Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

--------------Amlwcli

------------Banker,

------------Eeanmaris- :

----------->--Beth^da

---------Caemarfon.

News
Cite
Share

Caemarfon. Ysgol Genedlaethol y Pi atit. -D,-aJlwn mai olvnvdd Miss Parry, prif thrawes ysgol rad y plant, fydd Miss Margaret Thomas, pri-fatlirawes Ysgol y Genet hod, Dolbadarn, Llanberia. Meddwdod.—Boreu Gwener, n flaett y Maer (Mr Edward Hughes) a Mr J. R. Pritchard. cyhuddwyd fenyw o'r enw Mary Keenan o fod yn feddw ac afre- olus, a chafodd ai hanfon i'r carchar am 14eg diwrnod. Cyfarfodydd Pregethu.—Dyddiau Sul a Llun cyn- haliwyd cyfarfodydd blynyidol Beulah. Y pregeth- wyr oeddynt v Parch S. T. Jones, Rhyl, a'r Proffeswr Williams, Bala. Ymwelydd Urddasol.-Y mae Mr John Fraser, Llundain, hawlydd ystad adnabyddus a'r teitl o Arglwydd Lovat, ar ymweliad a'r dref. Erys gyda'i fab, Mr David Fraser, yn Dinorwic-street. Helynt y Penrhyn.—Erbyn hyn y mae llythyrau e-frinachoi Mr W. J. Williams, j-aj^rifenydd Undeb [ Chwarelwyr Gogledd Cymru, yn nglyn ag helynt y Penrbyn a. anfonodd i Mr H. Lloyd Carter wedi gweled goleuni dydd. Darllenir ao astudir hwy gyda dyddordeb mawr. Darlith Hir-ddisgwyliadwy.—Edrychir yn mlaen gyda dyddordeb mawr am ddarlith y peirianydd byd- adnabyddua Mr Preece. Bydd yr elw yn cael ei dros- glwyddo at gronfa adgyweiriad lu-n egiwys Llanbeb- lig. Nid llawer sydd yn gwybod fod y peirianydd byd-enwog yn fab i'r diweddar Mr Preece, Glan Helen,un a fu yn pregethu am flvnydde.u lawer gyda'r Wesleyaid. Bydd ystori Mr Preece, "Shan Seion a'r par esgi(liau," fyw yn hir. Cymdeithas Lenyddol Meibion yr Egiwys.—Cyf- arfu aelodau y gvmdeithas lewyrchus hon nos Lun yn yr Ysgoldy Genedlaethol. Y cadeirydd ydoedd y Parch E. Owen Jones, B.A.. curad Llanbeblig. Gwnfied trefniadau hebwth tuagat y dyfodol. De- allwn fod cewri adnabyddus wedi addaw darparu at yr arlwyon. Ysgrifenydd y gymdeithas ydyw Mr R. Jones (Trebor Ionawr). Cynhadledd Eglwysig yr Esgobaeth.—Cynrychiol- Jones (Trebor Ionawr). Cynhadledd Eglwysig yr Esgobaeth.—Cynrychiol- wyr gwahanol eglwysi y dref yn y gynhadledd oedd- ynt y Meistri Cornelius Davies, Owen Roberts, David Evans, Dr. W. G. Owan, Mr H. Lloyd Carter, a'r Parchedigion J. W. Wynne Jones, Rees Jones, ac E. 0. Jones. Damwain Etc).Foreu Gwener digwyddodd dam- wain arall yn nglyn a mur newydd y cei. Trwy rhyw foddion anesboniadwy daath y craen yn rhydd a chwympodd trosodd i'r mor. Tarawyd dyn o'r enw David Jones, yr hwn oedd yn sefyU gerllaw, yn ei asenau tra yn cwympo i'r gwaelod. Bathodyn Jiwbili i' Maer.Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd y Maer (Mr Edward Hughes) fathodyn arian ysblenydd oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol iel eofxadwriaeth am y Jiwbili. Yr oedd yn argraph- cdig arno "Victoria annum regini sexagesimum fsli- -1 so citer chondit xi ivn mdcccxcvii." Y mae yn amgau- edig mown cas coch, gyda'r "Crown a'r gilt" oddeutu, yr hyn a arwydda 1837--1897, lechyd y Dref.Nos Fawrth cyfaxfu aelodau y Sani- I tary Committee. Galwodd Mr R. E. Owen sylw y Bwrdd at baragraph neillduol oedd wedi ymddangos yn un o'r papurau dyddiol yn mynegi fod y "scarlet fever" wedi tori allan yn y dref, ac fod yr awdurdodau yn bwriadu cau yr ysgotion. Eglurodd Dr. Fraser a Air Evan Roberts (sanitary inspector) sut yr oedd pethau-y sefyll, ac fod y paragraph yn camliwio pethau. Gofynwyd i'r Dr. Fraser gyhoeddi gwadiad yn dangos allan nad oedd yr awdurdodau yn gweled yr un angenrheidrwydd am gau yr ysgolion. Gwaredigaeth Gyfyng.—Dydd Llun, fel yr oedd dwy o enethod yn hel mwyar duon yn un o faesydd ffordd Iianberis, dychrynwyd hwy gan ruadau tarw cynddeiriog. VVedi troi i'r cyfeiriad yr oedd y tarw i'w glywed, gwelsant y tarw yn carlamu am darmit, a rhedasant am eu bywyd. in clywed eu hysgilch- feydd, llwyddodd nifer o wyr oedd yn pasio ar eu holwyn-feirch i'w codi tros y mur i'r brif-ffordd. Ni chexd ond br;iidd lwyddo i gyflawni y gwaith nad oedd y tarw ar eu gwarthaf. Pe heb gynorthwy am- aerol y marchwyr, nid oedd yr un iot o amheuaeth na buasai y genethod anffodus wedi cyfarfod a a marw- olaeth ofnadwy. Priodas Ffaaivnol. -Boreu Mawrth, yn hen egiwys Llanbeblig, unodd y ticer, y Parch J. W. Wynne Jones, mewn glan briodas ein cyd-drefwr poblogaidd 3.0 adnabyddus Mr S. W. Parnham a Miss Theresa Vaughan, Segontium-terracti Rhoddwyd y wraig ieuanc: i ffwrdd gan ei thad. Morwyn v brioda.s yd- oedd Miss Florence Moore, gyda. Mr Alfred Thomas yn was priodas. Chwareuwyd y "Wedding march" gan Mr John Williams, organydd Eglwys Crist, tra yr oedd y par ieuanc yn gadael yr egiwys. Yn ystod y dydd gadawodd Mr a Mrs Parnhaiu y dref am Rhyl, lie y treuliant gyfnod dedwvdd. Yr oedd yr anrheg- ion priodasol yn niferus a chostus. Ar ddychweliad y teulu dedwydd gartref, caiff Mr Parnham ei anrhyd- eddu gydag anerchiad oreuredig. fel arwydd o barch ei edmybwyr tuag ato am ei wasanaeth hirfaith tuagat bob &chos teilwng yn y dref. Llys yr Ynadon.-—Dydd LIun, o flaen yr ynadon trefol, gwysiwyd T. Litherland, Caxton Printing Works,, gan Seymour Smith, lithographer, am y swm o 3p 6s, cyflog yn ddyledus. Ymddangosai Mr H. Lloyd Carter i erlyn, gyda Mr Richard Roberts yn I amddiffyn,-Tystiodd Smith ddarfodiramddinynydd ei logi fel machinist yn Ionawr diweddaf, ac yr oedd i dderbyn 33s yr wythnos. Ar ol bod yn ei wasan- aeth am beth amser priodortd, ac yn mhen yr wythnos tynodd ei gyflog i lawr i 26s yr wythnos. Gwrthod- odd dderbyn y swm, Yn unot a rheolau y gymdeitli- as yr oedd yn perthyn iddi, rhoddodd i'r amddiffyn- ydd 14eg diwrnod o rybudd ei fod yn ymadael. Der- ( byniwyd y rhybudd gan yr amddiffynydd oddeutu wyth o'r gloch foreu Llun. Pan y trodd y tyst i'w waith, 9.30 y boreu hwnw, trosglwyddwyd nodyn iddo oddiwrth yr amddiffynydd yn cynwys nad oedd aches iddo roddi pythefnos o rybudd, gan nad oedd arno ei eisieu ar ol y Sadwrn wedyn. Yr oedd ar yr erlyuvdd 15s am "wedding cards" i'r amddiffynydd. Pan v daeth y Sadwrn, aeth at yr amddiffynydd am ei gyflog. Dywedodd wrtho os cai ei gyflog yn llawn am yr wythnos hono y buasai yn ei gyfarfod mewn perthvnas i'r 15s. Ni wnai yr amddiffynydd hyn, a gwrthododd vr erlynydd dderbyn 18s. Yr oedd croes- hawl am lp is lc yn erbyn yr erlynydd gan pr diffyn- ydd yn cael ei wneud i fyny o 15s ar y wedding cards," gyda 68 Ie am goll amser. Dedfryd yn ffafr yr erlvnydd am yr holl swm, llai 15s.—-Yn yr un llys cafodd James Dart ei ddirwyo i 2s 6c am fo^ yn feddw ac afreolus. Etholiad Agoshaol y Cynghor Trefol.—Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y blaid Radicalaidd nos Fawrth. Di1. Parry vn y gadair. Gwnaed yn hysbys nad oedd yr un atebiad "wedi ei dderbyn oddiwrth Mr Asquith. Mewn perthvnas i'r etholiad drefol agoshaol, myneg- odd y cadeirydd nad oedd Mr David Pierce am ail sefyll. Gresyn hyny, ac yntau yn wr cryfaf yn y blaid ond pwvso tir Mr David Pierce a dangos iddo y fath golled fydd ei vmneillduad o'r Cynghor i'r dref, efallai y bydd iddo ail ystyried ei benderfyniad. Nid yw bod yn aelod o henaduriaeth y Cynghor yn un anrhvdedd. Dewiswyd boneddigion i'r ty uwchaf oeddynt wedi cael eu gwrthod gan y trethdalwvr. Os pwdr Ty'r Arglwyddi, pwdr hefyd ty'r henuriaid trefol. Y mae Mr Owen Jones wedi ei dderbyn fel ymgeiTdd am sedd gwyr ef beth ydyw colli ac enill. Bu Mr Issard Davies yn gwnaud yr un peth yn N^haernarfon ag y lhvjrddodd Mr Moss i'w wneud yn sir Ddinbych. Gyda Mr Owen Jones yn yr ymgyrch bydd v Maer a Dr. Parry. Pentkrfynwyd fod yr ym- geiswyr yn rhoddi pob cynorthwy i'r blaid Ryddfryd- ol yn y Cynghor. Yn yr eastern ward bydd Mr John Rees a Mr J. P. Gregory yn ail gynyg eu hunain. Gwrthwynebai Mr Henry Owen ymgeisiadaeth Mr John Rees am ei fod yn dal cysylltiad gyda chwmiu oedd yn gwerthu gwinoedd. Galwodd Mr J. T. Roberts sylw ddarfod i'r gyfraith yn caniatau i'r grocers warthu gwinoe-dd gael ei phasio gan y blaid Ryddfrydol, ac am Mr Rees yr oedd yn un o ddir- weatwyr cadarnaf y dref. Tynodd Mr Henry Owen ei wrthwynebiad yn ol, a phenderfynwyd hyrwyddo vmgeisiadaeth Mr John Rees. Buddugoliaethau y Gwirfoddolwyr. Dydd Sad- wrn, yn y cystadlcuthau saethu yn Rhyl, daeth "hog- "The Lord-Lieutenant of Carnarvonshire silver cup- iau y dref" allan o'r vmladdfeydd fel y canlyn:- value 50 guineas won by Carnarvon Company with 302 points. CovLwa-Y second with 278, and Portmadoc I third with 237. The Vaynol Silver Challenge Cup ] (competed for by a team of ten men from each com- pauy)—1, Carnarvon, 170; 2, Llanrwst, 162; 3, Port- madoc, 131. The County Silver Challenge Cup value P,3C-1, Carnarvonshire, 171 2, Anglesey, 147. The Plasnewydd Silver Challenge Cup, to be competed for by teams of ten men, each from each company—1, Conway, 52 2, Carnarvon, 51 ;3, Cem- aes, 41." Gwclir na chafodd Conwy ond "touch and go" un point neu buasai yr oil yn eiddo dewrion CaerS.iont. Marwolaeth.—Gyda gofid y m?.e genym i gofnodi am farwolaeth yr henafgwr adnabyddus Mr Robert Williams, Tyddyn Hen, yn ti 76 mlwydd oed, yr hyn a gymerodd le dydd Sadwrn. Gwledd Gyfeill:;ar.—Nos Fawith, rr wahoddiad Mr Griffith Jones, cyfreithiwr, ymgyndlocld nifer anrbydeddus o'i gyfeillion i wledd ddanteithiol. Ar ol y llwncdcstynau arferol, caed caneuon swynol gan -diss Maggie M. Jones ac eraill. Y Diweddar Mr J. W. Jones, Plasybryn.—Erbyn hyn y mae cofad;ul ysblenydd wedi ei gosod ar fedd y gwr da ucliod yn hen fynwent Llanwnda. Saif v gwneuthuriad yn glad i ben a chaion y gwneuthur- wyr, y Meistii Hugh Jones a'i Gwmni. Anrhydedd.—Deallwn fod Mr J. Issard Davies, Y.H.. Lbr-moirion. wedi ei etliol i LyniTeIiioli yWest- rom Sea Fisliery Boa.rd yn rghynhadledd y "Sea Fisheries Association." Cerddorol.—Deallwn fod cor mawr Mr John Wil- liams. organvdd Eghvys Crist, w,cli penderfynu cys- tadlu yn Eisteddfod Ffestiniog. Canodd IIosLull yn y Pavilion yn alluog a meistrolgar. Ffair.—Dydd lau cynhaliwyd ffair flynvddol Medi ar y Maes. Ar y cyfan yr oedd y prisiau yn iJ.ia. Yr oedd gwartheg a lloi ynddynt yn cyrhaedd prisiau da,, ond ychydig oedd y prj^nwyr. Cjrrhaeddodd biwyddiaid, o 4p i 8p dwy-llwyddiaid heffrod, o 8p i lOp. Gwerthwyd amrvw geffylau, a chaed pris.au da. Y Nurses Institution.-Dengys taflen y sefydiiad rhagorol uchod fod derbyniadau y tiwyddyn 1895-97 yn cyrhaedd 176p, hefyd 85p oddiwrth y nodnclifa, gyda 55p o danysgrifiadau. Wedi talu yr oil o'r draul yr oedd yn aros yn yr ariandy 77p. Ysgrden- yddes yr institution ydyw Miss Pugh, Bryn Mcnai, North-road. Cyngherdd Mawreddog.—Nos Lun, yn y Pavilion, cynhaliwyd cyngherdd mawreddog hir-ddigwyliadwy yn nglyn ac Egiwys Dewi Sant y Twthill. Daeth tyrfa anferth o yn agos i saith mil yn nghyd, a chaod gwledd a hir gofir. Wedi anerchiad bwrpasol gan y llywydd.Mr Lloyd Hughes, Coed Helen, uchel-sirydd. aed yn mlaen gyda'r rhag- len, l'el v canlyn :—March, "Queen song" (Fanning), Car song, "The light of the world" ^idams), Mr Maldwyn Humphreys (encore), a chanodd "0 na byddai'n haf o hyd cavatina, "0 Mio Fernado" (Donzetti), Madame Belle Cole (encore), ac ail-gan- odd; song, "Heaven and Earth" (Pinsuti), Mr Ffrangcon Davies (encore), a chanodd "Na na h," nes gwefreiddio y dorf anferth song, "Sound an adarm," Mr Maldwyn Humphreys (encore), a chanodd drachefn; part-song. "The sea hath its pearls" íPill- suti), Cor; song, "Life's lullaby" (G. Lane), Mad- ame Belle Cole (encore), a chanodd drachefn duet competition, "Flow gently, Deva" (J. Parry). Daeth y pedwar parti canlynol i'r llwyfan. a chanasant yn y drefn ganlynol:—Henry Roberts a Hugh Jones, Waenfawr Alexander Henderson a Gutyn Eifion, Talysarn Thomas Roberts a Will Roberts, Bangor J. W. Jones ac R. R. Williams, Llanberis. korcu, Alexander Henderson a'i gyfaill; a dyfarnwyd iddynt y wobr o lp 10s. Song, "Largo al Pactotum" (Ros- sini), Mr Ffrangcon Davies (encore), ac ail-ganodd "Bryniau aur fy ngwlad," nes gwefreiddio y gynull- eidfa; song, "Nobody else" (Herbert Crimp), Mad- ame Bello Cole; part-song, "0 lovely May" (i.award German), Cor; Male Voice Choir Competition, "N yni yw'r Meibion cerddgar." Prize, £ 10 10s, and a gold medal for the conductor, presented by Mr David Evans. Cystadleuodd tri o gorau yn y drefn gan- lynol :—Caernarfon, arweinydd, Mr John Cottreil; Nantlle, ëvrweinydd, Mr Alexander Henderson; Llan- beris, arweinydd, Mr William Lewis (Eos Padarn). Caed beirniadaeth fanwl gan Mr EmJyn Evans, yr hwn a ganmolai y tri cor am y dadganiad, ond yr oedd y wobr yn eiddo hogiau Llanberis. Derbvn- 1 iwyd y ddedfryd gyda bloedchadau a llawenvdd mawr. Oll'erynwjT y cyngherdd oeddynt Meistri R. Pritchard a John Williams, i'r hwn y mue dioleh llawer yn ddyledus am ffurfio y cor. Gwnaeth yr oil o'r pwyllgor eu dyledswydd yn nglyn a'r anturiaeth, ac y mae llawer i'w briodcli am lwyddiant yr wyl i allu ac ymroddiad yr ysgrLfenyddioR, y Meistri Edward Lloyd a R. Gordon Roberts, Trodd yr anturiaeth allan yn llwyddiant inawr yn mhob ystyr,

[No title]

Crieciett

Eyffrya Nantlle a.r .Amgylchoedd-

Lerpvrl-

Ilandndne-

Edayrn.

Llanddeini olen

Llanfihangsl Aberbythych.

---------_------------Llanfechell.

Penmorfa.

----------------------PorthmadogI

Pvililholi.

[No title]

--------Tremadcg.

----------- ---____n_____-_"---"----__-!Golsg…

Family Notices

Advertising