Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

| BtJioliad Dwyrdnb i tiiv…

Eglwys Gadeiriol Bamgor.

1 - ! Cyffredinol. !

News
Cite
Share

1 Cyffredinol. Sibrydir yn Johannesburg fod Cwmni y Siarter yn hawlio y swm o 3,000,000p oddiar Lywodraeth y Transvaal am anog y Matabeliaid i ryfela, a'u cyflenwi ag arfau, etc. Ceir yn Llur,dain 46,000 o Gymry. Gall 28,000 ohonynt siarad Cymra eg; ac aiff 8000 ohonynt i'r j capeli a'r eglwysi Cymreig, a 5000 i addoldai Seis- nig. Llafuria pedwar o genhadon Cymreig yno ac yn ystod y blynyddoedd 1895 a 1896 gwnaethant 3,584,023 o ymweliadau a thai. Cafodd yr Arlywydd McKinley ddiangfa gyfyng y dydd o'r blaen rhag cael ei ladd. Ymddengys ei fod yn myaed mewn cerbyd yn cael ei dynu g3n ddau geffyl, pryd y darfu i un o'rceffylau syrthio i flos ar ochr y ffordd, a cheisiodd y llall redeg ymaith. Cyrhaeddodd nifer o bersonau y lie yn fuan, a llwyddwyd i waredu yr Arlywydd a'i wraig o'u safle peryglus. Yn Richmond y mae amryw o'r maelwyr mewn ymborth wedi eu dai yn gwerthu hams yr America a Canada dan yr enw hams y wlad hon. Dangos- odd ynadon y dreflan hon pa beth yw eu barn; hwy am y fath ymddygiad trwy ddirwyo y maeJwyr .9 i 5p, a'u cynorthwywyr i 10s bob un. Bwriada y Pabyddion) godi trefedigaath neu or- saf fawr yn Nghaergaint. Y maent, yn y dyddiau hyn, yn prysur fargeinio am nifer o dai mawrion yn yr hen ddinas enwog. Pan orphenant hwy eu cynllun bydd yr urJ peth yn cael ei gario yn mlaen yn Nghaergaint ag a geid yno cyn dyddiau y I)i- wygiad Protestanaidd. Disgwyliant hefyd i'r or- SM newydd fod yn ganolbwynt cenhadaeth Bab- aidd lwyddianus yn y rhan hono o Loegr. Un o'r amryw Gymry sydd yn dyfod i sylw yn y dyddiau hyn fel nofelwr ydyw Mr Alfred Thomas, y brodor o Tonau, Penybont, ond yr hwn sydd yn J awr yn byw yn Llundain. Y sgrifenodd Mr Thomas nofel chwaethus a darllenadwy dan yr enw "hi the land of the harp and feathers," yr hon a gyhoeddwyd gan Mr Allerson, Paternoster-row, (Llundain a chafodd y gwaith ganmoliaeth uchaf y wasg Seisnig a Chymreig. Mewn araeth a draddododd Arglwydd Wolseley yn Glasgow ddydd Iau dywedodd nad oedd amheu- aeth na ddylid cadw i fyny oruchafiaeth Prydain ar y mor, and hefyd yr oedd yn angenrheidiol fod genym fyddin gymedrol o ran nifer ac o ansawdd dda. Er ein bod y genedl fwyaf heddychlawn, eto yr oeddym yn rhyfela yn rhywle yn barhaus, ac yr oedd yn anmhosibl cyflafareddu a rhai pobl. Yr oedd cyfrifoldeb y fyddin wedi ychwanegu, ond nid oedd ychwanegiad at ei chryfder wedi cymeryd lie. Gwnaed cais anghyffredin i dwyllo ustus taledig SaJford y dydd o'r blaen. Cyhuddid Anne Platt, neu Hooligan, o ymosod ar Anne Derbyshire; ac i brofi gethined yr ymosodiad dangosodd Mrs Derbyshire ddyrnaid o wallt a dynodd y ddynes arall oddiar ei phen, meddai. Ond gwelodd un o'r cudd-swyddogion ar unwaith, pa fodd bynag, I riad oedd y gwallt oedd ar ben Mrs Derbyshire ddim yr un lliw a'r gwallt oedd yn ei llaw. Taf- lwyd yr achos allan, a chynghorodd yr ustus Mrs Derbyshire i losgi y gwallt gosod fel nad ellid mwyach ei ddangos i geisio twyllo yr ynadon. Ceisiodd Elizabeth Harrison ddwvn ei marwol- aeth oddiamgylch drwy roddi ei thy ei hun ar dan. un o'r ffenestri a charf, fod clo ar y drws, aethant i fewn drwy ffenestr y Hofft. Canfyddasant y ddynes yn gorwedd ar lawr a'i dillad ar dan. Cyn diffodd y fflamau, fe losgwyd gwddf y ddynes yn drwm. Yr oedd olew wedi ei dywallt ar y gwely ia dodrefn eraill, ac yno ac yn y gegin yr oedd y tan wedi tori allan. Dywedai y ddynes fod ami eisiau myned i'r nefoedd at ei thad a'i mam. Yn fuan bydd Mr Gerald Balfour, ysgrifenydd cyffredinol yr Iwerddon, yn cymeryd gwibdaith trwy ddeheu a gorllewinbarth yr ynys. Prif am- can y daith fydd cael gweled drosto ei hun a oes gwir yn yr adroddiadau fod newyn yn bygwth y rlianbarthau hyn oehrwydd methiant y cynhauaf pytatw, yr hyn y tuedda y swyddogion yn Nghas- tell Dublin i'w wadu yn gryf. Hefyd, efe a chwilia i mewn i'r cynydd sydd wedi ei wneud yn ifglyn a ffurfiad ffyrdd haiam ysgeifn trwy amrywiol ardal- oedd. Dydd Llun, yn Plaitstow, cynhaliwyd trenghol- iad ar gorph plentyn o'r enw James Senior, nedair mlwydd oed. Addefodd y fam nad oedd meddyg wedi ei alw at y plentyn, ond gwnaethpwyd apel at flaecjoriaid yr eglwys y perthynai iddi, ac aeth- ant hwythau drwy y seremoni o osod dwylaw." Dr. Saunders a ddywedodd ei fod ef yn credu y buasai bywyd y byehan wedi ei arbed pe y buasai meddyg wedi ei alw ato. Dychwelwyd rheithfarn o ddynladdiad yn erbvn v tad. James Senior, vr hwn a draddodwyd i sefyU ei brawf ar warant y crwner. Bu Michael, y Cymro, o Aberaman, a fedd yr anrhydedd o fod y cyflymaf o holl cyclists y byd. yn dweyd ei brofiad wrth un o wyr y wasg yn ddi- weddar. Am rai milldiroedd yn y dechreu,' meddai, byddaf yn medru clywed llais fy ngwer- siwr yn dweyd pa mor gyflym y byddaf yn myned ac yn fy nghyfarwyddo ar ben y deng milldir bydd y llwybr fel pe tae yn rhuthro ymaith oddi tanaf, a phob swn a chymeradwyaeth yn graddol ddarfod o fy nghlyw. Dechreua goleuni dydd bylu a thywyllu, a byddaf yn clywed tarawiad yr olwynion ar yr awyr fel trwst cerbydau yn y pell- der. Wedi rhedeg y cylch am bum' milldir ar hugain, bydd y clyw, pob gallu i feddwl, a phob teimlad wedi myned, a bydd pob grym wedi cilio o fy i^ghoesau; ond, er hyny, fe fyddaf, mewn gwirionedd, yn chwyrlio fel pe yn hedeg drwy yr awyr." Yn Llundain cynhaliwyd ymchwiliad i achos marwolaeth plentyn pedwar mis oed i lafurwr a driirai yn South Norwood. Tystiodd y tad ei fod wedi prynu ffured at ddal Uygod mawr. Rhodd- odd y ffured i'w wraig, a dywedodd wrthi am ei rhoddi mewn bocs. Yna aeth y dyn i gysgu, ac aeth y wraig allan i ymorol am rywbeth i giniaw. Pan ddaeth y wraig yn ei hoi deffrodd ei gwr, a dywedodd wrtho fod y ffuret wedi ymosod ar y babdn. Aeth y tad a'r plerityn at feddyg yn y gymydogaeth, a dywedodd hwnw wrtho am fyned ag ef i'r yspytty. Wedi hyny fe aeth y tad ac a laddodd y ffured. Dywedodd y crwner mai peth ffol iawn oedd myned a ffured i ystafelllle yr oedd plentyn. Tystiodd y fam ei bod, pan ddaeth yn ol, wedi gweled y ffured yn ymgripio hyd y goben- ydd at y plentyn. Bwriwyd mai trwy ddamwain y bu farw y plentyn, ond ceryddwyd y tad am ei ddiofalwch. Darganf uwyd peth tra anghyffredin yn Philadel- phia ychydig ddyddiau yn ol. Ers peth amser, bellach, poenjd perchenogion eiddo yn ymyl y ddinas hono gan fath o nwy a fyrlymai allan o ffynonau a dorid ar eu tiroedd. 0 ganlyniad i'r nwy md oedd y dwfr yii gymhwys i'w yfed na chwaith i'w ddefnyddio at rai perwylion eraill. Torwyd ffynonau newyddion nes oedd yno, o'r diwedd ddwy ar bymtheg ohonynt; ond yr oedd nwy yn mhob un ohonynt. O'r diwedd, drwy i ryvvun, yr< ddamweiniol, ddyfod a ffagl i gysylltiad a r nwy, fe gaed allan ei fod yn tanio. Wedi hyny fe roddodd neirianydd brawf ar arwain y nwy drwy bibellau a'i oleuo fel rhyw nwy arall; a cliaed ei fod yn oleuwr campus, ac yn hynod glir oddiwrth fwg ac arogI. Felly, gwnaed defnydd ohono i oleuo y gweithfeydd, ac nid yw yn debyg y der- fydd y cyflenwad. Dywedir fod yno ddigon o ystor i oleuo haner v ddinas. Yr wythnos ddiweddaf bu cryn helynt yn y Senedd Awstriaidd, pryd y bu dadl fawr rhwng c riogwyr y prif weinid.og (y Oownt Badeni), a'r blaid Ellmynig genedlaethol. Yn nghwrs yr hel- ynt dywedodd yr Ellmyniaid bethau cas a dir- mygus dros berJ am y prif weinidog a'i gefr.og- wyr, ac oherwydd ei fod yn teimlo ei fod wedi ei sarhau, fe ddarfu i'r Cownt Badeni yn ddioed herio Herr Wolff, o'r blaid EUmynig, i ymladd gornest ag ef, ac felly fu. Gyda phistolion yr ymleddid sp ymddengys mai Herr AVolff gariodd y dydd, oblegid aeth bwled o'i bistol ef i fewn i law yCownt -Badeni, a daeth allan yn agos i'w benelin. Nid yw yr archoll yn beryglus, er ei bod yn un ddigon tost. Dyhuddwyd digofairit y Cownt, a boddlon- wyd ei &nrhydedd, fodd bynag, ac ysgydwodd law a'r dyn a'i sarhaodd ac a'i saethodd cyn myned ymaith o faes yr ornest. Dywedir fod yn syn na fuasai chwaneg o ornestau wedi digwydd o ganlyn- iad i'r ffrae fawr a fu yn y aenedd.

[No title]

Urddiad yn Esgotaeth Xlandaf-

NODION O'Kj-Lfh.tWK .r.1:n.i1'.1¡j!.:L'ttt.

---.-------------] Yagel Ganolradd…

.-..

.cabydci.ia,L,u a Phrotestaduetli

---------Y Gyngres Eglwysig.…

Ffeithiau ynNgh^ IchJapan

I-......---- -Pwllheli a Mr…