Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Tabernacl, Barry Dock.

Gogledd, Ceredigion. I

News
Cite
Share

Gogledd, Ceredigion. Aberystwyth.—Mawrth a Mercher, Hydref y lyeg a'r i8fed, cynhaliodd eglwys Baker-street ei gwyl flynyddol, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parchn, Peter Price, B.A., D.D., Rhos, a Elvet Lewis, M.A., Llundain. Yr oedd yr Efengyl mewn nerth ac effeithiolrwydd mawr. Caffed yr had a hauwyd dyfnder ddaear yng nghalonnau y torfeydd lluosog daeth ynghyd i wrando'r genadwri gref a swynol. Y nos Iau dilynol traddodwyd darlith gan Elfed ar Williams, Pantycelyn,' yr hon a fwynhawyd gan gyn- hulliad parchus. Cymerwyd y gadair gan y Proff. Bryner Jones, Coleg y Brifysgol. Gwnaed elw sylweddol tuagat y ddyled. Cominscoch.-Cynhaliocld y ddeadell fechan hon ei chyfarfod diolchgarwch y dydd Mercher o'r blaen, ac yn odfeuon y prynhawn a'r hwyr cafwyd gweinidogaeth y Parchn. Fred H. Davies, Bethesda, Talybont, a J. D. Jones, Cellan, Llan- bedr. Yr oedd yr hin yn ddymunol, y cynull- iadau'n lluosocach nag arfer, a gwenau lief a daear trwy'r holl wasanaeth. Gwelwyd gweinid- ogion o'r cylch yn bresennol, a llywyddwyd gan weinidog parchus y lie, sef y Parch. Griffith Parry, Llanbadarn. Y mae ein hannwyl frawd wedi llafurio yn y cylch hwn gyda chymeradwy- aeth mawr am 33 mlynedd, ac y mae'r achos yn ei holl rannau yn nodedig o lewyrchus o dan ei ofal. Nid yw cyflwr ei iechyd wedi bod yn rhyw foddhaus iawn ers amser hir ond er mewn gwendid a llesgedd yn ami, eto cyflawna ei ymrwymi. adau'n bur gyson, a gwna waith efengylwr ffyddlon ymysg ei bobl. Hyderwn y ca ychwanegiad nerth yn fuan a llawer o flynyddoedd i wasanaethu ei Feistr, canys y mae ei galon yn y pulpud, a'i hoff waith ydyw pregethu Crist yn Geidwad. Marwolaeth Diacoiz.-Mewii hiraeth a gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth yr hen frawd annwyl, Mr. John Samuel, Waim, Llan- badarn, yr hyn a gymerodd le yn bur sydyn drwy ergyd trwm o'r parlys. Dydd Mercher, Hydref neg, hebryngwyd ef i'w fedd gan dyrfa o wv rbucheddol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Griffith Parry (ei weinidog), J. Lewis Williams, M.A., B.Se., a R. J. Rees, M.A. (Tabernacl), Aberystwyth. Y nos Saboth dilynol cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol yng nghapel Soar, lie yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a swyddog parchus. Dechreuodd arddel crefydd yn fore yn ei fywyd, a bu hyntiv yn fantais iddo drwy ei oes, oblegid tyfodd i fyny yn Gristion cywir a gloyw, a'i sel a'i fiydd- londeb i achos y Gwaredwr yn nodedig o amlwg. Yr oedd lliaws o bethau tra theilwng i beri cof am dano yn perthyn i John Samuel ynglyn a gwaith y cysegr, yn enwedig ei vmdrech i wneud mawl yn ogoneddus. fel yr oedd bob amser yn ffyddlon i'r Gymanfa Ganu, a dim yn ormod ganddo i'w wneud er sicrhau ei llwyddiant. Yr oedd yn deall cerddoriaeth yn bur dda, ac felly yn teimlo diddordeb mewn canu, a chaniad- aeth Eglwys Dduw. Ond bellach y mae yn canu can Moses a chan yr Oen, a thelyn gwlad y caniadau tragwyddol yn ei law byth. Ceid ef yn wastad yn ei le wrth ei waith ac yn ei gylch ei hun, wedi ei seilio a'i sicrhau. vng ngobaith yr Efengyl. Mae'r gangen yng Nghominscoch wedi cael colled yn ei symuniad, oblegid yr oedd efe yn gwir ofalu am yr achos yno, lie yr oedd ei galon a'i enaid yn y gwaith. Y mae'n chwith gennym feddwl na chawn weld ei wyneb siriol mwy yma, ond y mae arogl esmwyth ar ei ol, a'i goffadwriaeth yn hyfryd iawn. Diddaned yr Arglwydd y rhai sydd mewn galar a hiraeth ar ei ol. MOCHNO.

Hebron, Cymer.-I

i Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw.…

I SEION, DREFACH, LLANARTHNEY.-

NEBO, GLYNCORRWG.

Penywern, Dowlais.