Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLYTrtYRAU AT FY NGHYD-WLADWYR.

News
Cite
Share

LLYTrtYRAU AT FY NGHYD- WLADWYR. Llythyr XVI. ANNWYL MR. PRYDERUS-AM-ADDYSG, Yr ydych yn bryderus am addysg Cymru fel y mae llawer iawn o bobl oreu Cymru y dyddiau hyn. Daeth y Ddirprwyaeth Addysg ar ein traws ar amser anghyfleus iawn, ac yn wir cyn i'r wlad gael amser i ffurfio ei barn ar yr hyn hoffai i addysg Cymru fod. Y mae problem addysg heddyw yn blino pobl feddylgar yr holl wledydd, a ffolineb fel rheol fydd yr hyn ddywed y bobl arwynebol hynny sydd yn honni medru setlo y mater heb nemor ymdrech, na thrafferth nac ystyriaeth. Ni sYllnaf eich clywed yn gofyn, Pa beth sydd allan o le ar addysg Cymru ? Teimlaf yn sicr eich bod yn gofyn y cwestiwn nid am eich bod yn meddwl nad oes le i wella, ond am eich bod yn teimlo fod y rhai sydd uchaf eu swn yn condemnio pethau fel y ma.ent ymhell o'u lie pan yn son am bethau fel y dylent fod, ac nid yw'r diffygion y cyfeirient atynt ond gwybed i'w cymharu a'r camelod o wendidau sydd yn bodoli. Yr ydwyf finnau wedi bod yn meddwl cryn dipyn uwchben y mater, ac wedi ymgomio arno gyda llawer gwr a gwraig meddyl- gar ac er mai anodd fydd rhoi fy feddyliau mewn llythyr byr, ceisiaf roddi bys ar rai o'r prif gyfnewidiadau sydd arnom eu heisiau os yw Cymru yr oes nesaf i fod yn well Cymru nag yw yn bresennol. Y camsyniad mwyaf a wnaed gan ein tadau (ac a wneir gennym ninnau hefyd) oedd edrycli ar addysg fel mater i'n hysgolion dyddiol a'n colegau yn unig. Y canlyniad fu i ni, wrth roi mwy a mwy o bwys ar ein hysgulbn, allghofio am sefydliadau addysgol eraill sydd ar lawer ystyr yn bwysicach ddengwaith. Meddyliodd llawer tad a mam. wrth ddanfon eu plant i'r ysgol eu bod yn trosglwyddo eu haddysg yn hollol i ddwylaw eraill, ac yn golchi eu dwyla o'u cyfrifoldeb yn y mater. Dyna gamsyniad fu'n ddistryw i lawer plentyn. Yr wvf yn ddiolchgar i mi gael btynyddoedd lawer o addysg ysgol a choleg, ond y mae gennyf lawer mwy o achos di Jlch i'r hyn ddysgais gartref gan dad a mam grefyddol. Y mae o'r pwys mwyaf i rieni Cymru ddeall mai cyfrannu gwybodaeth yn bennaf (ac yn ami yn unig) a wna ein hys- g )lion dyddiol, ac nad oes hawl ganddynt i drosglwyddo eu cyfrifoldeb am iechyd corff, moes ac ysbryd eu plant i neb arall, pv.-y bynnag y bo. Collwyd golwg hefyd am yr un rheswm ar werth yr Ysgol Sul, y Cyfarfod Llenyddol a'r Eisteddfod. Os nad ydych wedi gwneud, dylech ddarllen erthygl ar yr Ysgol Sul yn Cymru am Orffennaf, 1916, lie y dengys yr awdur (Syr Owen M. Edwards, y golygydd, gallwn feddwl) pa faint pwysicach mewn gwirionedd yw Ysgol Sul nag ysgol ddyddiol i fuddiannau uchaf Cymru. Dywed hanesyn tarawiadol iawn am aelod sen- eddol yn diolch, os na chawsai ysgol yn ystyr gyffredin y gair, iddo gael ei godi yn yr Ysgol Sul, ac am yr anfarwol Tom Ellis yn mynegi ei syndod wrth feddwl y gallai neb ddychmygu fod ysgol a choleg yn gymaint eu dylanwad er daioni a'r Ysgol Sul, tra y dengys Syr Owen sut y mae yr Ysgol Sul yn berffeithiach cyfundrefn o addysg nag unrhyw ysgol arall—ac fe ddylai'r gwron hwn wybod. Credaf y bydd yr erthygl honna'n anfarwol ymhlith erthyglau yn y Gymraeg mynnwch ei darllen yn fanwl. Ac os ydvch am ddarllen am bwysigrwydd y Cyfarfod Llenyddol a'r Eisteddfod yn addysg Cymru, darllenwch araith draddodwyd gan yr un gwr yn Eistedd- fod Aberystwyth yn ddiweddar—credaf y bydd honno hefyn yn anfarwol. Nid wyf yn synnu o gwbl iddo ddweyd yr hyn ddywedodd. Gwn i mi yn bersonol gael pwysicach a rhagorach addysg mewn llawer ystyr yn yr Ysgol Sul a'r Eisteddfod nag a gefais erioed mewn ysgol 11a choleg. Dyma, felly, y camsyniad mawr cyntaf wnaethom oedd esgeuluso ein sefydliadau pwys- caf wrth roi gormod sylw i'r llai pwysig. Y canlyniad naturiol fu i ni roddi mwy o bwys yn ami ar wybodaeth a diwylliant meddyliol nag ar ddiwylliant moesol ac ysbrydol. I ddod at ein hysgolion dycldiol, teimlaf yn dra sicr mai un o'r camsyniadau mwyaf difrifol wnaethom oedd ffurfio ein sefydliadau ar batrwm Lloegr a gwledydd eraill, yn lie mynnu cyfun- drefn yn fwy cydnaws a'n hysbyrd a'11 del- frydau. Pa synnwyr, er enghraifft, fod plant lleiaf ardaloedd Cymreig hyd yn gymharol ddiw- eddar (ac i raddau felly yn awr) wedi eu haddysgu drwy iaith estronol ? fod y rhan fwyaf o blant Cymru 3-31 y gorffennol wedi myned drwy eu hysgol. heb glywed gair o Gymraeg, heb son am gael gwersi yn iaith eu gwlad. ? fod dau o bob tri heddyw yn ein hysgolion uwchraddol heb fod yn astu&io'r G3rmraeg) a llawer o'r ysgolion hynnv heb lyfr Cymraeg yn eu ilyfrgell;ecld ? fod pasio mewn Saesneg a tladin yn anhepgorol i gael mynediad i'n colegau, a phasio yn y Gym- raeg heb fod ? a pha synnwyr fod niwyafrif athrawon ein colegau yn Saeson uniaith, a bod y Itaith fod dyn yn G3nn.r0 yn rhwystr yn hytrach nag yn help iddo gael lie fel athraw mewn rhagor nag un o'n colegau ? Dyna, ynte, yr ail gam- syniad difrifol wnaethom, sef trefnu cynllun addysg fydd, os na ddaw tro ar bethau, vn sicr o fod yn farwolaeth i'n hiaith a'n harbenigrwydd fel cenedI. Cyfeiriaf mewn gair yn unig at y trydydd, sef i'n hysgolion dyddiol yn gyffredinol roi rhy ychydig o bwys ar godi cymeriadau cryf ar draul rhoddi gormod ar gyfarnnu gwybodaeth —camsyniad a wneir, ysywaeth. yn holl wled- ydd y byd. Ynglyn a. manylion ein hysgolion, nis medraf ond nodi rhai pethau sydd yn amlwg i bawb ant i mewn i'r mater. Beth am ein colegau ? Dywed rhai fod eisiau'athrawon Diwinyddiaeth yng ngholegau ein Prifysgol. Credaf fi mai nid athrawon Cristionogaeth sydd eisiau, ond athrawon Cristic)lic)gol-gresyii n-ior brili y maent. Dywed eraill fod eisiau rhannu ein Prifysgol yn ddwy neu dair. Un o'r ergydion mwyaf posibl i'n cenedlaetholdeb fyddai hynny. Y mae eisiau cyflog uwch yn ddi >s i'r is-athrawon, a mwy o lais iddynt yn rheolaeth y colegau. Dvlai'r Gymraeg a delfrydau Cymru gael lie pwysicach o lawer ynddynt, a dylid rhoi mwy o bwys o lawei ar ddosbarthiadau mewn cysylltiad a'r Brifysgol i'r weri n yn eu pentrefydd. Dylai ein cdegau fod yn fwy o ysgdbn i'r bobl. fel y mae'r Ysgol Sul a'r Eisteddfod, ac fe ddylai niter y myfyrwyr fod yn fwy o lawer ynddynt. Purion peth hefyd. fyddai i ddwy flynedd neu ragor mewn coleg normalaidd neu gyffelyb gyfrif am flwyddyn ynghwrs y Brifysgol. Dylid yn ddiameu wneud llawer iawn o'r gwaith elfennol wneir yn y c legau yn awr yn yr ysgoliol1 uwchraddol, fel y gallai myfyrwyr ein c .legau gyfrannu yn ychwanegol drwy ymchwiliad at wybodaeth y bycl-er fy mod yn blino ar glywed pobl yn son byth a hefyd ar hyn, fel pe bai yr unig gyfnewidiad angenrheidi J, ac fel pe bai ymchwiliad i gyfriiii.ai llygad gwybedyn yn bwysicach na chadw'n hiaith an crefydd. Ynglyn a'r ysgoli m ailraddol, y peth cyntaf angenrheidi ol yn ddiameu yw eu Cymreigyddio. Credwn fod yr ysgolion hyn wedi gwneud mwy i Seisnigeiddio bechgyn a genethod goleuedig Cymru na nemor ddylanwad arall. Y mae gor- mod o lawer o'r prif a'r is-athrawon yn Saeson. Cyfrifir am hyn i raddau gan iselder y cyflogau delir yn achosi i oreuon Cymru lyned i Loegr, ac i weiniaid Lloegr ddod yma, ac i raddau gan yr ychydig bwys roddwyd ar wybodaeth o'r Gymraeg pan yn dewis yr athrawon hyn. Beth ddywedai Tom Ellis a Syr Hugh Owen pe gwel- ent yr astudio dyfal sydd ar Shakespeare, Milton, Virgil, Csesar, Moliere, Dumas, Goethe. Heine, &c., a'r ychydig ddarllenir ar Geiriog, Islwyn, Mynyddog ac yn y blaen ? Y mae plant goreu ein gwlad yn treulio btyny-ddoedd delfrydol eu hoes yn yr ysgolion hyn ond dywedaf heb betruso iddynt fethu'll druenus, oherwydd eu difaterwch ynglyn ag iaith ac ysbryd Cymru, i ysbiy-doli y plant hynny i gyfeiriad delfrydau uchaf ein gwlad. Gwendid arall yn yr ysgolion hyn yw'r ffaith fod llawer o'r athrawon heb eu paratoi yn arbennig ar gyfer gwaith athraw. Nid rhyfedd felly i'r ddisgyblaeth fod ambell dro yn wan ynddynt, ac i'r athrawon areithio gormod i'r plant yn lie eu dysgu i astudio a chwilio drostynt eu hunain. Dylai nifer y plant hefyd fod yn fwy o lawer, er fod gennym ar gyfartaledd dri i bob dau fydd gan y Sais mewn ysgol uwchraddol. Yn yr ysgolion elfennol hefyd esgeulnswyd y Gynuaeg i raddau mawr, er fod pethau'n gwella yn gyfhnn yma. Pe bai pob arolygydd ysgolion y llywodraeth a'r awdurdodau Ileol mor selog dros iaith a delfrydau Cymrn ag ydyw'r Prif Arolygydd (Syr Owen M. Edwards) a rhai o'i gydweithwyr, fe welid chwyldroad yn fuan iawn yn y mater hwn. Golwg rhy fasnachol gymerwyd yn ein gwlad ni, fel mewn llawer gwlad arall, ar bwrpas yr ysgol elfennol, gyda'r canlyniad i'r athrawon fod yn fwy diwyd yn paratoi ysgrifenyddion i fasnachwyr nag a fuont i geisio cyfoethogi bywyd y plant o dan eu gofal ac i ennyn ynddynt ddiddordeb at astudiaeth ac ymchwiliad pellach. Bai mawr yn yr ysgolion hyn yw nifer y plant yn y dosbarthiadau. Pe bai pob athraw wedi cael paratoad neilltucl a. blynyddoedd o brofiad, nis gallent wneud chware teg a chynifer o blant ond fel y mae'n.gywitydd meddwl, y mae cannoedd o athrawon yn yr ysgolion nad ydynt wedi cael y paratoad arb en- nig ar gyfer y gwaith, a llawer bachgen a geneth ieuanc yn ceisio addysgu plant nad yw eu gwyb- odaeth onn ychydig yn ehangach na'r plant o danynt. Dyma un o'r ffurfiau drutaf a ffolaf a gymerwyd gan wlad erioed i geisio cynilo arian. Y mae. eisiau codi cyflog a safle cymdeithasol ein hathrawon elfennol yn uwch o lawer hefyd, fel yr atynnir i'r gwaith fechgyn a merched galluocaf a goreu teuluoedd coethaf y genedl-— canys pa waith sydd bwysicach i genedl na gwaith athraw ? Ofnaf mai bratiog yw'r llythyr hwn, ond dyry i chwi, mi obeithiaf, rywbeth i feddwl am dano. Wedi i chwi wneud hynny, danfollwch air i mi eto. Yr eiddoch, ATWEBVD.

Y GOLOFN FARDDONOL.

BEDD Y MILWR.

Y DR. GRUFFYDD JOHN.1:

Y SABOTH.''

[No title]