Skip to main content
Hide Articles List

22 articles on this Page

Advertising

[No title]

Advertising

Nodion AmaethyddolT&cT

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

_----Byw rihan o Dair Caurif.

--.---------'Sgrepan Samuel…

News
Cite
Share

'Sgrepan Samuel Sam. RHIANGERDD LERPWL. Deallaf fod' pwyllgor Lerpwl wedi anfon at, Dyfed i ofyn iddo ddjychwelyd v wobr anfonwyd iddoj yn enw "D. Price,' ac y hyny yn eithaf teg a rbesymol. Pe buasai yn dewis cysfiadlu heb i neb wy-bod, paham, tybed, yr anfonodd ei gyfansodd- iad i fewn yn ei lawysgrif ei hun? Tybed nad oedd y beirniaid yn adnabod y llawysgrif? Y mae vn sicr eu bod. Nid oes dadl yn meddwl neb, feallai, na wobrwywyd y cyfansoddiad goreu; ond y mae gweled Dyfed ao eraill yn ceisio chwerthin y twyll ymaith yn ormod. Yr oedd yr amodau vn bedant yn gofyn fod enw priodol y budduigwr yn lla.w yr ysgrifenydd, neu ei fod) yn cael ei gynrychioli. Fe wyr pawb nad enw priodol Dyfed ydyw "D. Price." Y mae efe ei hun wedi ysgrifenu il geisio esbonio yr helynt, ond y mae yn amlwg ei fod wedi ei gynhyrfu i waelodion ei enaid. Y mae y brawddegau a ddefn- yddia yn gosod argraff felly ar feddwl pawb ddar- Uenodid ei ysgnf. Ga,llai dyn fedJawl nad ydyw yn gofalu am neb, a'i fod yn barod i ymladd a'i holl wrthwynebwyr. Yn araf, frawd. 'Buasai yn ilawer mwy anrhydeddus i un o'i safle ef i gydiiabod; el fod wedi gwneud yr hyn na ddylai, na, dod allan i geisio eyfiawnhan ei hun. Y mae y llythyrau sydd eisoes wedi ymddangos ar yr lielynt yn profi fod ami i beth cyffeiyb wedi 'digwydcl o'r blaen. Dywedodd baxdd-bregeth-,vr wrthyf yr wythnos hon fod beirniad wedi gwobrwyo ei hun mewn eistedd- fod amser yn ol! Os oes pethau fel hyn yn digwydd fe ddylai Cadfan gael clod cenedl am godi ychydig ar y Hen. Yr oeddwn yn siarad yn ddiweddar gyda. dau o feirniaid cerddorol, ac yr nedd y ddau yn dtweyd eu bod wedi cael ew cymhell i roddi gwobr lberson neillduol cyn iddynt ei glywed yn canu. Dywedwyd wrthyf fod ysgrifenydd rllyw gyfarfod Henyddiol yn anfon at un o'r beirniaid yn gofyn am gyfarwyddiadau ar y darn yr oedd yn bwriadu cystadlu arno. Yn awr, os ydyw hyn yn cymeryd lie, y mae yn bryd i rhywun geisio'puro yr awyr, ac y mae pob lie i gredu y ceir eglur ddatguddiad ar lawer o ddigwyddiadau eisteddfo^ol cyn y ceir "Yr olaf ar yr helynt" yn Lerpwl. 1 CYFARFODYDD LLENYDDOL. Oynhaliwyd amryw o'r rhai hyn yn ddiweddar, a chlywais fod! Maer eich dinag chwi, yr Hena,dur H. Lewis, wedi gwneud sylwadau amserol iawn yn ,un o honynt. Dywedai fod goranod o lawer o ganu yn y cyfarfodydd, ac fod hyny yn magu nifer j o gantorion sydd yn meddwl ond ychydig am ddim ond myned o gyfarfod i gyfarfod i gystadlu, Onid ydyw hyn yn wirionedd? Yr un rhai geir byth ac yn dragywydd yn cystadlu yn y mwyafrif o'r cyfar- fodydd, o ganlyniad, y niae pob beirniad cerddorol yn eu hadnabod, a gobaith gwan sydd i neb dyeithr na newydd i oanturio i'r niaoes cystadleuol. Y mae y rhai sydd yn dilyn y cyfarfodydd wedi clywed yr un caneuon laweroedd o weithiau, ac er hyny fe gewch weled v cantorion hyn yn gwneud cymaint o helynt yn nghylch cael copi a phe buasent heb weled y gan erioed o'r blaen. Clywais hefyd fod y Maer yn cymhell rhoddi gwobrwyon mwy teilwng ar lenyddiueth. Rhoddir yn fynych 109 6c neu 21s am ganu can, pryd na roddir ond 5s neu 6a am draethawd neu ateb gofyniadau sj*dd yn golygu llawer o lafur; o ganlyiuad yenydig ydyw nifer y rhai sydd yn llafurio gyda'r petha.u hyn. Yn y dyddiau presenol axacan penaf pob pwyllgor ydyw cael cyfarfodydd pöblogaidd, a gwneud elw arianol, ao y maent yn deall mai cannsycid yn d!enu,'r lluaws. Yn gyffredin ni oddefir i feirniad ar y traethodau ond yn unig hysbysu enw y buddugol, pryd: y goddefir ac y disgwylir i'r beimi-,td cerddorol fanylu llawer ar y; cystadleuwyr, ac y mae gwrando ar ambell un yn boenus iawn ar lawer adeg, gan fod eu hiaith mor brin. Cyn. hyn yr wyf wedi clywed rhywbeth yn debyg i hyn Pan oedd nifer fawr yn cystadiu dyma fel y dywedai y beirniad, "Gyda golwg ar y cyntaf," etc. yna, "gyda golwg ar yr ail;" "gyda golwg ar y trydydd," etc. Dechreuai ei sylwadau arnynt oil gyda'r geiriau "gyda golwg." "Ar v cyfan" ydyw .geiriau llanw eraill. Yn ben ar bob brawddeg ceir "Ar y cyfan," "llais da ar y cj-fan," dadganiad gweddol ar y cyfan," "geiriad' a braw- ddeigiad' da ar y cyfan," "ac ar y cyfan yr oedd hwn raawn gweU ysbryd ar y cyfa.n na'i gydymgeis- wyr," "er fod1 hon yn gystadleuaeth dda ar y cyfan yr ydwyf yn credu fod rhif y 4ydd ar y cyfan yn rhagori ar y lIeill, ac iddo ef yr wyf yn dyfarnu y wobr." .Dichon nad oes neb o'r blaen wedi galw sylw y dosbarth hwn at hyn. Pa fodd bynag, hyderaf y cymerant yr awgrym yn garedig. Yr wyf wedi clywed ac wedi gweled yn eich papyr fod rhai yn tybio eu bod wedi cael cam tua'r NUdolig. Olywais fod rhai yn Brynsiencyn yn cwyno, ac eraill yn Llanerchyrnedd. Cymerwch galon, gyfeillion, y mae genycli nifer dda i gyd- ymdeimlo a chwi, gan fod y rhai sydd yn colli yn ddieithriad yn1 dweyd eu bod wedi cael cam. I AOHOS Y PARCH W. O. JONES. Dyma yr hyn sydd yn desfcyn siarad cyftredinol y dyddiau hyn. "Dreyfus Metliodistaidd," oedd yr enw glywais arno y dydd o'r blaen. Y mte un peth yn amheus i bawb sydd wedi darllen ei lythyrau, sef a ydyw wedi cael prawf teg ar ei achos. Y mae lie i ofni y gall yr achos beri cyffro mawr yn yr enwad. Cafodd Mr Jones gyfarfod brwdfrydig ia-wll yn Mhwllheli yr wythnos ddiweddaf, ac y mae yn cynal cyfarfod yn Ffestiniog yr wythnos hon. Rhoddir derbyniad calonog iddo gan y bobl. Y mae amryw o leoedd wedi pasio penderfyniad- au ar yr helynt. Gofynai eraill: "Ydach chi'n meddwl y buasai dynion o safle y rhai oedd ar y pwyllgor yn penderfynu dia.rddel y dyn onibai fod ganddynt resymau digonol dros Hyny. Y mae yn rhaid fod gauddy-nt brawfion di-^mwad dros ei euog- rwydd, onide ni fuasent byth yn anturio dinystrio amgylchiadau y dyn." "Wei," meddai'r Hall, "os oes ganddynt, paham na wnaent hyny yn hysbys i'r wkd? Maent yn dweyd, eu bod yn rhy warthus; wel, os ydynt felly, gan ei fod ef ei hunan yn eU) herio i'w dwyn i'r amlwg, fe ddylent wneud ar j unwaith, bydded y canlyniadau y peth b'ont." Yn y ey-farfod yn Mhwllheli y mae Mr Jonea wedi gwneud yn hysbyg na fydd iddo gymeiy*d cwrs cyfreithiol yn erbyn neb o'i gyhuddwyr; gan hyny, dylent adael i'r wlad wybod y cwbl, a goreu po gyntaf i'r enwad i hyny gael ei wneud. DECHREU'R GANRIF. Digwyddais godi y liinellau canlynol a.r v ffordd yn agos i Borthaethwy«. Nid oedd enw yr awdwr wrthynt; dichon y gwel' hwyllt, ac y daw yn mlaoeu; i'w harddel "Ar ddechreu'r grif newydd F ddylem oil i gvd I wneud yr hyn a allam I geisio gwella'r tbyd Ei wella oddiwrth bechodau Sy'n Uygru dynoiryw, Ond i ni wneud ein goreu Ni gawn 'bob help gan Dduw. A gawn ni oil i gofio, Os heddyw'n. iach a lion, Fod bedd i bawb o honom 0 fewn y ganrif hon? Ymdreehwn o blaid rhinwedd Nes delo'n dyddiau i ben, A choron gawn gan Iesu Mewn byd tu draw i'r lien." Os yr <anfona yr awdwr ei enW| i mi bydd yn bleser genyf ei gyhoeddi; y mae naws grefyddol arnynt, os nad. oes baxddoniaeth ynddynt, ac mae yn ddiau y bydd i'r brophwydolfaeth sydd ynddynt gael ei chyflawni yn hanes bob un a'i darlleno,— "Fod bedd i ibawb o honom 0 fewn y goarif hon." Na fydded i neb o honom anghofio hyn. SAMUEL SAM. O. Y.-Pwyl, anfona. i mi ychydig am yr hyn sydd yn cael ei wneud1 yn y Dwyran gyda chofgolofn Ap Ffarmwr?

"----...----__-_._---------__--_-CANLYNIAD…

[No title]

RiHjOSYBOL.

---AMLWCH.

I-.------------. j LLONGDDRYLLIAD…

. OOFGOLOFN AP FFARMWR.

1 DINYSTR SO-LO-PWN.

[No title]

j Y Dadforion

EGLWYS BIWMARES A'R GWASANAETH…