Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
30 articles on this Page
[No title]
Yn nghyfarfod blynyddol 01 wb yr Arnjaetihwyr, a gynhaliwyd yn Llundain ar y 5ed cyfiaol, dar- llencdd Mr S. B. L. Bruce (ysgrifenydd) bapyr yn mha un yr ymdriniai a'r canlyniadau ddilyn- ent ymdrechion y 'Oynghorau Sirol i hyrwyddo addysg amaethyddol o dan Ddeddf Addysgiaeth. Grefftwrol, 1889, a Doddf Trethiant Lleol a bas- iwyd y flwyddyn ddilynoi. Dywedodd "fod ym- arferiad galluoedd goddefol a chyfyngodig Bwrdd Ama-ethyddiaoth wedi ceel dylanwad mawr a lles- ol, a byddai yn ddrwg ganddo ef weled y gallu- oedd hyny wedi eu trosglwyddo i'r Swyddra Addysg. Yr oedd yr oil o'r 50 Oynghorau Sirol Sedsnig yn gwn-eud rhywbeth yn nghyfeiriad addysg amaethyddol neu arddwrol, neru'r ddau, a'r siroedd wnaent leiaf ydoedd Llundain a Middle- sex. Nid ydyw hyn, efallai, yn beth i'w synu ato, ag1 ystyried oyn lleied o ddyddordeb a gymer y Llundeiniaid mewn unrhyw bwrc cysylltiedig tir." Pe byddad i drigolien Llundain tref- ydd mawrion eraill lai o gynyrchion gwledydd tmmor, a mwy o gynyrchion ein gwlad ein hunain, a thrwy hyny gymeryd dyddordeb ymarferol, fe geid mwYo lwyddiant i'r Cynghorau Sirol ac i'r diwydiant mawr aaaaethyddol yn ein gwlad. Pe cynorthwyent i gael "■an gwmniau y rhetilffyrdd mawrion i gario cynyrchion o Gymru, dyweder, i'r trefydd mawrion, yn lie rhoddi'r brasder i'r iramorwr, gwnaent waith caniaoladwy. Dioddef- ant i bob gfwlad a gyfarthant ac a ddangosant eu llysnafedd gwenwynllyd at y wlad hon, ac ar yr un piyd rhoddant eu nawdd i'r cyfartbwyr llidiog ec eiddigeddus hyn yn hytrach na llesoli amaeth- Tsyr eu gwlad eu hunain. Mae yn hen wirionedd bellach y gellir cludo nwyddau o'r Cyfandir yn rhatach nag a oellir o ganolfanau amaethyddol Prydain..cawn rai Ffrancod synwyrlawn yn clangoa allan i'w cydwladwyr mwy penboeth mai irychineb iddynt hwy fyddai dyedthrio Lloegr, "ei ohwsmer goreu." Maent yn hynod barod i dder- l>yn ein harian, ond nd wnant ddim. i hyrwyddo Masnach Rydd.
[No title]
5Tid oes dadl nad ydyw llaeth ffermwyr Dyfnednt Sk Ohernyw yn meddu mantais neillduol^ar eu cyf- Sk Ohernyw yn meddu mantais neillduol^ar eu cyf- «^wyr miewn siroedd eraill, yr hyn sydd i'w bri- odoli i'r ffaith mai y dull yn y siroedd gorllewinol ydyw ysgaldio y llaeth., drwy yr hyn y dinystrir loll bryfetach llynorog. Bu Syr Cameron Gull, Å. S., yn ddiweddar yn rhoddi pwysigrwydd mawr ar y ffaith, ac yn adgofio i amaiethwyr y gorllewin- barth i beidio cuddio eu goleuni dan lestr. Aw- grymaiydyIent adael i'r 'holl fyd wybod y gellid bwyta ymanyn Dyfneint heb unrhyw baiygl o -ddioddef oddiwrth aficchyd. Credwn, os na wneir lyn yn y sir hon yn gyffredinol, y deilliai lies dir- fawr o ddilyn cynllun mor «yml, ac eto mor dda. Mae'r arogl goir ar aanbell i ymenyn yn y sir hon yn ddigon i godihainthe-b son am ei fwyta. Y ihegwm am hyny, yn ddiau, ydyw mai difiyg trefn briodol i'w drin, ao nid bwriad i roddi ym- ienyn drwg yn wirfoddol ax y farchnad. Pell ydym o gyhuddo amaethwyr o'r pecthod o wirfodd- ol wneud ymenyn anghymwys i'w fwyta, ond yn iytrach maJ. caailyniad anwybodaeth ydyw.
[No title]
Mae dasa almanac sydd yn cylchredeg yn lied eang yn Mon wadi dyrysu yn hollol yn nglyn a fieiriau Llangefni am y flwyddyn ddyfodol. Gres- yn, efallai, ydyw dweyd dim am "Almaaiac Bo- tert Roberta, Caergybi," yr hwn sydd mewn ami i dy mor barchus ei gymeiiad bron a'r Beibl Teu- luaidd, ond dobyg y rhaid rhoddi cyfrif ei anghywirdeb yn y ffaith mai yn Lerpwl yr arglrephir ef, ae nid, fel y tybia llawer, yn Nghaer- gyba. Mae yr hen "Bobat Roba-ts" ac "Almanac y Gweithiwr" wedi cyflawni yr amryfusedd dy- iiryd o "fixio" ffeiriau Llangefni, yn mhob eng- raifft bron, ar ddyddiau Gwener. With gwrs, fe -wyr y Monwysiaid yn eithaf da mai ar ddydd Iau y cynhelir pob ffair yn y dref hon, ond y perygl ydyw i bobl o siroedd eraill gaeleu camarwain. Golygai hyny ymyriad oolledus a'r ffeiriau poblog- aidd hyn, a dylai perchenogion yr almanaciau y yfeiriwyd atynt ddyfeisio rhyw foddion i atal y drwg a wneir mewn oanlyniad i'w hanghywirdeb. Bydd i ni ofalu am y dyddiadau cywir yn nglyn a'r ffeiriau o fia i fis, a'r path goreu i bobl dda Mon fyddai anfon y "Ckxrianydd" i'w cwsmeriaid mewn siroedd eraill.
[No title]
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol tanysgrifwyr Oymdeithaa Amaethyddol Mon ao Arfon yn Man- gor ddydd Gwener, a daeth cynulliad da yn nghyd. Llywyddid gan Mr Thomas Roberts, Aber. Adroddodd Mr John Pritchard, yr ysgrif- enydd gVeithgar, fod gweddill o 84p 8s 5o mewn llaw. 1()yrhoodw:Ü y derbyniada.u am fynediad i r arddaaogosfa. ddiweddaf, a gynhaliwyd yn Llangef- ni, i 157p, a'r taoiysgrifiadau am y flwyddyn i 128p. Y prif bwnc dan ystyriaeth oedd cynygiad wneid gan Gymdeithaa Amxaethyddol Sir Gaernarfon, a gychwynwyd rhyw ddwy flynedd yn ol, ar fod uniad i gymeryd lie gyda'r gymdeithas hono. Siaradodd Mr Brocklebank ac eraill yn erbyn y cynygiad, yr hwn a wrthodwyd yn unfrydol. Dywedodd y Oadeirydd nad oedd of yn bersonol yn frafriol i'r cynygiad, ao mai peth hynod hy: ydoedd i gymdeithas oedd bron tynu ei thraed 1 mewn i farw wahodd cymdeithas flodeuog oedd wedi ei sefydlu era cymaint o amser i gyfhwni iunanladdiad ymarferol. Felly, cawn air 1 r Roberts, un o'r amaethwyr mwyaf llygadgraff a fedd Sir Gaernarfon, fod y gymdeithas fawreddog oedd am lyncu i fyny, megis gw-artheg teneuon Pharaoh gyTit, gymdeithas sydd wedi sefyll y drycin am gymaint o flynyddoedd, ar drengu. Wei trenged pob traisfoddianwr cyfEelyb- c ydig yn olyr oedd y gymdeithas arddorchog hon am yøgub& pobpeth o'i blaen, ond; hawyr bach, I cararn ei bod ar fin tynu'r anadl olaf. Ni pleser, fodd by-nag, o dynu Oymdeithas Mon ac Axfon i ddifancoil i'w chanlyn. 0 na, fe barha yr hen gymdeithas i flodeuo yn mhell ar ol angladd y gymdeithaa lewyirclius (?) a oodd am draflyncu eraill- Heddwch i'w llwch I
Advertising
1 yr un ffordd nad oes dau ben idd. ac -r" Xefpedd ar un pen iddi rhaid fod uffern At ba ben i'r ffordtl yr wjt yn cyfeino 1 is L]ie Univerwl OpirAnr. of Quite the Vm ■ > ggg EcautLfullv printed Hotniman's Almanacs AWAY by in colors and /"rr Pnrft T>a neariy 10,000 retailers Ck^.ist; Grooer; ^Smet Stores," at Llanrwst aad^t BM Car^arV°nt: vCeU Confectioner, tandoo Momi Chemist; ISeweii, r}rar+r PTrllheli: Owen, Chemist. Nevm Gnnith, Biyusieacya: Hughes, Grocer, etc. Conway- 1 liaise, Chemist. Beaumaris: Williams, ^r?C^ «tc. Co-operatire Society Grecet". Llanberis: Ingham, Grocer. Llaofair- fechaa: Morgan, Grocer, etci Williams, Tea Dealer, to. Llaadudno Hooson, Gloddaeth-street; Bo- berts, Chemist. Llangefni: Jones, Grocer, etc. Colwyn Bay Hughes, Gracer, etc. Brom Ceiawe* < JUWts, Gr*cer. Newborongh: Lewi«, Gr«c«- IjJaJiwchy*edd Roberts, Grecer, etc. s Darici, BrOi" GreøerL
Llwyddiant. un c Feibion Talentog…
Llwyddiant. un c Feibion Talentog Men. Dyma fel y dywed y "Western Mail":—Mae pwyllgor cyffredinol Yspytty Oaerdydd i'w llon- gj'forcli yn fawr ar eu dewisaad o'r Dr. John Wil- liams i'r swydd o "gynaecologist" i'r sefydliad Ychydig, os un dyn, ellid gael yn fwy teilwng o'u hymddiried hwy a'r cyhoedd. Mae ei gyrhaedd- iadau o'r radd uchaf, ac yr oedd ei dystlythyrau wedi eu llawnodi ghn rai o'r "gynaeologists," "anatomists," a'r "obstreticiaiis" uchaf yn Mhryd- ain Fawr a'r Cyfandir, yn cynwys Proffeswr Simp- son a Dr. Croom, Edinburgh Syr Thomas Stew- art, Syr John Williams, Syr William Turner, Pro- ffeswr Herbert. Spencer, Syr W. Roberts, Proffes- wr Martin, Berlin Proffeswr Saenger, Leipzig Dr. Doyen a'r Proffeswr Pozzi, Paris; Proffeswr Jacobs, Brussels, ac amryw eraill, enwau y rhai a hawliant barch cyffredinol yn y broffeswriaeth feddygol. Mewn colofn arall yn yr un newydd- iadur cawn: Pan anwyd "gynaecologist" newydd Oaerdydd yn ei gaTtref hynafol yn Men prophwyd- odd hardd Qymreig enwog am daino fel y canlyn Olynydd o'r hen linach—oesawg glod Gatdd Maesoglan bellach; Elginyn na bu ei geinach, Yn y byd yw loan bach. Mae tad Dr. Williams yn fab i'r diweddar Mr John Williams, Tyddyn Hwrdd, Aberffraw, a'i fa.m yn fercfa y diweddar Mr Griffith Griffiths, Henllysfawr. Mae y meddyg ieuanc llwyddianus hefyd yn nai i Mr David Williams, Trefri. Diau y bydd yn dda gan drigolion Mon yn gyffredinol ddarllen am lwydddant, ardderohog un o'i meib- ion, a hyderwii y caiff Dr. Williams hir oes i godi ei hun al wlad.
Kheilffyrdd Ysgeifn Hon.I
Kheilffyrdd Ysgeifn Hon. I [Ab y Golygydd.] Syr,—Dyma'r swn sydd yn. y gwynt y dyddiau hyn—can clodi i bobl Moclfra, Benllech, a. Thraeth- coch. Buont wrthi yn ddiwyd a di-ildio am ddeng mlynedd. Mae eu taerni a'u hymdrechion ar gael eu coroni a 11wyddiant. "Maent yn gwir deilyngu y wobr," fel y dywedir. Oeir llinl1 newydd gyfleus yno cyn pen dwy flynedd, a bydd hyny yn ffortiwn i'r ardaloedd pTydftrth hyn. Beth bellach am linell y Valley i Amlwch ? Dyma eto ran nodedig o bwrpasol o'r wlad am' linell newydd. Mae y CVnghor Sirol wedi ar- wesu y diyclifeddwl hwn fwy nag unwaith. De- allwn hefyd fod y tirfeddianwyr penaf oil yn bleid- iol i'r symiudiatd. Dyma ran helaeth o'r wlad, yn pasio Uanerchau prydferth ac addawol, hynod o hawdd eu dadblygu. Pa anhawsder gwneud Rhyd- wyn, Llanrhyddlad, Oemlyn, Llanfechell, Oemaes, a Bull Bay yn union fel pentrefi arforawl Ynys Manaw, ond darpar moddion trafnidiaeth gyfleus iddynt 1 Mae poblogaeth Mon yn lleihau wrth y canocdd yn llrnyddol, pan gydag yhydig o ddi- wygiadau fel hyn y gellid ei gwneud yn driugaiii mil-1M ehyfaeth gwlad ei phobl. Dvna ddygai farchnad i'w ffermwyr a thenantiaid i'w meddian- wyr. Pa Ie mae preswylwyr glana.u y moroedd hyn1 Eu haelodau cyhoeddus, pa Ie y maient? Cadben Thomas a Ohadben Edmunds, o Gemacs J. R. Hughes, o Lanf-echell; Jones, o Landdeu- sant; y cefndryd Jones, o Lanfaethlu ? Frodyr, ai difater genych golli y fath fant-eision i'ch ethol- aethau ? Ai y tipyn anrhydedd yn unig sy'n werthfawryncichgolwga nemawr ddim o wasan- aeth ? Moddion effeithiol weithiau ydyw etholiad i ddeffro ychydiig ar aelodau lloog a segur. Mae <renycli gyfle, gyfeiUion, a'r wlad i'ch cynorthwyo Ÿn awr, i enill manteision sylweddol i'ch ardaloedd, ac oni wnwclh chwi, cewch gyfle i roddi cyfrif am -esgeulusoyn y ww.—Ydwyf, etc,,
i Cynghor Dinesig Llangefni.…
Cynghor Dinesig Llangefni. Gynhaliwyd cyfacfod misol y Gynghor hwn nos Lun, o dan lywyddiaeth Mr J. E. Jones (is-gadieir- ydd). Yr oedd hefyd yn bresenol: Mr Rachaid Williams, Dr. J. E. Owen, Mri W. Hughes Jones, Robert Jones, Owen Williams, Richard Jones, W. Barnett, John Williams, Thomas Jones, O. T. Williams, R H. Thomas, Richard Pairy, clero (Mr G. O. Williams). Pasiwyd1 planiau o gyfnewidiadau bwriadedig yn y Ship Hotel, eiddo'r Mri Allsopp, a warehouse a fwriedar ci hadeiladu gan. Mr J. O. Williams, Gwylfa. Galwodd Mr Barnett at gamgymeriadau yn "Almanac Robert Roberts, Oaergybi," ac "Al- manac y Gweithiwr," parthed ffeiriau Llangefni. Yn ol yr almanaciau hyn gwelid fodhfO ffeiriau Llangefni yn disgyn ar ddyddiau Gwener. Ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniadau ax y mater. Darllenwyd cais oddiwrth Miss, Stirrup am os- tyngiad yn y tai1 a ofynid am y N euadd Drefol yn nglyn a'r budd-gyngherdd i Mr E. Oefni Thomas, a phenderfynwyd ei ostwng i 15s, i gynwys pob- peth. Ysgrifenodd y Dirprwywyr Elusenol yn gofyn am enwau y gwaJianol elusenau dros ba Tai y dywedid fod y Cynghor wedi eu penodi yn ym- ddiriedolwyr, ac hefyd dan ba is-adran o adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1894, y gwnaed hyny. Hefyd, gofynent a oedd "area" y Cynghor yr un ageiddo Plwyf Henafol Llangefni ? Dywedodd y Clerc ei fod! wedi ateb yn rhoddi yr enwau, a derbyniodd lythyr pe'lach, yr hwn a ddywedai nad allai y Dirprwywyr gydnabod fel penodiad ymddiriedolwyr o elusenau plwyfol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1894. Dylid felly wneud penodiad pendant yn nglyn a phob elusen mewn cysylltiad a pha rai y mae y Oynghor yn hawlio ac yn dymuno gweithredu. Gellid dweyd yr ymddangosai y byddai yn briodol i'r Cyiig'hor benodi dau ymddiriedolwr o'r elusen a elwid yr "Allotment for Fuel or Poor House" o dan adran 14 (2), o Ddeddf Llywodraeth Leol 1894 yn lie yr overseers, y rhai yn nghydalr rheithor a ym- ddangosent i fod yn ymddiriedolwyr o'r elusen. Parthed Elusen Mercditli dywedent fod hon mewn rhan yn Eglwysig yn ol ystyr y Ddeddf, ac ni ellid gwedthredu gan y Oynghor o dan adran 14 (2) hyd nes byddai, o dan gais rhyw berson neu Gorph feddent ddyddordeb ynddo, wedi ei ranu o dan awdurdod Archeh y Bwrdd yn unol ag adran 75 (2) o'r Ddeddf. Nid ymddangos:'i y gellid cyfar- fod ag um-hyiv amcan defnyddiol drwy benodi ym- ddiriedolwyr o dan adran 14 (2) yn achos Elusen John Griffith Lewis, oherwydd yr ymddangosai fod y gymunrodd wedi ei cholli ers 1360. Hefyd, ymddangosai Elusenau Mrs Jane Roherts (1875) a/r Parch Henry Owen (1890) yn elusenau plwyfol yn ol ystyr y Ddeddf, ond yr oeddynt yn ddax- ostyngedig i'r trefniant gynwysid yn adran 14 (8) o'r Ddeddf, ac felly nis gallai y Cynghor weith- redu parthed ymddiriedolwyr o'r elusenau hyn. Penderfynwyd i'r Clerc ymohebu yn mhell'ach air y materion uchod. Darllenwyd llythji* oddiwrth Mr T. E. Parry, clerc Cynghor Trefol Oonwy, yn gofyn pa alluoedd feddai y Cynghor hwn paTthed datgan Cwynion yn nglyn a Ohwmni y RheilfEordd. Ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad ar y mater hwn. Derbyaiiwyd lTythyr oddiwrth Mr J. Lloyd Grif- fith, clerc y Oynghor Sdrol, yn amgau penderfyn- iad a hasiwyd yn y cyfarfod diweddaf, yn mha un y gelwid sylw y Cynghor Dinesig at y nuisance, y rhwystr a'r perygl a achosir drwy gynhal ffeiriau ceffylau yn yr heolydd, ac yn gofyn am iddynt gael eu hatal. Penderfynwyd cyfeixio'r llythyr i'r Pwyllgfor Iechydol. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodr- aeth Leol yn cadarnhau penodiad Mr John Owen I fel arolygydd o'r 9fed Ionawr, 1899, hyd yr 8fed P i siwyd' i godi 5p yn nghyflog y clerc. Yn y fan hon penderfynwyd anfon at argraph- wyr yr almanaciau a grybwyllir uchod yn gofyn iddynt gywiro y camgymeriadau yn nglyn a ffeir- iau y dref.
Manion ac Amrywion. -
Manion ac Amrywion. Gwen dioddef am siarad y gwir na gadael i'r gwir ddioddef oherwydd peidio ei ddiweyd. Gwell cardota bara yma gyda Lazarus dlawd na gofyn am ddwfr "ar ol hyn" gyda Divas gyfoeth- og. Os ymollyngi gyda'r demtaeiwn heddyw yr wyt yn temtio y diafol i'th denitio di eilwaith yfory. Un pwynt yn ffafr y diafol yw fod y chwareudai yn gyffredin wedi eu ventilatio yn well na n haddoldai. Y geiniog a gadwyd sydd geiniog a enillwyd; ond yr enaid a gadwyd sydd goron a enillwyd. Helpa Duw y rhai a helpant eu hunain; ac hefyd helpa Efe hwy i helpu eu ihunain. Ni thry Duw neb i ffwrdd yn wag ond y rhai sydd rhy lawn o honynt eu hunadn. Os yw Grist a'n calon yn un, yna y mae pechod a'n calon yn ddau. Addawa. Duw i ni landio yn ddyogel, ond nid yw yn addMV i neb gael passage tawel a ihwydd. Y ddaiear yw ein gweithdy, ond y Nefoeda yw I cin hystordy y ddaear yw ein marchnadfa, ond y Nefoedd yw ein luiriindy! Mae i bob dydd ei drafferthion, ond y mae i bob trwbl ei ddydd. AtJiraw (mewn dosbarth hanesyddiaeth) "Pwy ydi mam Tywysog Cyrnru ?" Un bychan sharp: "Llandudno, syr!" Yr athraw (yn sarug): "Llandudno, syr! Pa. beth yweich meddwl?" Y bychan: syr, dywed y 'guide-book' mai Llandudno yw y of Wales felly meddyl- iais mai Brenhines Cymru fyddai mam y Tywys- og!" o. GEIRIAU MOODY. Os na elhvøh fod yn oleudy (lighthouse) dros yr Arglwydd, byddwch yn gjanwyll ffyrling 1 Gwell i ddyn gael ei enw yn ysgrifenedig yn Llyfr Duw nag mewn llyfr unrhyw glwb neu "ledger." Gwell genyf fyddai chwareu a'r mellt ac a'r haint marwol nag a fy ngobaith o fywyd trag- wyddol. Mae Duw yn caru pechaduriaid, ond yn cashau pechod. Os ydyw y frech wen ar eich plentyn, yr ydych yn caru y plentyn ac yn gas genych y frech! LLOSGI TRI MERTHYR. Mae miloedd yn Llundain, yn ddiau, na wydd- ant fod yn mysg y cywreinbethau yn yr Amgu- eddfa Brydeinig y bil o'r 'hyn dalwyd am losgi y tri miertbyr—'Oranmer, Latimer, a Ridley. Mae hyn yn ffaith, a phan yr ewch i Lundain am dro cofiwch hyn. Dymai fel yr ymddengys —Treul- iau llosigjiad cyrph ICrranmer, Latimer, at Ridley: AmdIi llwyth o ffagodau coed, 12s hefyd am lwyth o ffagodau eitihin, 38 4c; hefyd am eu cludo, 2s 6c; hefyd am un polyn, 2s 4c 'hefyd dwy gadwen, 3s 4c hefyd dau fwrdd, 6c; hefyd llafurwyr, 2s 8c cyfanswm, 1p 6s 8c. DIANGFA GYFYNG GORDON. Yn ngnanol llu eraill o haneeion cyffelyb ad- roddir i'r Oadfridoig Gordon fod un tro yn cerdded ar ragfur pont ag iddi lawer o fwau yn Patachiao, yn China, yn hamddenol synfyfyrio ac ysmocio, pan yn sydyn tarawodd peleoi o ddryll y gareg lie JT oedd erbyn hyn wedi eistedd ami i or- phwyso. Dyma ail eigyd, a gwelai mai nid oddi- wrth elynion y deuent, ond o worsyllfa milwyr Prydain, ac nis gallai ddeall y rheswm ajn danynt. Disgynodd i lawr ac aeth i'w gwch i fyned dros- odd i'r gwersyll i wneud yixlholiad i'r mater. Nid oedd wedi croesi haner y ffordd dros yr aber nad oedd yn llygpd' dyst o'r dam o'r bont lie yr eis- teddai arno yn syrthio i'r d.Avfr! Felly yr ergyd- ion damweiniol hyny a besyglodd ei fywyd yn rhaieiluniaethol a achubodd ei fywyd. PEIDIWCH BOD YN RHY BRYSUR. "Doctor, am foment, os gwelwcli yn dda," meddai dyn y dydd o'r blaen pan wrth ddrws cyfrin-ystafell rroddyg mewn tref fechan. "Gwelaf chwi yn mhen ychydig," oedd yr ateb swta a. gafodd. "Dim ond eiliad yw'r oil a geis- iaf," meddai'r gwr, ond i ffwrdd a'r doctor gan waeddi "Deuaf yna'n union deg." Rhag bod yn anfoneddigaidd, arhoeodd yr ya welydd a di- fyrodd ei hun drwy ddarllen y "Liverpool Mer- cury" a'r "Clorianydd," edrych y pictiwrs, a chwareu a'r ci yr oedd, a chafodd gyntun bach. Wedi haner awr nen fwy o ddi6g^r)rl dyma wr y plhysig o'i "gell gudd." "Yn awr," meddai mewn ffwdan. "yr wyf at eich galwad pa beth allaf wneud i chwi?"' "Dim neillduol," meddai'r cy- faill: "gaJw yr ocddwn just i ddweyd fod tair o wartheg eich cymydo^ yn cadw picnic yn yr ardd yn eich gwelyau chrysanthemums chwi."
j AMLWCH.
j AMLWCH. Y Dysteb i Mr John Hughes.—Mae prysurdeb mawr yn y lie uchod y dyddiau hyn yn cael ei wneud trwy roddi cyfleusdra i bawb a ddymunant gyfranu at dysteb y boneddwr caredig,ac un o ragorolion Mon yn ddiamheu, sef y CyngEbrwr J. Hughes, Fron- deg. Y Tlodion.—Ychydig iawn o son sydd am roddion i'r tlodion eleni. Gobeithio na fyddant yn anghoflo y tlodion, oherwydd dyma'r unig adeg fyddant yn cael rhoddion gan rai caredig. Mae y tepot yn dis- gwyl am de, y grat yn disgwyl am lo, a'r blwch am geiniogau. Y Nadolig.—Dywedir y bydd holl fasnachdai Amlwch yn gauedig dydd Llun ar ol y Nadolig. Glywais fod siopau Oaernarfoni aim gadw'r Llun a dydd Mawrth yn wyliau, ao felly paham nn. ched- i wir gwyl yn y lie hwn hefyd? Cofied prynwyr Amlwch fod y masnachwyr eisiau dydd gwyl ar ol y gHraith mawr oedd ganddynt i'w wneud ar gyfer y Nadolig.
BODEDERN.
BODEDERN. CjTndeithas Ddirwestol y Merched.—Nos Wener diweddaf, yn Neuadd Edeyrn, anrhegwyd aelodau y gymdeithas uchod a gwledd o de a bara brith a cakes o'r fath oreu gan y lywyddes, sef Mrs Dr. Edwards, I Mynydd y Gof. Gwasanaethwyd wrth y byrddau ga.n Mrs Edwards, Miss Williams. Temperance House, a Mrs Parry, Ty Cristion, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Edwards, Mynydd y Gof; Miss Lewis, Llanlli- bio; Miss Owen, Bodowyr, a Miss Jones, The Fac- tory. Tra gyda'r te daeth Dr. Edwards, U.H., a Mr Jones, Einion Chwith, i mewn, a chawsant groesaw mawr. Wedi digoni y nifer luosog ag oedd yn bres- enol galwodd y Llywyddes ar Mr Jones, Einion Chwith,i ddechreu y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, a ehafwyd anerchiadau brwdfrydig ganddo ef, Dr. Edwards, Mrs Parry, Ty Cristion, a. Mrs Jones, The Mount Trevor, gydag amrywiaeth o donau dirwestol gan barti o enethod, a chan gan Miss Mary E. Griffiths yn bur dda, yn cael ei dilyra ar y felodej^gan Miss Edwards. Yr oedd Mrs Lloyd, Menai Bridge, wedi bod mor garedig ag anfon amryw lyfrau i'w rhanu yn y cyfarfod, a derbyniwyd hwy yn ddiolchgar gan bawb. Cynygiwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mrs Edwards am ei charedigrwydd, gan Mrs Jones, ac eiliwvd gan Mrs Owen, Cae Gwyn, ac unodd pawb mewn "cheers" calonog. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mrs Jones, Trevor. Ar y diwedd cafodd nifer luosog o blant y pentref dderbynia.d i'r wledd, yr hon yn ddiau a fawr fwynhas<<nt.—B.
CAERGYBI.
CAERGYBI. Swper.—Yn y Town Hall nos Fawrth cynhaliwyd swper mawreddog gan Eglwys y Tabernacl Newydd (A.), Newry-street, a bu yr anturiaeth yn llwyddiant mawr. Eisteddodd oddeutu 500 wrth y byrddau. Mae yr Eglwys weithgar hon Yn adgyweirio ei chapel. Bydd y gost oddeutu Illil o bunau; a phan wedi ei gwblhau, bydd yn un o'r capelau harddaf yn y wlad. Cliriodd y swper swm sylweddol i'r amcan o glirio y ddyled. Damwain i Gerbyd. — Dydd Llun digwyddodd damwain i'r cerbyd sydd gan Mri Joseph Evans a'i Gyf., pan yn agos i'r Farchnad gyhoeddus. Cafodd y march ei ddychryn a charlamodd i lawr yr allt gan redeg i ddrws cefn y Lord Nelson Inn gan ei wneud yn yfflon. Drylliwyd hefyd v cerbyd, ond yn rhy- fedd iawn ni anafwyd y march na'r gyriedydd. Y Parch Gomer Evans.—Mae yn dda gan bawb ddeall fod y gweinidog da uchod sydd yn Uafurio yn mysg y Bedyddwyr Seisnig, wedi penderfynu aros yma eto, er ei fod wedi meddwl unwaith am fyn'd yn genhadwr droo yr un enwad i ranbarth o sir Fnint. Mae Mr Evans yn bregethwr rhagorol, parod i wneud ei oreu i hyrwyddo pob achos da yn y dref.. Cyngherdd.—Cynhaliwyd cvngherdd nos Iauyn y Town Hall, mewn cysylltiad a Chyngrair y Friallen. o dan lywyddiaeth Mr Griffith. Park House. Yr oedd y rhaglen yn cael ei gwneud i fyny o gerddoriaeth leisiol ac offerynol, gydag adroddiadau. Cafwyd cyfarfod difyr ac adeiladol. Terfynwyd drwy gyd- ganu yr Anthem Genedlaethol. Y Cymdeithasau Llenyddol.—Yn nghymdeithas lenyddol Bethel (B.) nos Fawrth, Mr John Williams, Cambria-street, yn y gadair, Cafwyd dadl ddydd- orol ar "Pa un a'i rhan a'i ynte dewisiad ydyw priodas." Agorwyd o blaid rhan gan Mr E. D. Jones, Water-side. Cymerodd amryw o'r aelodau ran yn y ddadl. Ar y diwedd drwy fwyafrlf I bychan dewisiad "Aeth a'r maen i'r wal." Pwnc dadl Cymdeithas Hyfrydle (M.C.) nos Fawrth, y Parch John Williams yn v gadair, ydoedd "Pa un a'i y pwlpud a'i y wasg sydd yn meddu mwyaf o ddylanwad." 0 blaid y wasg agorwyd gan Mr J. T. Davies, Green Banc 5 o blaid y pwlpud gan Mr Richard Williams, Thomas-street. Cafwyd dadl alluog a dyddorol. Ar y diwedd pasiwyd mai v pwlpud sydd yn meddu y dylanwad cryfaf. Eisteddfod y Nadolig.—Nid oes dadl erbyn hyn na bydd yr Eisteddfod Ooronog ddydd Llun y Nadolig yn llwyddiant mawr. Mae clod yn ddvledus i'r pwyll- gor am weithio mor ragorol. ac y mae rhagolygon am gynulliadau lluosog a chyfarfodydd difyrus a brwdfrydig. Ary testynau barddonol, rhyddiaethol. a chelfyddydol, mae y ffugenwau a ganlyn wedi eu der- byn. Mae y ffugenwau ar v testynau cerddorol ac adroddiadol yn dylifo i mewn, a chyhoeddir hwynt yr wythnos nesaf :— Gwirionedd, Blodeuwedd, Mair o Wynedd, Junice, Gwenonwy, Auroria, Ymdrechgar, Credadyn Cryn- edig, Wrth y Borth, Mab v Wawr, Ecce Virtus, Glasfor, Humaus, Awel yr Hwyr, Y Canwriad, Wil Dafydd, Monwr, Twrog, Peblig, Salem, A.J.G., Hibernis, Y dwyf ei wawdiwr, Gwylaidd, Owain Wyn, Goliath, Rhosydd, Briton, Cvmro or iawn ryw, Un. yn dysgu barddoni, Un yn treio'r ail clrn, Un had- waen. Lief o'r llwch. Mv.ruroe, C.G., Josua-, Briton, Morfydd o Gybi, Caer, Lwy, fark, Chnnrrt Glan. Un odrhar y Border, Edward. J.R.M., Walter. Blodwen, Myfanwy, M.O.. A.B.C.. Cymraes. Eira, Ruth, Ar- weinydd, Hen ffon fy nain. Non, Montrigvdd, loan, L.S.D., Oybi, Arnon, AmT-'m, Ellen A. Rowlands, Doris. Gladys, Di-enw, Edno, Dim Enw, Anon, X.Y.Z.
CAPEL COCH.
CAPEL COCH. Cyngherdd. — Cynhaliwyd cyngherdd, ar raddfa fechan, yn ysgoldy y lie uchOO, nos Wener diweddaf, I o dan lywyddiaeth Mr J. Rowlands, Shop. Yn ystod y cyfarfod gwasanaethwyd gan y rhai canlyn- ol:—Adroddiadol Mr H. B. Jones, Llanerchymedd Mr Hugh Jones, Graiglwyd; Mr Henry Jones, Mr I G. LI. Jones, Master J. Williams, Clorach, a Miss Ellen Jones. Cerddorol ao offerynol: Miss Lillie Eames, Miss Daisy Owen, Miss Mary Jones, Miss Blodwen Eames, Mr W. J. Jones, Mr W. Elias I Hughes, Johnny a W. Williams, Clorach. Cafwyd cynortliwy yn yr adran adroddiadol gan amryw 0 Hebron. Cyfeiliwyd yn ystod y cyngherdd gan Mr J. Jones, ysgolfeistr, yn ei ffordd feistrolgar ef. Credwn yn gvdwybodol y dylai symudiad o'r natur yma gael y cynorthwy goreu all uchelwyr yr ardal ei roddi. Ni ddylent adael yr oil i bwyso ar ysgwydd- au Mr Jones (cychwynydd symudiad) ei hunan. Y mae cyfarfodydd fel hyn yn gyfryngau ardderchog tuagat ddadblygu ysbryd cyhoeddus, mewn ieuenctyd yn enwedigol, a. meithrina chwaeth ynddynt at y sylweddol. Mae hirnos (yauaf wedi dod ar ein gwarthaf, ac oni fyddai cyfres ddilynol o'r cyfarfod- ydd hyglod hyn yn werthfawr iawn yn ngolwg vr ardalwyr? Hyderwn nad yw hwn ond blaenffrwyth, a.c ond cael cydweithrediad eoronir y symudiad a llwyddiant perffaith.—R.
LLANERCHYMEDD.,
LLANERCHYMEDD. Symudiad Dyngarol.—Mue rhai o drigolion y Llan wed] ymafael mewn svmudiad- .i-jC dyddiau diweddaf, sef. ceisi/ id«<J'-«iar.oi lavVe f leihau eu horiau eu hm J' ho11 4. n an ^wosaaactnyoajon. trwy gau eu masTka-chdui an, p n»r o-t, y. \r oedd y svniad mew u 1 j T V n bwriad ers amser, ond or diweda ymgais •. „ J p iw gyilawni; as os v ilwvdn:r. vr vdym vn sicr y « „ J •' lyddys yn llmiaru llawer o feddyliau, ac hefyd bydd iac^ad corphor:)! j'r amrywxol wasanaetnyadion svod VI1 garpb^noI we<i; ayoddet pwysau ortau hinoa. Bvdd yn sicr 0 fod yn fendith anmhnsxacwy. ynar T svmi,diad ddvwg i neb os y gofala pob Jleesdd an eu han rheidiau yn Lrydion—sef yn_8 giocj;_ °
CynhebryngaTi.
CynhebryngaTi. Yr adeg afiach hon o'r fiwyddyn mae angladdau weitlian yn ami. Y mae llawer iechyd gwan we 1? «• andwyo wrth hir oedi mewn crnhebrwng. — He o b.'b man y dylid arfer ?r^.Vv.ydd, gweddeida- doc-jhiueb.* a phryoimdeb. Mae yn gieidd-dra gwart'ius yii i&sb pvfy bynag i padw ugeiniau o Cobi 1 ddisgwyl yn yr osrfrl. Mewn cynhebrwng bytbei- nos vn ol dechreuodd y gweinidog ar y gwasan«eL: yn y ty am chwarter-awr "e';¡' amser cyohwyn. Dar- llen('dd benod faith bob adiiod. a bu yn rainblo i gweddio wed'yn am cl.warter-awr. ac uge^r.iua o ddynioa ciyfion yn rhyr.u ga:i anwyd ar y strict. A helpo synwyr tmenus y fath ;mddygiad }'nfyd. Cynhebrwng arall arferth o rifed' 1 wr cyhoeddus ieuanc poblogaidd c:;dwyd car.oeJU o bobi re ugeiri- iau o gerbydau i s r.i yr agos 1 awr. Yr oedd L galar crwy y wl-vd y diwiT.od hwnw.Eto ee-sta: tri o i froo^T wneud <• r cviihebrwng neu o i-Ar.-y: en hunain. () 'r f-jth "• rhedeg rati a li.r ,.v:\ cyhocddi. a tbr*ur«u. f j1- p- b".i cyr.vdiiatl parchi's o ai.;rwyr y g nf iir.t izyuf di-drwfct o'u viB- ar y fath atLlysnr tri't. Ai omd m~di cael "Tuwared o'r gwag rodrcswrr piyttir a tlyrhyrfti^ sy'n distyrbio eynulliadau fawyr.f mynweso! ein j .-gwLid? Allan a rhodres a mursendod o bob ran", ac j enwedig o'r angladdau. Weinidogion hawdcigar di hefyd. arferwch ddo;:u- ineb. Ootiwch fou- :n ddoeth. Prydlondeb, b., arl serch. a gras a wna an^ i ?ngiadd ya fendith ac nicf yn feildith i dsimladau i:pioc, sc nid yn berrpl i iechyd trigolion ein hardalifc^J. Gadwer o'r anaeth bob lolya cfior.vdd. vn "r.jhyttar sawl 10 n goryn yn « lh; A welwch" d'jri V" — Galarwr.
[No title]
Fe weilir oddiwrth adroddiad mewn eolofn arall fod y "Ottorianydd" wedi ei wyBio i'r Owrt Bach yn Mangor ddydd Llun. Fodd bynag, y "donan- ydd" oedd yn iawn: yr oedd y Barnwtr Syr Hora- tio Lloyd o'r un farn: a ni. Diau fod Mr Huw "Rowland erbyn hyn yn edifarhau am na chymor- odd gynghor gan ei gallach i adael y peth yn llonydd.
It" Oloriacydd ' yn 7 Cwrt…
It" Oloriacydd yn 7 Cwrt Bach. Y BMtNWR LLOYD O'R UN FARN A'R v, "OLORIANY3>I> I Yn Nghwrt Bach Bangor, a gynhaliwyd ddydd Llun, bu i Mr Huw Rowland, cyn myned o'r Barnwr rhagddo i draddodi dyfarniad mewn cyng- aws a dreiwyd yn un o Lysoedd Mon o berthynas i "warranty" roddwyd dros fuwch a werthwyd, ddweyd fod mater y dylai efe ei grybwyll i'w ar- glwyddiaeth, Yr oedd yn fater o bwysigrwydd cyhoeddus. Kodiad am achos ydoedd mewn newyddiadur Ileal a adwaecad fill y "Clorianydd." Pe yn yr Uchel Lys, fe fuasai yn fater difrifol iawn. Ni wyddai ef (Mr Rowland) pa mor bell yr oedd gan ei Anrhydedd y gallu i ymwneud ag ef yn y llys hwn, ond yr oedd ef yn sicr ei fod yn un yn yr hwn y gallai ei Anrhydedd wneud sylw- adau ciyfion. Oyfeirio yr oedd y papyr at ddau actios a wrandawyd yn Llys Caergybi, ac am un o ba rai y dywedodd: —"Yn y llys diweddaf yn y dref hon (iQaergJbi) yr oedd dau amaethwr o wahanol ranau o'r sir wedi gwerthu heffrod i ddyfod a lloi mewn amser penodedig. Yr oedd y ddau achos bron yn ihonol yr un fath a'u gilydd." Yna aeth yr erthygl yn mlaen i siarad yn nghylch un achos, 800 yna daeth at ei achos ef (Mr Rowland) —"Yn yr achos arall yr oedd y tystiolaethau mor groes i'w gilydd fel y datganodd y barnwr y cymerai ei amser i wneud ei feddwl i fyny. Peth arall rhyfedd iawn yn nglyn a'r achoeion hyn ydoedd gwrandaw ar ddau feddyg anifeiliaid o gryn en- wogrwydd, mor wahanol eu barnau. Yr oedd un yn sicr yn ei feddwl fod yr heffer wedi bwrw lloi yn ei hamper priodol, neu fod rhyw anlwc wedi digwydd iddi cyn hyny. Yr oedd y llall drachefn yn bendant na bu lloi erioed ynddi, ac yn dod a rhesymau cryfion yn mlaen dros ei syniad. Sut y mae yn bosibl i'r un dewin wybod pwy sydd yn dweyd y gwir mewn achosion fel hyn pan y mae dynion o safle bwysig fel byn ar eu llw yn traethu barnau mor wahanol ?" Ni fu achos enoed, ebe fttr Rowland, yn mha un yr oedd efe yn argy- hoeddedig fod yr holl bleddiau yn fwy gonest. Yr oedd i bobl siarad yn nghylch peth fel hyn oedd heb ei benderfynu yn warthus, a gallai yr achos fod wedi dyfiod o flaen rheith- wyr. Ei Anrhydedd: Mae yn ymddangos i mi ei fod yn bur anmhleidiol; nid ydyw yn dangos pa olyg- wedd mae yn ei ffafrio. Mr Rowland a ddywedodd ei fod mewn cynifer a hyny o eiriau. Darfu iddo bardduo yr holl lot o bobl barchus. Mr n. Â. Griffith (yir oedd wedi ei logi dros yr ochr arall yn yr achos): Ni chlywaie i erioed 1\ ddim yn ei gylch hyd yn awr. Mr Rowland a sylwodd i'r erbhygl ddweyd "nad oedd dim eicrach nag fod un o'r ddwy ochr yn mhob un o'r afchosdon hyn yn tyngu anudon yn hyf a digywilydd i'r eithaf." Ei Anrhydedd Mae hwnyna yn olygwedd pur gryf i'w gym.eryd arno, rhaid i mi ddweyd, Fy meddwl i yw y gaJlai un blaid fod yn llwyr gjam- gymeryd. Mr Rowland Er i mi ymddangos yn gryf ar yr ochr arall, miÍ. a ddywedaf nad oedd ar du fy nghyfaill ddim awgrymiad o'r fath. Ei Anrhydedd: Yr wyf yn cyfaddef fy mod i, pan wrandewais yr achos, i raddau mawr o'r un farn a'r papyr hwnw, y fath fel y dymunaswn i gyfareddwr fod yn delio ag ef. Yr unig ffordd allan o hono ydoedd awgrymu fod i glerc y Cofrestrydd weithredu fed godrwr a godro y fuwch. Darfu i'r clerc wneud hyny—neu o leiaf gwelodd y fuweh yn cael ei godro, ac anfonwyd y llefirith i fyny mewn potel i ddadansoddwr i wneud adroddiad arno. Yna aeth ei Anrhydedd rhagddo i roddi ei ddy- farniad yn yr acihosi yn mha un yr oedd Cadben E. H. Williams, Wigaedd, ger Pentraeth, yn cael ei erlyn gan Henry Ellis, Rhosydd, Llangjefni. Ym- ddangosodd Mir R. A. Griffith dros yr achwynydd a Mr Huw Rowland dros y diffynydd. Dyfarnodd ei Anrhydedd yn ffafr yr achwynydd am 14p.
! BEAUMARIS.
BEAUMARIS. .Marwolaoth.—Mas genyf y gorchwyl pruddaidd yr Tvythnos hon eto i gofnodi am farwolaeth un o'r tri- golion, sef Mrs Margaret Davies, priod Mr Hugh Davies, New-street, torwr beddau, yn 56 mlwydd oed. Yr oedd yn wael ers amser maith, ac wedi cael cystudd trwm. Dydd Llun, am ddau o'r gloch prydnawn, daeth cynulliad parchus yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi yn y byd hwn. Gwasanaethwyd gan y Parch M. Griffith, Periglor, Llangoed. Yr Eisteddfod Undebol Llun y Pasg.—Gan fod y Methodistiaid Calfinaidd ddim yn bwriadu cynal eis- l teddfod eleni Llun y Pasg. y mae yma. bwyllgor cryf wedi ei ffurfio gyda bwriad o gael eisteddfod ar radd mor eang ag sydd bosibl. Mae eisoes addewidion ardderchog wedi eu cynyg, ac y mae y boneddwyr sydd wedi eu dewis i arwain ac i drefnu yn "right men in the right place. Gwledd gan y Maer.—Nos Fercher gwahoddoJd y Maer (Mr W. R. Jones) aelodau y "fire brigade" i giniaw ardderchog yn y Liverpool Arms Hotel. Wedi gwneud chwareu teg a'r danteithion cliriwyd y byrdd- au, a deehreuwyd a'r rhan arall yn nglyn a'r wledd sef llwncdestynau, canu, areithio, ac adrodd. Y cyntaf oedd llwncdestyn i'r teulu brenhinol, yr hyn a wnaed gan ein Maer poblcgaidd can, "Noah's Ark," Mr T. J. Jones, yn gampus can, Mr J. W. Jones; llwncdestyn gan y Maer, "Y Clerigwyr a Gweinidog- ion yr holl Enwadau"—atebwyd yn wresog gan Mr E. Thomas (surveyor) can. "Ugain dolar, Mr T. Owen, yn hwyliog adroddiad, "The Arab match boy," John Owen, teiliwr Ilwncdestyn, "Y Llynges a'r Fydcfin," I gyda pha un y cyplyswyd enw Syr Richard Bulkeley, gan y Maer—atebwyd gan Mr T. Pierce, Baron Hill; can, "Death of Mr W. J. Thomas Ilwnc- destyn. "Llwyddiant y 'fire brigade, gan y Cadben (sef y M:aer),gan enwi E. Thomas (C.P.O.),G. Thomas (P.O.), William Thomas (P.O.). a T. B. WaJker (P.O.) can, "Village Blacksmith,' Mr J. W. Jones, I yn ardderchog; can, "Don Patrick," Mr T. B. Walker; can, "Llanbrynmair," J. Owen. teiliwr; yn nesaf cafwyd iechyd da i'r Maer, yr hwn a gjrn- ygiwyd gan Mr E. Thomas vn hynod o deimladwy acibwrpas,aderbyniwyd ei sylwadau gyda chj-merad- wyaeth uchel; can, "Nancy Lee," Mr John Lloyd. yn swynol; adroddiad, "Trvchineb Johnstown," John Owen, teiliwr; can, "From Liverpool to the Atlantic," Mr T. B. Walker, yn ddoniol. fna sylwodd y Maer ar y rhai oedd wedi ou gwahodd, a dywedodd ei fod yn falch o gael mwynhau eu cwm- peini.—'Atebwyd gan Mr T. Pierce, Baron HO), a John Owen. Felly terfynwvd un o'r nosweithiau mwyaf difvr, doniol ac adeiladol. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Mr J. W. Jones yn hynod feistrolgar. Gobeithir nad vw yr amser yn mhell pryd y cawn gyfarfod cwmpeini mor aluog a pharch- us eto. Derbynied y Maer ein diolchgarwch gwres- ocaf am ei garedigrwydd. Llwyddiant iddo.—Tref- wr.
CA RRWYP.
CA RRWYP. Dj'ddiau Sul a Llm, y 4ydd 5ed cySsol. oynhal- iwyd cyfarfod yn y lie uchod i ordeinio Mr Eawin Jones, o Lanfaethlu, a myfyriwr yn Ngholeg y Bed- yddwyr, Bangor yn weinidog ar Eglwysi Caerwys a Penygelli. Pregethwyd am ddeg boreu Sul yn Caer- wys gan y Parch D. Lloyd. Rhvdwyn, gweinidog yr Eglwys lie y dechreuodd Mr Jones bregrthu. a phre- gethodd am ddau yn Penygelli, a'r un adeg yn Caer- wys gan y gweinidog newydd, ac am chwech gan v Psrch D. Lloyd. Am ddeg boreu Llun dechrenwyd gan Mr M. Owen, o Goleer Bangor, a phr^gethwyd gany Parch T. Morgans. Wvdrlgrug. a thraddodwyd siars i'r gweinidog gaJl y Prifathraw S. Morris, M.A., Bangor. Am ddau cynhaliwyd y Cwrdd Ordeinio, pryd y deohreuwyd gan y Parch A. R. Roberts, Ffynongroew, ac y Uywyddwyd gan y Parch E. Wil- liams, Rhos. Gofynwyd y cwestiynau arferol i'r gweinidog gan y Prifathraw Morris, a chafwyd ateb- ion cynwysfa.wr mewn ychydig eiriau; ac wed'. cael arwydd gan yr Eglwysi a'r gweinidogion eu bod yn hofli eu gilydd, dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch E. Williams ac yna darllenwyd brysneges oddi- wrth gydfyfyrwyr Mr Jones yn djonuno ei lwyddiant, ac oddiwrth y Parch H. H. Williams, Cefnbychan (un arall o feibion Llanfaethlu), yn datgan ei ofid am nas gallai fod yn bresenol. Gwnaed sylw hefyd ar udyeitliriaidoedd wedi dvfod vno o bell, sef Mri John Thomas, Bodhalen, a, P. Thomas (tad y gweinidog ieua.nc), y Parch J. James, Dolywern, yn nghydag eraill sydd a'u henwau yn cvmeryd rhan yn y gwa- hanol gyfarfodydd ac yna. traddodwyd siars i'r Eg- lwysi gan y Parch D. Lloyd. Am 6.30 dechreuwyd gan Mr G. J. Williams, Llanddeusant; pregethodd D. Lloyd ac E. Williams. Cafwyd pregethau grym- us, cynidleidfaoedd mawr, a gwrandawiad astud— "Un oedd yno."
CEMAES.
CEMAES. Darlith.—Nos Wener diweddaf traddodwyd darlith yn y Village Hall ar "Yr Hen Gymry, eu hanes. ar- ferion, etc. gam y Parch T. Frimston (Tudur), Lïan- gefni. Rhan o gyfres cyfarfodydd y gauaf oedd y ddarlith hon a gynhelir mewn cysylltiad a'r neuadd uchod, ac nid gormod dweyd ei bod wedi ei mawr fwynhau gan y cynulliad ddaeth yn nghyd. Profodd y gwr parchedig ei hun yn hanesydd manwl yn ogys- tal a darlithydd adeiladol, hyawdl, a difyr. Eglur- odd amryw o'i bwyntiau trwv gymorth nifer o ddar- luniau. Cadeiriwyd yn fedrus a phwrpasol gan y Parch T. Prichard, B.A., ficer. Treuliwyd dwy awr ddifyr dros ben. Da genym ddwyn tystiolaeth fod y cynulliadau wythnosol yn awr yn cynyddu mewn nifer, yr hyn sydd brawf fod v bobl o'r diwedd yn dechreu gwerthfawrogi y cyfarfodydd Cofier am yr anerchiad a draddodir nos Wener nesaf gan Major 0. Thomas, Brynddu. ar ei brofiad "Gyda'r dirprwy- wyr yn Llundain." Ceir hwyl a llesiant yn ddiau. —Gohebydd.
ENGEDI, CEIRCHIOG.
ENGEDI, CEIRCHIOG. Nos Wener, Phagfyr 9fed, cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yn y capel uchod. Y llywydd ydoedd Mr Thomas Jones, Ty Moel. Deehreuwyd y cyfarfod gan Mr William Jones, Cae Ddafydd. Yna galwodd y Llywydd ar Mr George Jones, Trefor, i anerch y cyfarfod; Mr Richard Rowlands, Bryngwran; a'r Parch Jolm Jones. Hebron. Cafwyd areithiau di- wast, hollol i'r pwrpas, ar yr achos da hwn. Yr oeddynt oil yn rhoddi argraph ar y gwrandawyr eu bod o ddifrif, ac nad a y rhyw hwn allan ond trwy weddi ac ympryd. Caed hefyd ddadganiad campus gan Mr Hughes, Neuadd Maelog, o Newyddion Da." I derfynu un o'r cyfarfodydd goreu gawsom I erioed gweddiodd Mr Robert Evans, a chyn ym- wahanu, fe ysgrifenodd agos yr oil o'r gynulleidfa eu henwau ar lyfr dirwest, fel mai y dystiolaeth oedd, mai da oedd i ni fod yma. Gellir dweyd, a hyny yn onest, am y lie bychan hwn, ei fod wedi dal ei dir, ie, enill tir hefyd, yn ngwyneb erledigaeth, rhagfarn, ac anghariadoldeb, ac, fel roedd waethaf, y cwbl oil o'r Hen Gorph ei hun. Deallwn fod yr enwadau o'u hamgylch wedi bod yn hynod gymwynasgar yn yr argyfwng fu arnynt, yn neillduol felly y brodyr Wesleyaidd. Cyni gorphen am dair- west, deallwn fod cyfarfodydd i'w cynal yn rheolaidd yn eu cylch trwy y dosbarth hwn, ac fod gwyr grymus yn cymhell eu hunain i roddi help i gael y gelyn i lawr—yn eu plith. Plenydd a Cadben G. B. Thomas. Y gwyn yn gyffredin glywir ar ddiwedd cyfarfodydd dirwestol fydd, mai absenol fydd y rhai brasaf o'r cynulleidfaoedd, ac felly y tro hwn. Ac i ni fod yn onest, nis gallwn roddi ond un rheswm dros hyn, mai "y pen oil sydd glwyfus a'r galon yn lJIesg." Dywedir, a hyny oddiar sail gadarn, mai y cyfarfod misol yw y gallu cryfaf yn Mon, mewn un ystyr, fodd bynag, ac mai hwn yw y cynulliad puraf all gydgyfarfod. Ond trwm yw meddwl tod v gelyn hwn, sef y ddiod feddwol. yn nythu yn nghanol y cyfarfod misol, ac yn ymddolenu i wenwyno eraill. Da fyddai adgoffa y Beibl yn r cyfarrod "Ciwae a roddo ddiod i'w gymydog," etc. "Yn y diwedd hi a frath fel y sarph ac a biga fel y neidr." Pa hyd y goddefir y gelyn sarphaidd hwn o fewn caerau dinas y cyfarfod misol? "Deuwch ajlan o'u ca1;01 ac ym- ddidolwch," medd yr Arglwydd. Deffro, deffro, gyfarfod misol. Gwisg dy nerth, gyfarfod misol, os oes nerth ynot? Gwisg wisgoedd dy ogeniant, fel y byddo i'r dienwaededig a'r aflan gael ei gadw draw gan ddisgleirdeb dy wisg. a llefa "Tyred Ysbryd Saneteiddiolaf Llwyr lanha Dy dy Dy hun." A ni a gyd-lefwn a thi. Er ein cysur, cawn Tianes am rai, mewn gwasgfa, "0 un fryd yn codi eu llef at Dduw." Byddwn oil o un frvd yn erfyn iddo estyn Ei law i'n hiachau.—Un Oedd Yno.
GWALCHMAI.
GWALCHMAI. Nid yw plwyf Gwalchmai, er mor fychan, heb fod ynddo foneddigesau a boneddigion haelfrvdig a cnar- edig ie, rhai ag sydd bob amser yn edrych allan am Ie er ddangos eu caredigrwydd, ac yn mhlith y cyfryw rai gellir gweled yn nmlwg y boneddwr anrhydeddus a'r foneddiges garedig, sef Dr. a Mrs Jones. Mac eu caredigrwydd yn anrhaethad^y, a'u rhoddion. yn ddifesur, ac nid ydynt unrhyw adeg yn edrych ar draul na thrafferth, ond byddant bob amser ar y blaen gyda phob achos hyfforddifdol a daionus, ac ni raid iddynt wrth ganuioliaeth. Dydd Sadwrn, y 26ain o Dachwedd, oedd ddiwrnod a hir gofir yn Gwalchmai a'r cylchoedd diwrnod y wledd y gelwir ef. Am un o'r gloch rhoddodd Dr. a Mrs Jones giniaw ardderchog i gymaint a 47 o weithwvr, sef rhai a. gymerasant ran tuagat adeilacu eu palasdy hardd, yr hwn sydd yn addurn i Fon. Cariwyd v darpariadau yn mlaen 0 dan reolaeth Mrs Dr. Jones, a gwisgwyd y byrddau yn y modd mwyaf djTnunol gyda phob math o flodau. Darparwyd y ciniaw moVii ystafell eang perthynol i adeilad newydd y meddyg enwog. Yr oedd y ciniaw yn gynwysedig o "roast beef. plum puddings, rice puddings, a jellies'' o bob math, yr oil o'r gwneuthuriad oreu, ac o'r defnydd- iau goreu. Ar ol y ciniaw cafwyd anerchiad campus gan amryw o'r gweithwyr hefyd cafwyd anerchiad byr ac i bwrpas gan Dr. Jones, 7.T hwn a ddywedodd mai buddiol oedd gwneud yn hysbys ei fod ef wedi ei foddhau yn y modd perffeithiaf can bob un o'r gweithwyr. Mae Dr. Jones wedi enill enw rhagorol iddo ei hun fel meddyg gofalus a llwyddianus,a chydag es-gyrn toredig y mae wedi enill enw mawr, n dymun- iad yr oil o'r gweithwyr, a phawb o'i gydnabyddion. ydyw. a.r i Dr. a Mrs Jones gael iechyd da ac oes hir 1 fwynhau dedwyddv-ch eu cartref newydd.—Un o Arfon.
HENBLAS (Llangristiolus).
HENBLAS (Llangristiolus). Cyngherdd. — Nos Wener diweddaf cynhaliwyd cyngherdd llwyddianus yn. Y sol y Bwrddj dan 1\ j'ddiaeth y Parch W. Jenkins, v rheithor. ac arwein- yddiact-h y Parch Enl-TI Jones, gweinidog r Metho- distiaid Calfinaidd. Wedi cael anerchiad gan Y llywydd parchedig, rhoddwyd detboliad yn bur fedrxis gan Seindorf Bres Llangefni, dan srweiniad Mr Thomas. Yna oanodd Mrs Price (Llangefn.) Jernv Jones" nes gwefreiddio y cywilltfid mawr. a bu iddi ail ganu. Yn ne:1,f cafw^'d ygan Q1:en of the Earth" gan Mr T. Pritchard, Llangefni, yn Dr- dderchog, a. dilynwyd ef gan y Misses Williams, Llan- ougrad, gyda deuawd ar y "bl-lljos." Yna cafwyd dadginia d godi doc o "Chwifhvn Faner" g-m Mr A. .T. Williams, Bee Hive, ac ar ei ol detholiad gan y Seindorf. Cariodd Mr J. E. Jones. London Rnl. Llangefni, "Gwlad y Ddyn" vn hynod dda a dilyn- wyd ef gan Llinos CAfri gyda "Bechgyn CN"mrj, V hon a ganodd yn bur dda. Wedi cael ceunwd rr r berdoneg gan y Misses Jones, cfryd deuawd leisiol "Dring. dring i fyny" gan y Mri T. Pritchard ac A. J. Williams yn gampns. Yn nesaf cafwyd deuawd gyda chrvthau gan Mri M. Price ac Edwnrd Williams (Green Hill) yn bur fedrns. Cafwyd deuawd arall "banjos" pan y Misses WilHam". a chanoclfl Llinog Cefni. Wedi i'r Seindorf roddi rIet ]¡oliad canodd Mr J. E. Jones "Gwlad y Delyn" yn rhagorol. Ar ol i'r Misses Williams roddi deuawd arall gyda'r "banjos, "Poor Old Jeff." chwarenodd y Seindorf, yr I Anthem Ger.edla»" hoi. Felly, dygwyd i dcrfyniad gyngherdd a fwynhawyd yn drwyadL i
LERPWL.
LERPWL. Galw Bugail.—Y Parch J. M. Saunders, Penarth, sydd wedi ei alw i fugeilio Eglwys M.C. Seianig Breeze-hill. Mab ydyw ef i'r diweddar Dr. Saunders, yr hwn fel y gwyr llawer fu'n bugeilio Egiwys Prince's-road. Bu'n ddiweddar ar ymweliad ag America. Y mae ei briod yn fedrus iawn hefo'i hysgrifell, a gall bortreadu bYWvd crefyddol Cymreig yn bur fyw, fel y profa.i ei "Phegi Gibb" yn y "Dry- sorfa." Pwylilgorau'r Eisteddfod Genedlaethol.—Oyfarfu Pwyllgor Arianol yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Common Hall, nos Fercher. Mr Edward Lloyd, Y.H., etholwyd yn gadeirydd, Mr Harrison Jones yn is- gadeirydd, Mr W. E. Parry yn ysgrifenydd, a'r Mri W. Evans, Elm Bank John Jones, London Grove, a William Jones, Breeze-hill, vn gynrychiolwyr ar y Pwyllgor Gweithiol. Mr James Venmore etholwyd yn gadeirydd y Pwyllgor Cerddorol, a Mr J. D. Jones, North Johif-street, yn is-gadeirydd. Pryd- nawn Sadwrn y cyfarfu'r Pwyllgor Llenyddol, pan yr etholwyd y swyddogion canlynol:—Cadeirydd, Parch D. Adams, B.A. is-gadeirydd. Mr Isaac Foulkes ysgrifenydd, Parch R. Aethwy Jones,B.A. cynrychiolwyr ar y Pwyllgor Gweithiol. Parchn. G. Ellis, M.A., James Davies, M.A.. a Mr W. R. Owen. Hefyd dewiswyd y rhai canlynol yn ls-Bwyllgor yr Orsedd:—Parchn. J. 0. Williams (Pedrog), R. E. Williams (Seiriol), Mri John Jones (Trefor), 0. G. Pritchard (Elian), ac 0. Caerwyn Roberts (cynull- ydd). Penderfynwyd gwahodd awgrymiadau parth testynau, ac os bydd rhywrai'n awyddu cynyg gwobrau, cant ystyriaeth y pwyllgor. Y Gymdeithas Ddadleuol Ganolog.—Cynhaliwyd ail gyfarfod y gymdeithas hon nos Wener, tan ly- wyddiaeth y Parch D. Adams. B.A. Testyn y ddadl ydoedd, "A ddylai Cymry'r ddinas redeg ymgeisydd o'r eiddynt eu hunain yn etholiad nesaf y Bwrdd Ysgol?" Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr Edward Denman, yr hwn a nododd fel rhesymau fod y genedl, yn anadl un genedl arall. yn cymeryd dydd- ordeb dwfn mewn addysg ein bod fel Cymry yn meddu dynion cymhwys yn mhob modd at y gwaith y parai hyny i'r genedl gymeryd dyddordeb dyfnac.h yn ei chynrychiolwyr hefyd oherwydd tegweh etholiadol— dylai pob agwedd ar farn y bobl gad ei gynrychioli. —Dilynwyd gan Mr Thomas Jones, Birkenhead, ar yr ochr nacaoL Sylwodd mai'r mater pwysicaf i ni, yn ngwyneb amgylchiadau presenol, yw cael cymaint a allem o "Progressives" yn hytrach nag ymranu. Credai y byddai rhedeg ymgeisvddCymreig yn peryglu seddau Annghydffurfwyr eraill.—Cymerwyd rhan yn mhellach gan Mr 0. W. Owen, B.A., ar Parch W. 0. Jones, B.A., yr hwn a roddodd haes y camddeall- twriaeth yn nglyn a sedd y diweddar Miss Davies, ac anogodd y Cymry j sefyll tros eu hiawnderau nes gwneud i'r Saeson deimlo eu bod yn allu yn y ddinas. Dilynwyd gan Mri J. H. Ames, J. Rowlands, Thomas (West Kirby), R. E. Roberts (Rock Ferry)D. Davies, a Henry Jones.—^Pleidleisiwyd ar derfvn y cyfarfod, a chaed 36 dros yr ochr gadarnhaol a 13 yn erbyn.—Derbyniwyd nifer o aelodau newyddion, 15 o honynt am eu hoes.
LLANDDEUSANT.
LLANDDEUSANT. Marwolaeth a Chladdedigaeth.—Heddyw y mae genym y gorohwyl pruddaidd o gofnodi hanes marwol- aeth a chladdedigaeth Mrs Jones, gweddw y diweddar Thomas Jones, Mynydd Adda, yr hwn a hanai o hen deulu hynafol Meiriogen, yn v plwyf uchod Hun- odd yn yr Iesu foreu Mawrth, Rhagfyr y 6ed, ac heb- ryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i eglwys hynafol Llanfaethlu, ddydd Gwener, Rhagfyr y 9fed, ac y mae ei phriod, mab anwyl, a oherthynasau eraill iddi yn huno. Tystiai y dyrfa luosog a ddaeth o hub cwr o'r wlad er talu y gymwynas olaf iddi, fod "mam yn Israel" i gael ei hebrwng i dy ei hir gartref y dydd hwnw. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch John Williams, rheithor, Talyllyn, sir Feirionydd. Wedi canu yr emyn adnabyddus sydd yn dechreu a.'r geiriau "Ymado wnaf ar babell," etc., darllenodd y rheithor parchus ranau o'r Ysgrythyr Tiriodol i'r amgylehiad, ac yna, wedi datganu y penillion sydd yn dechreu gyda'r geiriau "Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd, sy'n myn'd o blith y byw," etc.. ymffurfiwyd yn orym- daith tua'r gladdfa yn y drefn ganlynol. Nodwn v cerbydau allan a rhifnodau er mwyn byrder :—Cerbyd y meddyg, Dr. Wright, Mill View. Yna yr elor- gerbyd. 1 Miss Jones a Miss Lizzie Jones (merched), Mrs Hughes Jones (merch-yn-nghyfraith), Miss M. J. Williams, Cae'rgeiliog bryres), a Mrs Dr. Hughes (chwaer-yn-nghyfra.ith). 2 Mr Hughes Jones. Lr pwl, a Dr. Jones, Amlwoh (meibion) Thomas Jones, Cae'rgeiliog (wyr), a'r Pa-rch John Williams, rheithor, Talyllyn. Sir Feirionydd 3 Mr R. Owen, Gors, Llanfechell, a'r plant (mab-yn-nghyfraith ac wyrion) Mrs Jones, CaergybL (chwaer) Mrs Evans, Lerpwl (nith), a Mrs 0w<5ns, Ty'n-v-Pwll. 4: Mr a Mrs Hughes, Bryn Eglwys (brawd) .ltl.rs Dr. Parry Jones (nith) Mr a Mrs Rowlands, Trewyn (nith) Mr \Vil- liam Hughes, Meliu ügob, a Mr J. H. Parry Jones, Caemawr. 5 Dr. E. T. Hughes, Caergybi (brawd): Mrs Owen. Drygarn House (cyfnither). 6: Mr O. Williams, Ty'nybuarfch, a. Mrs Williams, Frondeg (cefnder a chyfnither). 7 r Mrs R. E. Jones, Lerpwl, a Mr Thomas Jones, West Kirby (nith a nai), a Mr E. J. Lewis, Bryngw alien. Hefyd yr otsdd y perthyn- asau canlynol yn mysg y lluaws :—Miss Jones, Cae'r- g-wrle; Mrs Williams, Rhodgoch Farm j Mrs Pierce, Ty Croes. Carmel; Mr W. Jones, Y.H., Bodnolwyn Grn-s Mr Richard Evans, Penygraie Mr Roberts, Taihir;on; Mr Robert Williams, Hendre Howell; Miss Jones, Caergybi, a Mrs Williams, Fadog Freeh. Wrth fyred tua'r gladdfa, cyfrifasom 62 o gerbvdau, ac yr oecd yr orymdaith yn sicr o fod vn filTdir o hyd. Gwhs s.naethwyd yn yr ezlwys ac ar lan y bcdd gan barchus Beithor Llanfaethlu, Mr Jones, curad; y Parch John Williams, Rheithor. Talyllyn, Sir Feir ionydd, a'r Parch Thomas Meredith, Llanddeusant. Yn Ysgoldy Newydd y Methodistiaid yn Lla.nddeu- sant am chwech o'r gloch yn yr hwyr traddodwyd pregeth angladdol gan y Parch Thomas Williams (C.M.), Armenia, Caergybi, yn sylfaenedig ar y naw- fed a'r ddegfed adnod yn y benod gyntaf o ailEpistol Pedr, i gynulleidfa luosog. Yr oedd y bregeth —1 hollol nodweddiadol o gymeriad rhagorol y chwaer ymadawedig. Yn y cwrdd eelwysig ai ol y bregeth gan y Parch T. R. Owen (A.), Llanddeusant, a'r Parch Thomas Williams, cafwvd anerchiad;iu yn dal cysylltiad a llinellau cymeriad v diweddar Mrs Jones, i a dygent dystiolaeth uchel i'w henw da. Ganwyd gwrthddrych ein hysgrif yn Tanyrallt. Llanfachraeth. Medi 3, 1836, a bu farw Rhagfyr 6ed, 1898. Merch ydoedd i'r diweddar William a Margaret Hughes, o'r un lie, a nith i'r diweddar Mr Evan Thomas, "bonesetter," a ohyfnither i'r diweddar feddyg enwog o Lerpwl. y Dr. Hugh Owen Thomas (awdwr amryw Ivfrau meddvgol safonol), a'r Dr. John L. Thomas, Southampton, a chwaer i Mr John Hughes. Felin Esgob, a Dr. E. T. Hughes. Caergybi. Gadawa dair merch i alaru ar ei hoi. sef Mrs Owen, Gors, Llanfechell; Miss Jones a Miss Czzie Jones, Mynvddadda, a. dau fab. sef Mr Hughes Jones. Lerpwl, a Dr. Jones, yr hwn sydd yn awr wedi •"To- sefydlu fel meddyg yn Amlwch, ac a fu cyn hyny yn dal safleoedd o bwysigrwydd fel meddyg mewn ysbyttai yn Lerpwl. Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad ag oedd yn feddianol ar y rhinwedd hwnw sydd yn cyfansoddi gwir fawredd-gostyngeiddrwydd. ac y mae y rhinwedd hwn yn nodweddiadol o'r teulu. Nid oedd 'n ein tir un fwy tirion—na mam j Mwy tyner ei chalon Aeth i fyd ei bryd a'i bron—uwch storm glyn I chwareu'i thelyn, a gwisgo'i choror. —Gohebydd.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. PenueL-Bydd yn ddyd lorol ga.n luaws Hen wyr y "Clorianydd," y lluaws eglwysd a ga-sglasant at Gapol Coffad-wriaethoa O^Trist- mas Evans. ddeall fod y gwaith da yma yn yn mi a en yn rhagorol. No Sabboth. Hydref 30a; be«iyddiwyd pump o borsanau nos Sabboth. Tach wedd 27a,in eto, bedyddiwyd deuddeg nos Fawrth, 29aia eto, dau. Yr oodd y capel yn orlawn ar v ddau. achlysur, ac ymddengys iod y sylwadau ar fedydd bob tro wedi creu crvn gyffro, yn gymaint telly, fel ag y mae rhai o'r enwadau ereill eisoss wgd; ymuno. Y mae y» ddiau y bvdd cyffelyb adroddiad i'w anfon i'r "CSorianydd" yn fuan eto, gan fod lluaws ychwanegol gerbron yr eglwys yn aros ani y fraint o ymost-WTtg i'r ordinhad.—0. P. "Y Sabboth" ydoedd y pwno y ei ddadrys a.'i ddeall yn rghyfarfod Cvmdeithiis Ddiwylliadol Ebenezer, nos Fawrth, o dan lywyddr-ieth Mr E. H. Thomas, LLythyrdy. Agorwvd yr ymdrin.ia.eth yr. ddeheuig a. gcJiuog gan Mr G. Jores. Caradoc. Villas, a sylwodd ar y gwahanol anhawsderau godent eu penau yn hyfion ar y ilwybr, i cerddediad y meddwl yn mro myfyr, ddyfal ymchwiiio i mewn i'r nwne. Dvwedai ma. dydd i ori>hwy?o yw'r I Sabboth. ac mai gorphwys enaid ymarferiad trvvy rodio llwybrs.11 rhy lan a sanctnidd i ddim ond v i dwyfol gerddid ar byd-ddynt. sef y llw^rbrau ysbryd- t ol. Cariwyd yr ymdra?odae< h m mJaen yn mhenach Iol. y Cadeirydd, Mrs Joines, yn mlaen vn mhellach t gan y Cadeirydd, Mrs Jones, Church-street, a'r Mri H. W. Thomas. Richard Roberts, Edward Owen, R. H. Roberts, ac 0. E. Jones. Er eu bod oil vn teimlo fod y "mater yn un anhawdd ei ddadrys vn ei sefydliad. a'i gyfnewidiadau hanesyddol, etc tlimlelt nas gallai dyn fforddio gwneud hebddo. Ei fod yn fanteisiol i'r ysbrydol mewn dyn gadw cymundeb a'r ysbrydcl o'r tualian iddo, a'i fod wedi ei fwriadu i fod yn dawe] a di-dwrf er mwyn i'r enaid mawr gael cyfie a fcam- dden i geisio gwrando a deall cyfrmion melus a bj~wiol y tragwyddol fyd. Yr oedd yn gyfarfod riiagorci yn mhob ystyr, yn ddyddorol ac adeiladol.—Tegfiyn. Cymdeithas Lenyddol Moriah.—Cynhaliodd y gym- deithas hon ei chyfarfod wythnosol nos Wener di- weddaf, o dan lywyddiaeth Mr 0. Williams. Pen'r- crsedd. Yr oedd hwn yn gyfartod at edryohiu miaen tuag ato gyda dyddordeb neillduol. ar gyfrif mai y chwiorydd ddisgwylid i gymeryd y rhan fwya: blaenllaw ynddo, trwy ddarllen papyr.ui. ac y mae yn llawenydd genym ddweyd ein bod wedi cael bapyr da odiaeth. un ar "Gia-" gan Miss Davies. Ysgol y Bwrdd, a'r llall ar "Ce.ag' gan Miss Parry. eto. Y mae yn rhaid cydnabod fod eu papyrau yn rhai rhagorol ar lawer cyfrif. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi myned i lafur mawr; nid oeddynt yn all i'r un papyr ddarllenwyd eto yn y gymdeithas, ac y mae hyny yn siarad yn uebel. ac yn brawf egiur fou digon o adnoddau a gallu yn v gymdeithas i gario v cyfarfodydd hyn yn mlaen. Cawsom sylwadau voh- wanegol ar y testynau gan y Parch J. WilUams. Mri E. M. Roberts J. R. Williams, Ellis Jones. Erward Evans, Llewelyn Thomas, a W. Williams, iVlona House. Cafwyd cyfarfod da iawn, a thalwyd diolch- garwch gwresog i'r Misses Davies a Parry am yr ar- lwyaeth feddyhol ragorol a gawsom gaeddynt.—W.P
LLANWENLLWYFO.
LLANWENLLWYFO. Angladd.—Dydd Sadwra yr oedd gweddiilion Mrs Elizabeth Williams, Glanymorfa, Dulas, yn cael eu cludo i dy eu hir gartref i fynwent y lie üchod. yn 72 mlwydd oed. Cafodd ergyd o'r parlys bore a Llun, ac ehedodd ei hysbryd ymaith nawn Mereher. Eglwys- wTiig syml ydoedd y chwaer ymadawedig. Meddai ar stor o wybodaeth Ysgrythyrol. Cyfrifid hi y" feadyges dda; ac ya fydwraig ragorol. Cyc.hwynwyd y corph wrth y ty gau y Parch J. E. Williams, a. chanwyd "Ymado wnaf ar babell," e;c. Yr. yr eg- lwys arweiniai Miss W illiams, Personay, wrih vr "harmonium," ac ar lan y bedd canwyd "Bydd myrdd o ryfeddodau," etc. Arweiniwyd y canu gan Mr W. Hughes, clochydd.—Adgof. Ym-adawiad.—Dydd Sadwrn yr ctdd Mr Neave, Llysdulas, yn troi am ei gattrawd, a bydd yn myned I r Indi,,t am dair blynedd. Cyehwynai ar yr died cyfisoL Is-gadben yw gyda hwynt. Llwyddiant iddo yn y dvfodol, a gobc-iihiwn y ca' ddyciiwelyd yn 01 yn lion ac iach.—D ». Dwfr Condemniedio'.—Y mae dwfr Ffyncn Ty'n- 1 rhos wedi ei gondemnio fel dwfr anmhur. Beth a barodd yr anmhuredd yma yn y presenol tybeo.' Gwastraffu eu horiau hamddenol y mae beciigyn a genethod y fro braidd yn ddieithriad.- Y mae cyndl, wyr y croeslfyrdd a cTior.glau v brif sgwar yn gywil- ydd i'r eithaf, a'r iaith isel, anfoes yn warth. Qrmer y swyddog bob 3m dree 11 i gael gafael ar y trosedd- wyr, a. diamau pe y gwysid ami un o honynt y byddai yn foddion effeithiol i roddi difodiant i'r cyfrvw grrch- fanau.—Beth a fyddai i arweinwyr crefydd a moes sefydlu dosbarthiadauBeiblaidd neu lenyddol yn v fro Pa le y mae yr Eos. Rerw Hughes, Parch R- Matthews, a dynion blaenaf eraill y gwahanol gapei- au, etc. ? Sefydler un ar unwaith yn llofi't y Bozrak Pa le y mae yr ysgol nos? Bu llawer yn disgwyl wrthi. Ai difater genych addysg y to ieuand Y mae llawer yn disgwyl am yr adeg v- bydd vr hen fynydd anwyl yn ail ddechreu. Llonder a llawenydd sydd yn meddianu llaweroedd wrth feddwl am hyny. Daw llawer yn ol i hen ardal eu genedigaeth. Cwvnir fod y ffyrdd yn dra drwg yn v cylclJoedd-mai ych- ydig yw y gwelliantau. Beth fyddai i'r Ojmghor Plwyf wneud i ffordd a'r cob helaeth sydd yn cyfynpu ar y ffordd wrth Dyddyn Enpan am dros ddeunaw Ilath ar hugain o hyd a tlxos lathen a haner o led. a Ilwybr o dros droedfedd drwv ei ganoH Paham y gadawir ef? Ymlidier ef ymaith ar unwaith. Dis- gwylir i'r IIJrwyad alw sylw ato yn y rwrdd nesaf. neu ynte bydd yn rhaid codi streic a pheidio talu at v ffyrdd. Ymae dyddordeb neillduol yn cael ei dalu i weithiant y tir, a chredir y bvdd vri, djTfa lied dda yn vmgais am dano.— Benjamiz? Wyn Robinson, Ephraim Llwyd, R.0.
TALWRN.
TALWRN. Y Gymdeithas Lenyddol.—Nos Sadwrn diweddaf cafwyd cyfarfod adloniadol. Cymerwyd rhan vnd60 gan y rhai canlynol:—Y Mri John Owen, Ty Newydd Evan Owen. Nyth Clyd: Hugh eh. Jones. Dafarn Dirion David Hughes, Bodafon Thomas Evans, Reulog Hughie Owen, Bodeilio Thomas A. Evans a Owen Thomas Evans, Reulog; a. Hugh L. Roberts, Siloam. Da genym hysbysu fod cymaint a dwy ferch ieuanc wedi ufuddhau i ddod vn miaen i gymeryd rhan yn y cyfarfod hwn, sef Miss M. Owen a Miss L. Owen, Carreg Wen. Dis^wviiwn fry o ufudd-dod yn ein cyfarfod nesaf.—Ef. L.
TREGELA.
TREGELA. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Owen, Tvddvn- gela.—Nos Sadwrii, Rhagfyr 3vdd, bu farw y chwaer ragorol hon yn 68 mlwydd oed. Bu yn g^raelu ers blynyddau, gwella ychydig, gwaelu drachefn, ac oddeutu dau fis yn ol cymerwyd hi yn bur wael a bu yn cadw ei gwely bvtli er livrv. Ni feàdyliodd neb na buasai yn gwella fel y troion o'r blaen, ond cr pob ymdrech o eiddo y meddyg, a gofal tyner ei mhcrch a 1 hwyres, ei phriod a chyfeillion. gwaelu yr oedd o hyd, nes daeth o r diwedd lei y nodwyd. Y"n mar- wolaeth Mrs Owen mae bwlch eang wedi ei wneud yn eglwys fechan y Wesleyaid \n Tregela, fe] y toi^ii- colled a chwithdod mawr ar ei hoi. Yr oedd eiii chwaer ymadawedig yn hynod o paredig, yn meddu ar S'11 cyffredin cryf iawn oedd wedi darllen llawer iawn, ac yn gofuf: neiilduol, troai lawer mewn hynafiaethau Cymreig. Bu o wasa.na.eth mawr i'r achos yn Bethania. Y:' oedd vn adnabvddus bron i'r oil o weinidogion Weslevaidd Talrleth Gogledd CVmru. Collodd fab tua dean aw mlynedd yn ol. ac effeithiodd hyny yn fawr ami. Cifodd i- Henry Williams hamdden yn ystod ei gwaeled^ di- weddaf i ymddiddan a hi mewn perthvnas a'r dyfodol mawr. Ei thystiolaeth oodd "cad oedd g-an,1di neb ond yr Iesu i bwyso alPn," ac adroddai y penill melns "lesii .yfaill f'enaid cu." a tlirachefn dywedai "Neb ond Efe." B11 yn hynod ffyddlon tra y galiodd yr oedd ei gwaeledd yn ei iiatai i fod mor ffyddlon ap y dymunai. Dyoddefodd ei chystudd yn "dawel a di- rwgnach, yn hollol ymostyngcl i e^ryllys ei Harglwydd. Cymerodd ei cliladdedigaeth le dydd Gwener diweddaf yn Luvnwent eplwys henafol Llan- fechell. Daeth tyrfa luosog iawn i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parehn. D. Marriott a Her.rv Williams, ac yn yr eglwys ac wrth y bedd gan v Parch R. Roberts, rheithor parchus y plwyf. Gwasanaethodd y gwr parchedig yn hynod o deimkdwy ac effeithiol. Cvd- ymdeimlir yn fawr a'r hen dad crefyddol, Mr Henrv Owen, yn ei brofedigaeth lem. Yr Arglwydd a'i diddano. yn nghyda'i fab, merch, ac wyres, yn' y trailed ddwf n.
Advertising
CADBURTS COCOA is guaranteed to be absoitite- ly pure, and is therefore the best Cocoa. It is ar once a refreshing, stimu'ating drink, and a nutritions food, containing no foreign substances, sue?) as inait hops. etc. The fact car.not be too strongly imprcssei tJiat Cocoa must ba pure and unadulterated to"ensure- its fullest beneficial eii'c-cts as a bc-vsragc and a fooo" The "Family Doctor" says :—"Cadburv's Cocoa !>- light refreshing. £ ad hrig-:r,»ting to the jaded ». and body, delicious to tl:e pj.iate, abpolutelv unadui ternted and free- from aikalie?.