Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ghys Dafydd Sy'n Deyd-

GoresSyn Cape Colony. -I

ABERFFRAW.

News
Cite
Share

ABERFFRAW. Yma<iawiad.—Mae y Parch Hugh Pugh, gweini- dog yr eglwys Fethodistaidd yn y lie, wedi amlygu ei fwriad i roddi ei swydd fugeiliol i fyny, gan ei fod wedi derbyn yr alwad roddwyd iddo gan eglwys Heidiaii, ger Dinbych. Bwriada symud yno ddechreu y flwyddyn newydd. Deallwn mai ystad ei iechyd sydd yn peri iddo dori ei gysylltiad a'r lie hwn. Eiddunwn iddo bob llwyddiant ac hapus- rwydd yn, ei faes newydd. Amaethyddiaeth. Gwnaedi caiis gan y Cynghor Plwyf at Goleg y Gogledd, Bangor, am gyfres o cMarlithiau ar faterion sydd yn dwyn cysylltiad ag amaethyddiaeth, a thraddodwyd y gyntaf o'r gyfres vn Ysgol y Bwrdd, Aberffraw, nos Lun, Rhagfyr 24ain, gan Mr Wm. Edwards. Y cadeirydd ydoedd Mr J. R. Jones, Y.H., Bodfeirig, yr hwn a eglurodd amcan y darlithiau hyn. Mater yr ymdriniwyd arno y waith hon ydoedd "Gwrtedthi&u, a'r modd i'w ddefnyddio," ac eglurodd y da.tlithydd yn fanwl y modd y gwneir i iyny y gwahanol "wrteithiau celfyddydol," a'r pwysigrwydd ar fod i'r amaethwj-r ofalu eu bod yn cael gwerth eu harian pan yn prynu "guano." Yr ysgrifenydd lleol yn nglyn a'r dar- lithiau hyn ydyw Mr R. D. Owen, Penrhyn Isaf. Cyfarfod Amrywia.ethol.-Nos Fercher y Nadolig .cynhaliodd y Methodistiaid Calfinaidd gyfarfod am- rywiaethol mewn canu, darllen, etc. Y llywydd ydoedd y Parch Hugh Pugh, gweinidog. Yn ystod y cyfarfod cafwyd caneuon gan Llinos Ffraw, Gwilym Ffraw, a'r Mri J. H. Thomas, John LI. Edwards, ac Owen Owens. Cafwyd cyfarfod hynod ddyddcrol, OQd mae yn debyg mai y peth y cymer- wyd fwyaf o ddyddordeb ynddo ydoedd y gystadleu- aeth ganu gafwyd rhwng y tri pharti, arweinyddion pa rai oedd dan wyth oed. Gwasanaethwyd fel bedrniaid gan Mr Parry, ysgolfeistr Owen Hughes, Penlon; John Peters, a J. H. Thomas, tra y dilyn- wyd yr holl gantorion ar y felodeg gan Mr Henry Hughes, Square. Mae Mr Owen Hughes (Llew Ffraw) yn haeddu y ganmoliaeth uwchaf am y llafur a gymer gyd:t'r plant, ac yn sicr mae yn deilwng o bob eefnioga/eth.—J.

AMLWOH.

BANGOR. ;

BODEDFA-N.

CAERGYBI.,

CAERNARFON.

CEMAES

GAERWEN. !

GWALCHMAI.

LLANDEGFAN.j

% 1 I . LLANDRYGARN.

|LLAN DY FRY DOG.

LLANDDEUSANT._

LLANDDONA.

LLANTEITdAN.