Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
[No title]
Bu i'r Gwir Anrhydeddus Jas Lowther, A.S., mewn ciniaw arddangosfa amaethyddol yn Ngog- ledd Swydd Efrog, ddydd Iau, siarad yn bur blaen ar adroddiad y Ddirprwyaeth Freiniol ar y dir- wasgiad amaethyddol. Dywedodd fod pob llinell o'r adroddiad yn cadarnhau yr olygwedd a ddelid gan bob amaethwr profiadol ers blynyddau, sef, hyd nes gallent Avynebu cystadleuaeth dramor ar delerau teg nad oedd o unrhyw ddyben siarad am ail-ddychweliad yr amseroedd da. Mor hired ag y byddai iddynt gystadlu a chyflenwadau tramor! isel, ni chai amaethwyr y wlad hon chwareu teg. Yn dda a diofn y siaradodd Mr Lowther. Gresyn na fai eraill yn meddu ar yr un eofnder.
._--------Nodicn o Gaergybi.
Nodicn o Gaergybi. Troes yr arddangosfa amaethyddol allan ddydd Mawrth yn llwyddiant mawr. Wedi clirio yr holl gostau, hyderir y bvdd elw sylweddol yn aros. Yr oedd y maesydd mewn lie dymunol, a'r tywydd yn y boreu yn bobpetli allesid ddymuno, ond yn y prydnawn dyma hi yn ddiluw o wlaw. Ond chwareu teg iddynt yn Swyddfa y Tywydd, ni ddaeth defnyn i lawr hvd nes yr oedd pawb wedi myned i'r maes (neu bawb oedd wedi bwriadu myned o'r liyn lleiaf), a'r "grand stand" wedi ei llenwi. Dywedir na bu mwy o bobl yn y dref erioed. Yr oedd yma lawer iawn o filoedd, a phawb yn edryeh yn nodedig o drefnus. Y boneddigesau yn enwedig, wel, yr oeddynt yma yn eu holl ogon- —"0]1 vn eu gynau crwymon." I bob sylwed- ydd craifus anvvddai hv nad yw pethau mor ddrwg vn v Vv-kd ag v mvn rhai pobl i ni gredu eu bo(|- Mae hi yn fyd go" lew ax y meistr a r gwas ')nd o ran hyny' rhaid fydd i rai pobl gael cwyno pe 31 hi yn gwlawio aur o'r «nef fel y manna gyn y jr anialwch. Yr oedd golwg resynus ar y miloedd vn ^chwyn adref. Bron bawb vn UythjTenol yn wlyb^ at y croen," v merched druain oedd yn y ore y •rych fel* angylesau gwynfyd yn edrych yn llipa ryfeddol—llawer ohonynt heb gymaint a gwlawlen i ddiddosi eu penau, a'u holl ogomant wedi ym- adael. Wrth son am wlawleni buasai masnachwr efo iotoe go dda yn gwneud ei ffortiwn y diwrnod hwnw. Yr oedd holl stoc siopau y dref wedi ei chlirio mewn awr o amser, a dim haner digon i ateb i'r gofyn oedd am danynt. Gwelsom rai amaethwyr, er yn wlyb dyferol, yn gorfoleddu am v gwlaw. Yr oedd hi yn sych," meddai rhai. Mi wnaiff y gwlaw yma ddaioni mawr," meddai eraill. Yr oedd fy nghae rwdins i bron a marw eisiau cawod," medd hen ffarmwr o gymydogaeth Bodedern, ac ,,y waeth gen i befo y merched a'u dillad crand mae y gwlaw yma yn llawer mwy gwerthfawr na'i ffrolics nliw i gyd." y gwlaw yma yn llawer mwy gwerthfawr na'i ffrolics nhw i gyd." Yr oedd ymddygiadau y tyrfaoedd a ddaeth i'r dref yn haeddu canmoliaeth ar y cyfan, ond y mae llawer iawn o waith gwareiddio ar weision I amaethwyr ein gwlad eto. Arferant iaith isel iawn, yn enwedig os y bvddant wedi cael golwg ar wydriaid o gwrw. Gwelsom un ymladdfa go ffyrnig dau las-lane disynwyr wedi tynu eu cot- tmu ac yn cnoi eu gilydd fel anifeiliaid direswm. Fel arfer, md oedd yr un heddgeidwad yn agos (rhai lwcus ydi nhw am gadw yn glir o bob twrw), ond yr oedd dxgon o ddynoliaeth yn Mr John Prythen-n, y cerbydwr adnabyddus o Lanerchy- medd, i neidio rhyngddynt a rhwystro i'r ddau TtWiCvii i gnoi yniaath glustiau eu gilydd Gwnaethai y brawd John Prytherch blismon rhag- or° Mae 0 rtli yn ei fraich ac o ddyn- garweh yn ei galon i wneud ei ddyledswydd o dan bob amgylclnad. .Y Mae clod mawr yn ddyledus i Mr J. E. Hughes ysgrifenydd cyffredinol yr arddangosfa, am ei lafur tt-° i cw1,J^i;iu 7 trefniadau mor foddhaol. Wn l ddim beth ddaethai o'r arddangosfa oni bai am Mr Hughes ma.e o yn werth dwsin o ddvnion cyffredin at fusnes fel hyn. Mae o yn deall ei waith ac yn cyflawni gyda sirioldeb a medrus- rwydd y cyfryw. Gwnaeth Mr E. G. Roberts eto eleni ei ran fel ysgrifenydd Ileol yn ardderchog. 11 Anaml y ceir y twrneiod yma yn gwneud unrhyw wasanaeth am ddim ond dyma eithriad i'r rheol gyffredin. Gwnaeth Mr Roberts waith mawr yn rhad, ac yn sicr mae y wlad yn teimlo yn ddiolch- gar iddo am ei lafur. Wyddoch chwi beth, Mr Gol. ? Ffarmwr heb ei fath ydyw Mr O. Parry Jones, Plas Llechylched, Bryngwran. Yr oedd o yn ysgubo yr holl wobrau yn adran y gwartheg a'r defaid. Onibai am ei anifeiliaid arddercliog ef, buasai y dosbarthiadau yma yn anheilwng o arddangosfa gwlad amaeth- yddol fel Mon. Mae Mr Jones wedi tain sylw neillduol i'r gwartheg duon Cymreig, ac yn deall i'r dim sut i'w magu. Enillodd Mr Jones 18 o wobrau a naw o ail wobrau. Mi gredaf na chlyw- yd son erioed o'r blaen am y fath lwyddiant mewn unrhyw arddangosfa yn Nghymru na Lloegr. Tymhor yr holidays ydyw hi wedi bod yma yr wythnosau diweddaf. Mae yr ysgolion wedi tori, fel y dywedir, a phawb yn myned am dipyn o "change." Mae dyn yn hoffi dipyn o amrywiaeth mewn awyr, fel mewn bwydydd. Mae Cybi Vel- yn a'i briod dalentog Buddug, wedi bod yn Nhref- riw yn yfed y dyfroedd, ac yn mwynhau awelon balmaidd Dyffryn Conwy. Bu Mr J. Cliristiiias Williams hefyd yn yr un lie. Aeth Mr J. W. Ellis, Tea Mart, i Landrindod, "Yn mhell y bydd y llwynog yn 11 add." Mae y brawd wedi dych- welyd, ac yn edrych gan iached ac iechyd. Mae Treflyn wedi myn'd i Lerpwl, a synwn i ddim na bydd ei bresenoldeb yn v ddinas fawr hono yn foddion i godi tipyn a asbri adnewyddol yn ein beirdd. Mae nhw gan ddistawed a llygod ers mis- oedd bellach. Poed felly y bo. Yn mysg y gwyr adnabyddus sydd wedi ym- weled a'r dref hon yn ystod y misoedd diweddar. gwelsom Mr E. Hevin Jones a'i briod, o Gaernar- fon. Edrychai y ddau wedi adnewyddu drwydd- ynt pan yn cychwyn adref. Bardd da ydyw He- vin a llenor medrus. Bu Mr a Mrs Elldevrn, o Najitglyn, yma hefyd am bythefnos. Mae ym- wehad Elldeyrn a'n tref bob blwyddyn mor sicr ag ydyw vmweliad y gotr a choed y Penrhos. Pa ryf edd ? yma y mae cartref Mrs J ones, ac mae awvr iacli Cacrgybi yn gwneud mwy o les iddi na dim. Petii rhyfedd fod bardd mor awenyddol ag Elldeym yn hoffi rhodio ■ym;iint yn mysg y bedd- au! Ar ol claddu Bnl yn Wyn efe ydyw arch- farwnadwr Cymru. O jniygir gwobr go lew am farwnad, er sicrliau yr ocsau a ddel fod rhyw hen sant wedi cyrhaedd adrd i ogoniant, mae Elldeyrn yn lied sicr o honi. Yaia y treuliodd y Parch B. T. Morris a'i briod, o "rierley Hill, eu gwyliau. Cymro glan gloyw ydT"v Mr Morris, ond yn dweyd y drefn gyda. liwyddL.nt Fl:lWr wrth y Saeson ers llawer o flynvddoedd. :>c er yn byw o'i wlad. mae yn parhau i garu iaiti; ei fam a llenyddiaeth ei genedl. Mae y Parch E. NHolson Jones, o Gaerdydd, Wedi dyfod adref a? a :11'0 eto, a da gan bawb o honom ei weled yn efbyra mor dda. Y Sul di- weddaf bu yn pregethu i'r Presbyteriaid yn New- ry-street, a mawr irrrnoMr y pregethau grymus a draddododd. Yn Fi-^ddfod Casnewydd, allan o 34 o ymgeiswyr, --vobrwywyd ef am y penill goreu, i'w to osod ar ftdail y diweddar Barch Daniel Owen, o'r W -Mgrug. Credwn nad yw y dydd yn mhell na bvdd yn eistedd yn nghadair yr Eisteddfod Genedlaot r >1. Os na bydd, gwyddom nad diSyg gallu fy< i r achos o hyny. Dymunwn longyhp.1, Mrs Thomas (Morfudd Eryri), priod ein par; itns ficer, Canon Thomas, ar ei llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol elenL Allan o 16 o gyfansodukdau dvfarnwyd hi yn gyd- fuddugol am gyfieitl v; darn rhagorol o waith yr anfarwol Islwyn, "Yr Enaid." Nid oes tref yn iNgogiedd CVinru wyili gwneud cystal gwaith yn nglyn a'r Eistedtifoii cUiii a Chaergybi. Bu y cyfreitLiv" .liiuog, Mr R. A. Griffith, ,fi Caernarfon a 1 yn aros yma am dymhor, Ac y mae iddo lawev u ,-dmygwyr o hyd yn y dref, pa rai sydd yn g>vylied ei gamruu breision i hell pinacl enwogrwydd fel :yfreithiwr, lienor, a l-aiaM gyda llawer uiwii o hldluHl. Yn. Eisteddfod Cas- newydd cawn ei fod yutau wedi ei ddyfaniu yn gyd-fuddugol am v ;:na Gymrcig oreu. Addtlir mai gwaith anhu-.vnd ydyw gwneud dramii, yn enwedig un Gymreig. Mae y beirniaid goreu yn .methu cytuno" un sut ddylai y ddrama Gymreig fod. Mae Elfed yn ceisio egluro v dyrvs-bwiic hwn yn y "Geninen" ddiweddaf, ond yr wyf ii yn credu y gwyr R. A. Griffith gymaint air. dani hi a'r un o lionyn' nhw. lid oes dadl nad ydyw ef yn gwybod beth yw "nod angen" cystal ag undyn byw bedyddiol. Dyma i chwi bictiwr o ddrama Gymreig ydyw y "Bardd a'r Cerddor" a yinddnng- osodd yn y "Geninen." Addefa y beirniaid galluog ei bod y peth goreu a gynyrchwyd yn yr iaith Gymraeg ers llawer dydd. Llawer o ddy- falu sydd wedi bod pwy oedd ei hawdwr. "Pwy ydi Elphin, deudwch 1" oedd y gofyniad a glywid yn dra mynycli. Bellach, dyma y dirgelwoh wedi d'od i'r amlwg. Mae Elphin yn mherson Mr R. Griffith yn cael ei arwain i gylch cvsegredig Gorsedd y Beirdd yn Ngliasnewydd, ac yn cael ei IUrddo yn ol braint a defawd, ac i'w adrialxid rhag Jla.w wrth yr enw a nodwyd. Wn i ddim lint dderbyniad a gafodd o. Buaswn yn hoffi gweled sut liw oedd ar wynebau amryw o'r adodau Sen- eddol, proffeswyr y colegau, a beirdd y cadei,.iu a'r coronau, pan oedd Hwfa Mon pi •_ ruban ar ei fraich. Cofus gan fd^Uenwyr y "Geninen" fel y mae Elphin wedi eu rhostio nhw yn ystod y blynyddau yn dangos nad yw pobpeth a wobrwyir y dydd a hyn yn farddoniaeth dilwgr. PENRI.
Nodion Amaethyddol.
Nodion Amaethyddol. Tra bu y shows amaethyddol a gynhaliwyd yn Rhosneigr a Chaergybi yn llwyddlanu, er fod yr hin anffafriol wedi ymyryd a derbyniadau y di- weddaf, ymddengys fod Arddangosfa Siroedd Din- bych a Fflint, yn Llanelwy, y dydd o'r blaen, wedi troi allan yn llwyddiant mawr. Mae y gvmdeithas hon wedi mwynhau profiad o dros haner canrif, yn ystod pa gyfnod y dioddefodd yr anhawsderau arferol. Yr oedd pawb yn uchel eu clod parthed darpariaethau da Mr Welsby, yr ysgrifenydd new- vdd. Y mae yn hollol gyfarwydd a'r gwaith, a bu i'w ymdrechion brofi yn llwyddiant digymysg, oblegid yr oedd yr entries eleni yn fwy nag erioed, gan y cyrhaeddai y cyfanrif o 1180, neu 160 yn fwy nag Arddangosfa Rhuthyn yn 1896. Mae cael ysgrifenydd sydd i fyny a'i waith yn haner y gamp, ac y mae arddangosfeydd Mon ac Arfon wedi bod yn hynod ffodus yn eu hysgrifenyddion I —y Mri J. E. Hughes, Bryncuhelyn, Llanerchy- medd, a Mr John Pritchard, Bodhyfryd, Bangor. Y mae'r un sylw hefyd yn gweddu i Mr Hugh Pierce, ysgrifenydd galluog a diymffrost Cym- deitlias Dyffryn Conwy.
[No title]
Mae yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi bod yn siarad ar bynciau amaethyddol, a chyfaddefai os oedd ar ei wrandawyr eisiau "rhywbeth pruddaidd i'w ddarllen yn ystod misoedd yr Hydref a'r gauaf, boed iddynt ddarllen adroddiad y Ddirprwyaeth Freiniol ar Amaethyddiaetli." Yr oedd yr iech- ydwriaeth barhaol, meddai, i'w ganfod yn yni yr amaethwyr eu hunain, pa un ai meddianwyr ynte dalwyr oeddynt, ac os parhaent i godi a magu y stoc oreu yn y byd, a'i gefnogi drwy arddangos- feydd tebyg i'r hon yr oedd yn bresenol ynddi, credai fod ganddynt, os nad gwellhad eofn, y gwellhad goreu at y dirwasgiad. I
[No title]
Sylwodd Syr Matthew Ridley ei fod bob amser wedi pregethu, a pharhai i gredu, nad allant ddis- gwyl gwella amaethyddiaetli yn barhaol drwy wladlywiaeth gwell oedd ganddo ef edrych ar, yr hyn oedd wedi cael ei wneud gan gymdeithasau, drwy weithiad y Cynghorau Sirol, a thrwy y cym- helliadau a fodolent mewn llawer man y dyddiau hyn i ddynion ieuainc a fwriadent fod yn amaeth- wyr i ddysgu y moddion goreu posibl drwy ym- arferiad a chynghor i gyfarfod ag angenrheidiau yr amser presenol."
[No title]
Yr oedd yn marchnad Mark Lane, ddydd Llun, bresenoldeb pur dda, ond mwy o felinyddion a phrynwyr eraill nag o amaethwyr, y rhai sydd yn I bur brysur yn -j meusydd. Gwnaeth gwenith Seisnig newydd, parod i fyned i'r felin cyn diwedd y mis, o 33s i 35s am beth gwyn man, ac o 31s i 33s am y coch. Bu gwerthiant bychan o hen wenith Seisnig yn ol 34s am y gwyn goreu, 36s 6c am y Califfornaidd, a 34s 6c am y coch gauafol, 6c yn ddrutach ax yr wythnos. Yr oedd blawd ycli-1 ydig yn ddrutach. Masnach wael oedd mewn! haidd. Er fod cyflenwadau mwy o geireh, nid oedd dim gostyngiad yn y prisiaiu Yr oedd ind- rawn 3c yn ddrutach am Galatz a'r Americanaidd, tra yr oedd yr Argentinaidd 6c yn ddrutach. Ffa a phys ychydig o du y prynwyr. Ar ddiwedd y farchnad bodolai teimlad cryfach. Rhoddid y blawd uch;ifbris i fyny am 32s, gwyn Llundeinig i 30s, blawd teuluol i 29s, tx Americanaidd da i 28s y sach. Yr oedd Is o godiad ar wenith tramor, gyda 37s am y Califfornaidd goreu, a 35s am y coch gauafol.
Msckydon Cyffredin.
Msckydon Cyffredin. 1.—ANAEMIA. Anaemia ydyw un ai rhy fychan o "rad blood cor- puscles, neu grebachiad o honynt wedi ei ddwyn oddiamgylch gan ddiffyg tebygoliad ymborth, nou ynte cyflwr o annlirefn mewnol dyledus i ryw afiech- yd. Ceir anaemia yn gyffredin yn ystod cyfnod tyfiant. Bydd pobl ieuanc o'r ddau ryw yn dioddef mwy oddi- wrth yr afiechyd hwn nag a wnant wedi cyrhaedd aeddfedrwyuct oeidran, serch ei fod i'w gael weithiau mewn personau oedranus fyddont wedi esgeuluso deddfau iechyd; neu y rhai, oddiwrth natur eu galwedigaothau, ydynt yn cael eu caethiwo mewn gweithdai ac ystafeuoedd cysgu o awyriad diffygiol. Dyna y rheswm y bydd mwy o hono i'w ganfod yn y dinasoedd nag yn y wlad. Ceir anaemia mewn pobl ieuanc a weithiant mewn ffactris, yr rhai a anadlant awyr aliach, a'r rhai a esgeulusant, neu oddiar anwybodaeth nad ydynt yn cytienwi, vr ym- borth a'r ddiod angenrheidiol i adferyd y draul dydd- iol ar yni sy'n ofynol er cynal i fyny lafur yr ymen- ydd neu y dwylaw. Canlyniad naturiol esgeuluso deddfau sylfaenol iechyd ydyw gwelwder eglur-lleihad yn nghrynder a chadernid y cyhyrau, yn nghyda'r teimlad sal a lluddedig sy'n anghyfaddasu y dyn neu'r ddynes i gyflawni eu gorchwyl dyddiol, pa un bynag ai gyda'r llaw ynte'r ymenydd. Nis gellir adgyflenwi y cyfansoddiad a nerth yn lie yr byn a wastreffir yn ddyddiol ond yn unig trwy gymeryd ymborth priodol a chydnaws. Nis gellir ei wneuthur a physigwriaeth. Fe ellir, modd bynag, cyrhaedd hyny gyda Food Bererage perffaith ddymunol, blasus a chnawd-ffurfiol. Y mae Vi-Cocoa Dr. Tibbles yn Food Beverage o'r fath, gan ei fod yn perchen ynddo alluoedd rhyfeddol o faethlawn, crj-fhaol, symbyliadol, na fedd unrhyw Food Beverage arall ei ragorach. Nid physigwr- iaeth mo Vi-Cocoa Dr. Tibbles. Gwna yn syml yr hyn a hawlir iddo wneud, ac mae ei alluoedd cryf- haol yn cael eu cydnabod i raddau na wyddus am ei gyffelyb yn hanes unrhyw ddarpariaeth araJl. Teilyngdod, a theilyngdod yn unig, yw yr hyn a hawliwn i Vi-Cocoa Dr., Tibbies, ac yr ydym yn barod i anfon i unrhyw ddarllenydd a enwo y "Gwalia (gwna post-gerdyn y tro) sample tin danteithiol o Dr. Tib- bies' Vi-Cocoa, yn rhad ac wedi talu ei gludiad. Y mae Vi-Cocoa Dr. Tibbies, fel ffurf cydgrynoedig o faeth a bywydoldeb, yn anmhrisiadwy—ie, mwy na hyny oblegid, i bawb a ddymunant wynebu brwydr bywyd gyda mwy o nerth parhaol i ddal i fyny, mae yn anmhrisiadwy. Gwneir Vi-Cocoa Dr. Tibbles i fyny mewn pecynau 6c, ac mewn tvniau 9c a Is 6c yr un. Maent i'w cael gan yr holl Grocers, Chemists, a Stores, neu oddi- wrth' y Dr. Tibbies' Vi-Cocoa, Ltd., 60, 61, and 62, Bunhill-row, London, E.C.
Methiant y Cnwd Pytatw yn…
Methiant y Cnwd Pytatw yn yr Iwerddoa. Yn ol yr adroddiadau swyddogol yn nghylch y cnwd pytatw yn yr Iwerddon, y mae y clwyf wedi taraw y cnydau mewn llawer o fanau gyda'r traeth ac yn nghanolbarth yr ynys. Y mae rhai lleoedd o gwmpas y trefydd wedi dianc hyd yn hyn ond mewn lleoedd eraill, y mae y cnydau wedi eu llwyr ddyfetha. Yn ol yr hanesion o orllewin yr Iwer- ddon, y mae y rhagolwg yno yn dra anobeithiol. Y mae felly yn arbenig yn Belmullet, a'r ardal- oedd gor-boblog. Derbyniodd un o swyddogion Bwrdd yr Ardal- oedd Gor-boblog yn Nublin lythyr oddiwrth v Tad Hegarty, offeiriad plwyf yn Mayo; a dywed yr offeiriad "Fel y mae pethau yn edrych yn awr, un ai fe fydd cynorthwy cyifreclinol, neu angen cyffredinol, yn Erris cyn yr aiif y flwyddyn heibio". Y mae rhai pytatw yn hynod o fychain, llawer o honynt yn dduon, a rhai yn bwdr." Yn Inniskea, Ileytorodd y clefyd allan, y mae Dr. Jordan, yr hwn a ddanfonwyd i gvnorthwyo yr awdurdodau lleol, wedi cael y clefyd, a chymer- wyd ei le gan Dr. Ensor, yr hwn a ddanfonwyd o Ddublin nos Sadwrn. Hyd y traeth dwyreiniol y mae y pytatw wedi troi allan yn dda; ac felly y maent, hefyd, yn y rhan fwyaf o siroedd y canoibartli. Nid ydyw yr adroddiadau o Limerick a Clare yn foddhaol; fe ddywedir y bydd y cnydau yno yn salach nag y buont ers blvnyddoedd lawer. Y mae yr hin yn parhau yn llaith a phoeth, fel y mae pethau yn hollol yn erbyn cnwd da o brif ymborth nifer fawr iawn o fan dyddynwyr yr Iwerddon. Pe cyfnew- idiai yr hin yn awr fe fyddai peth gobaith ysoroi cryn lawer o ddioddef yn ystod y gauaf yn mysg trigolion gorllewin yr Iwerddon.
Haelioni Syr George Meyrick,…
Haelioni Syr George Meyrick, Bar. Ddydd lau, yn mhentref Llangadwaladr (Bod- organ), rhoddodd y barwnig haelfrydig o Bodor- gan Ha,11 wledd ardderchog i drigolion v plwyf, plant yr ysgol, ac eraill, yn nglyn a Jiwbili ein Grasusaf Frenhines. Oddeutu tri o'r gloch y prydnawn ffurfiwyd yn orymdaith, gyda Seindorf Arian Caergybi (dan arweiniad Mr W. S. Owen) yn blaenori. Cerddasant i lawr y drive ac i ffrynt y palas, lie y derbyniwyd hwy gan Syr George Meyrick,yr Arglwyddes Meyrick, a Master Geo. a Miss MaryMeyrick. Canodd y plant a phawb "Duw gadwo'r Frenliines," yn cael eu dilyn gan y sein- I dorf. Yna gorymdeithiodd y plant, yn cael eu blaenori gan Mr Thomas, yr ysgolfeistr, i bare y ceirw, lie y ceid mabolgampau hyd nes y sein- iodd y gloch giniaw oddeutu pump o'r gloch. Yna aethant i babell fawr, yn un pen o'r hon yr oedd byrddau wedi eu trefnu ar gyfer y plant, y rhai, yn rhifo cant namyn un, a gawsant eu gwala a'u gweddill o fara brith a moeth fwydydd eraill. Yna daeth y gweddill o'r gwahoddedigion, yn rhifo oddeutu 350, y rhai a eisteddasant i gyf- ranogi o wledd fwy sylweddol. Llywyddwyd dros y gwahanol fvrddau gan Syr George Meyrick, yr Arglwyddes Meyrick, Mrs Williams, Trefeilir; Mr T. Prichard, Llwydiarth Esgob y Parch D. Thomas, rheithor Llangadwaladr; Mr D. Wil- liams, Trefri; Mr O. Edwards, Penrhyn Halen Mr Richards, Hen Shop Mr W. Hughes, Plas Bach Mr Samuel Williams, Ty'nllwydyn Miss Campton, Mrs Owen Edwards, Mr Muir, farm bailiff; Mr Gray, prif arddwr ac eraill. Wedi gwneud cyfiawnder a'r arlwy ddanteithiol cynyg- iodd Sir George iechyd da y Frenliines, yr hwn a dderbyniwyd gyda'r brwdfrydedd mwyaf, a'r sein- dorf yn ehwareu yr Ant!)em Genedlaethol. "Dim areithiau" ydoedd. trefn y dydd, ond nis gallai Mr D. Williams, Trefri, ymatal heb gynyg iechyd da Syr George Arglwyddes Meyrick a'r plant. 'Cofiai y dyddiau pan yr esgynodd y Frenliines i'r orsedd, pryd y llywyddodd Mr Fuller Meyrick dros weith^edia.dau cyffelyb i'r rhai presenol yn Aberffraw. Yr oedd ef (y siaradwr) ac eraill wedi cael eu anrhegu r* "badges" ar yr achlysur hwnw, a llawenychai ef wrth weled fod teulu presenol y Meyricks yn dal yn deyrngarol, ac eiddunai idd- ynt hir oes* a llwyddiant" Yna cafodd y rhai fu yn gwasanaethu wrth y byrddau ac yn carfio, yn rhifo 50, eu ciniaw. Aeth y gweddill o'r cwmni i bare y ceirw, lie y cafwyd detholiad campus gan y sein- dorf. Arolygid y gWCltnredIadau yma gan y Mri T. Richards, Hen Shop, ac R. W. Owen, Bont- faen. Cafwyd a:nryw gystadleuaethau mewn gwahanol ddulHau o redeg, etc. Oddeutu saith o'r gloch cafodd pob pen-teulu (yn wragedd a gwragedd gweddwon) eu galw yn mlaen wrth eu henwau, ac anrliegwyd hwy gan yr Arglwyddes Meyrick a "bust" tlws o'r Frenhines, a chafodd yr oil o'r plant "Jubilee mugs" ysblenydd. Ar- wisgwyd ffrynt y palas a'r gerddi yn wych a baneri, lanterni Chineaidd, etc., ac anfonwyd i fyny fireworks ysblenydd yn mrig yr hwyr. Caed arddangosiad mwy o'r rhai hyn oddeutu naw o'r gloch, pa rai a yrid i fyny gan Syr George Meyrick a'r Arglwyddes, yn cael eu cynorthwyo gan y Master Meyrick, Mr T. Prichard, a Mr Muir. I Cyflenwyd y tan gwyllt, etc., gan y Mri Brock, I o'r Palas Grisial. Diweddwyd y gweithrediadau dyddorol gan roddi tair banllef brwdfrydig i'r Frenhines, Syr George Meyrick, a'r Arglwyddes I Meyrick. Gohebydd arall a ysgrifena fel y canlyn :—Yr oedd dydd Iau, y 12fed cyfisol, yn ddiwrnod pwysig yn yr ardal uchod, gan ei fod y dydd ap- wyntiedig gan Syr George Meyrick, Barwnig, i roddi gwledd y Jiwbili i blwyfolion y llanerch brydferth, oherwydd ei absenoldeb o'r wlad hyd ddechreu y mis, ac felly nid oedd vn bosibl ei chynal yn gynt. "Gwell hwyr na hwyrach," medd yr hen ddihareb. Os aeth hi'n hwyr, fe wnawd hyny i fyny drwy ein bod wedi cael gwledd wir- ioneddol. Fe gafodd pob teulu yn y plwyf wa- hoddiad i fyned i Bodorgan, ac ni wrthodwyd neb a ddaeth o'r plwyfi amgylchynol. Yr oedd yr hin yn ddymunol odiaeth y diwrnod hwnw, er ei bod wedi gwlawio y dydd blaenorol, ac hefyd y dydd canlynol, ac am hyny gallwn ddwcyd fod y Nef- oedd wedi ein ffafrio yn hynod ar y dydd hwn. Cyfarfu y plant yn brydlon o dan arolygiaeth yr ysgolfeistr, yn yr Y sgoldy Cenedlaethol, ac oddi- yno cychwynasant gyda'u baneri tlysion tua'r brif fynedfa, lie yr unasant a'r orymdaith, yr hon a flaenorid gan Seindorf Gwirfoddolwyr Caergybi, gan chwareu hen alawon Cymreig, i fyned at hen balas urddasol Bodorgan. Yn ffrynt y palasdy ni a ganfuasom Syr George a Lady Meyrick, y mab a'r ferch, yn nghyda Mr T. Prichard, Mr a Mrs Williams, Trefeilir; y Parch David Thomas, Mrs a Miss Thomas, Rheithordv, etc. Canwyd yno yr Anthem Genedlaethol gan y plant, a phawb yn uno yn galonog yn y cvdgan. Dilynwyd hwynt hefyd gan y seindorf yn chwaethus iawn. Wedi ymdroi ychydig yn y baradwys brydferth, cyfeiriwyd y ychydig yn y baradwys brydferth, cyfeiriwyd y cwmpeini dedwydd i bare y ceirw, lie y cafwyd y j "tug of war," rhedeg am y goreu, etc., nes oedd tua phump o'r gloch, yna gwahoddwyd pawb i'r babell ardderchog i gael ciniaw i ddynion a merched, a the a bara brith i blant. Yr oedd golwg pur ddeniadol ar y byrddau pan aethom i fewn, ond buan y diflanodd llawer o'u cvnwys, ac ar ol gwneuthur perffaith gvfiawnder a hwynt, a tlialu diolch gan y Parch D. Thomas, rheithor y plwyf, dywedodd Syr George, gan ei bod yn Jiw- bili ein Grasusaf Frenhines,, am iddynt roddi tair banllef iddi, a rhoddwyd hwynt nes' diaspedain cwmwd Malltraeth o ben-bwy-gilydd. Yna ài- olchodd Mr D. Williams, Trefri, i Syr George; a'r teulu, mewn araeth wresog, llawn o'r tan Cym- reig, ac yna rhoddwyd banllefau (cheers) i'r cym- wynaswyr hael. Canwyd hefyd yr Anthem Genedlaethol yn frwdfrydig dros ben, ac ar ol hyny ymwahanwyd a chyfeiriwyd ein camrau i bare y ceirw drachefn, lie y treuliwycl y rhan olaf I o'r dydd mewn gwahanol ddifyrion ac ymdrechiad- au a'r buddugol yn cael arian yn wobrau yn nghyda llawer o felusion. Cafodd pob plentyn yn yr ysgol, a llawer eraill hefyd, gwpan hardd a darlun o'r Frenhines arno, a'r gwrigedd fron-ddelw (bust) ddestlus iawn gan Lady Meyrick yn gofeb o'r am- gylchiad dyddorol, ac y mae yn bur debyg nad anghofir mo'r achlysur am amser maith. Wedi iddi dywyllu, fe oleuwyd y ffenestri a'r lantemi Chineaidd nes yr oedd yr olygfa yn "fairy land" wirioneddol. Cafwyd hefyd lawer o dan ddang- osiadau (fireworks) ac awyrenau (balloons), yn cael eu gollwng ymaith nes synu pawb o'r bron. Diamheu fod trigolion Malltraeth a Niwbwrch wedi cael golygfeydd hyfryd iawn. Y mae hen deuhl urddasol Bodorgan wedi bod ar hyd y can- nfoedd yn berffaith deyrngarol a chymwynasgar, ac ni debyg^vn nad ydyw y teulu presenol yn ol mewn dim i'r hen deulu parchus sydd wedi cyr- hnedd adref. Y mae clod mawr a'n diolchgarwch gwresocaf yu deilwiig i :Mis Compton, Mr Pri- chard, y goruchwyliwr rhagorol. lr Gray, a Mr Muir am wneud trefniadau mor hwylus ar gyfer v wledd. Rhaitl eu bod wedi gweithio yn galed i ddwyn hyny oddiamgylch.
£ e.rjni?.ris.J
£ e.rjni?.ris. Ffair N-dd Mercher ac hefyd dydd Iau cyrJialiwyd y ffair uchod yn y Neuadd Drefol, pryd y cafwyd arddangosfa o'r hen ddidl y byddai yr liendadau gynt yn cynal eu ffeiriau mor agos ag oedd yn bosibl dan yr amgylchiadau. Yr oedd y gwa- hanol "stalls" a'r to gwellt, yn nghyd a'r boneddiges- au wedi eu gwisgo yn y "Welsh costume," yn tynu sylw arbenig, yn enwedig felly i'r ymwelwyr lluosog sydd yn aros yn y dref. V prif atdyniad nos Ian oedd y "draw" am farlan hardd, ac yr oedd yn amlwg fod llawer un wedi meddwl ei cliael, ond Miss Agnes Lewis, Bangor, oedd y foneddiges ffodus y tro hwn. Prif symudydd yn ei threfnu oedd y Parch J. Cadvan Davies, yr hwn sydd wedi llafurio yn galed i gael capel newydd a thy i'r achos Weslevaidd er pan y dae-th i'r dref yn weinidog. Deallwn eu bod wedi cael elw da Cloc yr hglw-vs.-D-dd Iau diweddaf dechreuwyd ar y gwaith o addurno y cloc henafol uchod. Fe gofir mai dyma benderfyniad mewn cyfarfod cyhoedd- us o'r tretndalwyr, i gael rhywbeth arhosol i gofio am y flwyddyn nodedig hon, sef y Jiwbili, ac yn wir nid oedd dim arall o'r braidd fwy o angen na'r hen gloc uchod, ac wrth feddwl ei fod yn gymwynaswr cyhoeddus, mor ffyddlawn ers cymaint o flynyddoedd, vr oedd yn haeddu cael "gwyneb glan beth bynag." liefyd mae yma bwyllgor wedi ei ffurfio o ddynion dylanwadol a gweithgar gyda'r amcan o osod ffenestr ddwyreiniol newydd yn eglwys y plwyf, yr hon, ar hyn o bryd, sydd mewn cyflwr gwarthus, os nad yn enbyd, ac wrth feddwl fod y gynulleidfa mor luosog, y mae yr olwg ar yr hen adeilad cyssegredig yn galw yn uchel am iddynt symud yn y mater. Y cadeir- ydd ydyw Mr W. R. Jones,un o'r wardeniaid newydd. Dewis Cynghorwr Trefol.—Yr wythnos ddiweddaf fe lanwyd y sedd wag a achoswyd trwy farwolaeth y CjTnghorwr R. L. Jones trwy "nominatio" Mr Evan Davison, Church-street, a chan nad oedd gwrthwyn- ebydd, ni fu yma etholiad. Rhyfedd i'r boneddwr uchod ymddiswyddo yn yr etholiad mis Tachwedd a chaniatau i gael ei enwi mor fuan. Buasem yn medd- wl mae Mr J. W. Jones, cigydd, oedd yn haeddu yr anrhydedd am ei fod yn ddigon gwrol i sefyll, fel yn yr etholiad diweddaf.—"Trefwr."
Dulas (Penrhoslligwy).
Dulas (Penrhoslligwy). Damwain.—Tua chwech o'r gloch nos Sadwrn di- weddaf darfu i Mr Harry Parry, yr hwn sydd yn trigo yn Mhengraigwen, ac yn mynychu marchnadoedd Llangefni ac Amlwch gyda'i gerbyd ar ddyddiau marchnad, gyfarfod a damwain pan yn dyfod o Amlwch. Syrthiodd o'r cerbyd, ac aeth yr olwyn drosto. Dymchwelodd y cerbyd, a thaflwyd y bobl ar y ffordd, ond ni anafwyd neb. Y mae cydymdeim- lad mawr a Mr Parry a'i deulu, a gobeithio y bydd iddo gael adferiad buan. Y mae damweiniau yn beth- au cyffredin iawn y dyudiau yma.
Advertising
TE PEK £ IL>D MAZAWATTF.E TE PERAIDD MAZAWAITPjE TK PFRAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE YdywTe poblogaidd y d"r.. tlssns a dymunol.
Ceiniwrch (Llangefni). :
Ceiniwrch (Llangefni). Marwolaeth.—Nos Wener, y 6ed cyfisol, bu farw yr hen chwaer adnabyddus Mrs Ann Jones, Pen-y- dre, yn 77 mlwydd oed, yr hon oedd wedi treulio ei hoes yn yr ardal uchod, ac wedi bod yn ffyddlon a chywir gydag achos y Duw byw yn y lie. Bu ei thy yn agored fel ty capel i dderbyn y pregethwyr am lawer iawn o fiynyddoedd. Bu hi hefyd yn gofalu am lanhau yr addoldy am flynyddau lawer, ond yn ddiweddar yr oedclcaetlawed wedi ymaiiyd ynddi, a bu farw yn bur sydyn. Yn ei marwolaeth mae achos crefydd yn y lie wedi cael colled fawr iawn, gan ei bod yn un o rai goreu y lie am gyfranu at yr achos a phob peth a fyddai yn tueddu at lwyddiant yr Efeng- yl. Cyfranodd yn dda at y capel newydd sydd wedi cael ei adeiladu yn yr ardal, ond cafodd ei galw i dderbyn ei thragwyddol deyrnas yr ochr draw cyn i ddydd agoriad y capel gymeryd lie. Ciaddwyd hi ddydd Mawrth, y lOfed, yn Mynwent Trefdraeth gyda'i hanwyl briod a'i hunig ferch. Heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn. pan, yn ddiameu, y bydd yn eyfodi ar ddisglaer wedd ei phriod.—Ym- deithydd.
Llandegfan. j
Llandegfan. Arddangosfa Floclau.-Dydd Sadwrn eynhaliwyd yr ail arddangosfa flodau yma. Yr oedd nifer y cys- tadleuwyr yn llai y flwyddyn hon na'r llynedd, ond yr oedd y pethau yn well eleni. Y beirniaid oeauynt Mr Haward, Haulfre, a Mr Hughes, Gadlys. Enill- wyd y gwobrwyon yn y dosbarth gweithiol gan Mr Robert Hughes, Cyttir Bach Owen Owens, Carreg Felan Hugh Hughes, Bryn Iorwerth Hugh Jones, Bryn Margaret; Mrs Ruth Williams, Cefn Du, etc. Enillwyd y gwobrwyon yn yr ail ddosbarth, sef (ama- teurs} gan Mr Robert Jones, Hendy David Williams, Wern Bach; William Griffith, 'Rallt; David Owen, Wern Isaf; Evan Parry, Tyddyn Bach; a Lewis Edwards, Bryn Hyfryd. Yn nosbarth y boneddig- ion enillwyd y gwobrwyon gan Dr. Bickersteth,Craig- ydon (garddwr Mr T. Davies) Mr G. R. Cox, Min- y-Garth (garddwr Mr D. Davies) Mr R. R. Rath- bone. Glan-y-Menai (garddwr Mr J. Gil". Arddang- oswyd nifer o goed prydferth gan Dr. Bickersteth a Ivlr G. R. Cox. Arddangosodd Dr. Bickersteth ddau sypyn o rawnwin rhagorol, ac hefyd mel. — Glan Menai. j
Llanddona.
Llanddona. Marwolaeth Sydyn. Gofidus genym gofnodi marwolaeth disvfyd Mrs E. Roberts, anwyl briod Mr R. Roberts, Shop, yr hyn a gymerodd le boreu ddydd Mercher, y 4ydd o'r mis hwn. Cymerodd JT angladd le (yr hwn oedd breifat) v dydd Sadwrn canlynol yn mynwent brydferth Llansadwrn. Gwas- anaethwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parch Peter Jones, ac yn yr eglwya gan y Parch E. Evans, yn cael ei gynorthwvo gan y Parch P. Jones. Teimlir colled a chwithdod nid bychan (nid yn unig i'r teulu) ond i lawor ar ol yr ymadawedig. Heddwch i'w llwch.
Llanddeusant
Llanddeusant Pleserdaith.-Dydd Iau diweddaf aeth Ysgol Sab- bothol y Methodistiaid yn .dim i lanymor ger Rhos- colyn i fwynhau eu hunain. Cychwynodd y cer- bydau oddeutu deg o'r gloch yn y boreu, ac yr oedd golwg fawreddog arnynt-yn myned gyda'u banerau amryliw. Cyrliaeddwyd pen y daith oddeutu un o'r gloch, ac yna mwynhawyd gwledd ardderchog o de a bara brith ar y glaswellt, yr hwn a arlwywyd gan wragedd a merched ieuainc yr ysgol, yn cael eu cynorth-wyo gan arolygydd yr ysgol a'r ysgrifenydd, sef Mri Richard Jones, Bryn Elim, a Morris Williams, Bodj*nolwj-n Hir, ac yn eu plith JT oedd y trysoryad, M; Hughes, Chwaen Hen, gyda chyflawnder o arian i dalu v treuliau. Cymerodd riiai o aelodau JT ysgol fantais o'r cyfieusdra i ymdrochi; eraill i sylwi ar olygfeydd arddunol natur o'u hamgylch; ac eraill drachefn i ddatgan cyfrinion eu serch tuagat eu gil- ydd. A pha le mwy manteisiol i galonau ymuno a'u gilydd, ac i dyngu llw o ffyddlondeb y naill i'r llall, na thawelwch ac unigrwydd glanymor? Aeth cwmni o honom i fyny i ben bryn ger y lli, ac yno cyfar- fyddasom ag hen longwr; ac yr oedd yn eglur oddi- wrth ei wisg a'i ymddiddan ei fod wedi gweled llawer o weithredoedd ei Greawdwr yn y moroedd. "Betli yw hwnyna?'"meddem, am wrthddrych nas gwyddem beth vdoedd. "O," meddai yntau, "landmark ydi hwna. Mae y llongwyr yn deall oddiwrth hwny-na pa fath le sydd o'i amgylch." "A beth ydi nacw?" meddem wedyn. "0) lightship," meddai yntau. Bydd y llongau yn myned tu draw iddo, heibio i oleu- dy South Stack, a Phoint y Leinws. "Ac a welwch chwi nacw:" meddai, am hen long oedd yn y pellder wedi myned yn ddrylliau. a rhoddodd ei henw, gyda'r achos o'i drylliad. Difyr, Mr Gol.. yw gwrandaw ar hen forwr yn dweyd am orchestion Dafydd Jones, ac yn arbenig felly pan y byddom yn sefyll ar ei lanau gydag ef. Bendith ar ben yr hen frawd. Mwyn- haodd pawb eu hunain, a chyrhaeddwyd gartref yn ddiogel, a dywedir mai dedwydd a difyr ydoedd breuddwydion deihaid Ysgol Elim pan yn cysgu'r noswaith hono.
Advertising
^VCADBTTRY'S is a perfectly pure Cocoa, without alkali added, like many so-called "pure" cocoas. It has a world-wide reputation as a delicious, strengthening' beverage, and a valuable nutritive food. Cocoa must be pure and unadulterated te ensure the fullest bene- ficial effects. C ADRUBY's is absolutely pure, therefore, the brstCecoa. The Lancet says :1,('ABBUET'S" repre- sents the standard of highest purity at present tamable. iranriri ""U..L — i ( i f A SUMMER DELICACY. ..+.++.+.' There is something deliciously tempting about the bare sugges- tion of fruit puddings and jellies, and with an abundance of fresh I' fruit now in season the busy housewife would do well to bear in mind the excellent qualities of corn flour in combination with I fruit. Corn flour prepared with milk, and used hot, makes a delicious substitute for pie crust as a covering for a stewed fruit pudding, or cold, as a blanc-mange, is an excellent accompani- ment to any kind of stewed fruit. Delicious fruit-jellies can also 0 be made by preparing corn flour with the clear stewed juice of fruit instead of milk. To produce these delicious combinations really good corn flour is essential. Brown & Poison's Corn Flour, especially their" Patent" brand, which is their best quality, is unequalled for this purpose, and although a trifle dearer than ordinary corn flour, the dishes made from it are so superior that the extra outlay is well repaid. Ladies should remember that it takes as much time and trouble, and costs as much for the other ingredients to make a pudding or jelly of poor corn flour as it does to make it of the best. 1 e ————.
llangefrd.
llangefrd. Llwyddknf .Cerddorol.—*Da fydd gan lawer ddealt fod Mr E. Ceini Thomas, o'r dref hon, wedi enill r dystysgrif "AX' ac wedi pasio JT ail radd (stage) am y dystysgrif yn nglyn a "voice training," gydag anrhydedd. Yn yr ail radd am ddiwjdliant y llaS tri yn unig a basiodd, a'r tri hyny yn Gymry. 11 11 Cyfarfod Arbenig o'r Cynghor Dinegig.Cynl&ah- wyd cyfarfod arbenig o'r Cynghor nos Fawrth ir pwrpas o ail-ethol swyddog iechydol. Llywyddwycl gan Mr Richard Williams, yr is-gadeirydd. Cynyg- .7g iodd Dr. J. Lewis Owen eu bod yn ail-ethol y Dr. Williams, Y.H., i'r swydd. Eiliwyd gan Mr Owen Jones, a phasiwyd yn unfrydol.-Daeth y cwestiwn » gael cwpbwrdd i gadw llyfrau a phapjTau y Cynghor gerbron. Cynygiodd Mr W. Barnett eu bod yn anfon at walianol seiri y dref i anfon tenders i mewn. Eil- iwyd gan Mr Richard Jones, a chariwyd y penderfyn- iad.—Bu peth ymdrafodaeth parthed afon Bacsia. Awgrymai Mr Hughes Jones y priodoldeb o ofyn tr Cynghor Sirol wneud pont drosti.—Dj-weuodd y Cad- eirydd fod yr afon yn myned drwy blwyfydd Tregaian a Llanddyfnan.—Mr O. T. Williams* a sylwodd pa. wnai y Cynghor Sirol adeiladu pontydd newyddion; ya unig adgyweirient hen rai.-Tybi,,l Mr "Hughes Jones fod ganddynt hwy allu i wneud y bont.—Syl- wodd Mr J. E. Jones fod pwyllgor wedi ei benodi i barotoi^" sketch o'r bont.—Yr oedd Mr 0. T. Wil- liams o'r farn os gwnaent hwy bont yn unol a chyn- llun y surveyor sirol y byddai raid i'r Cynghor Sirol dalu am ei gwnuucL—Dywedodd Mr Hughes Jones nad oedd amgylch-iadau y plwyf yn caniatau iddynt aaeiladu pont. Tybiai ef y gallent gael haner y gost gan y Cynghor Sirol.—Yr oedd Mr Owen Williams. o'r farm mai doeth fyddai i rvwun weled Mr W. E. Jones, Graig, yn nghylch y peth. Bvddai iddo ef ei ddreifio i'r lie, a gallai Mr Jones eu cynghori Y diwedd fu cvfeirio y mater at v pwyllgor sydd wedi ei benodi eisoes. LLYS YR YNADOX. Cynhaliwyd y Uys hwn ddydd Llun. gerbron Mri Harry Clegg (yn y gadair). 0. H. Foulkes, a Jeffrey Jones. TROSGLWYDDO TRWYDDED. Ar gais Mr W. Thornton Jones trosglwyddwyd trwydded y Liverpool Arms Hotel, Beaumaris, i Mrs Sophia Ann Jones, gweddw v diweddar drwyddedwr. Y MEDDWON. Dirwywyd John Jones, Bridge-street, Llangefni, i 5s a'r costau am fod JTI feddw ac afreolus a \v miaa Jones, Peter-street, Llangefni, i'r un swm a'r costau am drosedd cvffelyb. TORI FFENESTR. Cyhuddwvd dau fachgen or enwau Thomas Ro- berts, Ty Gwyn, Llanddanielfab, a Solomon Jones, Llinas, Penmynydd, gyda thori ffenestr Capel Pea- sarn, Llanhhangel Ese-. fio,, a gwneud difrod gwertfc- 3s.-Dy,wedodd y Cadeirydd fod v Fainc am fod ya. dyner a'r diSynj'ddion y tro hwn, trwy ganiataa iddynt gael eu rhyddhau trwy dalu'r gost (3s). Yr oedd gan yr ynadon y gallu i'w dirwyo i 5p a'r costau, ond hwnw oedd yr achos cyntaf ddaeth o'a blacnau. Ar yr un pryd yr oeddynt i ddeall os gwneid rhj-wbeth cjrfielyb drachefn byddai raid i'r Faiac ddelio ar cyfryw yn llawer tiymach. Hyderent y byddai yn rhybudd i'r difiynyddion i gadw eu dwy- law rhag niweidio eiddo pobl eraill. CYHUDDIAD 0 FYGWTH. Richard Roberts, Hendre Bach, Cerrigceinwen, a, gyhuddodd Jolm Roberts, gwas yn Graiglas. yn yr ua gj*mydogaeth, o fygwth gwneud niwed corphorot iddo, a gofynai am iddo gael ei nrymo drosodd i gadw yr heddwch.—Ymddangosai Mr S. R. Dew (Bangor) dros y diifynydd.-Dywedodd yr Achwya- ydd ddai-fod i'r diifynydd, oddeutu haner nos y 31aia. cyr-fisol, fyned at ei dy a gofynodd iddo ddyfod allan fel y gallai ei ladd. Cododd y tyst o'i wely ac aetk at y ffenestr. Gwnai y diffynydd gryn dwrf gan dyngu, rhegi, a bygwth ei ladd. Bu twrw rhyng- ddynt ar ol y llys diweddaf. fis yn ol. Yr oedd ar y tyst ei ofn, oblegid dywedai y diffjmydd ei fod ya fiiwr o'i ladd. Yr oedd y diffynydd ychydig mewn diod.—Croes-holwyd Yn y liys diweddaf cafodd. rhyw bedwar o honynt eu rhwymo drosodd i gadw yr heddwch. Ni ddywedodd ef wrth frawd-yn-nghyf- raith y diffynydd y gwnai i John Roberts dalu 5p cyn glan gauaf.—Attegwyd ei dystiolaeth gan Ann. Roberts (ei wraig), a John Jones, 'Rorsedd.—Dadl- euai Mr Dew fod yr achwynydd wedi gosod ei hun allan o'r llys trwy ddweyd nad oedd arno ofn yr achwynydd.—Dj'wedodd y Biffynydd ei fod ef & Hugh Jones, ar y noson grybwylledig. yn Llangefni. Gadawsant y dref oddeutu deg o'r gloch. Cerddodd Hugh Jones gydag ef gan belled a Mona. Ni aros- odd jm jmyl ty yr achwjmydd. Dj-wedodd cymy- doges i Richard Roberts ei bod am ymidael, a dy- wedodd yntau ei bod yn gwneud yn bur ddoeth, oher- wydd ni byddai iddi bjrth gael heddwch gan y "strag- glers." Ni arosodd o gwbl gyferbyn a thy yr act- wynydd.-Wedi cael tystiolaeth attegol gan Hugh Jones, Ty'ncoed, ac Owen J Dries, dywedodd y Cadeir- ydd nad oedd y Faine wedi cael ei boddloni fod y diffynydd yn debvg o wneud unrhyw niwed i'r ach- wynydd, a djmaunent i'r ddau ddeall os deuent i'r llys drachefn y byddai i'r ddau gael eu hanfon i garchar.
Uanfihangel T B.
Uanfihangel T B. Yn ddiweddar bu'r hen dad John Parry. Cae Fabli o'r plwj-f uchod, farw yn 85ain mlwydd oed. Ciadd- wyd ef yn Mynwent. Llanfihangal, pryd y gwasaa- aethwyd gan y Parchn. R. Hughes, Ty Mawr; R. Williams, Gosen J. Owen. Pare J. Roberts,Taber- nacl a Mr John Roberts, Marian Glas. Daeth tyrfaw fawrÏw hebrwng i dy ei hir gartref.
Trefor.
Trefor. Ysgol Sabbothol y Wesleyaid.—Djrdd Llun, y 9fed cyfisol, cafodd yr ysgol uchod dret o de a bara brith pryd y cyfra-nogodd tua chant neu ragor o bobl ft phlant o'r danteithion, a chafodd y plant oil, fawr & man, ail wledd o felusion. Diolchir i Mrs Williamg, Tre Riffri; Mr Hughes, Bont; Mrs Jones, Star; Mrs Jones, Unicorn Mrs Hughes. Ty Canol; Mrs Owens, Trefor a'r Misses Margaret Thomas, Emma Edwards, ac E. Hughes, Cae Wian. am eu gwasan- aeth wrth y byrddau, ac i Mr G. Jones am ofalu cadw Morgan yn boeth a llawer o wasanaeth nas gellir en henwi. Dymunir hefyd ddiolch yn gynes i Mr Ro- berts, Treferwj-dd, am wasanaeth y ty a'r bvrddan, ac hefyd i Miss Owen, Newry-street, Caergybi, am ei rhoddion gwerthfawr at ddodrefniad y capel, yn nghyd a rhoddion a gwasanacth yr oil o'r cyfeillion yi nglyn a'r gwelliant,au yn ffrynt y capel. Yr oedd yma ddarlith gan y Parch W. Evans (Monwysolt). ar ei daith i'r America i fod yr un noson, ond yn ofidus liuddlw,id y darlithyda enwog gan afiechyd (o'r hw. eiddunwn iddo iidferiad buan a nwyr), ac y mae y ddarlith yn sefyll yn ohiriedig. Rhoddir hysbysrwydd llawn yn yr ardal pryd y bydd.-Cyfaill.
Y Penodiadau "Wesleyaidd.
Y Penodiadau "Wesleyaidd. Yn ein rhifyn diweddaf cyhoeddasom restr • benodiadau v gweinidogion Wesleyaidd yn Nhal- aeth Gogledd Cymru. Yr wythnos hon. eto wele restr o'r penodiadau yn Nhalaeth Deheudir Cvmru John Evans, cadeirydd. Thomas Manuel, ysgrifenydd. Merthyr—Hugh Owen Hughes a Griffith O. Roberts (Treharris). Cenhadaeth y Deheudir-John Evans (b) (Pont- ypridd), Emanuel Roberts, a John Rees, uwch- rif. Tredegar—John E. Roberts a John Lloyd. (Rhjrmni). Aberdar—Rice Owen, T. Manuel (Mountaia Ash), a Thomas Rowlands (Hirwaen). Treorci—John Morris Owen, John Jones (g) (Penvgraig), a David Roberts (Tonvpandy). Fcmdale-Alfred C. Pearce a Robert Emrys Jones (Porth). Cilfynydd-J. Rowlands (b), yr hwn a newidia. ar ddau Sul yn mhob chwarter gyda gweinidogioa Cylchdaith Aberdar. Brynmawr—Peter tJones Willisun T. (Ebbw Yale), a Thomas Morgan, uwchrif. Cr.,i-,rdydd-T. J. Pritchard a W. Hugh Pritck- ard (Barry Dock). Llandeilo—Jacob Pritchard. Abertawe—J. Roberts (c), Llewelyn A. Jane* (Ystalyfera), D. Corris Davies (Mynachlog Nedd), H. Parry, ac H. Pritchard, uwchrifiaid. Llanelli-Thomas Jones (c), yr hwn a newidia ar ddau Sul yn mhob chwarter gyda gweinidog Cylchdaith Llandeilo, ac a weithreda dan gyfar- wj-ddyd Cadeirydd y Dalaeth. Llanbedr-Robert Roberts a James Eirianfryn Jones (Llandyssul). Aberneron-Richard W. Jones, yr hwn newidia ar ddau Sul yn mhob chwarter gyda gweinidogion Cylchdaith Llanbedr. Ty Ddewi—Robert Hughes, yr hwn a weithreda- « dan gyfarwyddyd Cadeirydd y Dalaeth. Aberystwyth-J. Humphreys, J. Rowlands (Tre'rddol), a William Morgan (a) uwcainf. I. Ystumtuen-John D. Jones a Thomas H. Wil- Tiams (Pontrii-vdygroes). Machynlleth—D. Morgan ac E. Isaac (Corris). Lianidloes-D. Darley Davies a David Williams ) (Trefeglwys).
Advertising
TE PERAIDD MAZAWATTEF. TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD MAZAWATTEE TE PERAIDD "MAZAWATTEE Yw y T6 mwyaf d&nttitbiel y byd.