Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

11 A N G Y_L E S XOS.

Cynhadledd Esgobaeth Llanclwy.

News
Cite
Share

Cynhadledd Esgobaeth Llanclwy. CYFARFODYDD YN NINBYCH. Cynhaluvyd y gynhaclledd flynvddol hon yn Ninbych cidyddiau Iau a. Gwcner eyn y diweddaf, pan yr oedd cynrychiolwyi* yn bresenol o bob rhan o'r esgobaeth. Yn rhgflaenol i'r gynhadledd, yr hon a gynhelid yn y Drill Hall, cafwyd gweinydd- iad o'r Cymun Bendigaid yn EgLyy St. Dewi, am wyth o'r gloch yn y boreu a chafwyd gwasan- aeth boreuol am ddeg yn yr un Ile, yn cael ei arwain gan y Parch J. J. curad Dinbych. Am unarddeg o'r gloch dechreuodd gweithrediad-1 au y gynhadledd. Y llywydd oedd yr Arglwydd Esgob (Dr. Edwards), ac yr oedd pob sedd yn y Drill Hall yn ilawn. Yn mhlith y presenolion yr oedd Syr Watcyn Williams Wynn, Barwnig, Syr jR. E. Egerton, K.C.S.I., y Milv.-riad Cornwallis West (xVrgl'ydd-RagIaw Sir Ddinbych), Mr Stan-' ley Leighton, A.S., Mr P. P. Pennant, Mr H. St. John Raikea, yr Archddiacon Thomas, y Oadhcn Griffith Boscaw&n, Mr A. S. Griffith Boscawen, A.S., y Milwriad Howard, Mr E. O. V. Lloyd' (LTchel-Sirydd Sir Feirionydd), yr Anrhydoddus; L. Brodrick, yr Anrhyclecldus C. H. Wynn, y Milwriad Mesham, y Cangheilydd Trevor Parkins, a'r Parch J. Morgan (rheithor Dinbych). YR ANERCHIAD LLYWYDDOL. Yr Esgob, ar ol y cyflawniadau crefyddol ar- ferol, a lefarodd fel y canlyn: —Mae y flwyddyn horl wedi gweled llawer o .gyfnewidijidau yn yr esgobaeth, ac y mae cyd-weithwyr anwyl a ffydd- lawn wedi eu galw i'w gorphwysfa. Trwy farwol- aeth Esgob Ty Ddewi yn mis Ionawr, collodd yr Eglwys yn Nghymru ei hesgob hynaf. Am yn agos i chw-irter canrif, dygwyd fi i gysylltiad agos ag ef. Yr oedd yn wir yn ddyn da. Yr oedd ei ddoniau yn fawr ac ami, ac nis gellir yn hawdd wneud i fyny y golled a gafodd yr Eglwys yn ei symudiad. Dysgodd y rhai a gawsant y frair.t o fwynhau ei gyfeillgarwch, sylweddoli dyfnder a didwvUedd y cyfeillgarwch hwnw, a chryfder ac urddasolrwydd ei gymeriad yntau. Yn y deu- ddeg mis diweddaf, hunodd yr Archesgob Benson, a daet-h prudd-der y symudiad hwn yn agos iawn at bob un o honom ni yn yr esgobaeth yma. Cyf- lawnodd wasanaeth ardderchocaf i Eglwys Crist yn y wlad honv ac i radd ac mewn tymhor nodedig i'r ganghen lienafol o'r eglwys hon. Bydclai yn ddigywilydd-dra ynof i ddweyd rhagor byddai yn anniolchgarwch i ddweyd Uai. Yn mhlitli dig- wyddiadau mwyaf nodedig blwyddyn y Jiw- bib, yr oedd cyfarfodydd Cynliadledd Lam- beth. Yr oedd ymgynulliad esgobion yr eglwysi Seisnig o bob parth o'r byd yn dystiolaeth egl'ir i gj-xydd a bywyd yr eglwys hono. Y mae treialon ac anhawsderau y gvraith gartref yn ymddangos mewn goleu ac agwedd newydd pan y gWTandawn ar adroddiad o beryglon ac anhawsderau y rhai a ddeuant o rag-orsafoedd pellcnig y fyddin luosog. Mewn cyfeiriad arall gwelir Hes y gynhadledd, nid yn y ffaith ei bod y ris gyntai at Batriarch- aeth, ond yr; y teimlad cynyddol o undeb a ddeill- iaw oddiwrth gynghori ac ymddiddan y naill a'r UaU. Gall y gwel y ganrif nesaf hyn yn arwain, nid i Batriarchaeth, ond i gynghrair lie y mae holl aelodau yn gydradd ac yn ben, a He y disgyn dyled- swyddau a galluoedd neillduol er cario yn mlaen y gwaith ar ryw gorph canolog. Yn mhlith y 1 9 pynciau o ddyddordeb yn y gwaith gartref y mae cwestiwn o nawddogaetli. Y mae v rhai a ed- rychant ar y weinidogaeth fel swydd v neu alv/edig- aeth, neu fel pob un o'r ddwy, yn cynrychioli tri safbwynt, oddiar ba rai y gellir ymdrin a'r cwes- tiwn hwn. Y mae llawer cynllun yn cael ei gynyg, ord ni chyffwrdd yr un cynllun a welais a'r prif anhawsder. Pan fo ugain yn ymgeisio am un- rhyw le, siomir pedwar-ar-bymtheg. Cyfranogir yn y siomiant hwn yn ami ac yn helaeth gan y noddwr, yr hwn a fyddai yn falch, pe v gallai, i gydnabod hawliau priodol yr oU o'r rhai a enwir iddo. Gellir gwneud rhywfaint yn y cyfeiriad hwn: gan y "Sustentation Fund." Y mae'r gweithiwr yn deilwng o'i gyflog, ond nid yw'r cyflog mwyach yn deilwng o'r gweithiwr. Yr oedd y gwaddol- iadau a rodwyd ganrifoedd yn ol yn ddigonol at' y gwaith y pryd hwnw; nid ydynt yn ddigonol mwy. Y mae toriad i fyny ein hen blwyfi godidog wedi diwoddu yn ami mewn gadael darnau lled- chiwith ac annigonol, anfanteisiol i'r gwaith a'r gweithwyr. Y mae y gostyngiad yn y degwm, a threthi cynyddol, oddiwrth ba rai ni cha y clerig- wyr yr un ysgafrjhad, wedi dwyn yr hyn oedd gynt yn ddigon i ddogn o'r bychanaf yn awr. Mewn llawer o blwyfi eto y mae eglwysi neu ystafelloedd cenhadol newyddion yn gofyn am fwy o offeiriaid. Y mae hyny o'r goreu, cyhyd ag y gallo'r plwyf ei hun, gyda hyny o gynorthwy o'r tuallan ag a fedr giol, gynal y gweithiwr ychwairfegol. Xi ddylai cyflog y periglor, yn fy meddwl i, gael ei gwtogi am byth er talu cyflogau curadiaid. Dywedaf "am byt-h" oherwydd fod rliai offeiriaid I yn feddianol ar lawer o eiddo eu hunain, y rhai allant gyfranu yn helaeth, ond eu dyledswydd tuagat y plwyf, at eu holynwyr, ac at yr Eglwys yw cofio fod yn rhaid i'r gwaith fyned yn mlaen ar ol eu hamser hwy, ac os eir i edrych ar eu cyfran- iadau personol hwy fel tal i'w ddisgwyl oddiwrth gyflog y periglor, y diwedd fydd hyn, nas gall i.eb ond dyrion o arian ymgymeryd a'r gwaith mewn achosion o'r fath. Ni fynaf gydnabod meddiant o gyfran neillduol o eiddo personol fel cymhwysder ;mgenrheidiol i gymeryd gofal a llywodraeth eneid- iau mewn unrhyw bhvyf. Dymurjaf lefaru yn gryf ac yn groew wrth fy mrodjr lleygol ar y pwnc yma, ac wrth fy mrodyT clerigol, y rhai a ddylent ystyried yn ofalus cyn cychwyn unrhyw waith newydd y posibilrwydd o'i gario yn rnlaon yn y dyfodol heb wanychu yn barhaus y gwaith yn nghanolbwynt gwaith ysbrydol y plwyf. Yr ydym yn gofyn am gynorthwy tuagat y "Clergy Sustentation Fund." At bwy yr ydym yn troj gyntaf, ac yn benaf ? Nid at berchenogion tir yr wyf yn meddwl. Y mae wedi ei ddangos mai eiddo tirol a ffurfiai bron yr oil o gyfoeth y wlad pan roddwyd ei gwaddoliadau i'r Eglwys. Hedd- yw y mae eiddo personol yn fwy ei werth dair gwaith nhg eiddo tirol. Ceir gwaddoliaidau yr Eglwys yn benaf oddiwrth y bedwaredd ran, a gj'rjrv'cliiola eiddo tirol. Nid oes eisiau i mi ym- helaethu ar y nwnc yna. Y mae'n bryd i'r rhai a ddaliant dair rhan o bedair o gyfoeth y wlad yma i sylweddoli eu rhwymedigaethau ysbiydol yn lwy. iT Ein gofal cyntaf ac mewn llawer ystyr, ein gofal penaf, ddylai fod dres yr vsgolion. Y mne y Gym- deithas Esgobaethol wedi ei ffurfio, ac y me'I' I gwaith wedi myned yn mlaen yn hynod foddhaol. Y mae gwaith yr ysgrifenydd yn nglyn a'r gym- deithas hon wedi bod yn galed" dros ben, ac mae wedi ei gario allan gyda chywirdeb, Hafur, a hyn- awsedd gan y Parch Lloyd Williams, ficer Llan- elwy, i'r hwn y mae'r lijsgobaetlx mewn mawr ddyled, nid yn unig am y gwaith hwn, ond am eraill hefyd y mae wedi eu cyfunrni yn ddidwrdd a. diymffrost. Y mae ein hysgoliori' yn byw i raddau helaeth ar hunan-aberth ein hoffeiriaid a'n llevg- wyr. Credwch fi, y maent yn werth yr oil a gost- iant i ni. Yn maes addysg ail-raddol vn ysgol o'r radd flaenaf sydd wedi ei gadael i ni. Haedda Y sgol Ivamadegol Ruthin p-nortliv.-y mwyaf calon- og holl Eglwys-nyr Goglcdd Cymru. Yr wyf yn siarad oddiar yr adnabyddiaeth oreu o'r ysgol a'i phrifathraw, ac ni wn am un ysgol o'r radd flaenaf y gall rliieni ymddiried eu plant iddi gyda mwy o hyder g5:da golwg ar ansawdd yr addysg a roddir ynddi. I'r siroedd ar y cyffiniau y mae genym ysgol henafol ac arddcrchog Croesoswallt wedi ei chadw gan ei s-ifle oddiwrth bob ymyriad dinystr- iol. Yma yn nghanol Gogledd Cymru haedda Ysgol Ruthin, a gobeithio y caiff, gefnogaeth lvres- ocaf fy mrodyr yn mhlith yr offeiriaid a'r clerig- Ar gyfer addysg merched, yn ffortunus achubwyd Ysgol Howell. Dinbych, ac y mae hyr- wyddiar t addysg crefydd, yn gystal a lies amddi- faid wedi eu sicrhau. Yn naturiol parodd arbed- iad yr ysgol beth siomedigaeth i'r rhai oedd wedi wneud eu meddwl i fyny yn rhy fuan y byddai iddynt gael gaiael arni. Y mae yma rai beirninirl I hefyd a ysgrifenant fel Eglwyswyr, ond gydag ys- wildod anffodus a guddiant eu Heglwysyddiaeth dan gochl ffug-enwau. Dywedwyd nad oedd y gwaddoliad yma yn wreiddiol yn ur. Eglwysig. Rhoddwyd ef cyn y diwygiad. Derbyniais yn'ddi- weddar o gof-lyfrfa yr High Court of Justice gopi o ewyllys wreiddiol Howell, ac y mae'r hyn a ddywedodd papyr Eglwysig parchus mai elusen anenwadol oedd hon yn wreiddiol dan yr an- fantais o fod yn gwbl groes i'r ffeithiau. Y peth ¡ola.f ellir ddweyd am ewyllys Howell yw mai an- enwadol oedd ei chymun-roddion. Y mae un pwne arall yn gofyn sylw. Cynygiwyd trosglwyddo swm helaeth i Ysgol Ferched Dr. WilHams yn Nolgellau. Y mae gwaddoliadau yr ysgol hon wedi eu gosod yn meddiant ymddiriedolwyr Un- dodol yn byw yn LIujidain, a'r ymddiriedolwyr Undodol yma yn penodi haner y llywodraethwyr. Dyma ddwy ffaith oH-bwysig nas gellir eu liamheu. Nid gwaeth pwy yw y llywodraethwyr a adawant iddynt eu hunain gael en penodi gan ymddiriedol- wyr Undodol. Gwaith caled i'r rhai a edrychant i fewn i natur y gwaddoliad hwn oedd cael allan pwy oedd yr j'mddiriedolwyr yma, ac eto dylai rhoi cyhoeddusrwydd i'r peth fod yn ddyledswydd ariom. Y mae y pynciau sydd i fod dan sylw heddyw o'r pwysigrwydd blaenaf, ac ni wnaf un- rhyw sylwadau arnynt yn awr, ac felly ragflaenu y siaradwyr penodedig. Eisteddodd yr Esgob i lawr yn nghanol cymeradwyaeth uchel. Ar ol i'r CangheUydd Trevor Parkins ddarllen adroddiad y pwyllgor, yr hwn a gyfeiriai at Ddeddf yr Ysgolion Gwirfoddol, Trethiad y Clerigwyr, a'r "Sustentation Furjrl," aed yn mlaen i siarad ar y testynau penodedig. ADDYSG UWCHRADD OL. Y Parch C. W. Norman Ogilvy, ficer Croesos- wallt, a siaradodd ar y cwestiwn "Addysg Uwch- raddol: Parotoad ar gyfer Urddau Sanctaidd." Gosododd bwys mawr ar hyfforddiant arbenig o nodwedd Dduwinyddol gyda'r amcan uwchlaw pob dim o ddyfnhau y bywyd ysbrydol. Credai yr Archddiacon Thomas y dylai fod yna 1 ychydig amser rhwng yr arholiad a'r urddiad. Cyfeiriodd y Parch 0. J. Davies, Rhyl, at y manteision a geid yn gholeg St. Mihargel, Aber- dar. j Siaradwyd hefyd ar y pwnc gan y Parch D. Pughe Evans, Llanddoget; y Milwriad West, y Parch J. Moms, Llanelidan Mr Davies-Cooke, yr Archddiacon Evans, Mr E. O. V. Lloyd, a'r Parch T. Evan Jones, Llanllwchaiarn. Symiwyd i fyny gan yr Esgob, ac yn mhlith eraill gosododd bwys neillduol ar yr hyn a allai y ficer wneud dros y curad yn ei blwyf cyntaf. Dvwed- odd fod hyfforddiant cyntaf y diacon i'w gael yn ei blwyf cyntaf, ac y gallai ei ficer cyntaf wneud; mwy na neb na dim dros ei ddiacon. CYFLWYNO EI DDARLUN I'R ESGOB. Yn y prydnawn yr oedd y neuadd yn orlawn, a llawcr o'r tanysgrifwyr at ddarlun yr Esgob yn bresenol. Yr oedd y tsnysgrifiadau dros 1030p, o'r hyn y mae 300p wedi ei adael yn llaw yr Esgob i wneud fel y myno a hwynt. Cyflwynwyd y darlun gan gadeirydd pwyllgor y dysteb, y Milwriad West (Arglwydd-Raglaw Sir Dinbych), yr hwn ar ol araeth bwrpasol, a ddar- 1 lleriodd yr anerchiad canlynol: — At y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Llanelwy. Fy Arglwydd Esgob,-Y mae naw mlynedd er pan dderbyniodd eich arglwyddiaeth y cyfrifoldeb mawr sydd o' angenrheidrwydd yn dal cysylltiad a chyflawniad y dyledswyddau sydd yn cydfyned a'ch swydd aruchel, a lie na ofynant am sel, yni, a doethineb i raddau helaethach nag mewn Esgob- aeth Gymreig. Yr ydym ni, y tarysgrifwyr at Yr yr anerchiad yma, yn cynrychioli pob dosbarth o Eglwyswyr yn Xghymru yn gystal ag eraill y tu- allan i'r Dy-ivysofaetli, yn dymuno cymeryd y cyfleusdra a rydd Cynhadledd yr Esgobaeth i ,ir- ddangos ein hedmygedd o'r medr a'r dewrder di- hafal a ddangosasoch wrth sefyll dros yr Eglwys mewn amseroedd cyfyng. Y mae pawb sydd yn dymuno defnyddioldeb a llwyddiant cyryddol yr Eglwys wedi cael yn eich arglwyddiaeth arweinydd na fethodd roi o'u blaen esiampl galonogol o yni a. ffyddlondeb diflino. Yr y'm yn gofyn genych ddejbyn y darlun hwn o h.onoch eich hun fel ar- wydd o barch ac ymlyriad diysgog, ac hefyd yr y'm yn coleddu y gobaith llwyraf yr arbedir chwi am flynyddau lawer i lywodraethu Esgobaeth Llan-1 elwy.—Ydym dros y tanysgrifwyr, j I Westminster, Powys, Mostyn, W. Cornwallis West (cadeir- ydd), R. A. Cunlifie, P. P. Medi, 1897. Pennant, Yr oedd yr anerchiad wedi ei weithio yn gelf-1 ydd a phrydferth gan y Mri D. Mapleg a'i Gwmni, Lerpwl. Ar ddiwedd darUeniad yr anerchiad, tynwyd yr orchuddlen oddiar y darlun yrn nghanol cymeradwyaeth. Yr arlunydd oedd Mr Orchard- son, R.A. Cafodd yr esgob dderbyniad brwdfrydig pan god- odd i ateb. Dywedodd nad oedd yn edrych ar y darlun fel teymged personol iddo ef ei hun, cud yn hytrach fel teyrnged i'r achos, achos amddi- ffyniad yr Eglwys. Teyrnged oedd i'r achos yn mha ui- yr oedd efe fel gweithiwr distadl, yn nghyda llawer eraill, wedi cymeryd rhan, ac yn yr ysbryd hwnw yr oedd efe yn derbyn y rhodd yr oeddynt hwy yn eu caredigrwydd wedi roddi iddo. Y mddangosai yn anniolchgar ped anghofiai yr adeg yma y rhai a gvdweithiasant ag ef, ac a wnaethant gymaint os nad mwy nag ef i amddiffyil yr Eglwys. Yr oedd perygl yr Eglwys yr amser hwnw yn fawr dros ben. Pe bai y mesur hwnw oedd o flaen y Senedd, a than ofal y Llywodraeth ddiweddaf wedi ei basio, byddai'r Eglwys wedi ei chloffi i raddau helaeth ond daeth amddiffynwvr i r adwy, ac y mae clod nid bychan yn ddyledus i'r lleygwyr. Gwelai aelodau o Dy'r Cyffredin yn breser.pl oeddynt wedi Hafurio yn galed mewn amser ac allan o amser i amddiffyn yr Eglwys. Xid oedd ganddo achos dros beidio enwi un, am ei fod yn gyfaill iddo, a safodd gydag ef, un na chym- ylid ei ffyddlondeb yn yr awr dywyUaf, un oedd bur fel y dur i'w Eg^yys, a hwnw oedd gynt yn ganon Llanelwy, ond yn awr a alwyd i lywodr- aethu Esgobaet.h Ty Ddewi. Os r.ad oedd Esgob Ty Ddewi yn Gymro,os nad oedd yn genedlaeth- wr, os nad oedd wladgarwr, fe garai ef wybod pwy oedd. Fel canlyniad y gwaith a gyflawnwyd Y I pryd hwnw, credai ef fod cwestiwn y dadgysylldad j wedi ei wthio yn mhellach nag y bu ers llawer o flynyddau. ADDYSG GANOLRADDOL YR YSGOLION SIROL. Siaradwyd yn gyntaf ar y pwnc yma gan y Parch Grimaldi Davis, ficer Trallwm. Dnagos- odd beth oedd wedi arwain at sefydliad yr ysgol- i yma, a pha allu oedd y rhai mewn gofal ohon- ynt wedi gael, trwy ddweyd fod ganddynt incwm o 100,000p, fod yna 80 o ysgolion gyda 6500 o ys- golheigicn, a bod yr Eglwys wedi colli ei hen ys- golion graniadegol fel cosp am ei charedignvydd yn caniatau yr adran gydwybod 28 mlynedd vn ol. Jnododd aUan nad oedd bosibl i blant Eglwys- wyr oeddynt fyrddwyr i gael addysg grefyddol. Dylai'r camwri gael gwneud i ffwrdd ag ef ar un- waith, a gofynodd i Eglwyswyr fynu rhan deg yn llywodraeth yr ysgolion yma, ac i uno i wneud yr ysgolion hyn yn llwyddiant. Siaradwyd ar y cwestiwn yma gan Mr Pennant, Warden Rhuthyn, Rheithor Ffliit, Rheithor Llandyrnog, Cadben Griffith-Boscawen, Mr Stan- [ ley Leighton, A. S., a symiwyd i fyny gan yr Esgob. Yn yr hwyr, yn Eglwys St. Mair, cafwyd gwas- anaeth a phregeth gan y Parch Owen Evans,M.A., warden Llanymddyfri. DYDD GWENER. Ail ymgymerwyd a gweithrediadau y gynhadl- edd, ddydd Gwener, yn y Volunteer Drill Hall. Llywyddwyd eto gan Dr. Edwards, ac yr oedd cyruUiad mawr o gynrychiolwyr, lien a lleyg. Y CangheUydd Trevor Parkins a gynygiodd y penderfyniad canlynol a godai allan o adroddiad y Pwyllgor Sefydlog a gyflwynwyd i'r gynhadledd y aiwrnod blaenorol: Fod aeloadu y gynhadl- edd yn deall gyda boddhad fod ymchwiliad yn cael ei wneud yn awr i'r pwnc o drethu y clerigwyr, ac yn dymuro ar i'r Pwyllgor Sefydlog gymeryd UD- rhyw gwrs a welont yn angenrheidiol er rhoddi atalfa ar unrhyw drethiant annheg." Yr oedd yn sicr ganddo y rhaid fod pob aelod o'r gynhadledd, yn lien a Heyg, yn awyddus am i'r clerigwyr beidio cael eu trethu yn annheg, ac am hyny yr oedd yn gobeithio y byddai i'r gynhadledd dderbyn y pen- derfyniad. Eiliwyd gan yr Archddiacon Thomas, a char- iwyd ef yn unfrydol. Yna yr Esgob a ofynodd am i'r penderfyniad gael sefyll drosodd am ystyriaeth bellach hyd nes i'r gynhadledd glywed mynegiad pwysig iawn: oedd gan Mr A. Griffith-Boscawen i'w wneud ar y pwnc. Dygwycl y mater eilwaith yn mlaen ar derfyn yr eisteddiad boreuol, pan yr awgrymodd yr Esgob, gan nad oedd un gwyn gyda golwg ar drethicmt ymherodrol, y dylai y gair lleol" gael ei ddodi i mewn yn y penderfyniad, ac fe gyturwyd a hyn. Mr Arthur Griffith-Boscawen, A.S., a ddywed- < odd fod penderfyniad wedi ei basio yn Nh/r Cy- ffredin y tymor diweddaf yn condemnio y duH presenol o drethu y clerigwyr. Wedi hyny gofyn- wycl iddo ef gan bwyllgor y Blaid Eglwysig yn Nhy'r Cyffredin i gasglu tystiolaethau i'w gosod o flaen y ddirprwyaeth. Bu yntau yn alluog i wneud hyny. Anfonwyd cyfrifon iddo o dros 1200 o glerigwyr o Loegr a Chymru. Nid oedd yna ddim achwyn am drethiant ymherodrol, ond yr oedd yr achos yn erbyn trethiant Ileol yn gryf iawn. Cwynai Hawer o glerigwyr oblegid cael eu gadael allan o Ddeddf y Trethiant Amaethyddol, ar yr hoa yr edrychid fel anghyfiawn- der mawr. Y clerigwr yn fynych ydoedd y trethdalwr mwyaf mewn plwyf, ond ni chaffai efe ddim ysgafnhad. Efe a ob- i eithiai na wnai y clerigwyr gynhyrfu llawer am gael estyn darpiriaethau Deddf y Trethiant iddynt eu hunain, ond y gofynent am rywbeth gwahanol. CynJ belled ag y medrai efe wneud allan, y elerig- wr fu yr unig b ers on yn y deyrnas, am flynydd- oedd lawer, oedd yn cael ei drethu ar ei incwm proffeswrol. Y pryd hyny trethid ef yn annheg ar ei holl dderbyniadau (gross receipts), ond ni wneid felly yn achos y ffermwr. Parhaodd y cyflwr yrla ar bethau am 50 o flynyddoedd-byth er pasiad y Parochial Assessment Act. Nid yn unig trethid clerigwr ar ei holl dderbyniadau, eithr ni chaniateid iddo wneud unrhyw "deduc- tions" tuagat bethau anhebgorol angenrheidiol. Anogai fod i'r cwestiwn hwn o drethiant annheg gael ei gadw yn y ffryni, ac o wneud hyny ni ryfeddai pe byddai iddynt gael ysgafnhad sylwedd- ol yn mhen blwyddyn neu ddwy (cymeradwyaeth). Y Milwriad Mesham a gynygiodd y penderfyn- i'1.d canlynol, yn cael ei eilio gan Mr E. O. V. Lloyd, a ehytunwyd arno "Fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ddarbwyllo y Llywodraeth i wrella y gyfundrefn, o drethu derbvniadau y clerigwyr, ac i ganiatau gwneud "deduction" at wasanaethau proffeswTol ac arian angenrheidiol eraill wrth ben- odi y gwerth trcthianol." OLFREINIAD OFFEIRIAID METHEDIG. Mr R. W. Williams Wynn a ddarllenodd bapyr ar "The Superannuation of Disabled Clergy." Yn mhlith sylwadau eraill, dywedodd fod diwrnod yn dyfod yn mywyd pob un. pan y canfyddent eu hunain yn analluog mwyach i gyflawni yn effeith- iol y dyledswyddau ymddiriedwyd i'w gofal. Yn yr achos hwn tueddai efe at eiriad Mesur y Bywol- iaethau (Benefices Bill)-an-i reithor, yr hwn am ddim llai na dwy flynedd a analluogwyd gan hen ddyddiau neu lesgedd i gyflawmi ei ddyledswydd- au yn briodol, a'r hwri nad oedd wedi gwneud un ddarpariaeth ddyledus at gario y dyledswyddau hyny allan, y gellir gofyn iddo ef ymddiswyddo. Y plan ymddangosai y mwyaf cyfaddas iddo ef yd- oedd polisi o yswiriaeth, a gosododd o'u blaenau gynllun a ddarparai fod i'r gronfa flwydd-dal gynyg pensiwn rhydd o 20p i bob clerigwr ordeiniedig fyddo dros 60 mlwydd oed, a chaniatau ei fod ef wedi effeithio y cyfryw yswiriaeth ei hunan. Felly caffai y swm (nucleus) o 40p y flwyddyn ei sicrhau iddo ar ol cyrhaedd 60 oed, yr hwn, gyda'r 50p gynygid dan Fesur y Bywoliaethau (neu gan nad pa swm a drefnid), a ddygai i mewn iddo swm lied barchus, yn ol traul i'r gwr ordeiniedig o 3p 10s y flwyddyn, oblegid dyna fyddai y swm i'w dalu ar gyfer pensiwn o 20p os cymerid ef allan yn yr oed o 24 mlwydd. Anogai fod iddynt roddi prawf ymarferol o dair bxynedd ar y cynllun. Cafwyd sylwadau ar yr uchod gan y Parch D. Williams, rheithor Llandyrnog, yr hwn a ddywed- odd fod dwy ffordd i ddelio a chlerigwyr analluog -e,u cynal neu eu newynu wrth gwrs, dadleuai efe o blaid y cyntaf. Y CangheUydd Trevor Par- kins hefyd, yn nghyda'r Parch William JoneEi, ficer Meifod. Deon Llanelwy a ddywedodd iddo ef gael ei dueddu'n! fynych, wrth ddarllen y beirniadaethau ar Fesur y Bywoliaethau, i adrodd yr hen wirair: "Peidiweh llefain cyn cael eich niweidio." An- turiai feddwl nas gallai y Canghellydd na'r Parch William Jones fod wedi astudio mewn gwiridnedd yr hyn gynygiai Mesur y Bywoliaethau ei wneud a pha beth fyddai ei effaith ar yr esgobaeth. Yr oeddynt hwy wedi cymeryd y desgrifiad o'r Bil a roddid allan gan y papyrau, a chvmeryd yn gania- taol mai dymbi fyddai gweithiad y Bil. Yr oedd yr hall bapyrau wedi dweyd y byddai i'r Bil allu- ogi yr esgob, neu rhyw berson neu gilydd arall, i droi allan 0\1 tai a'u cartrefi a'u cylch llafur glerigwyr rhagorol yn eu hen ddyddiau, dynion oeddynt wedi cysegru rhan oreu eu bywydau i'r gwaith yn eu plwyfydd neillduol eu hunaiii. Nid oedd efe yn meddwl y buasai neb a adwaenent yr esgob yn tybio, hyd yrl nod pe'n meddu'r gallu hwnw, y buasai yn ei ddefnyddio (clywch, clywch). Eithr nid oedd y Bil yn cynyg troi yr un clerigwr allan, pa mor hen neu analluog bynag y gallai fod, cyhyd ag y cymerai efo ddyddordeb yn ei waith ond yr hyn a gynygiai y Bil wneud oedd troi dyn allan yr hwn, am ddwy flynedd lawn, nad oedd ei hunan wedi gwneud dim gwaith o gwbl yn ei blwyf na chwaith gwneud unrhyw ddarpariaeth i'r gwaith gael ei wneud. Yr oedd efe wedi methu meddwl am gymaint ag un achos lie byddai y Bil yn gymhwysiadol yn esgobaeth Llanelwy (cymer- adwyaeth). Yn ddilynol caed sylwadau pellach gan Mr Stanley Leighton, A.S., yr hwn gyfeiriodd at y Clergy Pensions Institution a chan yr Arglwydd Esgob. CONFOCASIWN A DAU DY Y LLEYGWYR. Yr Anrhydeddus Lawrence Brodrick, wrth ym- wneud a'r pwnc o "Adgyfansoddiad y Confocasiwn ia Thai y Llcygwyr," a ddywedodd nad oedd Eg- hvySi Loegr yn awr yn llefaru'n groew; nid oedd ganddi Gymanfa Gyffredinol, fel yr Eglwys Y s- gotaidd neu Synod, fel yn yr Eglwys Wyddelig neu Gynhadledd, fel gyda'r Methodistiaid Wes- leyaidd, a allai hawlio'n ddiwrthwynebiad i siarad meddwl y corph mae yn gynrychioli. Dylid sef- ydlu rhyw gorph trwyadl gynrychioladol o'r Eg- lwys. Nid oedd Tai y Confocasiwn yn gynrych- ioiwyr, na Thai y Lleygwyr chwaith. Haw bai efe mai angen mawr yr Eglwys oedd cael corph gyda galluoedd cyfraith tu ol iddo i ddeddfwru iddi mewn ffydd, athrawiaeth, addoliad, a dis- gyblaeth, gyda gallu dyladwy i. roddi ei benderfyn- iadiiu mewn grym, a siarad meddwl yr Eglwys ar lawer o fesurau tymhorol yn dwyn perthynas a'i llwyddiant: i gvfansoddi y cyfryw gorph, rhaid fyddai wrth gydsyniad Deddf Seneddol. Medd- yliai mai cyfleus hwyrach cael yn y corph cynyrch- ioliadol hwn dri o dai-ty yr esgobion, ty y clerig- wyr, a thy y lleygwyr. Dadleuai efe o blaid rheolaeth Seneddol dros ddeddfwriaethau y corph hwn, oherwydd ni fyddai'n ddoeth na dymunol ei wneud yn gorph auiibynol ar y Senedd. Wedi i Mr H. St. John Rsikes a'r Archddiacon ( Evans (Abergele) draethu eu meddvliau ar y papyr I ddarllenwyd, yr Esgob a ddiolchodd i Mr Wil- liams Wynn a'r Anrhydeddus L. Brodrick, yn emv y gynhadledd, am eu papymu dyddorol. AMDDIFFYNIAD EGLWYSIG A HYFF- ORDDIANT EGLWYSIG. Yn eisteddiad prydnawnol y gynhadledd, Mr A. S. Griffith Boscawen a draddododd anerchiad ar "Y gwaith oedd i'w wneud er amddiffyniad Eg- lwysig a hyfforddiant Eglwysig." Efe a adgof- iodd y gynhadledd o'r cyfnod, chwech neu saith mlynedd yn ol, pan ddaeth yr ymosodiad ar yr Eghvys yn Nghymru gyntaf yn ddifrifol. Yn mhlith rhai o Eglwyswyr Cymru yr oedd peth petrusder hwyrach o berthynas i beth fyddai ng- wedd yr Eglwys yn Lloegr tuagat yr ymosodiad hwnw ond gosodwyd meddwl pawl) yn dawel ar y pen yna. yn y Gyngres Eglwysig fawr YlJi Rhvl, gan ddiweddar Archesgob Caergaint. Pan ddech- reuwyd yr ymosodiad yn Nhy y Cyffredin gyda'r Mesur Ataliadol yn 1893, a'r Mesurau Dadgysyllt- iad, yn 1894 a 1896, gwnaeth yr Archesgob Benson ei feddwl i fyny fod yn rhaid gosod rhyw drefniant (organisation) sefydlog ar droed er amddiffyniad parhaol yr Eglwys, nid yn unig yn Nghymru end yn Lloegr hefyd. Mewn cyfarfod cyfrinachol bychan fe benderfynwyd cychwyn Pwyllgor Eg- lwysig Canolog (Central Church Committee), can yr hwn oedd fod i gymydogion gadw y naill y 11 all yri hysbys ar bob cwestiynau yn effeithio ar yr Eglwys, ac yn neillduol i ddysgu hanesiaeth Eglwysig i'w gilydd, yn nghyda gwirioneddau mawrion cysylltiedig a. hanes mynedol a sefyllfa bresenol yr Eglwys yn Llo'egr a Chymru. Llwydd- odd y symudiad yna yn hynod dda: gweithiodd law-yn-Haw a'r hen Sefydliad Amddiffyn yr Eg- lwys, gyda'r hwn yr oedd yn awr wedi ei amalga- matio dalJI y teitl o "Church Committee for Church Defence and Church Instruction," ac yr oedd pwyllgorau lleol wedi eu ffurfio mewn chwe' mil o blwyfydd. Cafodd y pwyllgorau hyny, efe a gredai, effaith mawr ar etholiad 1895. Y dref gyda'r drefn oreu yn yr oil o'r deyrnas ydoedd Derby, ac yr oeddynt oil yn gwybod beth a ddig- wyddodd yn Derby (chwerthin a chymeradwyaeth). hercii ou bod hwy wedi gorchfygu Dadgysylltiad am amser, nid oedd wedi ei setlo am byth. Ed- rychai efe yn mlaen at lawer mwy o frwydrau ar y cwestiwn hwn, ac yr oedd yn hanfodol angen- rheidiol i Eglwyswyr fod bob amser yn barod i ymladd pa bryd bynag y gelwid arnynt i wneud hyny. Buasai efe yn leicio gweled Eglwyswyr yn ffurfio pwyllgorau yn mhob plwyf i gymeryd i fyny nid yn unig amddiffyniad yr Eglwys eithr hefyd gwestiynaai eraill oeddynt yr,; uno Eglwys- wyr fel cyfangorph. Awgrymodd fod cynghor neu bwyHgor esgobaethol yn cael ei ffurfio yn mhob esgobaeth, yn ogystal a phwyllgorau plwyfol a deoniaethol. I Yr Esgob, ar derfyn anerchiad MrGriffith Bos- jawen, a ddatganodd rwymedigaeth y gynhadledd I ddo am yr anerchiad ac yna gofynodd i'r cynrych- iolwyr presenol ai ri ddylai yr awgrymiadau a ynwysai gael eu rhoddi mewn gweithrediad. Penderfynodd y gynhadledd yn unfrydol yn ffafr y cwrs hwn, ac ar unwaith aethpwyd yn mlaen i ethol cynrychiolwyr, ysgrifenydd, a phwyllgor esgobaethol. Ar gynygiad yr Archddiacon Thomas, eiliedig gan Mr Forrester Addie, cafodd Mr Robert Wil- liams Wynn, ei benodi yn ysgrifenydd esgobaethol gydag unfrydedd. Etholwyd yr Anrhydeddus Brodrick yn gynrychiolydd i'r Cynghor Can- olog. Am y cwestiwn o ethol cynrychiolydd ben- ywaidd, gadawyd hyny yn nwylaw y Cynghor Es- gobaethol. Yna, wedi myned trwy gyfres o ddiolchiadau, terfynwyd y gynhadledd.

I Priccas rdyddcrol yn Llanysttim^.wy-

Advertising

----_._---; 'GwrtbgiliK'T…

Advertising