Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

----------_.---.----_.----Pwllheli.

News
Cite
Share

Pwllheli. Digonedd o Bysgod.-Yii ystod yr wythnosau di- weddaf daliwyd nifer mawr o bysgod yn y bau, ac fe ddywedir fod oddeutu pum' tunell o honynt wedi eu hanfon ymaith bob wythnos. Ymwelwyr.—Ni welwyd erioed gymaint o ddy- eithriaid yn v dref, ac fe ddywedir fod yn anhawdd cael lietty yn unman, ac y mae yr holl westai yn llawn. Y Sasiwn.—Cynhjlir Sasiwn Y I Methodistiaid yr wythnos hon, dan lywyddiaeth y Parch Evan Jones, Caernarfon. Dechreuir ar y gweithrediadau ddyad Mercher. Pregethir yn yr awyr agored ddydd Gwener. Cynyg Mr Solomon Andrews.—Fo ddywedir fod Mr Solomon Andrews am adailadu paboll ardderchog, ar ei draul ei hun, os liwyddir i gael Eisteddfod Gen- hedlaethol 1900 i'r dref hon. LLYS YR YNADON SIROL. Cynhaliwyd y llys hwn ddydd Mercher, gerbron v Mri R. Carreg (yn y gadair), Owen Evans, B. T. Ellis, J. T. Jones, a William Thomas. GOHIRIWYD. Oherwydd absenoldeb Mr Pryce Picton, gohiriwyd achos o ymosodiad gan John Ellis Hughes, Llanys- tumdwy, yn erbyn Robert Roberts, ac achos Mary Roberts yn erbyn J. E. Hughes. ANIFEILIAID CRWYDREDIG. Janei Morris, Ty'nypwll, yr hon na wnaeth ei hym- ddangosiad hyd nes oedd y Ilys ar ben, a gyhuddwyd gan yr Heddgeidwad Pughe o adael i'w buwch grwyd- ro ar y ffordd fawr yn Mynytho.—Dywedodd yr Uch- arolygydd Jones fod cwyn mawr o'r ardal yn nghylch anifeilizlid yn crwydro.—Dirwywyd y ddiffynyddes i 6c a'r costau, a chan ei bod yn dlawd, gostyngwyd y rhai hyn i 3s 3c, sef yr haner. -Cyhuddwyd John Jones, Llangian, gan yr Heddgeidwad Rowlands o adael tair buwch grwydro, a dirwywyd ef 6c yr un a'r costau, yr oil yn ddeg swllt.-Fe wysiwyd John Thomas gan yr Heddgeidwad Pughe o adael i'w fuwch grwydro, Qnd taflwyd ei achos ef allan gyda rhybudd. GWR YN APELIO AM WYS YN ERBYN EI WRAIG. Daeth Thomas Lloyd, amaethwr, Castell Bach; Pistyll, gerbron, a gofynodd i r Fainc am wys yn er- byn ei wraig, yr hon oedd wedi ei adael ers un-mis- a'r-ddeg, a'r hon oedd yn aflonyddu arno. Byddai yn dvfod ac yn myned fel y mynai, ac yn mynu ei ffordd i mewn drwy y drws neu y ffenestr. Un diwr- nod dastit yno gan daflu ceryg at y ffenestr. Yr oedd arno ofn ei wraig.—Nid oedd Air B. T. Ellis yn medd- wl fod yr achos yn un y gallent hwy ymyryd ynddo. -Mr J. T. Jones Gadewch i ni weled beth ydyw gyntaf.—-Mr Ellis a ddywedodd nad oedd yn achos i'r llys hwn, ac ar hyn-. gadawodd y llys.—Aeth yr Apelydd yn mlaen i ddweyd fod ei wraig yn cymeryd ei chartref yn Bontnewydd, ger Caernarfon. Nid oedd ond Vfedi bod yn briod ond pedair biynedd. Nid oedd yn talu dim am ei chadw. Yr oedd wedi gwrth- od byw gydag ef. Yr oedd ganddi hi oiddo, ond nid oedd ganddo ef ddim, gan ei bod hi wedi cymeryd y cwbl oedd ganddo.—Mr Owen Evans Onid ydych yn gwybod eich bod yn rhwym l w chadw?—Yr Apel- ydd Y mae wedi cael yr oil a feddaf.—Mr Owen Evans A ydych chwi yn foddlawn iddi ddyfod i fyw atoch?—Yr Apelydd Wn i ddim. Bydd raid iddi ymddwyn yn wahanoI.-Sylwodd Mr Cledwyn Owen (clerc yr ynadon) fod Lloyd wedi bod gydag ef yn gofyn am wys, ond mewn canlyniad i fynegiad a wnaeth, dywedodd of (Mr Owen) mai y ffordd oreu oedd iddo ddyfod o flaen y llys. Hefyd yr oedd arno eisiau gwys am wneud niwed i eiddo, a dywedodd wrtho mai mater y llys arall oedd hwnw.—Cytunai Mr Owen Evans a'r clc-ro.-Y Cadeirydd a ddywed- odd mai y cwestiwn oedd a ydoedd ar y dyn ofn ei wrai,g.Dywedodd Lloyd fod arno ofn cysgu vn y ty rhag ofn i'w wraig wneud rhywbeth iddo. Yr oedd hi wedi ei fygwth.—Gofynwyd iddo a oedd ei wraig yn ddynes barchus, ac atebodd yntau nad oedd ei gweithredoedd tuagato ef yn daixgos hyny.—Wedi ychydig ystrriaeth, dywododd y Cadeirydd Nis gallwn wneud dim i chwi yma. Rhaid i chwi fyned i ryw lys arall Yr ydym wedi gwrando arnoch yn amyneddgar. LLYS SIROL. Cynhaliwyd y llys hwn ddyuu. Llun, gerbron Ei Anrhydedd v Barnwr D. Lewis. ROWLANDS YN ERBYN JONES. John Rowlands, trafaeliwr, Pwllheli, a hawliai ddwy bunt o iawn oddiar Jane Jones, Rose Bank, Criccieth, am drespas, a gofynai hefyd am archeb i'w rhwystro i barhau y trespas.—Ymddangosai Mr John Jones-Morris dros y gofynydd, a Mr John Humphreys (Mri Jones a Jones, Porthmadog) dros y ddiffynyddes. Dywedodd Mr Jones-Morris fod gan y gofynydd dy yn Nghriccieth, o'r enw Helen's Home, a honid fod y ddiffynyddes wedi achosi trespas trwy adael pridd ar gafn y ty. Tystiodd Mr J. 1). Lewis, arolygydd Cynghor Dinesig Porthmadog. iddo barotoi cynllun- lau yn dangos y lefel, ac yr oedd tair troedfedd a dwy fodfedd o bndd wedi ei osod ar gefn (gable end) Helen's Hom3.-Dywedodd y Gofynydd, John Row- lands, iddo brvnu Helen's Home yn Mai, 1884, ac fe gafodd ei adeiladu 19eg mlynedd yn ol. Yr oedd lie gwag gyferbyn a'r ty hyd nes yr adeiladwyd Rose Bank. O'r tiwydayn 1884 i 1894 Miss Richards oedd tenant y ty. Yr oedd y pridd y pryd hwnw yn llawer is nag oedd yn awr. Credai ei fod yn awr yn uwch o dri chwarter i lathen. Yn ystod yr amser y bu Miss Richards yn y ty ni dderbyniodd unrhyw gwyn fod y ty yn damp. Fe fu iddi hi ymadael yn mis Tachwedd, 1894, a gosodwyd y ty i'r ddiffynyddes yn IMai, 1895, hyd Mai, 1896. Yr adeg hwnw fe adeil- adwyd Rose Bank. Ychydig amser cyn iddi ymadael fe gafodd y tyst ymddiddan a'r ddiffynyddes, ond ni chwynodd wrtho am y damp. ùeth Mrs Jones i fyw i Rose Bank. Ymwelodd y tyst a Helen's Home yn mis Mai diweddaf, a chanfyddodd ei fod yn llaith (damp),a phriodolai ef hyny i'r pridd a roddwyd yn erbyn cefn y ty. Fe fu iddo bapvro yr ystafelloedd i I Mrs Jones yn Mai, 1895, a bu iddo eu papyro bedwar mis yn ol, ac yr oedd y tenant presenol wedi gorfod eu papyro wedi hyny. — Croes-holwyd: Nid oedd y ty yn damp o gwbl hyd nes rhoddwyd y pridd ar gefn y ty. Nid oedd Miss Richards erioed wedi r. j Mvjuu.aown aceoiaa i'r liarnwr, dywedodd y Tyst Vedi ei osod Jrno tua 17et>'vn ol.—Tyst- iodd Miss Jane Richards ei bod yn chwaer i Mrs Rowlands, a bu yn denantiHelen's Home, Criccieth, 31 10^r mlynedd. Yn ystdfi yr amser hwnw ni chaf- odd achos l gwyno oherwyf d lleitlider, ac yr oedd yn anwiredd ei bod hi wedi dioddef oddiwrth y cryd- cymalau mewn canlyniad i leithder y tv.—Wedi i Ebenezer Jones, saer maen, roddi tystiolaeth, dadl- euai Mr John Humphreys fod ganddynt berffaith hawl i roddi y pridd lie yr oedd.—Yna rhoddwyd fod v gan 7 I«diff-^yddeS' Jr hon a ddywedodd -od y ty mewn cyflwr llaith pan yr aeth hi iddo.— Croes-holwyd Fe fu iddi gwyno wrth y gofynydd pan yr aeth i Rose Bank yn nghylch y damp, a chyn hyny wrth Mrs Rowlands a'i merch.—Tystiodd Cad- ben Evan Jones ei fod ef wedi galw sylw Mrs Jones at y damp pan yr neth hi i mewn i'r ty. ac fe ddvlai y gofynydd ddiolch fod Rose Bank wedi ei adeiladu, gan ei fod yn amddiffynfa i Helen's Home -Dywed- odd y Barnwr ei fod ef yn foddlawn nad oedd dim niwed wedi ei wneud gan y pridd, a dyfarnai o blaid y ddiffynyddes.-Gofynodd Mr Jones-Morris am ganiatad i gael ail-brawf, ond gwrthodwyd y cais. GADAEL u WASANAETH. Jane Williams, Ty Du, ilannor, a ofynai ddwy bunt o iawn oddiar Griffith Jones, Palestine, Rhos- fawr, am adael ei gwasanaeth yn ddi-rybudd.—Mewn atebiad i Mr liledwyn Owen, F hwn a ymddangosai dros y diffynydd, o.ddefodd v Gofynydd fod y bachgen yn cysgu ar ben ei hun mewn llofft uwchben y stabl lie nad oedd ffenestr na simneu.—Sylwodd v Barnwr n,ad,,oe™ JTi He cymwy-s i fachgen gysgu Vnddo, a Joddodd ei ddyfarmad o blaid y diffynydd. John Williams, Penyberth, Pwnueli, a ofynai iawn o dair punt oddiar Owen Williams, Ty'nllewelyn, Penrhos punt oddiar Owen Williams, Ty'nllewelyn, Penrhos am adael ei wasanaeth.—Ymddangosai Mr George dros y gofynydd, ac amddiffynwyd gan Mr Evan R. Davies, yr hwn a ddadleuai fod yr iawn a ofynid yn ormod.-I^arn^do blaid y gofynydd am bunt. LLOYD YN ERBYN OWEN A LLOYD. Anne Lloyd, Ty'nyparc, Llithfaen, a hawliai 3p lOs, neu ddychweliad heffer a ga.dwvd gan ei gwr, Ihomas Lloyd, a Thomas Owen, Hendre Penpys.- Ymddangosai Mr E. R. Davies dros y gofynydd, a Mr George dros y diffynyddion.—Dywedwyd fod cy- tundeb rhwng y gofynydd a Lloyd, ei gwr, oddiwrth yr hwn yr oedd wedi ymadael, i werthu y pethau ond nad oedd yr heffer yn gynwysedig yn y cyfryw.-Pa fodd bynag nid oedd dim i ddangos hyn i'r llys a dyfarnwyd o blaid y diffynyddion.

-----------------------NQDION…

Advertising

Aber 1

.Aberaeron. :

--Abeiporth3

Aberystwyth.

Bangor-

Bethesda.

Blaonau Ffestiniog a'r AmgylchceddI

!Caernarfon.

Gwrecsam-

Harlech-

Lianaitli.'

Llandegai.

---------Yprthyr Tydfil.

IlenrhoTgarnode

Porfhr?ac!ofi?-

Ehyl.

Family Notices

Advertising

--__-*------Tieryddiad yn…