn aros yn Tyhir pan oedd Jeremiah Huws yn wr gweddw. Oeddych chi vn ei hadnabod? Wel, oeddyoh yn sicr. Ie gwallt coch oedd ganddo. Do, siwr, bu yn aros yno am flvnvddoedd. Byddai yn I arfer dweyd fod y stori yma vn "wir bob gair." Pan oedd yn Lerpwl yr oedd yn aros gyda theulu parch us, ond ar ol iddi fod yno am ychvdig wythnosau daeth i ddeall fod ei mheistres yn hoff iawn o gymeryd dropyn, ac o dipyn i beth aeth mor hoff ohono nea yr oedd yn feddw braidd bob dydd, ac yr oedd hyny yn boen fawr i'w medstr ac i'r teulu i gyd. Ceisdwyd llawer cynllun i w sobri, ac i gael ganodi roddi goreu i'r ddiodi, ond nid oedd dim yn llwyddo. O'r diwedd rhoddwyd awgrym gan rhywun i roddi prawf ar y cynUun caniynol: 'Mi fuoch vn lorpwl lawer gwaith a Manceinion onido? Wel, y mae yn debyg eich bod wedi sylwi mewn rhai ffenestri yno a gweled eirch parod (ready made coffins) y mae ganddynt mewn llawer lie yno rai ugeiniau o eirch yn barod, ac yn diisgwyl am i bobl farw. Wel i chi, penderfynwyd meddwi Catrin pan y bydda.i ei meistres yn feddw," i fyned a hi yn ei chyflwr anymwybodol a'i gosod mewn aroh gwag, gan gredu yn sicr y buasai pan yn sobri, a gweled ei hun yn y sefyllfa hono, yn sicr o'i harswydo. Aed a hi, a gofynwyd i Cattin fyned a gorwedd mewn arch arall heb fod yn mhell odcliwrthi, a dyna lie yr oedd y ddwy. Yn mhen rhai onau, cyn loriad y wawr, fe glywai Catrin rhyw swn, a thyhiai ei bod yn gweled ei meistres wedi codi ar ei heistedd, a rhoddodd besychiad ysgafn er mwyn rhoddi ar ddeall i'w mheistres nad oedd yn unig yno. "Bobol anwyl, lie 'rydan ni deudweh?" "Lie 'rydan ni? Wel," meddai Catrin, "yr ydan ni wedi marw!" "Wedi m%rw?" "Ie siwr." ¡ "Ydaoh chi yma ers talm?" "Ydwyf, ers rhai blynyddoedd." "Ydach chi yn gwybod am bobman yma?" "Ydwyf siwr." "NVel, mae yn dda. iawn genyf gfywed- WydcToch chi ddim oes yma dy tafarn yn ymyl?" Pan welodd Catrin nad oedd y cynllun wedi llwyddo aeth ati ao eglurodd iddi sut yr oedd pethau, a ehvehwynasant oddiyno, ac aethant gartref trwy un o'r heolydd cefn. Gan nad oedd llawer yn gwybod am y cynllun, a rhag i'r cymydogion ddyfod i wybod trwy glywed Catrin yn adrodd yr hanes, fe roddwyd swm neillduot o arian iddi, a daeth yn ol i Gymru. Ac os byth y byddweh yn myned trwy bentref—a gofyn am Catrin Dafydd, soniweh am Lerpwl, ac mi ddaw y stori hon allan ar ei hunion, ac ychwanegai yn ddifrifol, "y mae hi wedi ei chladdu o ddifrif erbyn hyn, a bu farw yn feddw. Mi fyddai yn dda genyf pe byddai dynion a merched yn gadael Uonydd i'r ddiod ofnadwy sydd yn dinystrio amgylchiadau, ac yn lladd miloedd bob blwyddyn. DEINIOL FYCSAN.

Ysgol Ganolradd Llangefni.…

--------_.-__-----Masnach…

Advertising

TRWYN COCH Y DERWYDD OLAF."

I A YDYW ANRHEG10N Y NADOLIG…

NADOLIG YN Y GWESTY.

CHWILIO AM BRES-I

TREULIO GWYI,IAIT'R nadolig…

Caroiau Nadolig.

GENEDIGAETH YR IESU.

Advertising

-4 Arddangcsfa ITadolig yn…