Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

f^«TU I>il £ Ts XTy" T eTjlT…

ECSEMA A GWAED WED! Ei WENWYNO.

[No title]

Advertising

I DIRGELWCH PLA DU.

Advertising

STREUON TAID

News
Cite
Share

STREUON TAID DAFYDD WIRION GALL. Oedd" yr oedd yr hen bobol ers talwnt yn ddiniwed iawn, mae'n siwr/' ebe fy nhaid un tro, pan oeddym yn son am hen gymeriad- au, "ond 'dydi hynny, wrth gwrs, ddim Y" un peth a deyd mai ffyliaid oedden nhw ych- waith. Mae'r oes yma wedi mynd i feddwl mai hi ydi popeth. Mae'n hawdd ddigon iti yrwan daro ar gannoedd 0 bobol nad ydyn nhw ddim mor ddiniwed, ond y sydd er hynny yn ffyliaid glan mewn gwirionedd. Yr oedd ffyliaid ers talwm, mae'n ddigon gwir, ac mi fydd rhai bob amser. Yn wir, rydw i'n meddwl fod y doctoriaid yn deyd fod y ffyliaid yn mynd ar gynnydd yrwan yn gynt nag erioed cyn belled ag y mae cyfrif i'w gael. Ac yr ydw i yn siwr eu bod nhw yn deyd y gwir hefyd. Beth arall sydd i'w ddisgwyl ? Meddwl di sut y mae pobol yn byw yrwan. Mae'r ffyl- iaid yn y mwyafrif eisoes. Wyt ti'n ame hynny? Wei, mi ddoi i wybod yn amgenach toe, y ngwas gwirion i. Ryden ni i gyd yn fwy neu lai o ffyliaid, wrth gwrs. Ond mi ddaw'r dydd pryd y bydd hi'n waeth na hynny, a'r pryd hwnnw, y dynion call fydd yn cael eu cadw mewn dalfa gan y lleill. Peth digon difyr, mewn rhyw ystyr, fase ceisio dychmygu sut y bydd hi yr amser hwnnw, ond waeth heb. Mi ddaw yn ddigon buan, mae'n sÎwr, os na ddaw dyn o hyd i ryw alluoedd sydd heb dkleffro ytodcjo fo eto. 'Does dim siawns i' 'fywyd fel y mae o heddyw ddal yn hir iawn, mae hynny yn berffaith sicr iti. "Ond son yr oeddwn i am yr hen gymeriade diniwed a fydde yn y wlad ers talwm. Oedd, 'roedd llawer ohonyn nhw. Allet ti ddim deyd eu bod nhw yn ffyliaid hollol. Mewn rhai pethe 'roedden nhw yn llawer callach na'r Thai oedd yn eu cyfrif eu hunain yn gall iawn. Mewn pethe eraill yr oedden nhw yn rhyfeddol o syml a diniwed. Rydw i yn cofio un yn dda, Dafydd Wirion Gall y bydden ni yn i alw to. Ac un digri oedd o hefyd. Anodd iti ddeyd pa un ai gwirion ai call oedd o. Weith- odd o rioed yn galed felly, ond mi gafodd i damed yn iawn tra bu o. Hen lane oedd Dafydd, yn byw ar i ben i hun mewn ty bach yn y pentre. Fydde fo byth yn gwneud dim ond rhyw fan swydde, fel mynd i negee i hwn a'r Hall, dal pen ceffyl rhywun, a Thywbeth felly. Mi fydde yn cael hen ddillad gan bobol, ac yr oedd gynno fo stoc fawr o ddillad o bob math. Fydde fo a braidd byth yn dwad allan ddeuddydd nesaf i'w gilydd yn yr un dillad. Gan i fod o yn cael rhai gan bawb, wrth gwrs, fydden nhw ddim yn gweddu nao yn ffitio yn dda iawn iddo fo, ond 'doedd waeth gan Dafydd am hynny. Os medre fo fynd iddyn nhw rywsut, mi wnaen y tro yn iawn ganddo. Welthie mi allset feddwl mai hen berson wedi rhyw dorri lawr oedd o, acltos mi fydde yn rhodio o gwmpag mewn gwisg person. Dro arall, mi faset yn meddwl mai hen wr bonheddig wedi mynd yn ol yn y byd yn arw oedd o, ac yn gorfod gwisgo'r un dillad yn o hir ar ol iddyn nhw fynd dipyn yn llwyddaidd. Mi fu pobol ddiarth yn gwneud cam gymeriade go ddigri hefo fo fwy nag unwaith. Un tro, roedd o wedi cic-I siwt J^an yr hen Sgweier Gruffydd o'r Plas Coch. Hen gybydd go dost oedd y 'Sgweier, end roedd o rywsut wedi rhoi gwisg go lew i Dafydd. Y gwir am dani oedd fod y teiliwr wedi ei gwneud hi yn rhy fechan iddo fo, ac am hynny mi ddigiodd yntau yn erwin, ac yn i gyn- ddaredd, mi roes y 6iwt i Dafydd. Roedd hi yn ffitio Dafydd i'r dim, ac yn siwt mor dda fel y bu Dafydd yn ei gwisgo heb ei newid hi am dipyn. "Un diwrnod, roedd Dafydd wedi mynd ar ryw neges i'r Plas Coch yn y siwt honno. Roedd yr hen Sgweier, er mwyn gwneyd i fyny am y golled a wnaeth y teiliwr iddo, yn dal i wisgo rhyw hen siwt Jwytach nag arfer, a phan welodd o Dafydd yn edrych yn gymaint o wr bonheddig yn y siwt a ddifethodd y teiliwr iddo fo, mi aeth i deimlo yn o gas. Roedd yr hen Sgweier yn eefyll ar y lawnt o flaen y ty ac yn edrych ar Dafydd yn mynd i ffwrdd yn ara deg. Gyda hynny, dyma ryw gerddedwr at y Sgweier i ofn cardod. Dacw io'r gwr bonheddig, cerdd ato fo i ofyn ebe'r hen Sgweier, gan estyn ei fys at Dafydd. Credodd y cerddedwr ef yn y fan, fel y buasai unrhyw un yn gwneud, gan ma-i'r wisg, naw tro o bob deg. yw'r unig wahaniaeth rhwng gwr bonheddig a dyn cyffredin. Aeth v tramp at Dafydd a, dechreuodd ddyweyd ei stori wrtho. "Dowch hefo fi," ebe Dafydd, ac aeth a'r eerddedwr ar ei union tua chegin Plas Coch. Cinio iawn a, chwart o gwrw i'r dyn yma, wrth orchymyn y gwr bonheddig,' ebe fe, a banner coron iddo yn i boced wrth fyrhd i ffwrdd, Feddyiiodd y morwynion ddim nad aHai y Sgweier fod wedi gofyn i Dafydd ddwad a'r tramp yno am darned. Felly, rhoisant ginio iawn iddo, a chwart o gwrw. Doedd yr hen Sgweier ddim wedi meddwl i ble yr oedd Dafydd wedi mynd a'r tramp, ond pan oedd y cerddedwr yn gorffen ei ginio ac yn Ibarod i fynd ymaith ond cael yr hanner coron, dyma'r hen Sgweier i fewn i'r gegin. Gwelodd yr es- tron yno. a dechreuodd dyngu a. rhegi a gofyn i'r morwynion pwy, a berodd iddynt roi cinio iddo. Dywedasant hwythau mai Dafydd, a'i fod wedi deyd eu bod i wneud wrth orchymyn y gwr bonheddig. a'u bod i roi banner coron iddo yn ei boced cyn iddo fyn'd ymaitb- Rhegodd yr hen Sgweier yn enbyd yn 101 ei arfer, a bu raid i'r tramp fodloni ar y cinio a'r cwrw a myrtd ymaith heb yr hanner coron. Cyn v nos. yr oedd yr hen Sgweier wedi cael hyd i Dafydd. i Hwda, y lleban,' ebe fo, pwy ddeydodd wa-that ti am fynd a'r tramp hwnnw i'r'gegin i gael cinio ac i gael banner coron ar fy nghost 1?' Wel, eyr,' ebe Dafydd, 'clywais chi yn deyd wrtho fo mai fi oedd y gwr bonheddig, ac am iddo ddwad ata i. Wrth reswm, fydd- wch chi byth yn deyd celwydd, a chan mod i yn wr bonheddig, rydw i yn leicio ymddwyn fel gwr bonheddig at y tlodion Dos i -1 ebe'r Sgweier, gan geisio rhoi cic i Dafydd, end yr oedd Dafydd yn ddigon pell cyn pen eiliad. Bu rhaid i Dafydd gadw yn glir o'r Plae Coch am gryn amser wedi hynny, ond o'r diweddo,-dae,t:h,yr hen Sgweier dipyn ato ei hun, a meddyliodd y buasai yn hoffi talu'r pwyth i Dafydd am ei gast. Bu yn hir yn ceisio dyleicio sut i wneud. hynny, ond yn methu a tharo ar gynllun wrth ei fodd o gwbl i ddn'r pwyth yn iav.n. Gwydd- ai yn dda mai wrth wneud rhyw fan negese a swyddi y byddai Dafydd yn ennill tipyn o geiniog, a phenderfynodd ddial arno yn y ffordd honno cyn gynted ag y caffai gyfle. Un diwrnod y:r oedd y Sgweier wedi bod ar daith yn rhywle ar gefn ei igeffyl, ac yr oedd yn dyfod adref drwy'r pentre. Daeth at dafarn y Llew Coch, a gwelodd Dafydd yn disgwyl am swyddau fel arfer. MalTchogoOdd y Sgweier at y dafarn a disgynnodd. Dafydd,' ebe fe, wnei di ddal pen y ngheffyl 1?' Gwnaf, syr,' ebe Dafydd yn bariod iawn, a'i law wrth ei gap. j "Aeth y gweier i'r ty. Yno, yr jotedd rhywrai a adwaenai, a bu yno am gryn deirawr yn ysgwrsio ac yn yfed tipyn, ar gost y lleill yn benaf. C'r diwedd, meddyliodd ei fod wedi cadw Dafydd yn ddigon hir i ddal pen ei geffyl yn y gwres oddi allan, ac am hyn- ny gadawodd y cwmni yn y dafarn gan ddy- weyd fod arno eisiau myned adref at ryw fusnes o bwys. Ei fwriad oedd dial ar Dafydd am ei gast drwy beidio rhoi cymaint a dime iddo am ddal pen ei geffyl am deirawr o amser. Gwyddai y byddai Dafydd yn ddig iawn am hynny. Hyd yn oed os cae ddime bydtdai Dafydd yn lied fodlon ond nid oedd dim yn ei gythruddo gymaint a gorfod bod heb ddim ar ol bod wrthi yn gwnieud Thywbeth, waeth pa mor dtj. bwys a fvddai, heb son am fod am ddarn di- wrnod wrthi heb gael dim yn y byd am ei b "r>. Aeth y Sgweier allan, a dyna Me'r oedd Dafydd yn dal pen y ceffyl, a golwg luddedig a sych- edig anghyffredin arno, canys yr oedd hi yn wres mawr. Aeth y Sgweier at ochr lei geffyl, dododd i droed yn yr wrthafl a neidiodd i'r cyfrwy. Diolch iti, Dafydd ebe fe, a marchog- odd ymaith. a gwen foddhaus ar i wyneb, fel pe buase fo wedi ei blesio yn fawr. "Yr oedd Dafydd wedi ei syfrdanu ac yn edrych yn hurt rvfieddol, ond cyn fod y gweier wedi mynd chwellath yn ei flaen. gweiddodd Dafydd ar ei ol 'Lie ca i wario fo, syr?' Lie mynni di! ebe'r Sgweiier, ac ymaith arr ef gan chwerthin yn ei lewis am ben Daf- ydd, a mwvnhau ei ddialedd yn fawr. "Aeth Dafydd i fewn i'r dafarn yn araf, ac ordrodd ginio iawn a. photel o win i'w ganlyn. Bwytaodd yn hamddenol ac yn helaeth, ac yfodd y gwin gyda hyfrydwch mawr, mi elli feddwl. j A'r tro nesaf y dafeth y Sgweier i'r Llew Coch. yr oedd bil 0 saith a. chwech yn ei aros am ginio Dafydd Wirion Gall." j

YR EIDDOCH YN BDiOLC.HGAf?.…

.WATT A BTT.

Advertising

I DIRGELWCH PLA DU.