Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

--------------Amlwcli

------------Banker,

------------Eeanmaris- :

----------->--Beth^da

---------Caemarfon.

[No title]

Crieciett

Eyffrya Nantlle a.r .Amgylchoedd-

Lerpvrl-

Ilandndne-

Edayrn.

Llanddeini olen

Llanfihangsl Aberbythych.

---------_------------Llanfechell.

Penmorfa.

News
Cite
Share

Penmorfa. Ordeiniad.—Yn mhlith y rhai a ordeiniwyd yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy oedd Mr Benjamin Jones-Evans, B.A., Coleg St. loan, Rhyd- ychain. Maes llafur Mr Evans fydd Dolbenmaen a Phonmorfa. Mae yn weinidog ieuanc gobeithiol I iawn. Bendith y Nefoedd fyddo ar ei ymdrechion i godi hen Eglwys Beuno Sant yn ol i'w gogoniant cyntefig. Anrheg.—Nos bu, y 23ain cynfisol, cafodd boll Eglwyswyr Penmorfa wledd o de a bara brith. Ar ol y wladd, cyflwynwyd oriawr fel anrheg i'r Parch J. Llewelyn Richards, B.A., ein diweddar offeiriad cynorthwyol. Ar ddechreu y cyfarfod, dywedodd y Rheithor fod Mr Richards wedi bod yn bur gymer- adwy yn eu plith. wedi bod yn ffyddlon yn ei ddyled- swyrddau, ac wedi llafurio yn galod ac yn llwydd- ianus am ddwy flync-dd a thri mis, ac fel arwydd o barch tuag ato yr oeddynt un ac oil wedi dyfod at eu gilydd i'w anrhegu ag oriawr werthfawr. Yna galwodd ar Mrs Greaves, Worn, i gyfiwyno, yn fturfiol, yr anrheg. Cyflawnodd Mrs Greaves ei gwaith yn ddeheuig iawn. Dywedodd fod yn ddrwg iawn ganddynt oil golli Mr Richards o'u plith, ond, ar yr un piyd, eu bod yn llawenhau iddo gael ei ddewis i faes llafur pwysig fel y 'Bermo. Diolchodd Mr Richards yn gynes am garedigrwydd ei hen blwyf- olion tuag ato. Cyfarfod Diolchgarwch am y Cynhauaf.—Dechreu- wyd nos Iau am saith o'r gloch. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch B. Jones-Evans, a phregeth- wyd gan y Parch J. Llewelyn Richards. Am un-ar- ddeg o'r gloch y dydd canlynol, cafwyd gwasanaeth Saesnig, gyda phregeth addas gan y Parch Llewelyn R. Hughes. M.A., rheithor Ynyscynhaiarn, yn nghyda gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid. Am haner awr wedi dau, darllenwyd y Litani gan y Parch George Salt, B.A., curad Pentre'rfelin, a. phregeth- wyd gan y Parch Thomas Jones, B.A., curad Ffes- tiniog Am haner awr wedi chwech, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch J. Llewelyn Richards, a phregethwyd gan yr nen batriarch anwyl y Parch John Owen, Llaniihangel-y-Pennant. Chwareuwyd ar yr offeryn yn ystod yr wyl gan Mrs Greaves a Mr Job Thomas Williams.—Sant Beuno. Ffair Wyl y Grog. -Cynhaliwyd y ffair hon ddydd Sadwrn. vr hon sydd yn un o'r hen ffeiriau bynaf yn Eifionydd. Nid poblogaidd iawn ydoedd, gan lod ffair flynyddol Beddgelert wedi cael ei chynal ped- war diwrnod o'i blaen, a ffeiriau auctions yn cael eu cynal ar hyd y mis yn gwneud mawr niwed hen ffeiriau y wlad. Yr oedd yno gryn nifer o wartheg, ond nid rhyw lawer a worthwyd, gan eu bod yn cael dal arnynt oherwydd cyflawnder bwyd ar v ddaoar. Yr oedd yno amryw geffylau da, ac eithaf pris arnynt. Pwyswyd ar yr im pryd. yn Nhremadog, sran Mr William Jones, butcher, Criccieth, dros worth pum' cant o bunau o wlan yr un diwrnod. Lied isel y piae'r gwlan yn dal o hyd. ond canmolir fod gwell graen arno na'r blynyddoedd o'r blaen.—Gohebydd. St. Beuno: Cyfarfod Diolchgarwch am y Cyn- hauaf.—Nos Iau dechreuwyd y cyfarfod drwy gyf- ranogiad y cor o ddanteithion a the gan Mrs G-eaves y Wern (yr hon sydd selog a llafurus gydag egiwys henafol St. Beuno). Yna cyflwynwyd tysteb i'r Parch J. 1.1. Richards, B.A., y diweddar gurat. yr hon a gasglwyd drwy garedigrwydd y gynulleidfa ac eraill er cydnabyddiaeth am ei lafur diflino a'u serch tuag- ato yn ystod yr adeg y bu yn gweinyddu arnynt. Cyflwynwyd y dysteb gan Mrs Greaves mewn onadur aur wertlifawr, am vr hon y diolchodd ef mewn araeth deimladwy. Yna y cynhaliwyd y gwasan- aeth am sitith o'r gloch. Darllenodd y periglot-, y Parch W. E. Jones, y gwasanaeth, a phregethodd y Parch J. LI. Richards yn rhagorol. Yr oedd yr egiwys yn orlawn, er mor ddryciniog a thywyll yr hin. Am un-ar-ddeg y boreu Gwener, yn Saesoneg, darllenodd y Parch J. R. Richards ar rheithor y gwasanaeth, a phregethodd y Parch LI. R. Hughes, M.A., ficcr Porthmadog, yn Saesonaeg gyda'i eglur- der arferol. Am 2.30 y prydnawn pregethodd y Parch J. T. Jones, B.A., curad Blaenau Ffestiniog, yn flasns ac am saith yn yr hwyr pregethodd y Parch John Owen, rheithor Llanfihangel-y-Pennant, gyda. nerth ac arddeliad neillduol. Cyhoeddid y Parch Morris Roberts, rheithor Penmhno, i fod yno ar ran y Gymd-ithas Genhadol Eglwysig, ond oherwydd marwolaeth perthynas, methodd ddyfod. Yr oedd yr holl gasgliadau at y C.M.S. (y Gym- deithas Genhadol Eglwysig). Yr oedd y canu yn dda dan lywyddiaeth Mrs Greaves ar yr organ a Mr Job Williams, y clochydd a'r sexton. Yr ydoedd yr hin yn wlawog a thymostlog.Gohebydd.

----------------------PorthmadogI

Pvililholi.

[No title]

--------Tremadcg.

----------- ---____n_____-_"---"----__-!Golsg…

Family Notices

Advertising