Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Llanfyllm I

News
Cite
Share

Llanfyllm Marwolaeth Mrs. J. P. Williams, Park-view.— Dywed y gwr doeth fod amser i bob peth, ac y mae amser i wylo. Ac yr ydym ninnau, yn ol greddfau ein natur, yn barod i uno yn v cyfarwyddyd ysbrydoledig trwy wylo gyda'r rhai sydd yn wylo.' Gofid i ni yw cofnodi marwolaeth y chwaer ag y mae ei henw uchod, yr hyn a gymerodd Ie prynhawn Sul, Hydref 2gain, yn 68 mhvydd oed. Yn Llanfyllin. y gan- wyd ac y magwyd hi, ac yma y treuliodd ei hoes. Merch ydoedd i'r diweddar Mr. Charles Jones, masnachwr adnabyddus mewa amryw rannau o sir Drefaldwyn. Ymunodd mewa priodas a Mr. J. P. Williams, y" sgolfeistr. Y mae enw Pentyrch Williams yn adnabyddus i liaws mawr o ddarllenwyr y TYST. Yr oedd amryw o ragoriaethau yn nodweddu ei chy- meriad fel ag i allu credu am dani ei bod yn wraig rinweddol. Bu amryw o weinidogion yr Efengyl ac eraill, o dro i dro, yn aros yn Park View, a derbyniasant y sirioldeb a'r caredig- rwydd mwyaf. Bu'n athrawes yn yr Ysgol Sul am flynyddoedd, ac y mae llu o'i disgyblion wedi troi allan i wahanol ardaloedd a sefsdlfa- oedd mewn bywyd. Gwasanaethodd fel organ- yddes am amser maith, ac ar ol ynineillruo o'r gwaith hwnnw, teimlai ddiddordeb neilltuol o hyd gyda'r canu. Rhoddodd gychwyniad i ugeiniau o fechgyn a genethod yr, ardaloedd gyda chware'r offerynnau, ac nid cytundeb yn unig oedd y cymhelliad i hynny. Hawdd y gallesid enwi rhagoriaethau eraill. Yr oedd v dyrfa fawr ddaeth i'w hebrwng i dy ei hir gar- tref ym mynwellt henafol Pendref prynhawn Mercher, Tachwedd laf, yn dwyn tysti laetli fod rhywull mawr yn cael ei gladdu'r diwrnod hwnnw. Wrth y ty, cyn cycliwyii, darllcnwyd rhannau o'r Ysgrythyr gan y Parch. E. Tones, Llansantffraid, a gweddiwyd gan y Parch. D. Morgan, Trallwm. Yn y capol dar Ilenivy(I gan y Parch. T. Wynne Williams, Penvbontfawr, a gweddiwyd gan y Parch. R. Deiniol Jones, Llan- rhaeadr. Cafwyd anerchiad gan y Parch. J. H. Richards (gweinidog), a darllenwyd ychydig lythyrau o'r nifer mawr a ddaethant i law. Terfynwyd gan y Parch. T. N. Roberts (W.). Ar lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn. T. D. Evans, Sardis, ac 0. T. Davies (M.C.), Lianfylliii. Y nos Sul dilynol cynhaliwyd gwas- anaeth coffadwriaethol, pryd y pregetliodd Mr. Richards, ein gweinidog, oddiar y geiriau, Pwy a fedr gael gwraig rinweddol ? Nodded y Nef fyddo dros ein cyfaill a'n brawd Mr. Williams, I a Mrs. Bryan (ei unig ferch) yn eu profedigaeth. Y mae Mrs. Bryan yn briod a Mr. R. Allison Bryan, arweinydd y gan a diacon defnyddiol' yn eglwys Pendref.

Dyrchafiad y Parch. R. Peris…

Eglwys Penmain, Mynwy* .1

GALWADAU.

CYFARFODYDD.

Family Notices

NOSWAITH YN KINMEL.