Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Advertising
J YN COMPTON HOUSE, LLANGEFNI, Ceir rhagoroi nwyddau rhad, brethya, a ^wlaneni, Goreu welwyd mewn un wlad; Am ddefnyddiau gwerth eu gwisgo, Ha a chryfion, cynhes, clyd, Cofiwch alw'n fuan yno— Cewch far gem ion gwych i gyd. BYDD i bawb, ferwy brmu yn y Masnachdy D achod, enill iddynt eu hunain CHWECH SWLLT YN MHOB PUNT. Mynych y gofynir gan Bobl Mon a lleoedd erail pa fodd mae JONES, COMPTON HOUSE, yn gwerthu Nwyddau Cymreig gymaint yn rhatach na phawb eraill? Y mae i'r gofyniad hwn fwy nag un atebiad. Yn gyntaf, maent yn Grefftwyr o'r radd flaenaf. Yn ail, mae ganddynt y "machinery" goreu a mwyaf diweddar. Yn drydydd, maent yn alluog, trwy eu medr, i wneud bron gymaint arall o waith trwv y "machinery" nag un "factory trwy Gymry. Felly, maent yn gallu gwerthu gwell defnyddiau, am eu pris, nag yn un man arall. Os bydd unrhyw un yn amhau hyn, mae croesaw iddynt ddyfod a gweled. Engr: LSt o'r prisiau :—Brethynaa. bob Lliw, o 2s i fyny; Defnyddiau Dresses Hardd, bob lliw, un lied, o Is 2c i fyny; dau led, o Is 6c i fyny Gwian- eni Gwynion, o 8!c, etc. eto, rhai Rheaog at Grys- au, o 9c, etc. Defnyddiau Tronsis, o Is 2c i Is 5c Shawls,, o 4s i fyny; Fflaneni Bach, o 2s i 2s 6c; Crysau Hardd, o 3s 5c Tronsis Parod, o 2s 6c, etc. Edafedd Hosanau Goreu am 4c y chwarter Hosanan Da a. Lluniaidd, o 6c y par. Gwneir siwtiau i fesur ar fyr rybudd. Bydd un o'r JONES'S yn y Marcbnadoedd fel y canlyn :— Bangor, bob Dydd GWENER Caergybi, ar y dydd- iau oanlynol: Ionawr 21ain: Chwefror 4ydd a'r 18fed; Mawrth 4ydd a'r 18fed; Amlwch, Iomawr 28ain; Chwefror lleg a'r 25ain; Mawrth lleg a'r 25ain. D.S.—Cvmerir Gwlan yn syfnewid am Nwyddau, a Throedir HOSANAU a'r Edafedd Goreu am o 5c i 9c. Gwahoddir pawb yn gynhea i ddyfod yno i weled a barnu drostynt eu hunain. Cofiwch y cyfeiriad- SHOP Y FACTORY, OOMPTON HOUSE, \LANGEFM. PRIZE MEDAL ARTIFICIAL TEETH. THE Teeth Used are the Best Make, Perfect in JL Shape, Size, and Colour; and so lifelike that they cannot be distinguished from Natural Teeth. Prices —For a Single Tooth, 2s. 6d to 10s; an Upper or Lower Set, 21s to 10 guineas (according to quality of the Teeth and Setting). Payments received by instalments if desired. Attendance at Llangefni every THURSDAY at 1, Glandwr-terrace, Church-street; Holyhead, every SATURDAY. J. JONES, RDS.E, 6c.. SURGEON DENTIST, From County Road, Liverpool 824 Dymuna MARY ANN JONES, o Hen Sefydliad OWEN JONES, Cabinet Maker, Etc., CHURCH-STREET, LLANGEFNI, Hysbysu ei Chwsmeriaid foci ganddi bob math o DDODREFN CARTREF, o Wneuthuriad Campus. GWERTHLR pob nwydd am bris rhesymol Ctedwir Ownithwyr Profiadol at bob math o waith, a rhoddir sylw manwl a buaa i bob "order." 009 V OS OES ARNOCH EISIAU CYLLILL, Chaff Cutters, Pulpers, Slicers, &C«, &c., Nis gellwch wneud yn well na galw yn Shop y Foundry, LLANGEFNI. 534 ATLAS ASSURANCE CO. FIRE I LIE'jjJ ESTABLISHED 1«08. Head Office :-92. Cheapside, London. Capital Subscribed Total Assets 31/12/97 £ 1,200,000. | £ 2,287,029 be Company has paid in claims upwards of £13,000,000 STERLING. AGENTS AT -Bangor .Mr W. PUGHE, National Provinula Bank of England Ltd B«aumaris.. rJ. G. DA VIES do Bethesda. W. R. LLOYD do Conway MrOWEN ROWLAND do Holyhead ..1 .WILLIAMS do Llangefni. Mr JOHN JONES do Llandudno Mr J. ADEY WELLS do Menai Bridge..MrJ. GRIFFITH JENKINB do Denbigh.? Mr R. E. HUGHES do do Messrs PARRY JONES and FRANCIS, Solicitors. Uw.vdiarth Esgob ) Mr THOS. PRICHARD, Solicitor. and Llanerchymedd j Llangefni Mr T. NICHOLLS JONES. NAIlner. Cemaes.Mr O. Ll HUGHES. LIVIBPOOL BRANCH.—9, Tithebarn-Street. J. WILBERFORCE MARSDEN, Manager. NI OFYNIR TALI A DAU YN MLAEN LLAW. BENTEfYCA ARIAN YN GYFRINACHOL i 'Amaethwyr, Masru»cbwyr, Lletty-gadwyr, ac eraill mewn symiau fyny i 500p ar addaweb y Benthyciwr ei hun ar delerau is nag a godir yn arferol. Trefnir yr ad-daliad i gyfarfod gofynion y Benthycwyr. NI CHYMERIR DIM BILLS OF SALE. Mae busnes gwirioneddol a helaeth wedi ei am y 27 mlynedd diweddaf. Mae canoedd o fenthyc- wyt wedi rhoddi tystiolaeth Wirfoddol i'r modd teg a rhesymol yr ymwneir a hwy. Ceir manylion llawn wrth ymofyn, trwy lythyr neu yn beraonol, < GEORGE PAYNE, Accountant, 1811 Crescent-road, Rhyl Ymrysonfa Aredig TN PARTS FARM, AMLWCH (Mr T. P. Williamson), Ddydd lawrth, Chwefror 21ain, 1899. GWOBRAU FEL Y CANLYN: — Dosbarth Cyntaf Gwobr laf, 4p 4s, gydag eraill i ddilyn. Agored i Champions yn unig. Dosbarth 2il: Gwobr laf, 3p 3s, gydag eraill i ddilyn. Agored i'r rhai na enillasant wobr gyntaf o'r blaen, ac yn cynwvs y wobr am WedcL Maint y Gwys, chwech o led. Caniateir un i helpu am y chwe' Cwys cyntaf. Entrance, 2s 6c, i fod yn llaw yr ysgrifenydd erbyn dydd SADWRN, Chwefror 18fed. Gweddoedd i fod ar y Maes erbyn 8.30 &m- ar y 21ain. I ddechreu am 9 o'r gloch. Y cwbl i orphen erbyn 4 o'r gloch y prydnawn. Am ychwaneg o fanylion ymofyner 9g 0. T. HOBDAY (Hon. Secretary), Mona House, Amlwch. CYFARFOD CYSTADLEUOL TABERNACL (A.), CAERGYBI. NOS FAWRTH, MAWRTH 28ain, 1899. TESTYNAU AGORED I'R BYD. 1-Unawd Soprano, "Y cartref dedwydd fry" 1 (Bryan Warhurst). 2-Unawd Contralto, "Bwthyn yr amddifad" (J. Henry). 3-Unawd Tenor, "0 na byddai'n haf o hyd" (W. Davies). I 4-Unawd Baritone, "Cymru fy ngwlad" (D. Pugh Evans). Rhoddir Gwobrau am yr uchod o dlysau arian a chanol aur. 5-Unawd Baritone, YBachgen ffarweliodd a'i wlad" (cyfyngedig i rai heb enill o'r blaen). Gwobr tlws arian. 6-Unrhyw Ddeuawd. Gwobr tlysau arian a chanol aur. 7—I'r Cor o blant, heb fod dros 25 mewn nifer gyda phedwar mewn oed i gynorthwyo, a gano oreu "Gosteg For." Gwobr lp, a thlws arian i'r arwein- ydd. 8—I barti o ddeuddeg a gano oreu "Dies lrae" o'r "Caniedydd," geiriau rhif 889. Gwobr lSs, a thlws arian i'r arweinydd. 9-Adroddia,d, "Mr Moody, y Fam a'r Plentyn" (o'r "Adroddwr"). Gwobr tlws arian a chanol aur.- Beirmad Cerddorol: Mr John Williams (organydd, Caernarfon). Beirniaid yr AdToddiad: Parch J. W. WiUiams, Maesteg; Gwilym Cybi, a Gwenerydd. Enwau yr Ymgeiswyr i fod mewn Haw MAWTTTH 14eg, 1899. WILLIAM LEWIS, 15, Williams-street, EVAN DAVIES, Porthyrafon, (Ysgrifenyddion). RETURN VISIT TO WALES. Mr Fred. E. Young Can accept Engagements in ANGLESEY for his well-known ENTERTAINMENT— ANIMATED PHOTOS (New Pictures), SLEIGHT-OF-HAND, SHADOWGRAPHY, Etc., from FEBRUARY 11th Onwards. FOR Terms and Dates, apply— 14, Portdown-road, Maida Vale, 825 London, N.W. LLANRHYDDLAD. Cynhelir YMRYSONFEYDD AREDIG yn y lie uchod ar DDYDD GWENER, CHWEFROR 17eg, 1899, Mewn maes perthynoi i Cadben Robert Thomas, Bryn Glas. I RHODDIR Gwobrwyon anrhydeddus mewn tri o Ddosbarthdadau. Enwau yr Ymgeiswyr, yn nghyd a'r Entrance Fee (2a 6c), i fod yn Haw yr Y sgriftmydd ar neu cyn CHWEFROR 15fed. Gweler y manylion ar yr Hysbysleni, neu ymofyner a'r Ys- grifenydd.-Willia.m Hughes, Ty Mydwal, Uan- rtryddia,d, The Valley, R.S.O. SALE. Bydd MR HUGH OWEN yn ARWERTHU yn Yard Bull Holbel, Llangefni, CHWEFROR 9fed, am DRI o'r gloch, DOGCART a. Set o HARNESS Da. 813 AR WERTH, PNEUMATIC BICYCLE mewn cyflwr ardderchog. Dim gwaeth na newydd. Lamp, pwmp, a phobpeth yn gyflawn.—Ymofyner a J. A. Williams, Glandwr-terrace, Llangefni. ö26 R^ERTH.—DOGd^TTTSero HARNESS Cryf, hardid!, mewn cyflwr rhagoroi, am bris isel.-Ymofyner, "Jones," Hafodymyn, Llanerohy- j medd. 811 C OLLWYD, DAEARGI (Black and Tan); cyn- ffon gwta. Gwobrwyir am hysbysrwydid i "Police-constable" Bodedern. Cospir pwy bynag a'i oadwo ar ol yr hysbysiad yma. RAPERY.-WANTF,D, a Respectable YOUTH as an APPRENTICE to the General Drapery. Also several Young GIRLS as APPRENTICES to the Dress-making and Millinery.—Apply to Hughes Jones and Co., Golden Eagle Establishment, Llan- gafoi- 827 DALEER SYLW? DYMUNA E. HUGHES. 4, Pen'rallt-terraoe, Llangefni, HYSBYSU ei fod yn rhoddi COVERS NEWYDD ar bob math o Umbrellas ar y rhybudd byraf. Prisiau, o 1/111, 2/11, Vll, etc. Hefyd y mae E. Hughes yn Agent i P. and P. Camp- bell, Dye Works, Perth. Anfonir Goods yn Wyth- nosol i gael eu flifo. —^
-----Marwolaeth Cymry yn yr…
Marwolaeth Cymry yn yr America. TIIOMAS.-loiia,wr 7, 1899, wedi byr gystudd, yr ben fam anwyl Sarah Thomas, yn nhy ei merch, Sarah Williams, 95th Street, South Chicago, Ill., yn 83ain mlwydd' oed. Dioddefodd ei chystuda di- weddai yn hynod o dawel a dirwgnaoh, gan ddisgwyl cael ei gollwng i'r orphwysfa fry. Uanwyd Mrs Thomas EbriU, 1816, ar ffenn Ty Croes, Llangoed Uchaf, Sir Fon, G. C., o'r hwn le y symudodd yn Iled ieuanc gyda'i thaid1 a'i nain i Tai Hirion, Pentraeth, Mon. Yn 1872 ymfudodd o Fon i Utica, N. Y., lie y bu yn aros am tuag wyth mlynedd, nes y symudodd yn 1880 i South Chicago, lie yr ydoedd ei merch, Jessie Hughes a'i phriod, wedi dod yn flaenorol; ac yn vr hwn le y treuliodd Mrs Thomas weddill ei blynyddoedd. Daeth i'r lie hwn pan ydoedd fawr amgen na chors noethlwm- dim ond ychydig o dai oddeutu y cylcli lie y saif melinau mawrion yr Illinois Steel Co., a gwelodd y lie yn tyfu o ddim bron i'r maintioli presenol. Bu yn hynod o ddiwyd ac ymdrechgar, a llwyddodd i gael cartref cysurus iddi ei hun yn ei hen ddyddiau. Yn wir yr ydoedd yn ddiarebol am ei diwydrwydd, ei gonestnvydd a'i gerwiredd. a chydnabyddid hi fel y cyfryw gan bawb a'i hadwaenai; hefyd yr ydoedd yn nodedig o ddiabsen—"ei helynt ei hun," tel y dywedai yn fynych. yn ddisron ganddi. Bu iddi ddeg o blant, wyth o'r rhai sydd yn fyw—dau yn yr Hen; Wlad,sef Edward Thomas ac Elizabeth Hughes un yn Ninas y "Drych," sef Mrs Jemima Jones un mab, William Thomas, vn Granville, N. Y. merch, Mrs Margaret Jones, yn Emooria, Kansas, yr hon ddaeth i'r angladd; a thair merch yn byw ar yr un heol ag yr arferai hi breswylio, sef Mrs Ellen Griffiths, Jessie Hughes, a Sarah Williams, gyda'r hon yr arhosai Mrs Thomas ers tro. Cafodd y fraint hefyd o weled Uu mawr o wyrion, ac nid ychydig o orwyrion, fel yr ydoedd wedi ei gwneud yn genedl gref. Dydd Mawrth, Ionawr 10, ymgasgl- odd tyrfa fawr o gymydogion, cydnabod a pherthyn- asau o bell ac agos i'w hangladd. Gweinyddwyd yn y ty ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd, yn unol ai chais ers amser bellach, a theiinlad pawb ydoedd y bydd y cylch yn llawer iawn ilymach ar ol ei cholli. Yr oedd (Tair Duw yn llyfr anwyl a gwerth- fawr iawn ganddi, a gwnelai ddefnydd beunyddiol o hono er ei cliynaliaeth ysbrydol. Blaenwycl hi gan ddau o'i phlant, scf y diweddar John W. Thomas, Granville, N. Y., a Catherine Williams, Llanddaniel, Mon. Bydded DllW yn nodded ac arweinydd i'r gweddill.—W. H. Jones. Y DIWEDDAR. HUGH T. JONES, FAIRCHILD. —Rt-msen, Ii.niaw 9, ar y 4ydd cynfisol. yn ei gar- tref yn Fairchtld. tua thair milldir o'r lie hwn. bu farw Hugh T. Jones', yn yr oedran o 71ain mlwydd. Ganwyd ef yn y Wern, gcr Mynydd Paris, Sir Fon, G. C., ac ymfudodd i'r America gydai'i rieni pan yn bump oed, gan ymsefydlu yn agos i Bardwell, plwyf Remsen. Buont hefyd yn byw yn mhlwyf Ava. ac yn agos i Prospect. Yn Ionawr, 1855. ymunodd mewn priodas a Miss Rachel Evans, merch ir di- weddar Griffith Evans, Brvn Gloch: yna aeth i Columbus, Wis. Ar ei ddychweliad aeth i fyw i Lowville, Lewis Co., lie y bu yn ainaethu; ond treuliodd y rlian fwyaf o'i oes yn nghyffiniau PenY- graig a. Remsen. Parhaodd ei undeb priodasoi am 44ain o flynyddoedd. Ganwyd iddynt 11 o blant, naw o'r rhai sj'dd yn fyw, sef Griffith a John E. Jones, St. Louis, Mo. Tlicmas E., Utica.. N. Y. Charles. Evan ac Edward, o'r lie hwn Mrs 0. E. Evans, Rome Mrs Robert D. Griffith, Camroden, a Mrs W. D. Budlong. Cychwyniad ei anhwyldeb oe.dd anwyd caled, yr hwn a drodd yn pneumonia yn cael ei ddilyn gan yr eisglwyf. Dioddefodd gystudd trwra am bedwar diwrnod ac er pob ymdrech o eiddo y teulu gof;diis trodd ei afiechyd yn angeuoL Ymunodd a chrefydd yn foreu, a bu yn aelod fiydd- Ion a dilychwin gyda'r T. C. yn Enlli. Dydcl Sadwrn, y 7fed cynfisol, ymgasglodd tyrfa Iuosog i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd v rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Mynwent Fairchild,y Parchn. E. G. Williams ac E. C. Evans. M.A., yn gwein- weddillion i orwedd yn Mynwent Fairchild,y Parchn. E. G. Williams ac E. C. Evans. M.A., yn gwein- vddu. Canwyd "Some Sweet Day," "Asleep in Jesus," etc., gan gor yr M.E. Gwo.sanaethwyd fel arch-gludwyr gan David H. Jones, David B. Wil- Hams, Thomas R. Davies, Owen J. Hughes, William J. Jones, a Lewis N. Jones, Prospect. Heblaw gwraig. a naw o blant i alaru ar ei ol gadawodd un j brawd, William T. Jones, o'r lie hwn.—J.—O'r "Drych,"
Achos Ehydonen, ger Ehuthyn.
Achos Ehydonen, ger Ehuthyn. HAWL 0 DAN GYFRAITH DALIAI) TIR AMAETHYDDOL. Yn Llys yr Apel, dydd LInn, yr hwn oedd yn cael ei wneud i fyny o'r Arglwyddi Farnwyr A. L. Smith, Chitty, a Collins, daeth achos o cyf— lafareddiad rhwng Lloyd a Tooth ger bron. Apel ydoedd hwn o eiddo Mrs Elizabeth Jane lioyd, diweddar denant fferm Rhydonen, ger Rhuthyn sir Ddinbych, oddiwrth archeb a roddwyd gan y Barnwr Cliannell i'r atebydd, perchenog y fferm, i roddi dyfarniad mewn achos o gyflafareddiad yn yr un modd a dyfarniad yn yr Uchel Lys, ac yr oedd yn codi cwestiwn pwysig o dan Gyfraith Daliad Tiroedd Amiethyddol 1883. Ymddangosai Mr Lawson Walton, Q.O., A.S., a Mr S. Evans, A.S., dros yr apelydd; a Mr C. Russell, A.S., a Mr S. T. Edwards dros yr atb- vdd. J Ar farwolaeth ei hewythr, yr hwn oedd wedi bod yn dal fferm Rhydonen am lawer o flyn- yddoedd, daeth Mrs Lloyd, yr apelydd, yn den- ant y fferm, ac yr oedd adran yn y brydlee i'r perwyl fod pob cwestiynau a godai rhwng y tir- feddianwr a'r tenant mewn perthynas i amodaa y brydles i gael ymwneud a hwy o dan adranau Oyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol 1883. Cododd anghydwelediad yn y flwvddyn 1896; ao yn Mai rhoddwyd rhybudd i'r tenant adael y fferm, yr hwn oedd i ddyfod i weithrediad yn Tachwedd. Yn mis Medi rhoddodd Mrs Lloyd rybudd 4r perchenog, Mrs Tooth, o nawl am welliantau anhysbyddedig o dan Gyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol 1883 a chwanegodd at yr hawl hwn, trwy rai eraill a wnaed yn Ionawr a Tachwedd, 1897. Ar gyfer yr hawl hwn, rhodd- odd y perchenog rybudd o wrth-hawl yn Tach- wedd, 1896, a gwrth-hawliau pellach yn misoedd Mai a Hydref canlynol, mewn perthynas i'r hyn oedd yn cael ei ganiatau i'r perchenog o dan yi un gyfraith, ac am doriad ammod wrlh drin caeau neillduol tra yn denant. Gan fod rhai o'r hawl- iau a'r gwrth-hawliau hyn y tuhwnt i'rddau fis a ganiateid gan y gyfraith, darfu i'r pleidiau ar- wyddo cytundeb i gyfiwyno yr holl gwestiynau hyn i gyflafareddwyr a chanolwr oedd wedi eu- penodi ar yr adeg o dan Gyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol. Dyfarniad y canolwr ydoedd, wedi i'r symiau oedd yn ddyledus i'r tenant gael eu rhoddi yn erbyn gwrth-hawl y perohenog, yr oedd yna weddill o 255p yn ddyledus i'r perch- enog a'r unig gwestiwn yn awr ydoedd, pa fodd y gellid cael y swm hwn. Ceisiai y perchenog am gael ei thalu o dan Gyfraith Cyflafarcddiad, a derbyniodd archeb oddiwrth y Meistr i arwyddo dyfarniad, yr hwn a gadarnhawyd gan y Barnwr Channell. Ac mewn canlyniad i hyny y cymer- odd yr apel le. Mr L. Walton, yr hwn a gefnogai yr ape], a ddywedodd fod dyfarniad y Barnwr Ohannell yn cael ei sylfaenu ar yr esboniad o'r gyfraith fod y perchenog yn meddu gallu i gael y swm a ddy- farnwyd iddo o dan Gyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol, nid trwy allu y gyfraith hono, ond mvy y gyfraith gyffredinol. Dadleuai ef nad oedd yna un gallu yn cael ei roddi o dan Gyfraith Daliad Tiroedd i roddi mewn grym ddyfarniad oedd yn fantais i'r perchenog. Bwriad y dideddf- wTiaeth wrth basio y gyfraith o'r dechreu 1'. diwedd ydoedd ad-dalu i'r tenant am welliantau oedd wedi ei wneud ar v tir. Dadleuai nad oedd y gyfraith yn darparu i'r perchenog gocti symiau oedd yn ddi-ddyledus iddo ef. Gallai godi ei wrth-hawl o dan y gyfraith, yr hwn oedd yn cael ei gyfyngu gan y swm a hawliai y tenant. Yr Arglwydd Farnwr Collins: Yna, rhaid i'r perchenog fyned d dan ddau. gwrs costus er cael yr arian dyledus iddo? Dyfynodd Mr Walton, er cefnogi ei ymresym- iad, gynghaws Holmes yn erbyn Formby, a ben- derfynwyd gan y Barnwyr Grantham a Lawrance yn 1895, pan y rhoddwyd "writ" o waharddiad allan, yn atal y tirfeddianwr rhag rhoddi mewn grym hawl yn erbyn tenant yn llY8 y man-ddy- ledion o dan adran dygiad y gweithrediad yn mlaen o Gyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol. Heb alw y dadleuyrld dros yr atebydd, rhodd- odd Y Barnwr Smith y dyfarniad, a sylwodd eu bod hwy yn cael eu galw i roddi eu deongliad o Gyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol 1883, ar ol i gyflafareddiad costus gymeryd lie, yn mha un yr aed i mewn i'r ffigyrau yn llawn, ac y daeth- pwyd i benderfyniad, a bod y perchenog yn cael ei osod o dan yr angenrheidrwydd i fyned i gyf- raith newydd a'r tenant, ao i gostau newydd, er gweled pa mor bell yr oedd hawl y perohenog yn myned uwchlaw eiddo y tenant. Gofynai. aohow cryf iawn yn wir i'w arwain ef i'r terfyniad mai dyna oedd bwriad Cyfraith Daliad Tiroedd Am- aethyddol. Yr oedd yna ychydig o awdurdodaiui ar y pwynt; ond o berthynas i gyn^hawa Holmes yn erbyn Formby, yr hwn a ddyfynwyd, yr oedd efe yn cael ei foddloni nad oedd yr achos hwnw ond yn penderfynu lie y byddai gweddill wedi cael ei benderfynu arno trwy gyflafaredcliad nas gallai y perchenog, tnvy weithrediad arbenig Oyf- raith Daliad Tiroedd Amaethyddol, godi y cyfryw trwy lys y man-ddyledion. Yn yr achos hwn, ceisid cael yr arian, nid trwy lys y man-ddyled- ion, ond trwy yr Uchel Lys, ac nid oedd ei ar- glwyddiaeth yn gweled dim yn y gyfraith i wa- hardd hyny. Yr oil a ofynid ydoedd, fod y dy- farniad, wedi iddo gael ei gyfiwyno i gyflafaredd- iad, yr hwn oedd yn ffafr y perchenog, yn cael ei ddwyn i'r Uohel Lys, a'i roddi mewn grym o dan ddarpariaethau Cyfra: th Cyflafaroddiad. Yn ol ei farn ef yr oedd archeb y Barnwr Channell yn iawn. Rhaid taflu yr apel allan, gyda chest- au. Cydolygai y Barnwr Chitty, a daliai nad oedd Cyfraith Daliad Tiroedd Amaethyddol mewn un modd yn cau tirfeddianwr allan, lie yr oedd ei hawl yn uwch nag eiddo y tenant, rhag rhoddi ei hawl mewn gweithrediad yn y modd arfeiol trwy gymeryd cynghawsi arno. Pan osodid achos i gyflafareddiad, yr oedd yn eglur y byddai i gyng- haws orphwys ar y dyfarniad o fewn adran 12 o Gyfraith Cyflafareddiad. Felly cafodd yr apel ei daflu allan, gyda chost- au.
-----_.--Ni Wna Cyffyrian…
Ni Wna Cyffyrian y Tro. PRAWF RHAD 0 RYWBETH WNA Y TRO. Fe ryfeddech yn fawr wybod gymaint o filoedd o bunau sydd yn cael eu taflu ymaith bob blwydd- yn ar yr hyn a elwir physigwTiaethau iachaol, y rhai a gynygir i'r cyhoedd, a'r rhai ydynt yn rhy barod i goelio y rhesymau ymddangosiadus osodir o'u blaenau. Y mae,hyd yn ncd sylltau enillwyd yn galed gan bobl dlodion yn cael eu gwastraffu yn y dull hwn mfcwn ffaith, i'r anwybodus, rhai awyddus i gael ymwared o'r gwahallo1 anhwylderau sydd yn eu hatal yn ngyrfa bywyd, y bydd y cyfryw resymau yn cael eu cyfeirio tynychaf., Yn awr gellir cael nerth a bywiogrwydd gew- ynol, bochau gwridgoch, llawnder croen,ac iechyd d, heb gyffyriau o gwbl. Yr unig ffordd i adgyilenwi y cyfansoddiad ar ol y wast dyddiol sy'n cymeryd lie arno ydyw cy- meryd ymborth cydnaws ac cctrych fod hwnw yn treulio yn briodol. Nis gellir ei wneuthur physigwriaeth. Fe ellir, modd bynag, ei wneuthur gyda Bwyd-ddiod berffaith, cnawd-ffurifol,blasus a hyfryd. Bwyd- ddiod felly ydyw Vi-Coeoil, Dr. Tibbies, gan ei fod yn perchen galluoedd rlrrfeddol o faetlilawn, ad- gyfnerthol, a tymbyiie..(Iol--y cyfryw nad oes ei ragorach gan uiirhyw Fwyd-ddiod arall. Nid physigwriaeth ydyw V -Oocoa Dr. Tibbies. Mae yn gwneud yn synil yr hyn yr hawlir iddo wneud, ac mae ei alluoedd ^.dgyfnerthol; yn caei eu cyd- nabod i'r fath raddau na wnaed ag unrhyw ddar- pariaeth arall y gwyddis am dani mewn hanes. Teilyngdod, a theilrngdod yn unig, yw yr hyn a hawliwn i Vi-Cocoa Dr. Tibbies, ac yr Idyin yn barod i aiifon i unrhyw ddarllenydd a enwo y "Clorianydd" (gwna post-gerdyn y tro) flychaid bychan destlus o Vi-Cocoa Dr. Tibbies, yn rhad ao wedi talu ei gludiad. Nid oes dim swyngyfjir- edd yn hyn oil. Cynyg plaen, gonest, a gwyneb- agored ydyw ac mae yn cael ei wneud er mwyn introdiwsio liaeddianan Vi-Cocoa i bob cartref. Fel ffurf gy(igrvnoe(, o faeth a bywydoldeb, y mae Vi-Cocoa Dr. Tibbies yn anmhrisiadwy ie, mwy na hyny, oblegid mae yn anhebgorol angen- rheidiol i bawb a ddymunant wynebu ya.dreohfa bywyd gyda mwy o north a gallu i dda! i fvny. Gwneir Yi-Cocoa Dr. Tibbies i fyny yn becyn- au 6c ac mewn tyniau 9c a Is 6c VT un. Gcllir cli gael gan yr holl Fferyllwyr. y Oliwegnwyddwytr, a'r Ystorfeydd. neu ynte o 60, 61, a 62, Bunhill- row, London, EC.
Nodion AmaethyddoJ, lkc.
Nodion AmaethyddoJ, lkc. Bu Due Dyfneint yn llywyddu dros gyfarfod a gynhaliwyd yn Devonshire House, yr wythnos ddiweddaf, er cychwyn crenfa tuagat ailwaddoii Prif Athrofa Oaergrawnt. Mewn canljuiad i'r lleihad yn y cyllid geid oddiwrth eiddo tirol, efe a eglurodd, yr oedd cyllid y Brifathrofa wedi llei- rhau i'r fath raddau fel y cerid y gwaith yn mlaen gan ysgolorion enwog un ai yn rhad neu am gyflog .hollol anghymwys. Yr oedd eisieu haner lniliwn i roddi cyllid y Brifathrofa ar dir boddhaol, a thuagat y swm yna tanysgrifiodd y Due 10,000p. Cynygiwydswmcyffelybganffirm y Rothschilds, ac addawodd Owmni y Dilladwyr 800p yn flyn- yddol am ddeng mlynedd i &efydlu Proffeswriaeth I Amaet.hyddoI.
[No title]
Ysgrifena gohebydd: Ai gwir ydyw, fel y dy- wedwyd gan gadeirydd parchedig Bwrdd Gwarch- ÙiJwaid Dunmow, fod tir yn gyffredinol yn cael ci drethu yn llawer is na'i werth priodol ? tklrnrg genyf fod y mynegiad yma wedi ei wneud, oherwydd' rhydd i gynhyrfnv yr Padicalaidd-h. y- 7 y dynion na ddeallant bolisi newydd swyddogion y blaid—gyfleusdra i adnewyddu eu hen athrodau yn erbyn pawb cysylltiedig a'r tir. Fe gawn weled y mynegiad hwn yn cael ei ddyfynu mewn trefn i roddi grym adnewyddol yn y cyhuddiad a gafodd gjmaint o ffafr yn ystod y ddadl ar Ddeddf Trefniant, sef fod tirfeddianwyr a fferm- wyr wedi ymuno mewn cydfrad-w-riaeth mewn ) trefn i osgoi eu cyfrifoldeb priodol, ac mewn ) trefn i gyrhaedd eu ha mean, nid ydynt wedi petruso i yspelio y trefydd. Onid ydyw hyn yn beth rhyfedd—yn j dyddiau (hyn a gynhwrf gwrthddegymoI-fod awdwr y cyhuddiad diwedd- af hwn yn glerigwT 1"
[No title]
Gwyddant sut i drin y twyll yn nglyn a gwerthiant "margarine" yn Llundain. Yn y Mansien House, yr wythnos ddiweddaf, cafodd ffirm a ysngymerai a gwerthu ymenyn Swiss pur, ac ar chwe' gwys dirwywyd hi: i 60p gyda 12p 12s o gostau. Gwerthir tunelli o'r nwydd hwn fel ymenyn pur, a dylid rhoddi y twyll i lawr. Diau fod llawer iawn yn cario'r twyll.yn mlaen, ac yn sicr dylent gael eu haedcliant megis ag y cafodd 11 el y ffirm uchod. Gwelwyd achosion dro yn ol yn y sir hon, ond hyderwn na chawn weled siopwyr Mon yn ymostwng i werthu yr hyn nad yw yn ymenyn am bris y nwydd pur.
[No title]
Yn ysgrifenu i'r "Agricultural Students' Gaz- ette" (Cirencester), cyfeiria Mr James Hendrick mewn dull gwerthfawrogol o rinweddau gwman y mor fel tail. Fel tail y fferm, sylwa, mae gwman yn dail cyffredinol. Cynwysa swm mawr o fater ermigol (organic) a bydra yn fuan, mor fuan, mewn ffaith, fel y cwynir weithiau parthed y cyflymder a pha un y darfydda. Dywed yn derfynol: "Pwysau am bwysau, fe amcan- gyfrifwn ei werth fel yn gyfartal i dail arfercxl y ffarm. Ond gwahaniaetha oddiwrth dail y ffarm drwy fod yn gyfoethocach mewn 'potash' ac yn dlottach mewn 'phosphates' Diau fod amaeth- wyr sydd a'u tiroedd yn ymyluar lan y mor1 yn bur gyfarwydxl a rhinweddau gwman, ac y gwydd- ant am ei ragoriaethau heb gynorthwy erthygl newyddiaduroL O'r ochr arall gall fod eraill yn llai cyfarwydd a rhinweddau y nwydd rhad a hawdd ei gael, a thrwy gael onynegiad o'i werth- fawTogrwydd efallai y byddhyny o fantas idd- ynt.
[No title]
Yn achlysurol byddfiermwyr yn cael eu poeni gan wartheg yn meddu tethi na ddaliant y llaeth. Rhydd goihebydd ei gynllun o atal y cyfryw, ac y mae wedi ei sefydlu ar synwyr cryf. Dyma'r cynllun:—"Mi a ddywedaf wrthych beth a wnaethum i un o'm gwartheg cyntaf bedair blyn- edd yn ol. Un ieuanc ydoedd, oddeutu pum' mlwydd oed; godrid hi yn unig, swm uchaf lleg chwart y dydd. Collal y 1Lwth, mor gynted ag y llanwai y pwrs ychydig. CSedwais hi; fel y d'echreuodd fywiogi drachefn rhoddais iddi gy- maint o rawn ag a feiddiwn, bedwar neu bum' dimmed cyn iddi ddyfod i mewn (nid oedd yn defw), ac ar ol i'r llo gael ei ollwng, ni odrid hi aaA bedair i chwe' awr. Nid wyf yn cofio yn awr, ond fy nrychfeddwl ydoedd gladael iddi, wneud He i'r llaeth yn ei chorph, ac nid oeddwn yn camsyniedi. Pan odrwyd hd gyntaf rhoddodd ddau chwart, a llaethodd i fyny i 19 a 20 y tymor hwnw. Yr wyf wedi ei chadw ers pedair blyn- edd, ac ni ddyferodd laeth byth wed'yn."
[No title]
Fel y digwydda yn fynych yn ystodi mis cyntaf y flwyddyn, bu y marchaiadoedd yd yn annyddor- ol, 00 yrt oedd symudiadau y prisiau o fewn ter- fynau hynod gul. Y pris cyfartaleddiol wythnosal am rawn PrydeiniLy y peg ymherodrol ar Rhagfyr 31ain ydoedd 26s lie am wenith, 28s 4c am 'haidd, a 17s am geirch. Y cyfartaleddau swyddogol ddaeth allan nos Sadwrn cyn y diweddaf, pedair wythnos yn ddliweddaraoh, oeddynt 26s 7c, 27s 9c, a 17s, felly yn dangos gostyngiad o 4o y peg am, wenith a 7c y peg am haidd, ond; dim cyfnewidiad 1. yn y oeirch.
[No title]
Dyma fel yr ysgrifena un Mr Paddison: "Mae man erddi fel rheol yn eiddo gweithwyr, ac i'w gwneud yn broffidiol ni ddylai yr amser i'w meithrin ymyryd a dyledswyddau eraill. Haner awr o waith yn yr ardd am ohwech o'r gloch yn y boreu a rydd i ddyn well archwaeth at ei frecwast na pliotel o gwrw, ac yn fwy proffidiol iddo dreulio yohydig amser yn yr awr giniaw gyda cihaib yn ei law, na chyda phibell yn ei geg ac yn lolian ar esmwyth-gadair; yn yr hwyr, hefyd, dylai yr ardd fod TI fwy deniadol na'r dafarn. Yn nesaf i gynildeb mewn llafur ydyw'r cwestiwn o dail. Gellir cael hwn yn mhobman, dail cwympedig, chwyn a llysiau, slops a 'refuse' o'r ty, crafiadau o'r ffordd, parddiu, lludw, hen galch, a bron bob- peth oddigerth -eli gwydr a ellir eu troi yn dail gwerthfawr."
[No title]
Mae cyfeillion arddangosfa Mai yn Llangefni Wedi dechreu ar eu gwaith o didifrif, ac mewn amser da. Nid oes gwell gwir nag a geir yn yr hen ddiareb, sef "Deuparth gwaith yw ei ddech- reu," ac y mae dechreuad campus wedi ei wneud. Mae'r pwyllgor wedi cyfarfod droiau yn barod, ac y maent yn benderfynol o'i gwneud yn llwydd- iant fel arfer. Buont yn hynod fifodius i gael Mr Lawrence Williams, Plas Llanddlyfnan, i gy- meryd y llywyddiaeth, ao y mae cael boneddwr mor egniol yn ernes dda iawn o waith gwerth- fawr o hyn i fis Mai. Mae'r arddangosfa yn y gorphenol wedi bod yn llwyddianus iawn, a hyd- erwn y cawn eleni eto dywydd braf ao arddangos- fa well nag erioed. Fe ddywedir nad ydyw yn "ddyogel prophwydo os na wyddom yn mlaen llaw," ond hyderwn y gwelir ymdrechion clodad- wy yr hyrwyddwyr wedi eu coroni a llwyddiant y dydd Gwener cyntaf yn Mai.
Y Fasnach Yd.
Y Fasnach Yd. Dengys y ffigyrau a ganlyn y symiau o yd Pry- deinig (mesur Ymherodrol) a werthwyd, yn nghyda I chyfartaJedd y pris, yn ol fel y derbyniwyd hwynt gan arolygwyr a swyddogion y Gyllidfa am yr wyth- nos yn diweddu Ionawr 21ain, 1899 Y swm Gyfartatadd a werthwyd. y pris Chwarteri. s. c. Gwenith. 74,704 27 0 Haidd. 111,133 27 11 Ceirch. 22,245 17 1 Y clrwarteri a werthwyd yn yr wythnos gyferbyniol yn Gwenith. Haidd. Ceirch. 1895 58,405 133,662 23,888 1896 24,186 110,151 23,898 1897 58,955 108,696 18,128 1898 57.158 118,535 21,674 1899 76,704 111,113 22,245 Cyfartaledd y pris yn yr wythnos gyferbyniol yn Gwenith. Haidd. Ceirclt. s c s c s c 1895 20 9 21 11 13 10 1896 26 1 23 7 13 10 1897 31 7 25 5 16 6 1898 34 11 27 10 17 5 1899 27 0 27 11 17 1
------Troseddau yn Nghymru.
Troseddau yn Nghymru. Mae y Llywodraeth newydd gyhoeddi "Llyfr Glas," lie y dangosir nifer y troseddwyr gaiwyd yn euog yn y brawdlysoedd a'r llysoedd ohwarterol drwy yr holl Deyrnas Gyfunol. Da genym weled Cymru mewn sefyllfa mor ragorol wrth ei chymharu a rbanau eraill o'r wlad. Dengys Morganwg a Mynwy, mae yn wir, ffigyrau ucliel, eithr y mae hyny i'w briodoli i raddau mawr i Seisnigaeth v siroedd hyn. Ceredig- ion yw y goreu o ddigon. Hir y parhao i wisgo ei clioron. Wele y ffigyrau Rbif v Troseddwyr a Euog- Poblof- Sir farnwyd. aeth. Mon 5 50,098 Brycheiniog 4 51.393 Brycheiniog 16 51,393 Caerfyrddin 19 130,566 Ca.ernarfon 33 111,586 Dinbyeh 18 118.978 Faint. 10 7-1,042 Morganwg 323 687,218 Meirionydd 13 48,859 Trefaldwyni 12 58,003 Penfro. 11 88,296 Maesyfed 9 21,791 Qyfanrif 473 1,513,297 Mynwy 32 258,054
-----------------------------i…
Basic Slag. (At y Golygydd- Syr,—Yr wyf wedi darilen yn ddiweddar lith- oedd "Oritio" ar yr uchod, a mi 'roeddwn yn meddwl cael rhywbeth o ddyddordeb, ond dyn a'm helpo; buan y daethum i ddeall mai wedi cymeryd y dull ffasiwn newydd o hysbysebu yr oedd "Critic," fel y gwyr eich iiuawsi darllenwyr wrth weled ambell i benawd y bydd rhywbeth pwysig wedi cymeryd lie ond wedi darllen ych- ydig arno canfyddem yn fuan mai "Jacob's Oil" neu "Dr. Williams' Pink Pills," neu "Holloway's Pills," etc., fydd mown golwg. Tebyg wyf yn canfod llith gyntaf "Critic." Dechreua yn debyg i hyn: "Dyma nwydd bach rhad;" dyma enw newydd eto. Mae yn rhaid fod rhywbeth ynddo pan mae yn cael cymaint o deitlau. Felly mae gan y slag bach lawer o lythrenau ar ol ei MW. Nis gwn faint sydd gan "Critic" heblaw D.S. (dalier slywod) a S. C.I. (saethwT cywion ie:r). Dal ati, frawd, cymer galan, das yn mlaen; ond 'rwyf yn ofni eich bod wedi cysgu yn rhy hir. Sonia am "ymchwiliadau manwl y Germaniaid." A ydyw yn well ganddoch gredu,, y German na'r Qymro? Pa beth ddywed Mon am dano sydd bwysig. Yr ydym wedi cael prawf o effaith y llwch bach cyn i'r un German na "Critic" agor eu llygaid, a diolch am hyny. Feallai na ddarfu "Critic" roi prawf arno; felly nid oes ganddo brofiad am ei effaith o gwbl; a buaswn yn ei gynghori i roddi prawf arno (cyn dangos dim ych- wan eg o'i anwybodaeth i'r wlad). a cheiff weled mai nid dm un tro na dau ox*d pedwar neu bum' tro, y bydd ei effaith, ac i roddi prawf teg rhodder (dyweder) gwerth 12s yr acer o slag a gwerth 12s o unrhyw fath arall i wair neu borfa; wed'yn caiff weled pa un fydd y goreu, a pha un sydd yn "fertiliser a pha un sydd heb fod. Yr wyf wedi defnyddio cryn lawer o "guano" gan wahanol wneuthurwyr, a'r slag bach ydyw y "fertiliser" goreu a'r rhataf i bob cnwd o'r cwbl; ac yr wyf wedi cael chwe* mlynedd o brawf arno, ac mae cyflwr fy fferm yn ddigon o ganmoliaeth iddo. Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda.— Ydwyf, etc., [At y Golygydd ] Syr,—Gwelaf fod "Critic," fel hwnw gynt yn mysg y beddau, yn glafeirio ac yn nialu ewyn. Ai tybed ei fod dan ddylanwad yr un ysbryd? Fodd bynag, ymddengys ei fod yn dra ffyrnig, ao y mae y llysnafedd a dreiddia (lrwy ei ebychiad diweddaf yn ddrewdod yn ffroenau eich darllen- wyr. Nid yw o un gwahaniaeth i mi pa un ai fel saethwr cywion ieir ai fel daliwr slywenod y mae fwyaf medrus, er fod ei iaith ai foes yn profi nad yw yn ddyeithr i'r gwter lie ceir y diweddaf, ac y buasai lawn mor gymwys yn Billingsgate a rhai lleoedd y mae wedi ymwthio iddynt. Dichon mai annoethineb ynof oedd! sylwi ar yr ynfyd hwn yn hytrach na'i adiael yn y dinocledd a haedda fel y gwnaeth eraill o'n blaen. Ac wele yntau dan yr ordd yn arUwys cWmwl o ddifriaeth, ac yn ei gysgod ceisia ddianc gyda chyfiwysder ond ddaw hi ddim. Ac er iddo geisio cymhorbh i ffoi drwy afael mewn aden cyw iar, tynaf ef yn ol at y pwnc, ac hyd nes y hydd wedi profi liaer- iadau ei lythyr cyntaf, rhaid iddo foddloni ar y dyfarniad nas gall wneud hyny. Cyhudda fi o ddweyd nad oes rinwedd ond mewn un "brnnd" 0 Basic Slag. Heriaf ef i allu profi hyny o'm llyth- yrau, a bydded daailenwyr y "dorianydd" yn farnwyr pa faint o barch sydd ganddo i'r gwirion- edd. Ond, ond er cymaint o slags sydd yn y byd, nid oes ond un o honynt yn ddigon peryglus i fod dan ertedigaeth "Critic." Ie SiWT; un ffirm, un brand, ac un agent bach digon dinod sydd yn poeni ei dipyn enaid cyfiawn ef, a gallai yn hawdd adrodd geiriau Hywel dordyn 'Rwyf wrth y rheini pe bawn i haws Bron tori ar fy 'nhraws o wenwyn." Dywedais yn fy llythyr cyntaf fod basic slag da yn fuddiol, ond nad yw pob slag yn gyfwerth, ac er mwyn amaethwyr Mon, y rhai y dywed "Critic" eu bod yn rhy ddiog i ddarUen drostynt eu hun- ain, dyfynaf o waith un neu ddau o rai mor wybodua ag ef, a dweyd y lledaf. Mewn rhifyn o'r "Fawn and Home" am y mis diweddaf, ceir sylwedd papyr a ddarllenwyd gan Mr Frank Walis gerbron y Southern Farmers' Club, yn mha un y dywed: "The lime containing basic slag phosphate has proved itself the most efficient form of phosphate for topdressing purposes, therefore I again unreservedly say that you will be on perfectly sound lines, and on the direct way to profit, in at once treating every acre of poor grass with five cwt. of basic slag." A dyma ddywed Mr Bryner Jones yn ei lyfr ar "Egwydd- orion Gwrteithio": "Mae y cyflawnder o phos- phate geir yn y gwrbaith hwn yn gwneud basic slag yn un o'r, gwrteithiau rhataf a mwyaf defn- yddiol yn y farchnad. Mae yn achosi i feillion a phlanhigion cyffelyb dyfu mewn lleoedd nad oedd dim o honynt yn ymddangos o'r blaen. Defnyddir ef yn lhvyddianus gyda chnydau eraill hefvd, megis maip, swedes, mangles, pytatws, ac yd." Hefyd "y mae sylwedd a werthir dan yr enw Normanby patent slag manure, a chan fod y Normgnby slag yn hynod rad, mae rhai pobl wedi bod yn ei ddewis. Nid oes dim ynddo mewn gwirionedd ag sydd o lawer o werth, ac nis gellir 11 11 ei gymeradwyo fel gwrtaith o gwbl." Hyn a ddywed dau o ddynion ag y mae eu gallu uwchlaw amheuaeth, ac yn anrhaethol bwysicach na dim a ddywed y "Critic" haerllug hwn. Gyda llaw, a wyr ef dipyn am. y Normanby slag?—Ydwyf, mewn natur dda, newydd fwyta "roast chicken," HEN FFARMWR. [At y Golygydd.] Syr,—Gyda'ch cenad, symudwn gam yn mhell- ach yn ein hymofyn i ymhoniadau y pendeiig urddasol o dir Ham. Y mae arwyddion parod fod y "caustic doses" yn smartio ei ddoluriau, ond gallant fod yn foddion o ras a doethineb iddo erbyn y dyfodol, ac ni welaf v gwnai gweinidog- aeth ysgafnach y tro. Gyda phriodoldeb y cyd.- nabyddaf hawl y gwyddonwr dysgedig i ofyn cwestiwn. Y mae i athiaw mor hyglod, coeth, groesaw calon i gymeryd ei safle ar diriogaeth uchel felly. Y mae hon hefyd yn hen ffordd hynod o gyfleus i guddio lleni o dlywyllwch. Mae hefyd yn ffordd arferol i'r cyfrwys i geisio osgoi atebion anfanteisiol ac mi-hyfryd. Ond ni thyoia nemawr i H. Ff. ymofyn ymwared y ffordd yna. Mae awenau ei ymdaith yn digwydd bod mewn dwylaw rhy gyfarwydd iddo luchio ei bedolau yn ddilywodraeth heddyw. 0, na, fe gadwn ei drwyn ar f maen, pe byddai ei ben galetted a'r Einion neu mor ddued a'r Hindw. Eto, syr, caniatewch i mi ei sicrhau na throf fi fy nghefn ar unrhyw a phob cwestiwn all lochesu o fewn holl gornelau ei ddychymyg wyllt ef. Ie, hyd yn nod pe byddent ynfytted: a'r rhelyw o'i gyn- yrohion, neu mr fal)anaidd- a'r profiad seith- mlwydd, yr ymffrastia gymaint o hono. Dof at ei gwestiynau yn y man, a cliaiff atebion ar bant ei law. Gobeithio yr hyfforddiant gysur iddo. Ond fel tipyn o ragymadrodd pellaeh, mae genyf finauGatecism bychan yehwanegol o gwesti- ynau i'w ystyriaeth ddyfal yntau. A oes unrhyw bwys mewn brand basic slag amgen na dangos eiddo pwy ydyw? A oes unrhyw ragoriaeth rhwng Thomas's phosphate powtler a rhyw fath arall o slas ? Oes, ai nad oes ? Os haerir fod, eglurer y rhagoriaeth? Os nad oes, pwy a geis- iai ddysgu fod gwahaniaeth trwyadl, a ph.- ham 1 Pwy ddefnyddiodd y bnnd hwn gfyntaf 1 A oes unrhyw bwys arall ynddo? Sawl ffirm heddyw sydd yn arfer, ac yn cyhoeddi air am air, yr un brar d ? Paham na chosbir y cyfryw am y fath ryfyg ? Ai yr un a'r unrhyw sylwedd ydyw basic slag a phosphate: powder ? A ydyw efe yn phosphate o gwbl yn YSltyr briodol y gair 1 p" Y oedd y gwr a ddysgai ffermwyr Ion faint rhag- oriaeth y naill ar y llall ? Pa beth gymhellai [,:1¡- rawiaeth mor gyfeiliornus ? Ai dyna gred y dysgawdwr cywrain? Ai yn ol deall gwybod- aeth ai mewn anvrybod y gwnai hyn ? A wnaiff ef ail-gyhooddi y ffwlbri hurtenaidd hwn heddyw? Gan fod y fath ddirgelwch cyfrin in aiagylchu yr enw "Thomas's" phosphate, {:¡r<IU wybod pwy a pha beth ydoedd. Beth oedd ei gysylltiad ef a'r busnes, a phaliam y mae ei enw ly mor adnabyddus? A oes unrhyw gysylit:ad rhyngddo ag unrhyw ffirm o werthwyr yn y farch- nad: ? A ydyw ei enw ef yn unrhyw warant am ansawdd slag? Beth ydyw basic slag neu phos- phate powder? A oes rhyw wahaniaeth rhyng- ddrnt heblaw enw? Neu a fu erioed wahaniaeth rhyngddynt heblaw yn ymenydd anghyfrifol am- bell i fan agent? Os bu, os oes, os bydd, allan a'r datguddiad. Beth ydyw slag o ran defnydd ? Faint a delir neu; a dalwyd am dano o domenau waste gweithydd haiarn y deymas ? Beth ydyw ei bris gwreiddiol a margin y proffit? A ydyw yr ysgolor hyddysg yn deall pynciau fel hyn? A gredai efe ei ddysgeidiaeth ei hun ? Beth am < ei olygiadau erbyn hyn? Dymunem glywed y cyfryw eilwaith. A oes undyn yn y wlad ofarn yn eu credu ? Ai enw, ffirm, brand, ai analysia vdyw hyfforddydd dyogel y prynwr ? Os enw, pa enw ? Os ffirm, pa ffirm ? Os brand, pa frand ? A oes unrhyw bwys yn un o'r pethau hyn ar wahan i analysis? Ai nid dadansoddiad ydyw yr unig dir cydradd a dyogel i bob ffirm ac agent ? Pe felly, pa le y mae y rhagoriaeth ? Pa le mae y doeth, y dysgwdig, a'r cyfanvydd ? A faidd y traddodwr llithrig ail adrodd y gwirioneddau pwysig o'r blaen ? A oes gan un o'r ffirms a en- wais waith haiarn o'r eiddynt eu hunain? Ai onid prynu waste ffwrnedsiau pobl eraill y maent ? Beth ydyw y gwahaniaeth rhwng cynyrch y naill waith haiarn a'r llall? Hefyd y rhagoriaeth y tabyrddir cymaint am dano? A ydyw yn bod yn rhywle ar wahan i bcnglog giyclwldu, neu safn- rvrtli H. Ff. ? Ai onid ydyw pOoh circular yn y wlad heddyw yn galw slag yn phosphate powder ? Ai gwir ai anwir a dystiolaethant ? Pwy sy'n cyfeiliorni—ai y ffirms a enwais ai y doctor pluog anffaelotlig ? Os y cyntaf, paliam nad argyhoedd- er hwyl A wnaiff H. Ff. gyfaddef mai tipyn o gloch yr ocsiwniar ydyw tine neu don' ei lythyr- au? Ai calch, haiarn, a phosphorus ydyw baich cyfansoddiad slag ? A gynwys efe unrhyw ingre- dient arall o bwys? Ai dyna unig nod anghen pob math o dir a chnwd ? Ai dyna unig ymborth angenrheidiol llysiau, gwreiddiau, a clinydau y wlad? Pwy a'n dysgai o ragoriaeth slag ar sul- phates, nitrates, potash, kamit, ammonia, guano, bone, phosphates, ac amrywiol elfenau eraill an- hebgor llysieuaetih ? Pa wrteithiau a gydna- byddir oherwydd eu ffrwythlondeb a'u parhad dan ddeddfau tenantia,oth y wlad? Faint o'r uchod a wobrwyir i denant gan y landlord dan hawl Oyfraith Tir-ddaliad? A ydyw basic slag yn rhywle ar y rhestr ? Pwy gychwynodd ddadl Llundain yn erbyn slag ? Pwy a'i hachlysurodd, a pha fodd y terfynodd? Pwy a atebwyd hyd ddistawrwydd 1 Beth ydoedd tystiolaeth Pro- ffeswr Maercker ar y pwnc ? Mewn gair a wydd- ai H. n., rhywbeth o gwbl oil am y ddadl fawr ddyddorol hono, neu rhywbeth yn ei chylch? Paham, pwy, neu pa beth a'i cymhellodd ef--dril- an dwl-i ymyraethi? Ai oni allasai ymgyngliori a rkywun i'w arwain, neu i dewi? Yn mha ysgcl y prophwydi y dysgodd efe fferylliaeth gwrteitii- iau amaeth? Hawlim-n gael barnu ei safon i gymhwysder. Braint i'w hanwesu ydyw cael Gamaliel fel hwn i'n cyfarwyddo? Mae ei ar- ddull lednais a choethedig yn testimonial rhag- orol o'i gyrhaeddiadau, ei "brofiad," a,'i "farn." Yn frysiog, syr, mae fy holl ymholiadau 'r nodwedtS fwyaf elfenol ac ymarferol. Maent yn A.B.C. y pwnc, wedi eu cyfaddasu yn fwriadol ar gyfer cyThaeddiadau meddyliol H.Ff., ac ond iddo ymgais yn gydwybodol at hyny, gobeithiaf y gall ei ddarfelydd trwsgl a chyfyng ef eu ham- gyffred. Wrth gwrs, pan olrheiniaf ddirgelwch ac egwyddor y test.yn, bydd raid cymhell H. Ff. i "eistedd yn is i lawr." Byddaf yn cyfarch ac apelio at feddyliau a dosbartli anrhaethol uwch a mwy caboledig nag ef y diwrnocl hwnw. Caiff efe a'i status broffeswrol hamdden i dalu ym- weliad a'r ceiliogod, yr hwyadenod, a'r dyhiriog- od yr adegl hono, a theimlo felly yn llawer mwy hyfryd a ohartrefol. Rhaid i spring o'r maint yma eincio yn ol i lefel ( roferau ei ffynhonell bach isel. Ond pan geisia H. Ff. ateb fy nghatecism uchoo, bydd genyf wed'yn yc-hydtg filldiroedd ychwanegol o ymofynion cydnaws cyffelyb ar ci gyfer. IXamiheuol genyf yr hyfforddiant ddydd- anweh a boddineb iddo, yn nghyda ohyfleusdra rhagoroi i amddiffyn ei ddaliadau. Caraf weled ei atebion, a bydd yn fwynhad i mi ei gynorthrwyo dros leoedd dyrus. Dyma gyfle iddo ymenwogi, ac y mae lie iddo dynu yn mlaen gryn lawer. Hefyd, os myn loches mewn barddoniaeth, deued ataf fi, a chaiff gan, nid yn unig a'i hanfarwola, ond a holl breswylwyr y wlad i ddawns a gorfoledid o'i chanu. Y CRITIC. [Gan fod yr ymdrafodaeth hon wedi disgyn i'r personol ar y naill ochr fel y llall, y mae yn orfod arnom roddi diwedd ar ymgecraeth na wna les i'r ffermwyr na neb arall.—Gol.]
HEOLYDD CAERGYBI: RHANBAHTH…
Nid ydym yn gyfritol am aymadau ein goheb- wyr yn y golofn hon. J HEOLYDD CAERGYBI: RHANBAHTH KINGSLAND. Syr,-Caniatewch i mi, fel derbynydd cyson o'ch newyddiadur clodwiw, alw sylw at sefyllfa warthus heolydd y rhanbarth hwn o dref fy ngen- edigaeth. Yn ystod misoedd y gauaf hwn mae trigolion y lie wedi dioddef yn dawel yr hyn na fuasai yr un rlian arall o'r dref yn ei wneud. Ar bwy y mae y bai fod heolydd Kingsland yn aflanach na heolydd eraill? Atebaf yn ddibet- rus, ar y dynion sydd yn ein cynrychioli ar y Cynghor Dinesig. Oofus genym yr addewidion teg oedd yn cael <eu gwneud adeg yr etholiad. Yr oedd sylw i gael ei roddi i luaws o welliantau pwysig. Yr oedd y mwgwd sydd ar wyneb tai Penrhos View i gael ei symud ymaith; yr oedd yr heolydd i gael eu cadw mewn trefn yr oedd y gweithwyr i gael rhandiroedd i gadw gwartheg yr oedd y Qynghor am y tair blynedd cyntaf o'i hanes yn ddigon tli-waitli, ond mae y Cynghor presenol yn fwy fyth am ei esgeulusdod o fudd- ianau y rhan hon o'r dref. Mae ein trethi yn codi, a dim yn cael ei ddangos am yr arian marwT sydd yn cael eu gwario. A glywodd rhywun lais un o gynryeli,"o-ivy-r Kingsland erioed yn y Oynghor yn dadlu o blaid rhywbeth a fuasai o les i'r bobl a roddodd eu pleidleisiau er rhoddi iddynt yr anrhydedd o fod yn Gynghorwyr? Meiddiaf ddweyd': Naddo. Rhaid i ni gael cy- farfod cyhoeddus fel trethdalwyr i brotestio yn erbyn cyflwr difrifol ein heolydd.—'Ydwyf, etc., PORTHD AF ARCH.
IJjE GENEDIGAETH Y PRIF-FARDD…
IJjE GENEDIGAETH Y PRIF-FARDD GORONWY OWEN. Syr,—Ceisia eich gohebydd Ap Mona gywiro yr uchod, a ymddangosodd yn un o rifynau di- weddaf eich newyddiadur; ond o'r braidd y cmlaf ei fod yntan yn ddyogel i'w ddilyn. Nid yn y tyddyn a elwid gynt yn Ysgubor 'Ronwy ac a elwir yn awr yn Bron Gronwy y ganed ac y maged y bardd, ond mewn bwthyn bychan cyf- agos, lie y saif yn aAVT yr anedd-dy deatlus a ad- nabyddir wrth yr enw Dafam Gooll. Yma hefyd v preswyliodd am flynyddoedd lawer y diweddar \Villiam Jones (y sonia eich gohebydd am dano), pregethwr cynorthwyol a chymeradwy gj'da'r An- nibynwyr, ac oddiyroa yr ehedodd ei ysbiyd pur- aidd i ogoniant; ac yma yn bresenol y triga Mrs Hughes, ei ferch ieuengaf. Adeiladwyd y ty presenol a'i dalcen deheuol ar sylfaen yr hen fwthyn, ao ers llawer blwyddyn bellach. y mae irumgre gwal yr hen Goronwy wedi ei droi yn ardd lysiau. Oofus genym wrandaw ar y dywed- edig Wm. Jones tra yn dyrnu yn ysgubor fy nhad yn adrodd mai efe a orphenodd arloesi yr hen sylfeini. Gwelir yn y mur tu fewn i'r ty gareg, ac arni y <ld\vy lythyren "G. O." wedi eu tori gan ryw law, o arddull henafol, yn ddiameu er coffa am y prif-fardd.-Ydwyf, etc., HEN FRODOR.
CYNGHOR I'R GW EIN I DOG ION.
CYNGHOR I'R GW EIN I DOG ION. Sj*r,—Y mae y mater sydd gan "Hen Gristion" yn wir deilyngu sylw, ac nis gallaf finau lai nag edmygu yr ysgrifenydd am ei wroldeb vn dod a r pwnc i gy- hoeddusrwydd y wasg. Gofynai un a eilw ei hun "Paul" paham na fuasai yr "Hen Gristion" yn myn'd at y personau y cyfeiriai atynt yn gyfrinachol ac nid trwy gyfrwng y wasg? Efallai ei fod yn ofni na chai dderbyniad ganddynt trvda'r fath genadwri, oherwydd y mae y natur ddynol. ysywaeth, yn gyf- ryw fel na wiw i neb feiddio dweyd y gwir bob amser, os na fydd hwnw yn tueddu at godi a chanmol y person, ac mai y ffodd i osgoi tramgwydd a chyr- aedd yr amcan mewn golwg vdyw trwy y wasg dan orchudd liugenw. Y mae yn ddiamau fod y rhan luosocaf o wrandawyr yr Efengyl yn berffaith gyd- naibyddus a lluaws o'r pethau a nodir gan "Hen Gristion,' ac yn detyn llawer o siarad a beirniadu wrth fyn'd a. dod i'r lleoedd o addoliad, ond rhyw- fodd, o baix-h a'r urdd ac a.'r Efengyl, y maent yn pasio heibio i'r holl ffaeleddau heb sylw pellaeh. Ond mewn difrif, ai felly y dylai pethau fod? Cawn fod Apostol Mawr y cenhedloedd yn datgan Ei farn am gymhwysder, dyledswyddau, ac ym-ddygiadau gweinidogion y Testament Newydd yn eglur a gwyneb-agored i bawb yn mhob oes hyd ddiwedd amser. Y mae yn eynghori Timotheus i "fod yn esiampl i'r ffyddloniaid mewn gair. ymddygiad, neu ymarweddiad. mewn cariad, mewn ysbryd. mewn ffydd, ac mewn purdeb." Ai tybed, mewn gwirion- edd, a ydyw pob un o'n dysgawdwyr ni, yn yr oes hon, i fyViv a'r rhinweddau a nodwyd? Profed hwy eu hunain. Y mae y gwr doeth yn dweyd fod eu hunain. Y mae y gwr doeth yn dweyd fod "gwybed meirwon yn gwneud i enaint yr apothicari ddrewi," a beth all fod yn fwy o niwed i Iwyddiant yr Efengyl yn ein gwlad na'r arferion isel ac an- foncddigaidd yr ydym yn weled ac yn eu clywed yn fynych gan ddynion sydd yn dringo in pwlpudau i'n dysgu? Cyn terfynuL dymunwn ro<Vi cynghor i'r cyfryw rai: "Daliwch eich hunain yn i gwyneb llith- oedd yr Hen Gristion,' ac yn ngwyneb yr YsgrytFiyr Lan, a diwygiwch yn fuan."—Vdwyf, etc., "TIMOTHEUB."
:Ymddiswlddiad Dr. T. Chas.…
Ymddiswlddiad Dr. T. Chas. Edwards,! Bala. Gofid i filoedd fydd deall nad ydyw vstad iechyd y Prifathraw T. Charles Edwards, D.D., mor foddhaol ag y dymunir. Oblegid hyn, y mae wedi ysgrifenu at y Parch R H. Morgan, Ban- gor, ysgrifenydd Llys y Rheolwyr, yn ymddi- swyddo fel Prifathraw Ooleg y Bala. Cynhal- iwyd cyfarfod o Bwyllgor Arianol y Coleg yn Nghaer ddydd Mercher, a ohynhelir cyfarfod o'r rheolwyr yn Nghaer ddydd Mercher nesaf (yfory) i ystyried yr ymddiswyddiad. Er pan fu yn angladd y Prifathraw M. D. Jones, caethiwyd Dr. Edwards i'w ystafell; ond hysbysai Dr. Hughes Da1. Williams (Bala), a Dr. James Ed- wards (Lerpwl), ei frawd, ar ol ymgynghoriad ddydd Sul, ei fod yn well na'u disgwyliad ac yn abl i gerdded i'w fyfyrgeliL
Achosion c Fon yn Llys Methdaliadol…
Achosion c Fon yn Llys Methdaliadol Achosion c Fon yn Llys Methdaliadol Bangor- I Cynhaliwyd y llys hwn ddydd lau yn Mangor, ger- bron: y ln H. Lloyd Jones a J. Glynne Jones, y cofrestrwyr. Achos Edward Jones, Felinwen, Llangeinwen.— Daeth y methdalydd hwn yn mlaen i gael ei holi yn gyhoeddus. Adroddid y cyrhaeddai ei ddyledion gyfanswm o 186p 15s 4c yn ddyledus i ofynwyr heb eu sicrhau, 176p 158, 4c; ac amcangyfrifid yr ol- eiddo yn werth 115p 8s 3c. Achos bonedig y meth- daliad ydoedd "diffyg cyfalaf, a'r gofynwyr mwyaf yn pwyso am dal." Mewn atebiad ir Derbynydd Swyddogol Cynorthwyol (Mr W. G. Williams), dy- wedodd y Methdalydd ei fod wcdi bod yn gweithio yn y Penrhyn Mills ac yn Aber am 22 mlynedd, ac fod ei gyflog yn cyrhaedd o 20s i 24s yr wythnos. Bu hefyd yn "foreman" yn Melin Seiont, Caernar- fon, am wyth neu naw mlynedd. Yn Nhachwedd diweddaf cymerodd denantiaeth Felinwen, a thalai 50p y flwyddyn am y fferm ac am y felin wynt, o dan "landlord" arall, talai 6p 5s y flwyddyn. Yr oedd ganddo 30p mawn arian pan ddecbreuodd ar ei gvfrifoldeb pi hun. Yn 1892, gwoaed archeb weinyddol yn ,ei erbyn yn Llys Sirol Caernarfon: swm ei ddyledion y pryd hwnw oedd 30p. Nid oedd wedi cadw llyfrau, ond yn unig "debtor's ledger." Yr oedd yn pyled y Mri W. Lloyd Griffith a'i Fab, Caernarfon, ,>am> 67p, ac mown canlyniad i'w gwaith hwy yn cymeryd gweithrediadau cyfreithiol y gwnaeth ei hun yn fethdalydd. Cafodd fenthyg 19p 10s yn Mehefin diweddaf gan George Payne. Cauwyd yr arholiad, yn ddarostyngedig i arwyddo nodau. Achos D. E. Hughes, Caemawr, Llangeir- Cyflwynodd y methdaly-dd hwn gyfrifon yn (L. ledion o 3073p 14s 4c; yn ddyledus i ofy ■: >,ry r heb eu sicrhau, 1587p Os 10c; amcan-gyfrif o wenii yr ol-eiddo, 880p 8s. Ymddangosodd Mr H. Lloyd Carter, Caernarfon, dros y dvledwr, yr hwn a bnod- olai ei fethdaliad i "dalu Hog trwm ar "overdraft" yn y banc, a myned yn feichiau." Mewn atebiad i'r Derbynydd Swyddogol Cynorthwyol, dywedodd ei fod wedi declireu ffermio y Caemawr saith mlynedd yn ol gyda chyfalaf o lOOOp, a fenthyciodd ar sicrwydd buddiant ei fywyd mewn tir yn Llanfair- y-Cwmmwd, a. adawyd iddo can ei daid. Dygai y lie hwn ardreth flynyddol o 130p, ac yn yehwanegol at y "mortgage" rhoddodd sicrwydd polisi yswiriant bywyd am lOOOp fel sicreb am y benthyciad. Talai 157p 10s o ardreth am Caemawr, ond cynwysai hyny log ar werth y gwelliantau wnaeth y cyn-denant yn y lie. Yr oedd yn ddyledus i'r ariandy o 400p i 500p. Yr oedd ei frawd, Mr J. E. Hughes, wedi myned yn feicliiau iddo am 150p.acyr oedd ynnyled ei frawd arall (Mr W. E. Hughes) ar gyfrif ardrethi Idderbyniodd drosto. Yr oedd wedi myned vn feichiau am 50p i John Hughes. Tycroes, Llanerchy- medd, a rhoddodd y banc "writ" am y swm hwn, yn ogystal a'r "overdraft," yr hyn a gyrhaeddai dros 500p. Cafodd fenthyg 150p. a chvtnnodd yr ariandv feichiau am 50p i John Hughes. Tycroes, Llanerchy- medd, a. rhoddodd y bane "writ" am y swm hwn, yn ogystal a'r "overdraft," yr hyn a gyrhaeddai dros 500p. Cafodd fenthyg 150p. a. chytunodd yr ariandv i aros am y gweddill. Yn Rhagfyr diweddaf, rhodd- odd Mr David Jones, Bodowyr, -feiliaid yn y ty am ddyled o tua. 300p, a chan na allai wneud unrhyw gytundeb, penderfynodd wneud ei hun yn fethdalydd. Yr oedd arno 127p am ardreth y pryd hwnw, a chredai fod Mr David Jones wedi talu y swm hwnw i'r "landlord" cyn cymeryd meddiant. Nis gallai ddweyd beth oedd wedi dod o'r diffyg o 706p. Nid oedd efe wedi esgeuluso ei fferm, ac nid oedd -n ystyried ei fod wedi treulio crormod o amser gyda-f arddangosfeydd ceffylau, etc. Gohiriwyd yr ar- holiad hyd yr eisteddiad nesaf.