Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

[No title]

[No title]

[No title]

!Llyscsdd CofrGstria^oi Ken-

Advertising

----=-.------.:..L... Y Goiofn…

Y FFYNON. !

Rh . nŸWŸDIHCHL YN AIDD

DYCHWELIAD MILWR O'R INDIA.

MR H. LLOYD CARTER, CAERNARFON.

SYLW AR ANGHYDFOD CHWAREL…

MYFYRDOD UWCH BEN BEDD RHIENI.…

lS GWN I.

Advertising

1:todion o Gaergybi. I

News
Cite
Share

1 :todion o Gaergybi. Nid oes wythnos bron yn myned heibio nad oes yma gyfarfod pregethu gan. rai o'r onwad;bti. Mae y dref hon wedi ei dyrchafu hyd y nef mewn breintiau crefyddol, ond mae He i ofni mai ych- ydig o'r had sydd yn disgyn mewn tir da, gan mai ychydig iawn o fxrwyth sydd yn yr amlwg. -— Dydd Sul a dydd Llun yr oedd cyfarfod pre- gethu gan y Wesleyaid yn Bethel er chwyddo cronfa arianol y capeL Y pregethwyr oeddynt y Parchn Lewis Owen, Bagilit; Peter Jones, Aber- ffraw; a Hugh Hughes, Caernarfon. Mae Hugh Hughes bob amser yn boblogaidd iawn yn y dref: o ran hyny, yn ol barn mwyafrif o ddarllenwvr y "Cymro" yn ddiweddar, y mae efe yn un o'r tri mwyaf poblogaidd o weinidogion y Wesleyaid yn Nghymru. Pregethodd dair, gwaith ddydd Llun i dyrfaoedd IluoBN. Yr oedd ei bregeth nos Lun yn un hallt dros ben, ac yn wir, yr oedd yn ofynol ar wroldeb mawr i draethu gwirioireddau mor ymarferol mewn dull mor groew a didderbynwynab. Yn y bregeth hyawdl hon cafodd masnachwyr a phrynwyr yr oes flas y chwip. Siaradai yn gryf yn erbyn y dosbarth hwnw o fasnachwyr sydd yn meddu dau bris ar eu nwyddau, ac y mae yn ofid- ( us meddwl fod cynifer ohonynt yn einj gwlad— dynion a ofynant am eu nwyddau fwy nag y maent yn barod i'w gymeryd. Mae yn anhawdd iawn i'r prynwyr wybod sut i ymwneud a masnaclnvyr felly. Yn mysg y pryrfwyr drachefn mae dosbarth yn barod i ddweyd fod y nwydd a geisir brynu i'w gael yn rhatach mewn He arall er mwyn ceisio tynu y gwerthwr o'i bris, tra y bydd hyny yn anwiredd noeth. Condemniai Mr Hughes yr anonestrwydd hwn yn mysg crefyddwyr yn y modd mwyaf Hym ae argyhoeddiadol. Ychwaneg o bregethu fel hyn fyddai yn fenditli fawr i'n gwlad yn y dydd- iau rhodresgar hyn. Nos Fawrth yn yr un capel traddododd y Parch Hugh Jones, un o bregethwyr poblogaidd yr en- wad oto, Ijregetli angladdol i'r diweddar Barch W. Evans (Monwyson), a chafwyd oedfa alluog ac effeithiol dros ben. Poor Monwysotrii! mae yn chwith meddwlei fod yn ei fedd. Cafodd ei or- deinio i'r weinidogaeth ar unwaith a'r Parch Hugh i Jones, ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mynwesol iawn. Nid oedd Monwyson yn siaradwr hyawdl. Tipyn yn glogymog ydoedd ei draddodiad, ond yr oedd ef yn feddyliwr, a phob amser yn pregethu yn adeiladol. Yn ddibetrus yr oedd yn un o bre- gethwyr mwyaf meddylgar y cyfundab. | Y tro olaf y clywsom ef yn siarad ydoedd yn angladd y Parch William Lloyd, ychydig wyth- (IJau yn 01. Yr oedd amryw wedi siarad o'i flaen, ac wedi rhodio y Uwybrau ag yr arferir a myned ar hyd-ddynt mewn angladdau. Pan god- odd Monwyson dywedai na wyddai efe ond ych- ydig iawn am yr hen weinidog ymadawedig, end dywedodd ychydig eiriau am freuolder ac ansicr- wydd bjnvyd, yn nghydag am agosrwydd y byd ysbrydol nes sobreiddio pob meddwl yn y lie. Heddwch i'w lwch. Nos Lun a dydd Mawrth yn addoldy Metlio- distiaid Llaingoch, yr oedd y Parchn. Thos. Wil- liams a T. Charles Williams, Gwalchmai, yn nghydag Owen Hughes, Amlwch, a Hugh Pugh, Aberffraw, yn pregtliu i dyrfaoedd Uuosog. Yn sicr, dylai Mon deimlo yn falch o'r ddau wr ieu- ane blaenaf a nodwyd. Maent yn bregethwyr ardderchog, ac yn dringo yn gyflym i fysg prc- gethwr galluocaf a mwya1 poblogaidd yr en wad. Y Sul diweddaf Hanwyd pwlpud y Tabernacl (A.) gar, y bardd-bregethwr ieuanc athrylithgar o Borthmadog, Eifion Wyn. Mae efe wedi bod yma droion o'r blaen, ac yn pregethu bob amser yn nodedig 'o gymeradwy. Daeth cynulleidfa- oedd lluosog i'w wrandaw y Sul diweddaf, ac yr oedd y pregethwr yn ei hwyliau goreu. Nod- weddir ei bregethau gan drefnusrwydd ac eglur- der, a gwyr yn dda sut i wneud defnydd o syn- iadau prydferth a barddonol mewn dull tawel a diymffrost. Mae swn cydseiniaid yn clecian nes merwino clustiau y gwrandawyr mewn pregethau rhai pregethwyr os wedi eniU cadair eisteddfod,

Advertising

) Modion Amaethyddol. \-

[No title]

[No title]

[No title]

S Llaniacfcrcein.

. | ^ Llangefni.

Advertising