Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

CYNHADLEDD E8 GOB A ETH BA…

News
Cite
Share

CYNHADLEDD E8 GOB A ETH BA iVG OR. Cafwyd cynhadledd ardderchog yn Nolgellau, ac y mae yn sicr y bydd i ddaioni ddeilliaw o'r ymdrafodaeth a'r gwahanol gwestiynau os bydd i garedigion yr Eglwys roddi ystyriaeth ddyladwy i'r papyrau ardderchog a ddarllenwyd ac i'r sylw- adau miruog a wnaed gan yr Esgoo, Y mae dyledswydd arbenig yn gorphwys ar bob Eglwys- wr i wneud ei eithaf i amddifFyn yr Eglwys yn er- byn ymosodiadau y gelyn. Yn yatod yr haner canrif diweddaf y mae pleidiau gwleidyddol a sectau o broffeswyr gwleidyddol wedi ceisio am- ddifadu yr Eglwys o'i safle fel Eglwys Genedlaeth- ol a'i hysbeilio o'i meddianau. Gwnaed. defnydd o bob dyfais, ni bu diwedd ar gynllunio anwiredd- au, enynwyd eiddigedd, a chyneuwyd digasedd y werin i'r unig ddyben o ddadsefydlu Hen Eglwys y Cymry a dwyn ei gwaddoliadau oddiarni. Nis gellir bod yn rhy ddiolchgar i'r amddiflfyrjwyr" sydd wedi gweithio mor ddifefl a diflino i osod y gwirionedd gerbron y wlad. Fel y cododd yr ym- osodiad yn ucheJ fa gododd yr amddiffyniad yn uwch, ac y mae gwerin Cymru yn dechreu gweled —fel y mae gwerin-bobl Lloegr wedi canfod era llawor dydd-mai nid estrones mo'r Eglwys Gymreig, ac mai nid eiddo cyffredin mo'r gwadd- oliadau a roddwyd i'r Eglwys gan ei phlant yn y dyddiau a fu. Y mae amddiffynwyr yr Eglwys wedi gweithio mor odidog fel iVad ydym bellach o dan gymaint rhwymau i'w hamddiffyn hi rhag dad- gysylltiad a dadvraddoliad. Mewn gwirionedd, nid oes ond ychydig iawn o son am y pethau hyn yn y wlad, ac ni chlywir awn ymosodiad ond yn mhlith gwehilion y Blaid Radicalaidd ac yn mhlith y sectau anwybodusaf o Sosialiaid ac anffyddwyr. Y mae caredigior; yr EglWY3 wedi cael hamdden bellach i ystyried anghemon yr Eglwys modd y gellir ei chryfhau a modd y gellir ei haddasu a'i chymhwyso i fod o'r defnyddioldeb mwyaf i'r genedl yn gyffredinol. Gellir gweitliio i'r amcan- ion hyn mewn gwahanol gyfeiriadau a da genym weled fod pob mantais yn cael ei gymeryd o'r cyf- leusderau. Y mae mwy nag un ymgais wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diweddaf i basio mesurau drwy Senedd Prydain Fawr er gwella ac addasu trefniant yr Eglwys; ac os nad ydyw llwyddiant eto wedi gwenu, y mae genym y cysur o wybod y ceir—yn ol pob tebygolrwydd—amryw .9 | flynyddoedd o seibiant o dan ]jywodraeili Ifafiiol i'r Eglwys i wneud mwy nag un ymgais eto yu yr un cyfeiriad.. Ond nid yw perffeithiad trefniant yr Eglwys yn ymddibynu'n gymaint ar waith Sen- eddol ag ar waith Eglwyswyr—o'r Esgeb i lawr at y distadlaf o fewn yr esgobaeth-yn eu. plwyfi ac yn eu cartrefi. Pan y daeth y diweddar larll Sel- borne i Gymru i ddadleu o blaid yr Eglwys ac i gynghori Eglwyswyr pa fodd i gryfhau gafael yr Hen Fam ar y genedl, y cynghor olaf a'r cynghor difrifolaf a roddwyd ganddo ydoedd hwn, Bydd- weh o galon ys-brydoL' Nid oedd neb yr4 fwy cymhwys nag Axglwydd Selborne i siarad ar han- esiaeth yr Eglwys. Nid oedd neb yn deall hawl yr Eglwys i'r degwm yn well nag ef. Efa ydoedd awdwr y ddau lyfr. mwyaf hylaw ar y cwastiynau hyn, ac yr oedd ei awdurdod yn cael ei gydnabod gan bawb. Heblaw hyn, hefyd, yr oedd Argl- wydd Selborne yn eithaf hysbys o'r pwysigrwydd i Eglwyswyr fod yn hyddysg yn hares yr Eglwys, ac yn alluog i amddiffyn hawl yr Eglwys i'w medd- ianau. Eto ei gynghor ydoedd, fel y dywedwyd> Byddwch o galon ysbrydol." Ac y mae y ffaith yn aros fod gwaith pwysicaf Eglwyswyr Cymru yn y dyddiau hyn yn gorwedd y tuallan i bob diwyg- iad Seneddol. Y mae eisiau diwygiadau Senedd- ol, ond credwn er hyny fod y pethau y gellir eu gwneud heb gymorth Senedd yn bethau o an- nliraetrhol fwy o werth i grefydd yn y wlad. Am, hyny yr ydym yn galw sylw at y cwestiynau a ddygwyd i sylw y Gynhadledd Eglwysig yn Nol- gellau. Nid yw gofod yn caniatau i ni fanylu ar y papyrau meistrolgar a ddarllenwyd, efallai y ceir cyfleusdra eto i ddychwelyd at y rhai hyn, ond y mae yn werth i bob Eglwyswr-ac i'r clerigwyr yn enwedig—i gofio fod pethau trymaf y gyfraith," y .diwygiadau goreu a'r gwelliariftau pwysicaf yn bethau y gellir eu cael heb gymorth Senadd o gwbL Gobeithiwn y darllenir ein hadroddiad o Gynhadledd Dolgellau gan bob Eglwyswr, ao y bydd i'r gwahanol awgrymiadau gael y sylw dylad- wy., Ac i bawb sydd yn cymeryd dyddordeb yn y cwestiwn o genedlaetholdeb yr Eglwys y mae anerchiad Esgob Bangor yn werth. cyfrolau o'r gothach a siaredir ac a gyhoeddir gan garedigion gwagsaw yr hyn a elwir yn Gymru Fydd." Nid yw cenedlaetholdeb yi< gynwysedig o syniadau Radicalaidd—y mae cenedlaetholdeb yn syniad sydd yn eangach na'r syniad o blaid. Ond os cen- edlaethol y sefydliad sydd yn cam ac yn anwylo iaith y genedl, yn cadw i fyny ysgolion y genedl, yn dysgu ac yri crefyddoli y genedl, yna nid oes lsefydliad yn y byd sydd yn fwy gwirioneddol gen- edlaethol na hen Eglwys y Genedl Gymreig.

[No title]

[No title]

[No title]

! y Diwyciiant Peinanyddoi…

Damwain Ddifrifol i'r Colonel…

Cynhadledd y Marsiandwyr Lleshi

Advertising

! NODlON O'K DEH EUDIU

! Damwain. iingsuol yu Chwarsl…