Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.

Nodion Amaethyddol, &e.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Masnach Yd yr Wythnos.

Cymdeitbas Amaethyddol Sir…

! • j DIsgybl-Athrawon Addysg…

-__---Cyd-Bwyllgor Heddgeidwadol…

News
Cite
Share

Cyd-Bwyllgor Heddgeidwadol Hon. CADEIRYDD Y BRJAWDLYS CHWARTEROL A'R KEDDGEEDWAID. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o Gyd-Bwyllgor Heddgeidwadol Mon, yn y Neuadd Sirol, Llan- gefni, ddydd Iau, o dan lywyddiaeth Mr Lewis Hughes, Y.H., i yatyriod: ad(-i-oddiad, is-bwyllgor o berthynas i sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Brawdlys Chwarterol (Syr Richard Williams Bulkeley, Bar.), gyda golwg ar y modd yr oedd yr Heddgeidwad Hugh Williams, Pentraeth, wedi rhoddi ei dystiolaeth mewn achos o apel drwyddedol glywyd yn y Brawdlys Chwarterol diweddaf yn Beaumaris, a rhybuddio yr hedd- geidwaid yn gyffredinol yn nghyloh y modd y rhoddent eu tystiolaethau. Yr oedd aaroddiact- yr is-bwyllgor fel y oaa- lyn:- Y maey pwyllgor a benodwyd i ystyried syl- wadau Oadeirydd y Brawdlys Chwarterol, gyda golwg ar heddgeidwadd y sir, 30 ymddygiad yr Heddgeidwad Hugh Williams a'r dystiolaeth a roddodd yn y Brawdlys diweddaf mewn apel drwyddedol, fel y canlyn —1. Ar ol ystyriaeth fanwl o'r eyhuddiad cyffredinol yu erbyn yr heddgeddwaid, fod y pwyllgor yn ystyried fod y cyhuddiad mor ben-agored, fel ag yr oedd yn anmhosibl, heb ffeithiau sylweddol a phendant, myned i fewn i gwyn o'r fath, a gofidient fod y sylwadau wedi eu gwneud yn gyhoeddus. 2. Fod y pwyllgor, gyda golwg ar y cyhuddiad yn eilbyn yr Heddgeidwad H. Williams, wedi myned yn ofalus i fewn i'r achos, ac wedi oymeryd tyst- iolaethau, ac yr oedd ganddynt i adrodd eu bod wedi eu boddhau nad oedd yr Heddgeidwad Wil- liams wedi gosod ei hunan yn agored i'r cyhudd- iad o anudoniaeth nac athrod, gan fod ei dystiol- aeth yn cael ei chadarnhau o flaen y pwyllgor, a rhyddhaent ef oddiwrth bob bai, ond yr oeddynt wedi gorchymyn iddo fod yn fwy gofalus yn y dyfodol i gadw cofnodion mewn llyfr. Yr oedd y pwyllgor yn unfrydol yn eu hadroddiad. Oynygiodd y Milwriad! T. E. J. Lloyd, Y.H. gi (cadeirydd y pwyllgor), fod yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu. Darllcnwvd llythyr oddiwrth Syr Richard Williama Bulke-ley )at y Prif-Gwnstabl, yn dweyd nad oedd ef wedi bwriadu i'w sylwadau fod fel cyhuddiad yn erbyn yr heddgeidwaid yn gyffredinol, ond yn unig gyda golwg ar yr Hedd- geidwad H. Williams. Pe buas-ai ganddo gy- huddiad cyffredinol buasai wedi anfon at y Prif- Gwnstabl yn bersonol. Mr Harry Clegg, Y.H., a eiliodd fod yr ad- roddiad yn cael ed fabwysiadu, a dywedodd ei fod wedi hyslbysu Syr Richard o'u cyfarfod er rhoddi mantais iddo fod yn bresenol os dewisai. Gyda golwg ar y cyhuddiad cyffredinol, nid oedd gan- ddynt ond dibynu ar yr adroddiad newyddiadur- ol o'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd. Cadben F. Mansel Morgan, Y.H., 'a sylwodd fod tystiolaethau y-chwanegol wedi eu dwyn o flaen y pwyllgor, rhagor yr hyn oedd o flaen y Brawdlys, a buasai ef yn dymuno i hyny gael ei nodi yn yr adroddiad, sef nad oedd gan Gad- eirydd y Brawdlys yr un tystiolaethau ag oedd ganddynt hwy, pan y gwnaeth y sylwadau. Mr J. R. Davies, Y.H., a ystyriai ei fod yn dra dymunol rhoddi hyny yn yr adroddiad1, gan nad oedd ganddynt unrhyw fwriad o feio y cad- eirydd am ei sylwadau. Yr unig dystiolaeth o flaen y Brawdlys ydoedd eiddo, yr heddgeidwad. Mr J. Rice Roberts a amheuai a oedd cyhudd- iad wedi ei wneud yn erbyn yr heddgeidwaid yn gyffredinol. Ystyriai ef maiawgrymiad yn unig ydoedd ar i'r heddgeidwaid fod yn fwy gofalus. Yr oedd gan y pwyllgor dyRtiolietli ychwanegol i'r hyn oedd gan Gadeirydd y Brawdlya o'i flaen, ac nid oedd ef yn sicr a oedd yn iawn i'r pwyll- gor fyned i ystyried pethau allanol. Fe ym- ddaagosai iddo ef mai yr hyn ddylasai y pwyll- gor wnud ydoedd edrych a oedd yn deg i'r cad- eirydd wneud y sylwadau ar y tystiolaethau oedd o'i flaen ef ar y pryd, ond yr oedd y pwyllgor wedi gwneud yjnehwiliad; i dystiolaeth.au nad oeddynt o flaen y Brawdlys. Y Milwriad Lloyd a atebodd mai yr hyn oedd gan y pwyllgor i'w wneud ydoedd. edrych i fewn i'r cyhuddiadau yn erbyn yr heddgeiclwaicl yn gyfi- redinol, ao nid pasio barn ar y cadeirydd. Mewn atebiad i Mr A. McKillop, Y.H., dar- lleiiodd y Prif-Gwnstabl adrroddiad newyddiadur- ol o sylwadau Oadeirydd y Brawdlys. Dr. John Roberts, Y.H., a ofidiai oherwydd yr amgylchiadau a achosodd i'r cadeirydd wneud y sylwadau, ae yr oedd ef wedi gobeithio yn fawr v buasai v cadeirydd yn bresenol. Yr oeddynt oil yn gwybod fod Syr Richard yn ddyn anrhyd- eddus, a dia/mheu y buasa.i yn ddrwg ganddo i sylwadau brysiog o'i eiddo fod o niwed i unrhyw swyddog. Yr oedd yn ymddangos fod Syr Richard wedi seilio ei sylwadau ar y ffaith nad oedd tyetdolaeth yr heddgeidwad yn cael ei gadarnhau. Yr oedd y rhai ag oedd ganddynt i ymwneud a gweinyddiad cyflawnder yn y wlad yn gwybod fod yn anhawdd iawn i'r heddgeid- waid yn fynych gael tystiolaeth gadarnhaol, ac yn ami ceid un yn euog ar dystiolaeth un swydd- og yn mug. Yr oedd yn dda gandd-o ef ddeall fod y tystion ag oedd wedi bod o flaen y pwyll- gor wedi cael eu gwysio i'r Brawdlys, ond nad oeddynt yn bresenol. y Mr A. McKillop, Y.H., a ategodd y sylwadau uchod, a sylwodd nad oedd ganddynt unrhyw fwriad o feio y cadeirydd. Yr unig beth oedd ganddynt hwy i'w wneud oedd ystyried pa un a oedd y swyddog yn euog o'r cyhuddiad ai peid- io. Cadben Morgan a ddadleuai dros ychwanegu at yr adroddiaJi fod y pwyllgor wedi cymeryd tystiolaeth ychwanegol. Oynygiodd Mr J. R. Davies, Y.H., ao eiliodd Mr Rice Roberts, benderfyniad i'r perwyl liw itvl Dywedodd Mj- A. MeKillop, Y.H., na buasai o unrhyw lea i'r pwyllgor fyned i ystyried yr un tystiolaethau ag oedd yn y Brawdlys. Edryohai yn beth plentynaidd iddynt fyned i hysbysu eu bod wedi cymeryd tystiolaethau ychwanegol, yr hyn oedd yn amlwg i bawb. Mr J. Rice Roberts a ddywedodd fod yn rhaid iddo ef addef ei fod yn blentyn, ynte—{chwerth- iny-ac yr oedd yn ddigon plentynaidcl i ofyn am i hyny gael ei ychwanegu at yr adroddiad. Sylwodd Mr Samuel Hughes, Y.H., mai nid gwneud yirchwfliad yr oeddynt i ymddygiad y cadeirydd o gwbl. Mabwysiadwyd yr adroddiad fel y cynygid ef ar y dechreu, ao yna pasiwyd penderfyniad fod y cyd-bwyllgor yn dymuno gosod arbenigrwydd ar y ffaith fod gan y pwyllgor y fantais o dystiol- aeth ychwanegol yn oadarnhau eiddo yr hedd- geidwad.

[No title]

Llythvrau at y Golygydd. -

PREGETHU YR EFENGYL.

PREGETHU YR EFENGYL.,

[No title]