Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ghys Dafydd Sy'n Deyd-

GoresSyn Cape Colony. -I

ABERFFRAW.

AMLWOH.

BANGOR. ;

BODEDFA-N.

CAERGYBI.,

CAERNARFON.

CEMAES

News
Cite
Share

CEMAES Magio Lantern." — Nos Fercher arddangoswyd darluniau ysblenydd yn y Village Hall o Ryfel y Transvaal gan y cyfeillion rhadlon, Mr O. R. Morris, "photographer," a Mr Jones. Y mae ganddynt lusern gref iawn, ac yr oedd y darluniau lliwiedig yn cael eu dangos trwyddi yn nodedig o fyw a naturiol. Oawsom wibdaith ragorol trwy faes y rhyfel, ai daethom oil adref heb i neb gael ei glwyfo nac i'r un anffawd ddigwydd. Teg hysbysu fod y darluniau hyn yn hollol newydd. Ni wel- wyd hwynt yn flaenorol yn ein gwl. Bwriada em cyfeillion ymweled a'r oil o'n hynys, a theilyngant y croesaw goreu, gan fod ganddynt wledd dda ar gyfer pawb.—Un Oedd Yno. Swper.—Nos Nadolig arlwyodd Cor Glan Wygyr swper ardderchog i dros dri ugain o wahoadedigion yn ystafell y cor. Darparwyd y wledd yn y modd goreu gan Miss Hughes, Ty Lawr, a Miss C. Owen, Minydon. Gwasanaethasant hefyd wrth y byrddau. Nid yn ami y ceir gwledd a chymaint o amrywiaeth ynddi. Wedi'r swper, cafwyd math o gyngherdd doniol gan y gwahoddedigion. Adroddwyd gan Mr John Owen, a chafwyd unawdau gan Miss J. U. Williams, Miss Price, Craigydon, a Mr Owen Wil- liams, Lerpwl, yr hwn sydd yn meddu llais cyfoethog. Cafwyd gwasanaeth gwerthfawr Mr W. Jones (Glan Wygyr). Chwareuwyd darnau chwaethus atf y felodeg gan Mr George A. Roberts, Victoria House. Diolcha aelodau y cor i Miss Jones, Fair View, am roddi benthyg yr offeryn, ac am ei ch iredigrwydd bob amBer i bobl ieuainc y lie. Addurnv. yd yr ystafell gan Mri R. Roberts, paent- iwr, a William Hughes, Penrhyn, ac arolygwyd pobpeth yn yr ystafell gan Mr Thomas Williams, cigydd. Ysgrifenydd a thrysorydd y cor ydyw Mri Henry Hughes ac R. Owen, ac mae'r ddau yn llenwi eu swyddau yn gampus. Eiddunwn i'r oor bob llwyddiant, ac admygwn eu parodrwydd bob amser i wasanaethu. CynhaJiwyd cylchwy1 fawreddogv Bedyddwyr nos dydd Nadolig, yn y Village Hall Yr'oedd y neuadd wedi ed haddurno yn ardderchog gan Mr Roberts, ac yn glod mawr iawn iddo. Ar y muriau, 0 gwmpas y llwyfan, yr oedd y geiriau: "UweII dysg na golud," "Goreu arf, arf dysg," "Y budd a ladd y lludded," "Mona gu yw man y gerdd," "Mor o gan yw C^mru i gyd," "Diogela dwy galon, araul hedd yn yr wyl hon," ac amryw eraill. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr W. Hughes Jones, Bryn Gwyn, yr hwn a roddodd araeth gamnus, a rhodd deilwng at y gylchwyl. Arweiniwyd gan Rhydfab. Wele restr o'r buddugwyr :—Y ilJThyr goreu: Mr H. Thomas, Penlon. Unawd, "Dyfod atat Ti:" Miss Jane Hughes, High-street. Goreu ar y "money-box:" Mr John Parry, Hafodol, Rhos- goch. Adrodd, "Y gath a'r llygoden:" 1, Miss M. E. Jones, Shop Newydd 2, Miss M. A. Jones, High-street. Unrhyw unawd (i fab neu ferch) 1. Mr Owen Williams, Lerpwl, yn ardderchog. Oaiodd ganmoliaeth uwchaf y beirniad. Goreu ar y sampler ydoeddMiss Williams,High-st.,Porthaethwy. Englyn, "Pwdin:" Parch J. Talwrn Jones. Ysgrif ar y ''Pier:" 1, Mr H. Thomas, Penlon. Seinfforch 1, Mr W. Jones (Glan Wygyr). Can ddesgrifiadol, "y Orydd" (allan o saith o ymgeiswyr) Mr R Hughes, Groes. Ymgeisiodd dau o gorau: plant ar y don "Coron i'r ieuanc," sef "Cemaes Juvenile Choir," a Parti Seion. Y goreu, gyda chanmoliaeth uwchaf y beirniad, ydoedd y "Cemaes Juvenile," dan arweiniad Mr George Roberts, Victoria House. Adroddiad, Ffoadur" (allan o saith o ymgeis- wyr) Mr W. J. Owen, Shop y Bont; adroddodd yn ardderchog. Yr oedd hon yn un o'r cystadleu- aethau goreu gawsom yn Nghemaes. Rhan wyd y wobr yn; y gystadleuaeth ar y don "Bozrah" rhwng Parti Glan Wygyr a Pharti Seion. Dadganwyd yn y cyfarfod gan Miss Mabel Rees, Caergybi, yn swynol iawn a Miss Nellie Hughes, Amlwch, er boddhad a difyrwch mawr i'r dorf. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Mis Davies, Bryn Mor, a Miss C. Hole, Amlwch. Chwareuwyd y crwth gan "Pad- rig Mon, yn dda iawn. Yn absenoldeb Mr Llew Jones, oherwydd gwaelead, cafwyd gwasanaeth y cerddor adnabyddus, Mr W. S. Owen (Gwilym Cybi), a gwnaeth ei waith yn gampus. Y beirniaid oeddynt:—Alawfardd a Rhydfab ar y barddoni aeth llenvddiaeth, Parchn. T. Pritchard, M.A., O. Parry, J. 8. Evans, ac R. W. Davies; celfyddydwaitn. Mrs Davies (Bryn Mor), Mrs Helsby Pritchard (Wygyr Factory), Mr Owen (Rhosbeirio), a Mr R. Morris (Cemaes). DycliweJodd Mr O. WiHiams wobr yr unawd yn ol, a Mr Hughes, Y Groes. wobr y gan ddesgrifiadol i'w rhanu rhwng plant oedd yn adrodd. Da iawn yn wir; dyma. geifnogi llafur y rhai bychain. Edrychir ynmLaen yn flynyddol at yr wyl fawreddog hon. Kolchwyd i bawb gan Mr Owen Owen, Shop y Bont, yn ddoniol iawn. Cafwyd cynulliad ardderchog. Llwvddiant i'r wyl. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr S. Thomas, a llanwodd ei swydd yn wir deilwng.—X.Y.Z. Cyfarfod Ymadawol y Parch R. W. Davies. A.T.S., Cemaes a Llanfechell.—Fel y gwyr lJuaws darllenwyr y "Clorianydd" derbyniodd ac atebodd Mr Davies yn gadarnhaol alwad a gafodd gan eg- lwys barchuB Calfaria, Pontardulais. Nos lau, Rhagfyr 27ain, cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo ef a'i briod hawddgar yn Cemaes, pryd y daeth cynulliad da yn nghyd i ddvmuno ei lwyddiant yn ei faes newydd:. Etholwyd yn Dywydd y Parch E E. Jones, Rhosybol, a galwodd ar yr ysgrifenydd i ddechreu trwy ddarllen a gweddio. Yna cafwyd gair gan y llywydd. Dywedai fod cyfarfodydd o'r natur yma yn peri iddo deimlo ei hun yn myned yn hen, gan ei fod wedi gweled holl weinidogion y sir wedi ymadaw, a hyny y naill do ar ol y Hall. Ni theimlai yn fwy gofidug i ollwng neb ymaith na Mr Davies. Cafodd ef, wedi pedair blynedd o ad- nabyddiaeth, yn frawd cywir a chyfaill calon. Edmygai yn fawr ei yspryd siriol. ei amcanion pur, a'i weithgarweh difefl. Rhoddodd y llywydd, mewn ychydig sylwadau arweiniol, gyweirnod hapus a chymedrol i'r cyfarfod. Yn nesaf galwodd ar y brawd hoff, Mr S. Thomas, i ddarllen llythymu yn esgusodi am absenoldeb ac yn dymuno yn dda i Mr a Mrs Davies. Ni ddarllenodd ond un, a hwnw oddiwrth y Parch T. Pritchard, offeiriad y plwyf. Gofidiai y igwr parchedig golli cymdeithas Mr Daviffi ar amryw ystyriaethau. Pwysleisiai ar y ffaith mai efe ydoedd ysgrifenydd y Bwrdd Ysgol, yr hwn waith a srvflawnodd yn hynod ddeheuig. Cafodd ef bleidiwr aiddgar dros addvsg, ao yn gydweithiwr tangnefeddus yn mhob •gwaith dA Nodai hefyd fod Mr Davies yn gymydog rhagorol. Er nad yn gweled lygad yn. llygad ag ef bob amser. eto yr oedd yn gwbl argyhoeddedig ei fod yn ddyn cydwybodol. Dymunai o galon ei lwyddiant yn ei faes newydd. Cafwyd gair wedi hyny gan y Parch J. S. Evans (A.). Rhoddodd Mr Evans fynegiad, nid yn unig i deindadau ei eglwys, ond hefyd i'r holl ardalwyr. Sylwai gvdaj phriodol- deb fod cyfarfod ccdeinio Mr Daviee m llawer lluosocach na'i gyfarfod vmadawtol, a'r unig esbon- iad boddhaol ailai ef roddi ydoedd fod y ditf yn hollol wrthwynebol iddo ei gadael; Yr oedd yn well gan y bobl fed mwyafrif gadw draw na dvfod i roddi cynorthwy i Safrddvn fyned ymaith. Liefarai hyny yn uchel am Mr Daves: fel dyn. Crist-ion a phregethwr. Dyivedai Mr Evans na chafodd yn ci nes bura.ch cvmeriad na pharotach cydweithiwr. j Temih).) yn anmharoi i dori y cvfeillgarwch, ond gan mai myned a fynai, dymunai fendith gvfoethog Duw arno ef a'i briod. Y Parch D. Hopkin. Llan-, erchymedd, a fyn^godd ei syniada.u uchel am Mr1 D tvies fel cydefiydydd. Yr oedd vn un o'r "senicr I students" pan dderbj-n'wyd ef. Coleddai v SVIl- ;111 rwchaf am dr..v>o yi» ader hono, a bvth" odcljar hyny ni bi raid iddo newid ef fam, end yn hytrach ei chuc Mnvhau. we h dyfod o hono i weinidogaethu j yn yr un gymanfa. Nawdd v Net fvddo drosto in awr dacthpwvd at brif waith y cyfarfod. sef cj-flwyno antrchiad goreurcdig i Mr a "Mrs Da-vies! gan v ddwy eglwys a chyfeillion erail1. Darllenwyd a chyflwynwyd hi gan y brawd Mr S. Thomas, yi hwn hefyd fu a rhan helaeth yn ei chyfansoddiad. Nodai yr anerchiad ragoriaethau cymeriad Mr Davies fel dinesydd, cymydog, Cristion, bug ail, a phregethwr. Nodai hefyd werth gwasanaeth Mrs Davies yn chwareu yr offeryn yn y cysegr, a'r rhan flaenllaw a.gymerai yn mhob mudia.d daionus. Cydnabyddodd Mr Davies drosto ei hun a Mrs Davies yn doddedig-ddiolchgar yr eglwysi a'r cy- feillion eraill am yr arwydd werthfawr hon 0'0 hedmygedd a'u hoffder o hono. ,sicrhai hwynt mai gwaith anha.wdd iddo ydoedd ymadael, ei fod yn gwaedu ei galon i adael maes cyntaf ei weinddog- aeth mai nid arian oedd yn ef gymhe-ll i fyned, ond yr ystyriaeth ei fod yn eangu cylch ei ddefnydd- ioldeb. Dygai dystiolaeth uchel i'r eglwysi a'r ar- daloedd, ac hyderai na byddent yn Mr cyn galw gweinidog etc. Cafwyd gair yn nesaf gan y brawd Owen Owen, is-gadeirydd Cymanfa Mon, i ddatgan teimlad eglwys Cemaes. Dywedai fod Mr Davies wedi myned yn ddwfn i serch yr eglwys yn bur fuan, ac fod y serch hwnw yn ""wreiddio'n ddyfnach, ddyfnach. Sylwai fod Mr Davies yn ddyn o chwaeth bur a dyrchafedig, ei bregethau yn goeth a gorphenedig, gan amcanu yn uniongyrch- ol at achub eneidiau, adeiladu y saint, a gogoneddu Duw. Buasai yn well ganddo ef roddi anerchiad iddo am aros ac nid am fyned.. Yr addfwyn Isaac Roberts a'r duwiolfrydig i'. Hughes oeddynt vn cynrychioli eglwys Calfaria; y ddau frawd yn ond- us fod y cysylltiad anwyl yn eael ei dori mor fuan, ond yn ymgysuro eu bod wedi cael y fraint o fagu ac rfogi dyn da a duwiol i gylch eangach. Sylwai T. Hughes gyda theimlad at ddyfodiad Mr Davies i'r cylch fel yr "hogyn Corwen" yma, ei fod yr adeg hono yn un Ilygad-graff, a bod y gallu hwnw, fel pob gallu arall. ar gynydd yn Mr Davies. Isaac Roberts a edmygai benderfyniad Mr Davies. Ar yr amod eu bod hwy fel eglwys yn y Garregfawr yn eydymdrechu ag ef, i godi capel newydd mewn lie mwy cyfleus) y derbyniodd eu gal wad Coronwyd eu llafur, a llwyddasant y tu- hwnt i'w disgwyliadau. Gweithiodd Mr Davies mewn amser ac allan o amser i godi'r capel, a thalu ei ddyled, fel nad oes ond 40p yn ddyled arno. Dyna ffaith brofa tuhwnt i amheuaeth ei weithgarweh a'i benderfyniad di-ildio, ac a erys yn gof- golofn o'i ddiwydrwydd am oesau a ddel. Y Parch 0. Parry (M.C.) a hoffai yspryd eangfrydig Mr Davies; yr oedd yn ffyddlon i'w enwad a'i argy- hoeddiad. Er hyny cydnabyddai fod daioni mewn enwadau eraill. Yr oedd yn ddyn digon rhydd i edrych a chynorthwyo rhai o'r tu arall i glawdd ei enwada-etli- Edmygai ef oberwydd ei gywirdeb a'r ffyddlondeb i'w enwad, hyny yw, arwydd o fawredd yspryd a gras. Cynghorai Mr Parry yr 1 eglwysi i beidio gadael llwydni difaterweh wvwo eu hyspryd unol, ymdrechgar a gweddigar, iddynt ofaJu galw mor fuan ag sydd modd ddyn ieuanc o nodweddau rhagorol Mr Davies. Y Parch J. Tywi Jones, A.T.S., Llanfair M.E., a bwysleisiai ax y ffaith fod Mr Davies yn myned yn well-well, fel y byddai rhwymau cyfeillgarwch yn tvnhau; 6.r- wyddai hyny fod ynddo ddur a dynoliaeth iach, gref, a phur. Daeth .i gysylltiad gyntaf ag ef yn Aberdar, y ddau a'u bryd a: y weinidogaeth. Fod ei syniad yn uchel am dano yr adeg hono, ond yn uwch o lawer erbyn heddyw, ar ol gyrfa athrofaol yr un pryd, a blynyddoedd o lafur yn yr un sir. Adwaenai Mrs Davies yn dda biyny<Jd€>ed<l, »■ dyga.i y dystiolaeth uwchaf i'w chymeriad a'i gwas- anaethgarweh gyda'r achos. Y Parch E. Davie?;, Belan, a ddywedai fod lluaws o gyd-ddigwvddiad- aii hapus yn cyfarfod yn mywyd! Mr Davies ac yntau. Yr oeddynt yn ddau Davies, yn ddau bre- bethwr o'r un gymanfa. Dechreuasant yr un diwrnod yn yr Ysgol Ragbarotoawl, eistecldasant ochr yn ochr, derbyniasant freintiau yr un athrofa yr un a.dttg, cychwynasant eu einidogaetb. yn yr un gymanfa, ac yn olaf, ond nid y lleiaf, priodasant yn mae. cyntaf eu llafur. Cawsai bob mantais i'w aduabod yn drylwyr. Gwyddai ei fod yn gynllun- ydd, medrus, a gaJlai weithio allan ei gynlluniau yn lhryddianus. Nodai ei weithgarwch fel aelod o'r gymanfa efe ydoedd yggrifenydd y gymanfa gerdd- orol. Pob peth yr ymaflai ei law ynddo troai yn llwyddiant. Yr oedd ei adnabod yn hawlio lddo: gad ei garu a'i anrhydeddu. Gofidiai fod y gyfres cyd-ddigwyddiadau yn cael ei Dyinunad o galon- "Duw yn rhwydd, llwydd a lies, A chvnydd fo'i wych. hanes." Terf\-nwva trwv weddi gan y llywvdd.—E. Davies, Belan. &

GAERWEN. !

GWALCHMAI.

LLANDEGFAN.j

% 1 I . LLANDRYGARN.

|LLAN DY FRY DOG.

LLANDDEUSANT._

LLANDDONA.

LLANTEITdAN.