Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
EISTEDDFOD GADEIRIOL1 GWYNEDD.
EISTEDDFOD GADEIRIOL 1 GWYNEDD. Y BEIRNIADAETHAU. tA ganlyn yw beirniadaeth Glan Alaw arr y traethodau a anfonwyd i'r gystadleuaeth yn Eisteddfod Gatdeiriol Gwynedd, a gynnalrwyd yn NgJiaernarfon ddoe. Y testyn yw "Eistedd- ■fodau Caernarfon yn ystod yr banner canrii diweddaf" Dan sydd wedi ymgeisio ar y gwaith, sef "Un Hoff o'i Wlad" ac "Idrifi." Mae pob un o'r ddau ymgeisydd hyn wedi ysgrifenu cyfrol enfawc ar Eisteddfodau Caernarfon, ac wedi rhoddi manylion a chofnodion dirifedi o berthynas iddynt. iGrwaith. mawr oedd eu casglu a'u hysgrifenu, a gwaith mawr, mawr yw eu darllen a'u beirniadu. Mae lLawysgrif "Un Hoff o'i Wlad" yn ymddangos ar y cyntaf yn anobeithiol. Gwelais wrth geisio myned drwy y nodiadaiu ar y dctchreu mai math o gyfrinach eisteddfotdoF y golygai yr awdwr i'w d'raethawd fod; ond fel yr awn yn miaen oawn ambell dudaien yn Mdio peth, a meddwl 11 fe yr ysgrifenydd yn iywynu drwy y cymylati. iFeL y sylwa "Un Hoff o'i Wlad" ei hun, er Dior fait.h a llawn yw y cyfansoddiad. hwn, nid ydyw wedi cymeryd i mewn yr oil o'r cyn'liun gwreid.diol,a bwriaicla yr awdwr yckwanegu llawer at y cyfansoddiad eto. Wrth ddarllen traethawd "Idris," hawdd gweled y buasai hyny yn ychwanegu at werth y gwaith. Mae yr awdwr er hyny yn deall beth sydd ganddo mewn llaw, ao mai yn ei wneyd gydag yspryd! hunanaberthol dros ben. Mae y traethawd em- fawr hwn yn brawf digonol ei fod yn llawer mwy hoff o'i wlad nag o wobrwyon eisteddfod- ol. Gobeiithio nad aiff ei lafur mawr hwn yn ofer Mae yn raid dyweyd fod cael troi oddi-wrth draethawd "Un Hoff o'i Wlad" at draethawd "Idris" yn gryn ragorfraint. Mae y gwaith hwn wedi ei wneyd i fyny mewn modd sydd agos yn berffaith o ran yr allanol. Mae mor iddarllenadwy a phe. wedi ei roddi mewn ar- graph, ac mae mor fanwl a pherffaith yn ei ystadegaeth a ffeithiau ac a ffigyrau arianol a phe wedi ef ysgrifenu gan gyfrifydd proffesed- 19" os nad ydyw felly niewn gNvii-i-oiiedd. Wrth geisio cyferbynu y ddau waitli hyn, yr oeddwn yn cael fod traethawd "Idris" yn llawn cyfar- tal o ran gwaith a tlfeaethawd ei gydymgeis- ydd, a-c mai yndcfo yn ychwanegol at hyny gannoedd o bet-hau perihynol i'r Eisteddfod au nas ceir yn ei draethawd ef. Credaf yn sicr mai traethawd "IdrLs" (yw y goreu, ac Mae yn llawer iawn mwy na gwerth y wobr, fel, yn wir, mae traethawd "Un Hoff o'i Wlad" !hefyd. Y BRYDDEST AR GWYNE'DDON. Wele feimiadaeth Glan AlaW ac ALafon ar y bryddest goffa, "Gwyneddon Derbyniwyd pedair o bryddestau coffa., yn dwyn yr enwau "Owain Tudur." "Eryri," i "Su y Don," a "Gwyndaf Menai." Dengys y pedwar bardd ihyn barch calon d goffadwriaeth Mr Davies, ac maent wedi cyfansoddi prydd- stau, teilwng ohono, er yn gwahaniaethu ym mgr.akldarc leU teilyngdod. Gwnawn y sylw cyntaf ar bryddest 'Owaiti Tud'ur.—Mate y bardd hwn yn tfeddiaamol ar bob gwybodaeth aaigenrheidiol 0 berthyna-s i'w wrthddrycn. Dwg i mewn igyflawndfer mawr o ffeitii'iani gwerthfawr a dyddorol. Caaia hefyd ar y cyfan yn bur gy- f meradwy, ond defnyddia rai meeurau sydd yn gwneyd i'w linellau ddarllen yn afrwydd ac yn anna'^uriol. Wele jeifgi-aipht: "Mas Natur yn beaidithio dyn ambell waitJh A rhyw hrydferlhion ynddi* hun ar ei daith; Mae aryvl>ell run fel draecein ddu'n pigo o hyd, Tra'r :llall fel rihos a'r arogl oCll yn llenwi ei fyd Bydd am fel bwystfil—rhua'i lef dros y wlad, Tra'r llall fel angel gwyn o'r nef-fendith, gwlMl. RKaid i "Owain Tudnr" gofio fod lline-llau o'r lluii yna yn annioddefol. Ond y peth sydd fwyaf er hyny yn erbyn y bryddest hon ydyw, fod y bardd yn ormod o groniclydd ac yn Tv-chan o adeiladydd. Dwg' yn mlaen ddigon o ddefnyddiau. ond nid yw yn codi adail fardd. onol deilwng ohonyixf. Nid yw y gan er hyny yn amddifad o werth. "Eryri."—Dyma gmniad vn dangos llawer o dalerit--tatent at y imath yma o ganu yn ar- benig. Mae "ErA^ri" yn wisgwr bron iheb ei fath ar ffeithiau, a'r wiag liono yn farddoniaeth 40 radd' uehel ynddi ei "(hun. Dywedir fod y gwir fardd yrn: troi pob peth at ei wasanaeth, yn cyfoethogi'i feddyliau a phob ffurf ar ieith- eg a'i ffugurau a'i holl gampau. Gwna "Eryri" hyny gyda thalent a medr neillduol; ondl gwna ormod o hyny, nes amgylchu ei wrtihddrych a gormod o sidanwisg awenyddol i'w hen gynefin allu ei adnabod. Mae felly yn arbenig ya rhanati de-chrenal el gan. Yr ydym rhwng syl- wadau a ffugurau yn colli golwg ar ein Gwyn- eddon adnabyddus. Nid ydym yin cyfarfod yn y gan odidog hon ag un personoliad gwaihan- iaeithol o Mr Davies. Eto mae y gan yn gy- foetthog, a'i gwir ddefnyddiau, ond y defn- yddiau hyny, yn ymddangos i ni yn cael eu hofer weithio gan y bardd. Dyma un engraipht o'r gan hon "Symudiadau esmwyth, Klavel oedd ei symud- iadau ef, Megis cwmwl Hawn yn noflo drwy eigionau'r nef; Ond wrth symud fe gawodai gynrwynaeatr ar y byd; Nid yw'r gawod olaf wedi --Ilwng e4 defnvn- au'i gyd; Tref Caernarton sy'n aeddfetacli i'r cynhauai bwnt i'r lien, Am i'r cwmwl golau yna oedi blwydd uwoh ei phen." "Su y Don."—Dyma bryddest wedi ei chy- fansoddi dan gamp, yn brydferth ac yn gelf- ydd. Mae ei meddyliau yn ddetholedig ac yn dlysion, ac mae ar y cylan yn hollol nodwedd- iadol o'i gwrthddrych teilwng. Canodd "Su y Don' 'ei gan dan dri phenawd I. Emyn Bywyd a Bedd. H. Dan wrid y Wawrddydd. III. Y Nawngwaith Prysur. Yr ydym yn teimlo y buasai yn well i'r bardd rhagorol liwn fod wedi crynhoi gxryn larwer yn nechreu ei gan. Tuedda yn y rhanau cyntaf i flino ei ddarllenydd a meithder; ac mae hyny hefyd wedi piinhau ei ofod, feli mai o'r braidd mae ganddo le yn aros yn niwedd ei ganiadi i ddwyn pob peth i mewn.Eto rhydd nSu v Don" i ni ddarlun pur gyflawn o 'Gwyneddon, ac nid o neb arall. Mae y gan hon yn uchel ei barddon- iaejfh ac yn gelfydd a glan ei chyfansoddiad', ae J mae llawer o'r gwr a garai ein cenedl ni i'w gael yn amlwg ymldi. Dyrna. un engraipht "Carai'r hen Gymraeg urddasol, Ar ei harddull rhoddodd fri, Ei feddyliau lifdi'n swynol Dros ei gweTus hoenus hi; Symledd hardd a naturioldeb Oedd mireinder pena'i :iaith Ceid pob brawddeg fel diareb ? 'Yn cloi synwyr mewn clysineb, Gan addurno'i lengar waith." uGwyndaf Menai." — Dyma eto bryddest ragorol, a'r un sydd yn caâw ei darllenydd wyneb yn wyneb a'i gwrtFnidrych bob cam o'r dedhreu i'r diwedd. Mae yn y gan hon rai brychaui by chain y byddai yn dda i "Gwyn- daf" eu symud, ond by chain ydynt. Ni ohy- ifeiria y bardd hwn ond ychydig at berthynas Mr Davies a Dinas Deiniol Sant, and agora ei gan lar lan y bedd, fel cyfaill yn wylo am gyfaill, ac heb hamdden a.r y pryd i Jyfeirio ond ychydig i un man arall. "Yr helyg sydd yn wylo Ar lan y Seiont lwys" Gan blygu i gucanu r Hi', Fel adlun,b.iraeth dwve, ) Am un a garai rodio Ffordd hono wrtho'i hun, Fel o dan bwys myfyrdod dwys Ei enaid canaid can." Ond nid yw "Gwyndaf Menai" yni cymeryd golwg gyfyng ar fywyZ- a banes a dhymeriad prydferth y gwr a garem; yn hytraoh dilyna ef gydag edmygedd ipur i ilkin igyfeiriadau ei fyw- yd glan a defnyiddiol. iDehgys y gan hon deknlad byw a gwreeog, ac mae y bardd yr ixti pryd fel un yn t-eianlo nad yw yn gallu teimlo digorL "Ob na altwn dragwyddoli Ei ddaioni yn fy Nghan, Llewyrch Illa-cliar ei alluoedd Fu'n oleuni Sion Jan." Dyma benill llawn o edmygedd "Annibyniaeth hen y Wyddfa Ond ieb ei gerwindeb hi, DdoÍln ddel weddwyd ar bur enaid Gwrthrych ein hedmygedd ni; Nid rhyw don anwadal ydoedd, Cliwelir, deflir gaai y gwynt, Ond yr ydoedd gwraidE ei hanfod Yn glymedig am y Duwdod, Llaw y nef a lywiai'i hynt." Dyma etc benill hollol nodweddiadol: "Prysurdieb oedd ei hamdden, Manyldra oed,d ei nerth, Ni hedai y siliedyn chwai Na wyddai ef ei werth, Esgynodd i anrhydedd, Yn gefnog yn y byd, Enillodd gyfoeth, parch, a bri Trwy lafur gonest drud." Mae y gan hon ,yn difyru ei darllenydd ao yn ei gario ar edyn teimlad tyner o alar ac edmyg- edd mewn modd nas gwneir gan yr un o'r pryddestau ereill, er mor rhagorol ydynt. Mae hon yn sicr o fod yn gan fwy byw a gwreaog, cref, a nodweddiadol na hwy. Wedi darllen y pryddestau drosodd a Ihrp&odd gyda phob gofal, ac wedi ymgyngrnori a'm cyfaill Alafon, credaf mai gan "Gwyndaf Menai" mae yr offrwm mwyaf cysegredig yn y gystadleuaeth hon i goffadwriaeth y gwr y galarwn mor lbriodol am dano, a ohredaf fod yr awdwr yn deilwng i eistedd yn nghadair yr Eisteddfod. ENGLYN: "YR ADERYN DU. Doeth dau ar hun o englynion i law ar yr "Aderyn Du." Ceir yr englyn hyn yn ym- ranu yn dri dosparth. Yn y dosparth cyntaf oeir y rhai canlynol: "Dryw Bacih," "Y Der- yn," "Anian," "Brig yr H'wyr," "Un Hoff o'r Deryn," "Ma-bv Wig," "Gwawrddydd," "Syl- wedydd ar Asgellyn." Englynion gwajlus a digiol ydyw yr oil o'r rhai hyn. Yn yr ail ddosparth ceir "Egwan Agwedd," "Coed wig- vr, Taith y GWys," "X.Y.Z. "Rhwng y Dail," "Sadwrn," "Dryw Bach," "Teila," a '"Llwyd y To." Mae y rhai hyn yn agos iawn i fod yn hollol gywir, ond heb fod felly yn ihollol. Dyma un ohonynt: "Owel noM aur rhwng gloewon blu—parotoi Mae'r pert was i'w ganu, A gwnaj im y Deryn Du' Drwy dy enaid drydanu." Yn y trydydd dcsparth ceir y pedwar englyn canlynol: '"Awel Haf, "Rhydd-dir," "Llwyn y Deri," ac "Yr un Unig." Credaf mai y '1 ddau mwyaf nodweddiadtfl yw yr eiddo "Llwyn y Deri" ac "Yr un Unig." Dyma englyn "Uwyn y Deri:" "Yn y meingoed, edn mwyngu—ef a'i gerdd Fy w gar ein difyru Cenad ydoedd yw'n canu Ei gyhoedd wawd mewn 'gwisg ddu. Dyma eto englyn "Yr un Unig "OPr wia" mewn galar-hugan—yn gywrain Garol i wen hunan, Y Deryn Du'n gu a gan 0 Ei glir chwibanogl arian." "I Credaf mai englyn "Yr un Unig" yw y goreu.
DWFR I CHWARELAU.
DWFR I CHWARELAU. ACHOS PWYSIO 0 NANTLLE. YR AMDDIFFYNIAD. Yn Mrawdlys Caer, yr wythnos ddiweddaf, gerbron y Barnwr Jelf. terfynwyd y tystiol- aethaui yn yr achos uchod o ddyddordeb i drig- "o.I'i¡on DyfSilyn Nantlle. Hawliai' Mr Gwyn Hughes, perchenog ystad Gwernor, iawn oddiar Mr Thomas Lewis, perchenog Chwarel Ty'ny- weirglodd, am niwed a wnaed trwy ymyryd a chwrs afon a il fa, o lyn Cwmsilin i afon Llyfni. Dewnyddid dwfr yr afon gan y ddau at wasanaeth eu chwarelau. Ymdidangosai Mr Francis Williams a Mr EMIs Jones Griffith, A.S. (dan gyfarwyddyd Mr C. A. Jones, Oaernarlon), dros yr hawl- ydd, a Mr F. Marshall, K.C., a. Mr Mont- gomery (dan gyfarwyddyd Mri Carter a Vin- cent) dros y diffynydfl. Dywedid ar ran yr achwynydd mai gwaith copr oedd yn Ngwernor ar un adeg, ond can- fuwyd mai gwell oedd gweithio y lechfaen oedd yno; ac yn 1882, ar ol peth helynt yn nglyn a'r dwfr, cytunwvd i wneyd mur yn yr afon mewn man neillduol i droi banner y dwfr- i lyn Nantlle a'r banner arall i gyfeiriad Chwarel Gwernor. Ar ol i'r cytundeb gael ei wneyd bu llithriad tir lies llifodd v llyn dros ei lanau, abarnwyd yn ddoeth leihau iswm y dwfr oedd yn llifo iddo trwy droi yr afon 1 ffos. Dephreuwyd' yr achos pan yr agorwyd Brawdlys Caer oddeutu, tair wythnos yn lol, a buwyd am rai dyddiau y pi-yd hyny yn gwran- daw tystiolaethau dros yr achwynydd. Gan nas gellid gorphen gohiriwyd y Frawdlys, ac ail-agorwyd bi yr wythnos ddiweddaf. Dyg- wyd yr achos dros yr achwynydd i derfyniad ddydd Llun, wythnos i ddo-e, a buwyd am ddau ddiwrnod arall yn gwrandaw tystiolaeth- au dros yr amddiffyniad. Tyetiodd Mr Thomas Lewis, y diffynydd, ei fod yn un o'r partion i brydles Ty'nyweir- gJodd, a ganiatawyd yn 1884. Cyn 1884 bu yn gweithio Ty'nyweirglodd am dair blynedd. Yn 1882 penderfynwyd pwmpio dwfr. I'r dyben o wneyd hyny yr oedd ffos o ddwfr yn dyfod o Ffridd Fain i Gors Fawr. Yn ddiweddarach pwreajsodd beii*iant a berwedydd. Heb y ffos o Ffridd Fain nid oedd yn bosibl gweithio y chwarel. Talodd ymweliad a'r lie y flwyddyn -hon, ac nid odd yr un fatih ag yr oedd yn 1903. Elai yr oil o'r dwfr i Gwernor.—Croes-holwyd Nid oedd yn hawlio yr oil o'r dwfr. Hawliai ran ohono. Ni dywedodd erioed y dylai gael yr oil o'r dwfr. Oredai y dylai gael yr ban- yr oil o'r dwfr. Credai y dylai gael yr han- ner. Yn ol pob hysbysrwydil a gafodd, credai fod y dwfr wedi bod yn rhedeg hanner i gy- feiriad Ty'nyweirglodd a hanner i gyfeiriad arall. Tystiodd Mr John Paul, Caernarfon, y bu ei dad ar un adeg- yn llvwodraethwr Ohwarel Ty'nyweirglodd. GwydSai y tyst am y lie yn dda. Yr unig ffynnonell ddwfr oedd y ffos dan sylw. Dywedai fod a_eoriad yn y clawdd a'i fod wedi bod yn pysgota yn Gors Fawr. Ddydd Mawrth darfu i'r Barnwr ddyweyd y byddai iddo dderbyn y cynllun a gyflwynwyd gan Mr R. Davids, Caernarfon, y dydd blaen- orol, ond ychwanegodd y byddai i'r cwestiwn 0 dderbyn y cynllun yn derfynolgael ei ddadleu yn Llundain eto. Gwnaed y cynllun gan Mr Davids yn 1878, pan yr oedd' yn niesur vstad iGwernor. Collwyd y cynllun gwreiddiol, a gwrthwynebid ddydd LInn ar ran yr achwyn- ydd i dderbyn copi, a ohytunodd y Barnwr a'r gwrthwynebiad. Dyweaoad Mr Davids wrth gyflwyno y cynllun fod y dwfr pan fesurodd y tir yn rhedef drwy wal o Ffridd Fain i Gors Fawr, ac yná i Dy'nyweirglodd. Rhoddwyd tystiola^th gan Mr T. B. Far- rington, peiriannydd, Llandudno. Wrth ay- mei-yd i ystyriaeth rediad y ffos tuagat i fyny credai iddi gael ei gwneyd gyda'r amcan o gludo dwfr i Dy'nyweirglocfti a Than'rallt. Cytunodd Mr Thomas Jones (Mri Tapp, Jones, Llundain) a Mr Farrington. Wrth gy- meryd i ystyriaeth rediad y dwfr ystyriai fod y ffos wedi ei chychwyn o gyfeiriad Ty'nyweir- glodd. Cyflwynwyd cynllun gan Mr Llewelyn Lloyd Jones, Caernarfon, a derbyniwyd ef. Ddydd Mercher, rhoddwyd tystiolaeth iran denantiaid ffermydd yn y gymydogaeth i brofi fod y ffos yn oael ei hawlio gan denaniiaid Tynyweirglodd.-Yn vcrTod croes-holiad dy- wedodd un o'r tystion fod tenant Brynllidiart wedi talu cydnabyddiaeth yn flynyddoi i denant Ty'nyweirglodd am ddwfr o'r ffos a redai drwy Fferm Gors.. Dygwyd y tystiolaethau i derfyniad, a gohir- iwyd yr achos hyd y 19e £ a'r 20fed, pan y bydd i gwestiynau o gyfraith gael eudadLeu yn Llun- dain.
[No title]
"Peidiwch ag ymddiried gormod mewn cy- faill newydd nag mewn hen dy," ebai F'ewythr Sam. Yn y Wlad Lychlyn (Norway), fe gauir y tafarnau ar ddyddiau tal, ac fe adewir y banc- iau cynilo yn agored hyd hanner BOB.
Advertising
PEPS I'R HEN AR IEUANC. I 0 blentyndod cynar hyd hen oed mae ein binsawdd cyfnewidiol yn dwyn arnom wendidau ac anhwylderan yn y H gwddf a'r frest. Yn y gorphenol y mae'r gwendidau a'r anhwylderau hyn wedi eu gwaethygu drwy driniaeth acnoeth H gyda meddyglynau at y peswch, opiates, sedatives, emulsions seimlyd, a chyffyriau eraill, yr oil o ba rai sydd yn etteithio H ar yr ystumog, yr afa, yr elwlod, yr ymenydd, neu'r galon, ac yn ffaelu cyrhaedd y lungs. H Jl. Mae Peps wedi sicrhau meddyglynau adgyfnerthol, parhaol, a gwellhaol y fforestan pinwydl H k cyfoethog, ac wedi eu dwyn i'r cartref yn y fath fodd fel y mae awyrgylch y fforest binwydd yn cael B Ss ei dynu i'r ysgyfaint fel y bydd y tablets Peps yn ymdoddi ar y tafod. H Yn rhydd oddiwrth y mymryn lleiaf o opiwm, morphia, chloral, neu unrhyw ddrugs ereill y S mae Peps yn feddyglyn rhagorol at anhwylderau'r gwddf a'r fresfc i bob oed. Byd yn nod gall baban g ieuanc mewn breichiau yn saff gymeryd Peps wedi eu malu yn bowdwr a'u gosod ar y tafod- Mae |j pob anhwylder sydd yn rhy wybyddus yn mysg plant bychain. megis y crwb, crygni, peswch y nos, H gwichiadau yn y frest, ac anhwylder y gwddf i gyd yn rhoi ffordd i Peps. Gwna bocs o Peps yn y ty H wneyd gwahaniaeth mawr i'ch plant cydrhwng cylla cryfion a bywyd wedi ei lwytho a gwendid yn B y frest. At anhwylderau'r frest fyddo wedi ymsefydln ar y canol oed a r henafgwyr nid oes dim a rydd H gymaint o foddhad, ac a fydd r effeithiol, ac mor saff a Peps. Bydd yr adnoddau pinwyddol o Peps H yn gwneyd y peswch mwyaf ystyfnig yn esmwyth a naturiol, yn helpu poeredd, ac yn cryfhau y ac yn hel i ffwrdd anhawsder i anadlu. Gweler fod yr enw erofrestredig-PEPS-ar bob boes ac ar bob tablet. | Yegrifena Mr B. J. Miller, Lowrey Gellir cael Pepq g»n bob fferyllydd a j Wi" i Street, hhieldtield, Newcastle: —"Am m^elfa meddyglynau am 1/1 £ a iJ/9 y ft dros naw mia dioddefai fymab ieuer gaf, boca, drw»'r post oddiwrth Peps, Carlton At. syeh. Yr oedd yn at y Leeds nas, ac ni y rieni fawr gwsg. uyrodd foci3 0 f'apt3 y pesweh yn S MPL RHAD. llwyr, lie ni ddaeth vn 01 Anfoner y coupon hwn bytb. Mae Peps wadi bod liheddyw i Peps, Carlton Hill, yo fendith rnwyaf Les, gyda. llythyrnod lc 1 cekrtref. tablets bych ¡ldalu r am sampl rhad o Peps. yn werth 8U PWYS%U Herald Cyinraeg, 214107. a, rnewn sur.11 A mom. Pin f t er 9 lp e_ 0 Ls in 4
O'R WLADFA GYMREIG.
O'R WLADFA GYMREIG. Gan GUTYN EBRILL. Llwyn Ebrill, Gaiman, Chubut, Via Buenos Ayres, Dydd Calan, 1907. "Blwyddyn newydd ddedwydd, dda," i chwi oil, gydwladwyr anwyl, dros bedwar ban byd. Ysgrifenais hyn yn i-nore cynta'r liwyddyn, a-c wele fi heddyw—yn niwedd y mis,—yn ceieio rhoddi ail hwb i'r olwyn i dwi. Y fath yw bywyd! "Take me while I'm in the humour" yw hi gyda finnau y rhan fynychaf. Y mae llawer tro ax, fyd wedi digwydd yna ae, yma er pan gawooffi ymgom o'r blaen yn yr "Herald." Canfyddais trwy'r papyrau gwafoanol i ryw lu ()'m hen gydnabod a rnai cyfeilliion anwyl i mi mewn Igwahanolleoodd groesi trosudd at y mwyafrif mawr. Fe ddichon heddyw—lonawr 29ain—mai yn nechreuad fy ysgrif y byddai oreu cronido marwolaefha.uVWladfa oddiar y dyddlyfr, o'r pryd yr ysgrifenais i'r "Herald ddaweddaf, Mai 29ain, 1906. Heddyw y daethpwyd a chorph Mrs (Catherine) Enoc Davies, gynt o Dre- degar, etc., o dy ei merch o Rawson i'r Gai- man, i'w gladdu. Ei hoed yn 62 mlwydd. Ei hafiechyd oodd y cteiyd melyn. Hen gymer- iad doniol, dlreu yn ei selog hefo'i chre- fydd, a ffyddlon yn ei holl gyldbi yn Nghapel y Gaiman. Gadawodd briod a phump o blant yma i alaru o'i hoi. Mehefin 4. Heddyw y cleddid yn mynwent y Gaiman, wrth ochr ei lien briod gweithgar, neio'r byd a chrefydd, yr hyn oedd 'farwol o Rhys William, Cefngwyn, brodor o Dde Cym- ru, a ddawfaa," ÎrWladfa gycia'i deulu faith ilwyddi'n ol, o Brazil, lie 3uasent yn ceisio ffurfio sefydliad Cymreig gyda Mr T. Benbow Phillips. Hen gymeriad1 sad a phur, gweith- gar, die taw, oedd Rhys William, a, gafodd fvwyd hir o 84 mlwydd. Magasant deulu llu- osog, yn ferched a dau fat>, ag ydynt erbyn hyn wedi ymganghenu dro's y Wladfa. ac a fyny i'Dixied Gorsedd y Cwmwi yn yr Andes. Mehelin 25ain. Heddyw bu farw Cyllin Briwlais, mab ieuengaf Mr a Mrs D. S. Jones, Rhymni, o glefyd y'frech goch, wedi byr gys- tudd, yn 11 oed. Pet v teuhi, ac anwylun ei gydnabod. Claddwyd vn mynwent y Gaiman wrth ochr brawd a chwaer, dau o flodau ieuanc sydd fyth wrth yr orsedd-fainc. Gorphenaf laf, dydd SablbatJh, bu farw, i ifynzy'r dyffryn yma, yn nhy Dewi Pirs Gru- ffydd (Ap Gwaenydd), lie yr aethai, fel arfer, ar ymweliad, yn 85 mlwyddd oe,d, William Owen, y crydd, (brodor o Flangor, yn Arfon. Cafodd boe-nau tost oddiwrth ddolur y gareg yn benaf, dros ychydig ddyddiau. Claddwyd ef yn barch us gan hen gyfeillion a chydnabod yn mynwent y Gaiman. Nis gwyddom fod ganddo neb yn perthyn iddo yma. Hen gy- mcriad gwreiddiol oedd1 William Owen, a°i hanesion, o'r oesau a fu, yn ddihysbydd. (i wcithiwr o'r siort oreu, a bydd yn go'lled i ami i un a fynai pe cawsai ei draed yn syclhion wrth "ddyfrhau" yn y Wladfa, am "esgidiau i ddal dwr" -wedi colli Walliam Owen. Os tery llygaid ei berthynasau, ei wraig a'i wyres, etc., yn Mangor, etc., ar y llinellau hyn, bydd- ed hysbys iddynt fod y cyfaill cywir John Ed. wards ("Y Band"), o'r Dyffryn Uohaf yma (brodor o Benrhyndeudraeth), yn gyru'n mlaen gydagt owdur-clodau anniben y Llywodiraert-h Arohen'taidd yma, i drefnu yr eaddo a ber- tiliynai i William Owen pan iu. farw, heb eon air wrth neb' am yr hyn a feddai yn ei ys- tafell ardrethol, ar ben rhiw hen argae'r Gai- man. Pan orphener y job yma gyda r ewydd- ogion yn Rawson, a thwlu pobv costau, diau genyf y bydd i'm cyfaill J.E. roddi oyfrif o'r cwbli i'r weddw, Mrs Owen, p Fangor; a phwnc y perthynasau agosaf a fydd rhanujr yspail ;yn ol cyfraith Prydain. Bydd eiddo'r marwolion, yn y cyffredin, yn dod yn bur ddy- munol i olynwyr, serch iod y persona-u, tra yn fyw, yn dra dieithriol i'w gdlydd. Ar nos Siff yma, Gorpliesnaf laf, weda amryw fisoedd o nychdod, yn ei dy, ac ar ei fferm ei human, bu fanv y cymeriad doniol ac adna- bvdd-us i'r holl 'Wladfa., William H. Jones ("Yr 'Hen Wlad"), yn 66 mlwydd oed. Cladd- wyd yntau gan dorf fawr, o bob cwr o'r wlad, yn mynwent. y Gaiman, gerlla.w i'w anwyl- iaid, ei wraig Hannah, a fuasai farw, yn y (j\al11a;n, ar enedig>a<eth eu 'mer'ch Hannah, I Hydref 6ed, 1877, yn 32 mlwydd oed, a'u merch thoffus, ,Saraa Ann, a fu farw yn sydyn, w-e,di'r gorliif. Hydref 21ain, 1902, yn 25 oed. Yr oedd ein hen gyfaffl, a'i ferclii Sarah Ann, yn aelodau dymunol o eglwys anen- wadol y Bryn Crwn. Brodor oedd efe o gyr- ion Tredegar; wedi treulio bore'i oes yn ngweithydd 'glo y De, ac yn Unol Daleithan r America cyn dod allan yma, a i enillion gydag ef. Gallesid ysgrifenu llawer yn nghy'Ich ei ef. Gallesid ysgrifenu llawer yn aghyla ei f,vwyd ipert, a'i ffraetbineb, etc., ond rhaid ymattal tieddyw. Y mae mab a merch, Morgan a Hannah, yn ei oroesi Gorphenaf 14eg. Dyma'r "Drafcd yn dod a'r newydd i ni fod y Oapt-en adnabyddus a. phoblogaidd o Rawson, Louis Costa (Eidalwr) wedi marw yn 58 oed, yn Buenos Ayres Mor- •wr campus; a llong-Pyw-ydd medrus a llwydd- iannus am tua 25 mlynedd o amser; a rnas- nachydd ar raddfa helaeth yn nhref a pborth- ladd Rawson, yn siriol ac adnabyddus l bawb ladd Rawson, yn siriol ac adnabyddus i bawb ydoedd y Capten Loui. Dae thai ef amfer fawr ohonom fel dyfudwyr i r Wladfa dros y dwti yn y "Monte -Leon" lwyddiannus o'r "Boca" yn Buenos Ayres-, i enau'r afon Cam- wy, ieiaw i dref Rawson. Gadawodd ysitau briod a phlant wedi tyfu i fyny i hiraetfliu ar ei ol. Huned yn dawel yn naear ein prif- ddinas. Gorphenaf 30ain. Y newydd heno yw tod Mrs Oruffydd Huws, gweddw oedranus yr ben Wladfawr enwog, G.H., wedi marw yn eu cartref yn y Dyffryn Isaf. Cladidwyü yn Monia. Magasantdlu mawr; a bu eu car- tref am flynyddau yn groesawus i newydd-ddy- fodiaid i'r Wladfa. Awst 3ydd. Dyma a ddywed y .dydd-lytr am y Gwener hwn Newydd yn dod cyn nos am ddamwain erchyll a marwol a ddigwydd- odd i'n cyfaill gwir alluog, fel cerddor, a bardd, a gwladwr, William R. Jones (Gwaenydd), ar- weinydd cyntaf, fe dybiwn, i semdorf enwog Blaenau Ffestiniog. Fel yr oedd efe y nawn hwn yn myned a dryll IhrytJhog allan o i dy, Camlyn, yn Nyffryn Uchaf y Camwy, i feddw] saethu petris a welai ar ei faes, fe lynodd ea droed yn ngwifr v fence nes ei faglu a i gwympo yn mlaen ar ei hyd. aeth yr ergyd allan i w oohr. Ni isiaradodd ond ychydig, wedi ea gludo i'w; dy gan ei anwyl briod Elisa, a r gwas, etc.; bu farw tuaphell yr banner awr w,edi'r ddamwain. "Yn mhob rhitb y daw yr Angau^ y 5ed, canlynol, ymgynnullodd torf fawr o'r Gwladfawvr o bob cwr o'r sefydl- iad i weini y gymwynas olaf i'r penoerdd, etc., penigamp Gwaenydd, i gladdu yr hyn oedd farwol ohono yn mynwent y Gaiman, yn 65 mlwydd oed. Gadawodd wraig ac un mab i alarui o'i ol. Nodded y nef fo iddynt. Di- chon i lawer o ddarllenwvr yr ""Herald, o Ffestiniog yn neillduol, weled yr hyn a ysgrif- enais (yn brivate) at ein hanwyl a'n henwog gyfaill (i Gwaenydd a minnau), v Dr Itoberts (Bsal'lt), ar-yr amgylcbiad pi^uddaidd hwn. GweIaf i'r llythyr ymddangos yn y "Rhode, ydd" am Hydref 6ed. Pe amser a gofod yn caniatau, gallesid eto ysgrifenu llawer ar nea'll- duolion a bywyd y galluog a phert anfarwol Gwaenydd, y bu ei ddawn yn trydanu can- noedd o chwarelwyr o ochrau'r Moelwyn hyd y Manod a Tbalaet-hau Uno? 'r Amerig Og- leddol (am yspaid), ac am agos i 30 mlynedd, dros linell y cyhydedd, yn yr Amerig Dde- heuol. Huned yn dawel gyfaill anwyl. Awst 8. Bore heddyw, yn 14 oed, bu farw'r hoffus fachgen hynaf, Tom Lloyd-Jones, i D. Lloyd-Jones, ieuaf, a'i briod, o'r Drofa Hesgog, wedi ychydig o gystudd mawr, o'r bronchitis. Galar rhy drwm i'w gelu a erys yn y ty a'r teulu hyn, am un mor anwyl a defnyddiol yn mywyd trafferthus "gwlad newydd." Cladd- wyd yn y Gaiman Medi 8fed. Heddyw ibu farw, wedi hir wendid. yn y lluest ar dir y Graio- Wen, yn y Dyffryn Uchaf, yn 63 mlwydd oed, "David" Hamilton ("Dave"), saer pridd- feini, <^enedigol o Lerpwl. Gweithiwr da, darllenydd dyfal, cofiadur manwl, a chymydog dyddorol a ffraeth; ond fymryn yn orhoff o'i "lymaid." Cafodd garedigrwydd anghy- ffredin gan y teulu had, Mr a- Mrs T. G. Lewis, a'u plant, o'r Graig Wen; a hwy, yn benaf, a ofalodd am y claddu parchus yn y Gaiman, a'r treuliau gan mwyaf. Hoffoedd hyny, gan nad otdd yma, gan y marwol hwn, "Na char na 'brawd I ro'i gwyrdd-ddail a phwysiau Ar Iwm if edd y dyn tylawd." Ysgrifenaiis yr hanes am dano i Swyddfa'r "Weekly Post" i Lerpwl, ond ni welais air byth am dano. Tybiwn y buaeai'r newydd yn taro llygaid rhai o berthynasau—Hamiltons, bricklayers, o waelod tref Lerpwl—ein hen gyfiadll, nad adawodd ddim o werth ar ol, ond y cof am dano. Huned mewn hedd. Rhagfyr 6ed'. Newydd heddyw yn dyweyd fod baebgen 14 oed i deulu o'r enw Williams, ag sydd 0 newydd gyrhaedd yma o dueddau JUlajimvSt, "Pandy Tuduif ifeddyhaf, wedi marw o'r typhoid' yra Nhrelew, lie y cadwyd ef ao un arall riiatr carlo ohonynt yr haintdifaol ] fewn i'n sefydEa.d-os gellid ei attal. Angau a orfu gydag un gweKihaodd y llall a ddaethai yma o Lansannan, mi dybiaf, gyda. iMrs Jones, w e Ulan..lla w. Cydymdeknlir yn ddwys yma f-yda'r teulu gaLarus yn eu gofid a'u colled am eu 'bachgen braf. Rhagfyjr 27. iHeddyw, ,clywais am farw James Greenhalgh, neu fel yr adnabyddid ei gan yr holl Wladfawyr yma—Long Jim"- {gan ei fod dros ddwy lath o daldra)-yn y British Hospital yn Buenos Ayres, lie yr aeth- ai dan operation. Yr oedd yn tynu -at y 60 mlwydd oed. Brodor oedd efe o dueddau Manchester-o deulu da. Treuliodd tua, 30 mlynedd o'i oes yn y Wladia a'i cliylchynion gyda gwahanol oruchwylion. Oladdwvd ef yn y "Chacariia," yn D. A., yn ymyl an-iryw o weddillion rhai o anwyliaid v Wladfa. a fuont feirw, wedi pobeithio am adferiad iechyd. Dydd Calan. lonawr laf, 1907, yr aeth hi'n cRama" yn Xhwyn iCarno, yn y dyffryn tich- af yma, pan fu farw Euronwy, merch hynaf lanedg Dafydd Pritehard a'i briod, o glefyd poeth, a gawsai hithau fel y lleill a. nodais ar y Hong "Flamenco," eiddo i "Pacific Com- pany," ar eu dyfodiad c'r Hen Wlad. Ych- ydig a feddyliai ei thad a hithau pan ar ym- weliad a Bethesda feartref D. P0 a Chaernar- fon adeg yr Eisteddfod, y gelwid hi Tmaith— yn 21 oed, newydd gyrhaedd adref, i briddell- au'r glyn i fynwent y Gaiman. Yr oedd hi, fel y g-weddill o'r teuln, yn aelod hoffue o eglwys v Bryn Cwm, ond 'Euronwy, lawn o rinwedd, Swynai bawb, sy yn y oedd: Gwyryf oedd, deg, ragorol— (Bydd galar hir, hir, o'i hoi. lonawr 13. Heddyw, ddydd Sabbath, wedi trwm ond byr gystudd, wedi ei daraw gan wres yr haul, tta yr oedd allan yn y Telsun, i'r gogledd oddiwrthym ni, ryw daith deu- ddydd, hefo'i fab Willie Davies, Thomas Da- vies, Aberystwyth, yn 72 mlwydd oed. SRhyw ychydig o ddyddiau y buasai oddicartref o dy ei ferch M-ylfanwy—(Mrs Phylip John Rees, o'r Gaiman, nad oedd wedi ei ddwyn yn ol yno j o'r paith gan ei fab er cael gweled" ineddyg yn y sefydliad hwn. Ac fel y bu yn ffodus* yr oedd y clodfawr gydwladwr, y Dr^Mihangel Ap Iwan newydd igyrhaedd at fyn'd i fyny'r wlad, i'r Teca, a chafodd weled ei hen gyfaill yn ei boenau arteithiol. Ond, rhy hwyr; doedd ganddo ddim i'w wneyd i gadw bren- hin y dychryniadau rhag gorphen ei waith ar babell gref ac iachus (hyd yn awr) ein hen gyfaill galluog, Tomos Davies. Amser a ballai i mi heddyw i draethu yr hanner a allesid am y gwlad.fawr corselog hwn, a saer mapn a'r adeiladydd cLwaetbus a chywrain, a'r crefvdd- wr difwlch yn mholb man. Teimlem, yn ol y cymeriad roddai y gweinidogion ymWalters, Humphreys, a Jones, Niwbwrch, i'r ymadaw- edig, "Marw a wnelwyf fel yr uniawn hwn a bydded fy niwedd i fel yr eiddo vntau," ar lan y bedd yn y Gaiman. Yr oedd Mr Evans, ei hoff weinidog, oddicartref yn Mhorth Mad- ryn. Pe yma,, buasai yntau yn dwyndystiol- aeth gref i ffyddlondeb a gweithgarwch ang- hyffredin ei hen gyfaill gyda phob moddion o ras yn eglwys y Gaiman. Yr oedd yn arwr yn 'yr Ysgol Sul, a'i sel yn angerddol dros Gariad Duw, a dyrchfrfid dvnoliaeth. Un o brif golofnau y gyfeillach a'r cwrdd gweddi oedd efe. Fel y cyffyrddwyd gvda'i enw, fe fcldeallir mai geneidigol o Aberystwyth yn Nghymru oedd efe, wedi ei ddysgu gan un o athrawon goreu canol y ganrif o'r blaen, Mr John Evans—ag oedd yn wr i chwaer mam T. D. Saer maen ac adeiladydd oedd ei dad, o'r un enw ag yntau. Codasant lu mawr o adeiladau, a phontydd gwychion a chelfydd, yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, etc., cys- tal a thref ffasiynol Aberystwyth, fel y gellir dyweyd am dano yntau "Gwnaeth ei golofn yn ei fywyd, rhoes ei fynor yn ei le." Y mae style chwaethus T. Davies i'w chanfod yn eg- lur ar rai tai, a beddfeini, etc., yn y Gaiman, i ddyweyd nad fuighofiodd ei gelfyd'dyd werth- .fawr wrth ddod dros y don i'r Camwy. Ein cyfaill T. D. oedd y mwyaf selog a ffydd- Ion i'r syniad am Wladfa Gymreig yn nghwr y De, tra yr oedd un enwad crefyddol yn neill. duol, yn nhref Aberystwyth a'r cyffiniau, yn I rhoi'r cloadur (eglwysig!) ar enau areithydd neillduol am fyned allan i areithio ar bwnc o gael Gwladfa Gymreig yn rhywle. Yr oedd ¡ ty, allogell T. D. bob amser yn barod i helpu'r "achos hwn" pan yr oedd y lluaw6 yn chwer- thin am ei ben. fBu o help sylweddol i gych- wyn ."y fintai gyntaif" tuag yma,-a daeth allan ei hunan, heb ei deulu, oddigerth ei fab bychan "Willie," dros 22 o flwyddin ol. Bu yn aelod o Fwrdd Trefol rystwyth, a phob amser yn awyddns "I godi'r hen wlad yn ei hoi." 'Ni siaradai lawer yn gyhoeddus yn yr amser gynt, er y cerddai o Abei^stwyth i Flaenau Ffestiniog, atom i gynnal "gwyl y glaniad," ni ddywedai ond ydhvdig heblaw nodi "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Daeth yn well siaradwr yn y blvnyddoedd di- wedda,f hyn-yn y cyhoedd. "Arfer a'i had- fer hi," a broiodd yntau. Trwy ei ddylan- wad ef, yn benaf, y caed gan yDonwyr y di- weddar Lewis Jones ac E. J. Williams, MOB- I tyn, tuag ugain mlynedd yn ol, igydio yn v 6yniad o gael ffordd haiarn i'r Wladfa. A llonwyd ei ytpryd anturiaethus yn yr wyth- l nosau diweddaf hyn trwy gael ar ddea.ll y bwriada cwmni newydd cfyf fyn'd a'r rheil- ffordd yn mlaen, o'r diwedd, o Drelew i gy- feiriad yr Andes, lie y mae mawr angen am dani. Ie, pioneer-nen arloeswr—ar lawer pwnc, mewn llawer lie, a fu Tomos Davies, Aberystwyth. Ni ddiystyriai ef mo ddydd y pethau bychain. odd allan chwarelau o gerig celvd i wneyd lloriau, etc., rhagorol dip- yn o bellder o Dre Rawson i'r de gyda glan y mor ac fe gerir y fasnach yn mlaen yn dda, feddyliwn, hyd heddyw oddiyno i Buenos Ayrro a threfydd ereill. Ond y mae'r peiriant wedi sefvll. llosgodd y fegin, ac aeth y gweith- iwr celfydd a diwyd i dderbyn ei wobr. Da was. da, a ffyddlon, etc. Gadawodd yma fa:b a dwy ferch a'u gwyr. ac amryw wyrion, a dau frawd. Lewis a John Davies, i hiraethu ar ol un o'r rhai caredicaf o dadau a brodyr a theidiau. Bu farw ei anwyd briod, Mrs Da- vies, yn sydyn yn eu ty addurnol vn y Gai- man amrvw o flvnyddau'n ol, a chyda'i blant, yn magu a mvnwesu'r wyrion y gwelid ef yn mwynhau diwedd oes. Tra hynod yw v ffaith fed y tri brawd hyn, Tomas. Lewi. a John D'avles. wedi eu geni ar ddydd Nadolig. Yr I oedd rhvw chwe' mlvnecld rhwng yr hynaf a'r ail. a, rhyw dair Thwns1 v ddau arall wed'vn. Cedwid v dydd yn siriolga,n y tri tra. v cant gyfleusdTa vma. Bu bwlch yn v dydd-gvloh diweddaf. Bellach, dyma "fwlch" nas gellir ei gyfanu yn y tenlu catuaidd hwn. "Mae'n brawd wedi gorphen ei daith— Ei lafur a'i waith yr un wedd." Fe erys ei goffadwriaeth. yn mhlitJh ei gyd- nabod o leiaf. "yn hwy. hwy na hir." Bydd I ei hun yn fel ins yn mbriddellau'r dyffryn. < < j Mi dybiaf mai parod ydych yna bellach i ofn "Beth am eich CYNHAUIAF RIFJM?" Wei, cnydau bychain ac ysgafn o wenit-h yd- ym yn gywair i'r ydlanau y dyddiau hyn. Dywedi'r wrthyf fod cropiau da, tebyg i rai o'r blyn yd doedd cynt ar rai o ffermydd y Drofa Gablbage, megis tyddyn y diweddar Forrus Humphreys, a ff-M Amos Williams, ac ereill, mae'n debyg, yn y parth hwnw. Y mae effaith y gorlifiadau, i raddau pell, yn aros ar ein tiroedd eto. Ond, yr ydys yn cael cnydau rhagorol ar y cyfan o wair, dri chnwd, gan mwyaf, hlYd yn oed ar diroedd seilion ar hyd y sefydliad o ddau tu i'r afon. Gwresgir llawer o'r gwair yn fwndeli o ryw gant a ban- ner o bwysi, etc., er eu hallforio'n hwylus hefo'r llongau i lawr, y De oddivma, ac i Frydain a mannau ereill. Fe ddyrnir hefyd gryn swm o'r gwair er cael pris da am yr hadau felly v mae yn talu oreu i'r rhai sydd ar diroedd seilion, ac yn mhell o'r ^arehnad. Fe ddeallwch wrth y frawddeg "pell o'r farch- nad," nad oes genym yma byd yn hyn ond ryw "bwten" fer o'relwe i gludo'r cynnyrch i afael y llongau o'r dyffryn hwn i (Borth Madryn ychydig cryda 40 milldir o hyd rhaid in ceffylau bvchain gwasanaethsar—tri yn ochrau eu gilydd yn y pedrolfeni, txwy'r1 Hwch ar tyllau, dros 30 milltir o bellteT, wne.yd yn l'e rheilffyrdd. Cychwynir gyda'r wawr—a llawer un cvn hyny—a de'uir adref yn fynych wedi machlud haul, ac yn ngoleuni r lleuad a ser. Ond, y mae genym addewid eto oddlwrtli Y CWMNI RHEILFFORtDD XEWYDD ag ydyn!t wedi prynu y mymryn darn o Borth Madryn i Drelew gan yr hen gwmni, gor ofalus-yr ant a hi yn ei braen hyd y Gaiman, a thop y dytfryn yma; ac os gallant, yn mlaen i gyfeiriad yr Andes, lie mae gobaith am fas- nach dda oddiwrth wlan a chrwyn y miloedd anifeiiiad a gedwir ar y peithiau (camps) yn mhob cyfeiriad. Dywedir fod Mr Edward J. Williams (Mos- ityn), rheolwr a pheirianydd yr hen rheilffordd, a'i deulu, yn cael eu dyrchafu i Lundain yna, yn brif beirianydd y cwmni newydd. Llwyddiant iddynt, os felly fydd hi. Bydd coUed drom i'r WLadfa am un mor gyflawii-mewn llawer cylch, ag yw Mr Williams. Yr oedd eu ty llawn yn ail i "Lys Ivor Hael" yn Nhrelew Colled drom i'r WJadfa ydyw ymadawiad dyn- ion da a galluog allan ohoni, gan mai ychydig iawn, iawn, ydyw nifer y newydd-ddyfodiaid sydd yn syrthio i fewn i'n rhengau ac yn llenwi'r bylchau. Diolch yn fawr i Eluned am ei help i ddod a dau ragorol, o ddaear Cymru, i fewn at angen y Wladfa, sef y Mri D. D. Walters a Dafydd Rhys Jones—y cyntaf i wasanaethu Eglwysi'r Sefydliad, ar ei hyd, ac i efengylu i bawb, a'r llall yn athraw i'r Ysgol Ganolraddol a godwyd yn y Gaiman i ddysgu Oymraeg a Saesneg yn benaf, ac eir yn mlaen i feistroli iaith y weriniaeth. Y mae Mr D. Rhys Jones wedi rhoddi y fath foddhad yn barod, fel y rhoes y pwyllgor "drip" o dri mis iddo i fyn'd ac aros i Buenos Ayres "i bigo i fyny" at ei ewyllys a'i chwaeth ei hun. Y mae ei ddisgyblion yn barod wedi dangos cyn- nydd gwir ddymunol hefo'u gwersi. Yr ydis wedi dechreu codi ysgoldy iddynt yn y Gai- man. (Bydd Mr D. Rhys Jones yn pregethu yn ein mysg yn ami. Ac y mae Mr Walters yntau wedi dyblu diwydrwydd er pan dda,h yma— i bregethu'n swynol i bob cynnulleidfa (oddi- gerth un fechan, yr hen "EgJwvs Lan Gatholiw") o Dair Helygan, yn y gwaelod, hyd yn nhop y Tir Halen. Braidd na chenfigenai "hogiau Caerfyrddin" wrtho, mi dybiaf, pe gwelent ef yn ei gerbyd golygus a'i geffyl bywiog yn myn'd i'w "gy- hoeddiad" bob Sabbath yn ol trefniad Pwyllgor I \r Eglwysi Rhyddion." Y mae Mr Walters wedi Ilwyddo i godi canghenau cryfion trwy y He o Undeb Mintai Gobaith i bleidio dirwertt a phob rhinwedd. Arhoed ei fwa vn gryf vn v cyfeiriad hwn hefyd. y Y DYOHWELEDIGION 0 GYMRU -wd braidd yr o11 a aethant i'r r w ac 1 "St'eddfod Caernarfon" at eich haf chwi -wedi cyrhaedd adref yn ddihangol. Fel y ,ylwa,K. bu cryn Balwch ar rai ohonynt yn y llong. a bu farw dau wedi glanio yn mhen ychydig wythnosau. Dymun- 01 iawn l m yw cael heip dynion a merched gweithga,r yn ein mysg pan y mae hi yn newyn tost am weithwyr da at ein eynhauaf; a gvveision a morwymon i'r lluaws sydd wedi colli y rhai a faeasant at ph cysur dybient hwy erbyn y dydd blin ar blynyddoedd yn y rhai y dywedi "Nid oes imi ddim diddanweh ynddynt!" blynyddoedd yn y rhai y dywedi "Nid oes imi cysur dybient hwy erbyn y dydd blin ar blynyddoedd yn y rhai y dywedi "Nid oes imi ddim diddanweh ynddynt!" 'Ac y mae yna filoedd o bobl vn Mhrvdain allan o waith, a oes? Wei, wel, oe felly y mae hi--fe ddiolchwn, ar fy ngliniau, i un- rhyw wr goludog" a hael ion us,—rhyw Ro- bert Davies, neu Carnegie, neu arall a glywai ar ei galon, pe talai gludiad cychiad da o I ieibion a merched Uafur—llanciau a gwyrvfon S i Thieni a phlant gweithgar a gdbeithiol allan yma. i fyddai ,berygl i'r eyfryw rai i "sathru traed eu gilydd am un oes yn y lie hwn yn ol yr arwyddion presennol. Rhy wir etc, efallai, gyda llawer, ydyw mai "Y cyw a fegir yn uffern ( !) yno y myn aros." Y mae Mr a Mrs Morgan, o'r "C.M.C. a'u cyd- deithwyr, wedi eyrhaedd yn iach a siriol erbyn hyn, yn Jlethre Ciwefror. Disgwvliwn gael eich hanes yn heJaeth gan ein cyfaill galluog. LMr Morgan, "pa.n gaiS ei w ynt ato." YMWELIAD Y MEQDDYG Œ!NfV\71QG, Mihangel ap Iwan, ail fab rhagorol "Syifaen- ydd y Wladfa," yr hybarch Broffeswr M. D. Jones-a fu o sirioldeb anarferoI i luaws yma yn ddiweddar o gleifion, etc., a u perthynasau a chyfeilhon pryderus. Myn'd ar wib i fyny i r wlad i'r Teca-c:yffiniau'r Andes-yr oedd y doctor i wel'd ei frawd, Uwyd an Iwan, sydd yn masnachu gerllaw yno — "Nant y iP^°f" drOB y Yr oedd hi yn y [Wladfa ar ddyddiau arhosiad y meddyg Ap Iwan yn ein plith, yn dra thebyg i ddydd- iau y Meddyg Mawr o Galilea, tra y cesglid ato y claf a'r clwyfus o bob cyfeiriad i gael eu hia/chau o ba glefyd bynag a'u bliniai. ^°bI -vn y Wladfa o'r pellafcedd i gwrdd a r meddyg Cymreig enwog ac anwyl 'hwn, o'r pnf-ffyrdd a'r caeau, o bob ty a lluest, lie teimlid anhwyldeb i gael ei. ar- chwilia-d a'i gynghorion yn blaen a dirodres. Ymwelai a phawb ag oeddynt mewn angen am feddyg, o bob cenedl, ac ni chymerai ''cent" gan neb yn dal am a wnai. Dyma iendith fawT i rai a "flingid yn fyw" yn y lie hwn gan "feddygon" dyeithriol-y biliau aruthrol oeddynt mor, neu fwy, arswydus nag angau i lawer un helbulus. GAveddiai llawer un yn onest ar v Doctor Mihangel, "O! aros Syda ni, ond ni wrandewid y weddi yna yi wan; yn nhalaethau Beunos Ayres, tua "Chw Nin," y gwna y doctor "ei filoedd." Hyderaf y cewch ei weled pia, am dro, yn fuari, pan yr el i'r Bala, a Bod Iwan, i wel d ei deulu. Nawdd y Nef fo iddo ar for a thir. Wedi i mi gronido y marwolaethau o fy nydd-lyfr, wele wefreb o New Zealand yma yn dyweyd fod hen gyfaill enwog ac anwyl i lawer yn y Wladfa wedi marw ar y 30ain o lonawr, eleni, sef Mr Dafydd D. Roberts. gynt o'r Gaiman a "Thyddewi" yma, yn 71 mlwydd oed. (Fe welodd ein hen gyfaill ami a blin gy stud diau, a bu yn ddoeth ac egniol iawn i symud o "ffordd angau" i wahanol fanau i fyw. Biinid ef ar brydiau yn dost gan yr asthma. Gwertliodd ei fferm ragorol yma "ar flaen llaw" am brie da. Cymerodd dai i fyw ynddynt mewn gwahanol farnu yn Neheu Cymru, ac aeth er's ychydig o flyn- yddau'n ol i New Zealand—i noswvlio Brod- or oedd efe o Feirion—o Lanahangel, yr ochr dde i Gadair IdTiS. Bn, am nynyddoedd yn I Y y talaethau unedig o'r lie y daethai yma.g'Yda'i deulu ac offerynau ac eiddo'n helaeth yn y fintai a'i llong eu hunain o dan ofal v Capten Rogers, gynt o Lanelli, ac yn nghwmni y Parch D. S. Davies. Fe gofir iddi fyn'd yn llongddrv"!liad hollol arnynt ar dueddan Brazil. Bu D. D. Roberts, yn hynod o weithiar gvda'i ben a'i ddwvlaw tra y bu yma. Tvstebwvd ef ar ei ymadaw- iad o'r Wladfa. Oadawodd briod a dwy ferch a. mab i'w oroesi. Y mae ei ferch hynaf a'i phriod, Mr W. M. Hughes, yn byw ac yn masnachu vn y Gaiman. "A gawn ni gwrdd tu draw i'r afon" fy hen gyfaill? Chwefror 9fed, dyma genad angeu eto yn mynegi am farw gwraig ieuanc-merch i Mr a Mrs Shuttsyn 18 oed, ag oedd yn briod a mab hynaf Mr John Lloyd-Jones, gynt o Santa Fe. a chyn hyny o Dynewydd, Pen- machno. Yr oedd hon newydd roddi genedig- aeth i fab dvmunol, onda darawyd i lawr, meddai y meddyg, gan y gastric fever. Galar mawr ar ei hoi. Mae ei mam hi yn tarddu o hen deulu parchus a da y melus-fardd diwedd- ar R. J. Derfel. Tra vr oedd y genad hon yn llefaru, wele un arall ar fore Sul, y lOfed. yn cael ei tha-ro i lawr yn sydyn gan ergyd o'r parlvs, fel y profwyd eho "nad oes ond cam rhyngom ag angeu." Mrs Richards, Ffynnon Iago, anwyl briod Capten William Emerson Richards, o Fon, hwnt i Lanerchvmedd, etc. Merch ydoedd, mi dybiaf, i un Mr Parry (Rheidweinyddl. o'r Fferam, Llantrisant, Mon. Cafodd hithan gryn dinyn o dvwydd garw "y dechre' byw yn y Wladfa pr's rhyw 25 mlynedd vn ol ond cafodd nerth i ddal y storm a magu teulu crvf o burnt) o feibion a merch. Wedi cyrraedd yn siriol i "ben y rhiw" a gorchfycni'r anhawsderau a Ilwyddo vn v bvd, tarawyd hi i lawr ar eiliad yn 62 mlwvdd oed, er galar tost i'w phriod Ilesg a'u hunig ferch a dau fab yma, a'r tri sydd vmaith—dau vn Canada, ac ;'n. yr hynaf, yn teithio ol a blaen o wahanol fariau, ,gyda masnach ceffylau i Ddeheudir Affrica. Un o'r gorenon o wragedd oedd Mrs Richards —cvmvdoffes ddiail, a'i choffadwriaeth yn per- ai-,gli oi hol. Bellach, frodvr. byddweh wvch. Cofion an- vl at hen cvfeillion drriq bedwar ban v byd. Dvma hi bellach, o hwb i hwb, yn g o (Cb wefroT.
Advertising
EIFFEL TOWER Mill PUDDING. In an emergency it "W«I1 to re«ember that m Id. packet of Eiflel To-wet Milk I 'uddiiiff ? delicious milk pudding in 10 minute Trv a Id. packet to-day. L-. fnr 0 6 nclura ii'se. LETTERPRESS PRINTING. HANDBILLS, CLUB CAiRDS, POSTERS, CLUB RULES, PLACARDS. CLUB ACCOUNTS, PRJOGRAMMES, QUARRY REPORT, TICKETS, QUARRY ACCOUNTS, DANCE CARDS. QUiVRRY RULES, OTSCULAIUi, LEGAL FORMS, BILLHEADS, MEMORAlvDU MS, ADDRESS CARDS. NOTE PAJMER, ACCURACY PAMPHLETS, NEATNESS, CATALOGUER DESPATCH. 6BRMOMS "HERALD" OFFICE, CARNARVON. CLUB CARDS, HANDBIIiLS, CLUB RULES, POSTERS, CLUB ACCOUNTS. PLACARDS. QUARRY REPORTS, PROGRAMMES, QUARRY ACCOUNTS, TICKETS, QUARRY RULES. DANCt CABDa. LEGAL FORMS, CIRCULARS, MEMORANDUMS, BILLHEADS, NOTE PAPER. ADDRESS CA.JtDL PAMPHLETS, ACCURACY CATALOGUES, NIEATNESS, SERMONS. DESPATCH. LETTERPRESS PRINTING. b t w RAT Tarns More Easily, Has (Beaten in* CivesMore Butter. -AW PwMic Contest Wears longer, tcown 23. Times, Cheaper. to Repair I | c I Im thaft. au. other. Fixed 4ort 2} Hq5\I:Ks Tiizii f^eg$>y et. I Applying to m No. 63, The Dairy Supply Co., Ltd., Museum St., London, W.C. I r Overcome Your Doubt 0 Don't hesitate to put your faith in the world famous Beecham's K Pills, the best# safest# surest and most reliable remedy for all II stomach# liver and kidney troubles. "When your stomach is out H Oof order# it needs help* it must be thoroughly cleansed# strengthened M and settled* Give I i 2 BEECHAM S g g PILLS 8 H a ehance. Let them prove that they can do for you what they 0 have done for thousands of others during the past half century. 0 DThey will promptly and effectively remove all the discomforts M which arise from undigested food: will put your system in good II condition and make life worth living. Any troubles arising &om M D derangement of the digestive organs will be quickly corrected by M taking Beecham's Pills. They will without a doubt promptly II 0 Cure and Convince. o Sold everywhere In boxes, pirce /J (56 pills) A 219 (168 pills). O 0- -0- mO ML Ln SUNLIGHT SOAP 1/ "¡)( J -zz a KW 19 I—t imw—M B CONVI fJCI NG. 1 It is impossible for any argument in favour I of Sunlight to be more convincing than a trial 1 of the soap. Its merit will prove more than I modesty may claim for it. A thriving I industry stands by virtue of its efficiency. I The makers are determined that at all cost 9 Sunlight Soap shall be pure. 1 £ 1^300 I is offered for any adulteration found in its I composition. I LEVER BROTHERS, LIMITED. PORT SUNLIGHT, ENGLAND. The name LEVER on soap is a guarantee of Purity and Excellence.