Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

Llanarth-

Bethesda.

---------I Criccieth, )

Dyffryn Kantlle a'r Amgylchoedd-

Llanuwchllyn.

Ymdrechfa gyda Thy dorwyr.

Advertising

MJH I hi!:. j

! . i Bangor.

Caernarfon-

News
Cite
Share

Caernarfon- Yr Ysgol Ganolradd.-Dydd Iau ail-agorwyd yr ysgol ganolradd. Darlith Ddyddorol.—Bydd y peirianydd byd- adnabyddus Mr Preece yn trafl-dodi ei ddarlith benigamp y mis nesaf. Neillduir yr elw at gron- fa adgyweiriad hen eglwys Llanbeblig. Llys Ynadol Arbenig.—Dydd Merchcr, o iluen Mr J. R. Pritchard, cyhuddwyd Winifred Casey o ladrata lp 158 oddiar berson David Jones, Lizn- wnda.—Gohiriwyd yr achos hyd y Llun. Y Seiri Rhyddion.—Dydd Iau cyfarfu aelodau y Free Masons. Etholwyd y Brawd J. Herbert Rees yn W. M. am y flwyddyn ddyfodol fel olyn- ydd y Brawd Morris. Llys yr Ynadon Sirol.—Dydd Sadwrn, o flaen1 y Dr. Taylor Morgan ac ynadon eraill, cyhuddwyd John Parry o fod yn feddw ac yn afreolus ac o ym- osod ar T heddgeidwad yn y Groeslon, a chafodd ei anfon i garchax gyda llafur caled.—Cyhuddid Richard Williams, dyn ieuanc yn byw yn Waen- fawr, gan Charles Williams, ceidwad helwriaeth i Mr Greaves (Arglwydd-raglaw y sir), o herwhela ar dir dros yr hwn yr oedd gan Mr! Greaves yr hawl. Yr oedd y trosedd wedi ei gyflawni y nos Sadwrn cynt. Yr oedd gan yr erlynydd ddau o iygndau duon yn y box pan yn rhoddi ei dystiolaeth, Y I hai a. roddwyd iddo meddai gan frawd y cyhuddedig. Gwadwyd y trosedd yn bendant. Cosp, 5s a'r cos- tau. Erlynid gan Mr H. Lloyd Carter, gyda Mr Richard Roberts yn amddiffyn. Pleserdaith.—Dydd Iau talodd aelodau cor Eg- lwys Dewi Sant ymweliad a Llanberis. Gwnaed llwyr gyfiawnder a'r amrywiol drugareddau, a phrofiad y frawdohaeth ydoedd mai da iddynt oedd bod yno. Dychwelwyd yn yr hwyr wedi mwyn- hau diwrnod a hir gofir. Helynt y Penrhyn.—Fel y gwnaed yn hysbys yn flaenorol, y mae anghydwelediad Chwarel y Pen- rhyn wedi ei benderfynu. Haedda ein cyd-flrefwr parchus, galluog, ac adnabyddus, Mr H. Lloyd Carter, y ganmoliaeth uwchaf am y rhan fedrus ac effeithiol a gymerodd ef er dwyn yr anghydfod i derfynia4 Eglwysig.—Yn ystod y mis bedydd:wyd trwy daenelliad 7; priodwyd 1; claddwyd 3. Cymdeithas Genhadol yr Eglwys.—Erbyn liyn y mae yr Esgob Du Oluwole ar ei daith gartref i Affrica. Hir gofir ei anerchiadau a'i bregethau. Cyrhaeddodd y cyfraniadau at y gymdeithas wedi taJu y costau i 119p 168 8c. Dramataidd.-Nosweithiau Mercher a lati bu cwmni enwog Terry o Lundain yn difyru cynuli- eidfaoedd mawrion yn y Guild Hall. Yr oedd yn amlwg fod y cwmni yn feistriaid perffaith ar *eu galwedigaeth. Ymladdfa Ffyrnig.—Nos Fercher oddeutu haner nos cyffrowyd trigolion Bangor-street, Pen- rallt, Bridge-street, Talybont, a manau cyfagos eraill gyda gwaeddiadau torcalonus. Casglodd ilawer i'r Pendist, a chaed allan mai ymlalldfa oedd wedi cymeryd He cydrhwng dau wr adna- byddus. Yr oedd golwgdifrifol ar yr hwn a orch- fygwyd-y gwyneb yn orchuddiedig a gwaed ar ol llawer o ymosod arno. Y mae enwau y ddau yn meddiant yr heddgeidwaid, a cheir clywed jch- J waneg am yr helynt yn rnhen ychydig. Llys yr Ynaclon.—Dydd LIun, o flaen yr ynad- on, cyhuddwyd John Thomas a John Jones, .lau o bersonau yn byw yn y Twthill, o herwhela yn y nos ar gyffiniau y dref. Darganfyddwyd y ddaii gan yr heddgeidwaid yn dychwelyll o'u'hymdaith, ac yr oedd ganddynt yn eu meddiant nifer o wn- ingod a rhwydi.—Ymddangosai Mr J. T. lloborts i amddiffyn. Cosp, 10s yr un a'r costau.—Am va- grancy (crwydro) anfonwvd hen droseddwr o'r enw Lewis Lewis i'r carchar am fis. I Cyngherdd Mawreddog Eglwys Dowi Sant.- i Edrych rhagolygon y cyngherdd uwchraddol ueh- od yn hynod galonogol. Er yn ddistaw, y mae yr ysgrifenyddion a'r pwyllgor wedi gwneud gwaith canmoladwy, a chredir y bydd i'w llafur gad ei goroni a llwyddiant mawr. Cynhelir y cvng- herdd nos Lun, yr 20fed cyfisol. "Ceir v manvlion yr wythnos nesaf. Lladrad Haerllug.—Yn gynar foreu Mer-hci darganfyddwyd fod rhyw berson neu bersonau wedi bod wrth y gwaith anheilwng ac anonest ) symud un o'r byrddau oedd yn oynwys yr hysbys- iad am y cyngherdd yn y pafilion ar v "railings" perthynol i Eglwys Crist. Hyd yn livn nid oes wybodaeth yn nghylch y bwrdd. Deallwn fod ymclrwiliad manwl yn cael ei wneud, ac os y llwyddir i ddod o hyd i'r drwgweithredwr iiL- u fwy ohonynt cospir hwy hyd eithaf y gyfraith. Ymdrechfa y Cychod Hwylio.— Dydd Iau cy-1 merodd ymdrechfa y cychod hwylio Ie. Yr ocdd y tywydd yn bobpeth allesid ei ddymuno. Yr oedd y dyfarniadau fel y canlyn 1, Endeavour (Oadben Williams); 2, Nan (Mr D. Davies) 3, Lancashire Lass (Mr J. Pritchard); 4, Missie Ma,y (Dr. Taylor Morgan). Goruchwyliwr yr ymdrechfa ydoedd Mr Carter. Y Gwirfoddolwyr.—Y mae y Gwirfoddolwyr yn parhau i gadw yr enw da a enillwyd ganddynt. Cawsant eu harolygu ddydd lau gan y Milwriad A. Dunnage, R.A., a chafodd ei I-wyr foddloni yn y gattrawd. Llongyfarchwyd hwy yn galonog ar eu gwaith yn enill y "challenge bowl." Llys yr inadon.-Dydd Llun, o flaen y Meistri Edward Hughes (maer), W. Hamer, a J. R. Hughes, cyhuddwyd tramorwr o'r enw John Va- carraza. (Italian), yn trigo yn Palace-street, o adael i'w simddai fyned ar dan. Yr oedd gan y tramorwr gyfieithydd gydag ef yn y bocs. Gor- fodwyd ef i dalu y costau.-Am. fod yn feddw cafodd y personau eanlynol eu dirwyo: —Morgan Ellis, Caeathraw, 2s 6c a'r costau John R. Owen, Talysam, 5s a'r costau Peter Flynn, 2s 6c a'r costau. Marwolaeth.—Dydd Sul, yn ei phreswylfod yn Sea View, St. David's-road, bu farw y wraig hyn- aws Mrs Sarah Baugh Williams, merch ieucngaf y diweddar Mr Moses Williams, Llundain. Hedd- weh i'w llwch. I Dathliad Haeddianol.—Dydd Sadwrn yr oedd prif fasnaclidai y dref yn chwifio banerau amryliw o'u Ifenestri er dathlu dydd pen blwydd Miss Qre-avetv, Glangwna, merch' Arglwydd-raglaw y sir. Bu y magnelau yn rhuo am amser maith, ac ofnid ax y cyntaf fod y gelyn yn ymosod ar hen gaerfa. Caer Seiont. Nid felly yr ocdd, a da hyny —y mae teulu parchus Glangwna yn anwyl a chymeradwy gan y Caernarfonaiid, ac yn dymuno iddynt hir oes a phob dedwyddweh. Nodachfa Methodistiaid Bontnewydd. Erbyn hyn gellir rhestru nodachfa y frawdoiiaeth Fetho- dista.idd yn Mhontnewydd yn mhlith y pethau a fu. Llwyddwyd i sicrhau yn ystod y tri diwrnod y cynhaliwyd y nodachfa y swm o 380p. Y mae llawer o ffyrdd er cyfarfod a'r dyledion sydd yn aros ar amryw o'r gwahanol addoldai. Newid- iwyd Ilawer o arian yn y deml gynt a chwipiwyd hwy allan ni wnaent hyny yn Bontnewydd am fod yr athraw yn absenol. Y Bel Droed.—Dydd Sadwrn cyfarfu dewrion yr Ironopolis &'r Bangor Reserves yn yr Oval. Wedi ymdrechfa. haeddianol trodd yh fvuldugol- j iaeth i hogiau y dref gyda thair goal yn erbyn 0. Play up, boys. Cyfarfod o'r Cynghor Trefol.—Cynhaliwyd cyfar- fod misol y Cynghor nos Fawrtu, dan ly wyddiaeth y Maer (Mr Edward Hughes).—Cyflwynwyd cyfrifon y prif-ffyrdd am y flwyddyn yn diweddu Mawrtii di- weddaf, pa un a. ddangosai fod cyfanswm y draul o'u cynal yn 382p. Penclerfynwyd fod i'r Cynghor Sir dalu am lanhau y prif-ffvrdd oddimewn i de-rfynau y dref, a. galw eu sylw at weddill oodd yn aros o'r fJwyddyn ddi.weddaJ.- Y n adrodciiad Pwyllgor y Nwy, yr OEXld argyinhelliad fod i'r ysgrifsnydd trefol roddi ei gyfai"wyrldyd a ddylai y Cynghor fyned i mewn am archeb ammodol, neu ddeddf leol, yn ngwyneb y cais oedd ar gael ei wneud yn y Senedd- dymor nosaf gan gwami am hawl i gyfienwi goluini trydanol yn y fwrdeisdref.—Hysbysodd yr YTsgrifea- ydd Trefol, os byddai i'r cwmni Iwyddo yn eu cais, y byddai gan y Cynghor, yn ddiau, hawl i brynu end byddai raid iddynt dalu yn ddrud am hyny. Ysrrth wrs, gallai y Cymdior wrtlra-ynebu archeb ammodol ond baasai y draul o sicrhau deddf yn fawr. Awgrymai of inai y cynllun goivu fyddai ym- gynghori a'r Mri Sharpe a'i Gwmni ar y cwestiwn.— Penderfynwyd gofyn i'r vsgrifenydd trefol g}rfar- wyddo yn mhellach ar achlysar (.-to.-O bsrthynas i gais y pendtrfynwyd ei wneud yn y cyfarfod blaenorol at Yinddirkdtilwyr y Porthladd am ganiatad i ddyfn, hau y si an el yn ochr Mon ar gyfer y lanfa newydd a fwriedir ei gwneud, darllomvyd y penderfjuiad a basiwyd gan yr ymddiriedolwyr yn em cyfarfod yr un dydd, yn gofidio nas gallent gydsynio a.'r cais ond yn awgrymu y priodoldeb o gyfeirio y matsr i Mr Lyster neu y Bwrdd Masnach. Penderfynwyd fod i Bwyllgor y Borthfa ystyriixl atobia.d yr ymddiried- olwyr.—Penderfynwyd, hefyd, anfon at Mr Wawn, peirianydd, yn gofyn ei delerau am barotoi y cyn- llunia.il angenrheidiol o'r bont y bwriedir ei gwneud dros yr Aber.—Ar derfyn y cyfarfod, gaJwyd cyfarfod ;a b- niv* o'r Pvvydlgor Iechydol i ystyried llythyr o eiddo Mr David Evans, cigydd, yn mha un y gwneid cyhuddiadau yn erbyn s^yddog neillduol yp. dal cysylltiad a'r lladd-dai.

Carngiwcli a Pistyll.

Caerdydd.

Dinbych.

Pwllheli.

Pont Henai-

Aborsoch.

I ,Pensarn, ger Llanbedr.

------Porthmadog-

Family Notices