Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

News
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR. APEL NEWYDD. i. Gwelir fed ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfodphonom gwtogi a chynilo ein papur. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfoclydd pregethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyii am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &c 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r cyfeillion sy'n anfon atom—yn Saesneg, fel rheol-i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y, cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er rnwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. .-5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llythyr at y Gal. ygydd' neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-17 GLYNRHONDDA. STREET, CAERDYDD. Y GOLYGYDD. Mewn Llaw.-—Birmingham—Hyde, ger Man- chester—Cwmbach—Mountain Ash a'r cylch- Caerodor—Pontypridd a'r Cylch—Tysteb Gen- edlaethol Pedrog—Cyfarfodydd, &c.

NOSWAITH YN KINMEL.