Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

EISTEDDFODAU CAERNARFON AM…

Advertising

[No title]

LLYS SIROL PWLLHELI

YNADtLYB PiWOJHIEL. j

[No title]

Advertising

TORGOCHUID

News
Cite
Share

TORGOCHUID LLYNOEDD PADARN, PERIS', CAWELLYN. Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddiwrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol, o hw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blyn- yddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen arnser. Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn Uynau Lianberis tua chanol Tach- wedd, ac yn para hyd ddiwedd Rhagfyr. Dechreuid yn Llyn Cawellyn tua dechreu lonawr, a pharha am fis, neu weithiau fwy. Dywed y bardd Dafydd Ddu Eryri, yn y "North Wales Gazette" am Chwefror 2, 1809, y buwyd yn ^lal tua mil ohonynt yn Llyn Cawellyn mewn tair wythnos. Dal- iwyd tua thriugain dwsin yn Llyn Padarn ar un ddalfa. Gwna hyny 720 mewn un noson, tra y dywed Daiydd Ddu na cheid cymaint yn Llyn Cawellyn. Dywed eto yn mhellach (a chofier fod cant o flynyddoedd i mis Chwefror diweddaf er hyny), mai y Torgoch mwyaf ddaliwyd yn Llynau Lian- beris oedd ddeng modfedd o hyd, tra y mae Torgochiaid Cawellyn yn llai, yn mesur prin wytk modfedd. "Ymddengys," meddai, "mai yr un rywogaeth o Dorgochiaid sydd yn Llynau Lianberis a Cawellyn." Gofynwyd i Pafydd Ddu, gan wr o'r enw Humphrey Owen, a ganlyn: — "Pa fath dywydd yw'r goreu i',w dal, pa un ai ystormus ai tawel, oer ai cynhes, rhew, barug ai meiriol?" "Tywydd rhew tawel ydyw y goreu i ddal y Torgoch," ebe'r prydydd. "Pa amser ar y diwrnod, nos ai gwyll, yw'r goreu i'Ny dal?" "Tuag awr wedi gwyll y nos, neu awr neu ddwy cyn toriad y dydd, ydyw'r amser goreu i fwrw rhwyd am Dorgochiaid." "A ellir gwybod eu hoedran, megis, un, dwy, tair blynedd?" "Mewn perthynas i'w hoed, nid oes dim sicrwydd. Pan y bydd y Torgochiaid yn dyfod i'r glanau i gladdu, nid ymddengys llawer o wahaniaeth yn eu maintioli." "A ellir eu dall a genwair? Os felly, oeth yw yr abwyd goreu?" "Ni wyddis am i'r Torgoch erioed gael ei ddal a genwair." "Pa both yw eu hymboTth? A ydynt yn bwyta eu rhywogaeth eu hunain, ai ynte pysgod eraill?" "Mae'n ymddangos mai yn yr amser y maent yn claddu y delir y Torgoch; gan hyny, mae'n anhawdd gwybod pa beth yw eu prif ymborth." "Beth yw eu prill at eu gilydd, y pwys, neu y dwsin?" "Y mae'r Torgoehiaid yn cael eu gwerthu (gan eu bod y fath bereiddfwyd) am tua swllt y dwsin." •Yn mha le y trigent yn amser eu hym- guddiad? Pa un ai ar waelod y llyn, ai mewn ogofeydd fel y tybia rfiai?" "Bernir mai trig!e cyffredin y Torgoch yw gwaelod y llyn. Gwelwyd heidiau ohonynt amser yn ol yn neidio tua ehanol Llyn Padarn, eithr ni ddeuant yn amlwg ond yn amser claddu." "A welwyd rhai allan o'r llyn, yn yr afon. tu isaf, neu uwchlaw iddo?" I "Ni ddaliwyd Vr un Torgoch yn un o'r llynau eraill. Yn Llyn Cawellyn, ni ddelir hwynt ond mewn un man, sef yn ngheg yr afon, gerllaw y Caeau Gwynion, wrth ochr y ffordd fawr." "A welwyd rhai yn Llynau Lianberis, Cwm Silyn, neu Gwm Dulyn?" "Dywed Rafav gwlaxl iddynt ymddangos gyntaf yn Llynau Llanberis, yna yn Nghawellyn, ac yn olaf yn Owm Silyn1; a f thybid gynt fod cysylltiad tanddaearol o'r naill i'r llall." "Yn Llyn IJchaf Lianberis, delir hwynt wrth enau y bont fawr, mewn lie graianog; ao hefyd yn ngWrr isaf y llyn. Yn y llyn isaf, sef Padarn, delir hwynt wrth Ddol y Tydu, ac wrth"$|K>rfa Bala Deulyn (sef Pont -Y Dala yn awr). Daliwyd dros driugain ) dwsin o'r Torgoch at un dynfa, rai blynydd- oedd yn ol, yn y ddau le uchod. Tybir fod y dwfr mwnawl sydd yn rhedeg o waith copr, yr hwn sydd yn nghwrr uchaf Llyn Peris, yn niweidio. nid yn unig y Torgoch, end hefyd bysgod eraill. Y mae'r gwaith hwnw yn awr wedi sefvll, a chaed helfa doreithiog y tvmhor diweddaf. Am fynedfa tanddaear- ol o'r naill ly-n i'r Hall, y Mae v peth yn rhy 0 anhawdd ei benderfynu. Gadewir y pwnc i farn gwyr o addysg. ond y mae'n wir ei fod yn draddodiad ar left gwerin gwlad." "A fydd y pysg fyw yn hir. mewn dwfr arall ar ol eu dal, megis ffynnon, neu gel- wrn a dwfr?" "Nid ymddengys fod y Torgoch yn galln bvw unrhyw amser mewn un dwfr. oddi eitJir yr hwn y dvewyd ef ohono. Buwyd yn en cadw'n fyw ]awer gwaith am ddiwr- nod Twii ddau mewn basged yn nghwrr y Iyn. ac felly y buwyd yn eu caTio i lynau ereill, lie y trigent yn fuan; ond pa un a ydynt yn meirw o eisieu maethlondeb, dwfr' tyner, gwaelod graianog, neu rhyw achosion eraill, feallai nas gellir penderf^iu, 'Canys pwy a all draethu dirgelwch y dyfnder?' "A fyddai'n bosibl eu heigio mewn llyn- oedd eraill. "Oherwydd y rhesymau uchod. ymddengys eu trosglwyddiad yn" anmhosibl." Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgoehiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Pad- arn a Peris pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na. phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r bla-en, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidic; oherwydd gwaeledd. Coel- iaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef withyf. "Yr oeddwn i a Hugh Thomas, Brvn- tyreh, yn pysgota brithilliaid yn yr Ynys Felan, sef yr afon sydd rhwng Llyn Padarn a Peris, ac yr oeddwn i yn pysgota o'r cwch i'r bas, a Hugh Tomas i'r dyfn, a dyma fi yn dechreu dal yn y lie mas, a Hugh yn dal dim un yn y dyfn. 'Toedd yr -un ohonom yn meddwl mai Torgochiaid oeddani' nliw, ond yn meddwl mai brithilliaid, achos I yr oedd hi yn rhy dywyli i'w gwel'd nhw yn iawn. Yr oeddan wedi myn'd i ddechreu pysgota cyn toriad y dydd. Beth bynag, mi ddalis i bedwar ar bymtheg ohonyrt nhw, ac 'rydw i yn cofio yn iawn eu bod nhw yn pwyso pum' pwys, ond ddaliodd Hugh Tomos ddim un, ond un brithhill bach. Chlywis i ddim son erioed fod neb wedi dal y Torgoeh cyn hyny hefo genwar." "Faint o amser sydd er hyny, Robert Rolant?" "Wel, twn i ddim yn iawn, ond rydw i yn cofio mai amser gweithio pedwar diwrnod yn y chwarel oedd hi-tua oGain o flynydd- oedd, mae'n debyg. Cofiwch hyn, mai'r tymhor wed'yn y dechreuodd pawb yn gyff- redinol eu pysgota hefo genwar. li welis i gimint a phymthag ar hugian 0 gyehod ar y llyn yna ar unwaith, a phawb yn dal rhyw- f aint. "Oeddynt hwy yn arfer a rhwydo y Tor- goehiaid cyn dechreu eu pysgota hefo gen- wair?" "Oeddynt, agos bob blwyddvn, ac yn dal peth ofnadwy. Mi gwelis i nhw yn tynu rhyw ddau gybynad i'r lan ar un tynfa. 'Rwy'n meddwl na fethwn i ddim wrth ddwevd bod 'na filoedd yn cael eu dal." "Ydych chwi yn meddwl fod yna gymaint ohonynt yn awr ag a fu?" "Nac oes, 'rwy'n credu. Gwaith effeith- iol i gynnyddu pysgod ydyw rhwydo. Rwy' bron yn sicr y byddai un eweh, rhyw ugian i bump ar hugian o flynyddoedd yn ol yn dal mwy ohonynt nac a ddelir ar hyd y tymhor yrwan. Dyma i chwi beth arall am danynt, ni fyddem yn eu dal yn nechreu y tymhor — tua diwedd mis Mehefin, yn. I ngwaelod y llyn, rhyw bymtheg i uglan Hath o ddyfn, ag at ddiwedd v tymhor byddent yn codi i fyny i'r wyneb agos." Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeith- iau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf I a ddelir ohonynt mai mwyaf oil fydd ohon- ynt. Ni threiaf gysoni hyn. WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis.

AM GYMRY AR WASGAR

[No title]

Advertising