Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

LLAJDD G>BX!ETH AiC YNA CROGI…

News
Cite
Share

LLAJDD G>BX!ETH AiC YNA CROGI ET HUX. Y 0 FOX A R EXETH 0 ¡ ddolwyddelex. Nid vn ami y clywir am lofruddiaeth mwj ofnadwy na'r un a gyflawnwyd gan Gymw o Fon yr wythnos ddinveddaf yn Preston Deanery, pentref bychan rhyw bedair milldir o dref XoTthamptan. Oddeutu blwyddyn yn ol, aeth gwr o'r enw Roberts, a'i wraig, o Gymru, i fyw i le o'r enw Rookery Farm, yn Preston Deanery, a dygasant gyda lrvyy fel morwyn Winifred Grif- fiths, geneth ieuanc o Ddolwyddelen, a chwaer i Mrs Roberts; a Chyruro o Gaerwen, Mon, o'r enw Lewis Jones yn was. Yr oedd Winifred, yr hon a fuasai yn 19 mlwydd oed ddydd Gwener y GroglitTi, yn eneth dlos iawn, a.c ymddengys fod Lewis Jones, oedd yn ddwy ar hugain oed, wedi syrthio mewn cariad a hi. Fodd bynag, nid oedd yr eneth yn ei garu ef yn ol, ac yr oedd hyn yn amlwg yn poeni Jones yn fawr. Fel rheol, bydd ad y ddau yn codi yn y bore oddeutu pump o'r gloch, ond codasant yn nghynt bore Iau di-weddaf heb eu deffro gan Mrs Roberts. Ychydig o ameer ar eu holau cododd Mrs Roberts. Aeth i lawr y grisiau, a galwodd ar ei chwaer. Fodd bynag, ni at- eb",yd hi, er galw ohoni ddwy waith neu dair, a methai a diraad 'beth allai fod yr achos. Yn ddilynol, aeth i gefn y ty i chwilio am Thywbeth, a'r peth cynta,,f a welodd oedd corph ei chwaer yn gorwedd ar y llawr phen yn hongian dros y sine ddwr.' GOLYGtFA OFNSDWY. lAeth ati, ac er ei dychryn canfu fod ei gwddf wedi ei dori o glust i glust. Yr oedd olion ymdrech i'w gweled yn y lie, a pharodH hyn idcid amheu mai wedi ei llofruddio yr j oedd ei chwaer. Y chydig fynyd.au wedi vyny eadarnhawyd ei hamheuaeth pan welodd 'afn ellyn, wedi ei orchuddio a Efwaed, ar y 'lawr yn ymyl y corph. Canfu hefyd nad cedd Lewis Jones ar gael yn unman Galwodd am gyn north wy, ac aed i chwifio' am Lewis Jones ar unwaith. Nid oedd yn ei wely nac yn unlle o gwmpas y ty, ,a gwyddid na fuasa-i yn myned at ei waith cyn brecwest. Wedi chwilio v lie yn ofalug, gwelwyd gw^ed ychydig oddiwrth y corph, a dilynw/d olion hyd nes y deuwyd at hen ysgubor rhyw banner milldir oddiwrth y ty. OLION BYSBDtc GWAEDLYD. Wed' myned i'r ysgdbor gwelwyd ystol wedi ei goeod yn erbyn darn o haiarn oedd ar draws yr adeilad. Yr oedd ol bawd gwaedlyd ar yr ystol, ac ar y llawr yr oedd dam o raff tefcyg i riff a ddefnyddir i dywys ceffylau wrth aredig. Wedi gwneyd ymchwiliad manwl cafwyd fod Jones wedi ceisio crogi ei hun, ond wedi methu trwy i'r rhaff dori gan fod ymyl y darn haiarn yn finiog iawn. Uarnwyd fod Jones wedi dianc ar ol methu crogi ei hun, ond nis gellid gwybod i ba le yr oedd wedi myned gan fod yr olion wedi darfod. YVhvdig yn ddiweddarach, fodd bynag, fel yr oedd gwr oedd yn gweithio ar y rheilffordd yn myned at ei waith, canfu Jones y ngrogedig ar goeden ffawydd yn ymyi y rheilffordd. Yr oedd yn hollol farw, ac wedi ei gael i lawr gwelwyd fod ei ddwylaw wedi eu gorchuddio a gwaed. Xid oedd wedi gorphen ymwisgo, ac yr oedd ei esgidiau heb eu cau. Yn un o'i logellau deuwyd o hyd i garn yr ellyn a gafwyd yn ymyl corph yr.j eneth. Xid oedd amheuaeth yn awr nad efe oedd -wedi llofruddio Winifred Griffiths, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneyd hyny pan oedd hi yn cbwilio am lo i gynheu tan, oherwydd nid..oedd lo yn ngrat y gegin, er fod y coed oedd ynddo wedi llosgi. ACHOS Y LOFRUDDIAETH. IBternid mai achoe y iofruddiaeth oedd eidd- igedd. Fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd Jones yn earn yr eneth, ond yr oedd hi yn ffafrio bachgen arall o'r enw Raine, oedd yn byw yn ymyl. Nos Fercher, daeth Raine gyda Winifred adref o'r capel, a gwelwyd hwy gan Jones, a ffyrnigodd yn arw. Yr oedd yn amlwg hefyd fod y eneth yn ei ofni oherwydd aeth i'w gwely nos Fer- cher cyn iddo ef ddod i'r ty er mwyn ei osgoi. Fodd bynag, ni chlywyd hwy yn cweryla. erioed, a dywedid yn y cwest fod Jones yn fachgen o gymeriad da, ac na byddai byfh yn cyffwTdd a diod. Yn y cwest, bwriwyd rheithfarn i Jones lofruddio yr eneth, ac yna, Iladod ei hun. Creodd y digwyddiad alaethus gyffro mawr yn yr ardal

HANES Y DDAU DEULU.

CYNHEBRWNG YR ENETH. !

I,CYMDEITHAS OPERAYDDOL ICAERNARFON.

[No title]

SEDD ARFON. !

Y SENE DD.j

I ARDDANGOSFA CONWY. !

ARODANGOSr A LLtYN AC tirlOW.

TAN AR YSTAD ARGLWYDD HARLECH.…

LLOFRUDD WILLIAM WHiTELlY.

DOSPARTH DEML ARFON.

- EISTEDDFOD GADEIRIOL1 GWYNEDD.

Y BEL DROED.

I CHWAREUON YN MHWLLHELI.1…

[No title]

EISTEDDFOD CAER.

. RHEDEG I'R LAN.

. UN 0 GAERGYBI MEWN HELBUL.

Y CHWARELAU.

Y DIWEDDAR ARGLWYDD PENRHYN.

Family Notices

Advertising