Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PRIFYSGOL CYMRU A DIWINYDDIAETH.

News
Cite
Share

PRIFYSGOL CYMRU A DIWINYDDIAETH. At Olygydd y Tyst. SYR,—A ellir dywedyd erbyn hyn fod y mater o sefydlu Cadair neu Gadeiriau Diwtuyddol yng Ngholegau Prifysgol Cylilrii yn bwnc y dydd ? Canys dyma ddirgelwch eglwysi Cymru yn unig sydd i ennill neu golli drwy drefniant addysg ddiwinyddol yn ei cholegau, ac eto trwy ffiangell rhywrai y llwyddwyd i'w cael i gymryd diddor- deb yn y mater o gwbl. Ond y mae'r steam yn codi yn awr, rwy'n meddwl. Pwy bieufydd y clod ymhen blynyddoedd o fod yn seren fore igy diwygiad hwn, wys ? Y mae'r achlysur yn eglur, set penodiad Dirprwyaeth Freiuiol i chwilio cyflwr addysg oddimewn i Brifysgol Cymru. Ac o'r anweledig fe ddaeth cri y dylid ymhlith pethau eraill ystyried eyflwr anfodd- haol' Diwinyddiaeth yng Nghymru. Erbyn hyn y mae'n derfysg y Methodistiaid wedi rhwygo'n Dde a Gogledd, a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn fanach iia hyiiny. Ond yn wir cysgu yr oeddwn i ncs i mi ddarllen eich erth- yglau chwi, syr, ac eraill yn y TYST. Yr wyf yn awr yn y cyflwr enbydus o feddu meddwl agored (i roddi yn ogystal a derbyn). A gan- iatewch, yn ol eich hynawsedd arferol, i mi Ni bvdd draethu fy marn fel y mae yn awr ? Ni bydd dyun ddau Gymro meddai'r hen air, end nid oes niwed yn hynny. Ynghyntaf oil, y mae'n debyg fod yn ysgrif- enedig ym mreinlen y Brifysgol na chaniateir dysgu Diwinyddiaeth yn ei cholegau. Gwarth- nod ar genedl y Cymry ebr rhyswyr un ochr i'r ddadl. Teg, er hynny. ydyw gosod yma'n fyr sefyllfa'r Brifysgol ynglyn a Diwinyddiaeth. Er nad oes Gadair Ddiwinyddol yn ei cholegau, y mae'r Brifysgol yn cyflwyno graddauniewn Diwinyddiaeth. Nid hynny yn unig, eithr fe fynnodd hawl i chwilio ansawdd y Colegau Diw- inyddol a fynnai baratoi ymgeiswyr ar gyfer y B.D., a'i bodloni ei hunan fod yr addysg a gyf- rennid yno yn gyfartal a'r gofynion; fod y llyfrgelloedd yn cynnwys y llyfrau goreu at alwad myfyrwyr ac athrawon. Mi gofiaf yn dda ymweliad y Doethur Fairbairn a'm hen goleg i ym Mangor. Dyna'r fendith fwyaf erioed i Golegau Diwinyddol Cymru oedd yr ymweliadau hynny. Dyma ffrwyth yr urddas a osodwyd arnynt o fod yn rhan a chyfran o Brifysgol y genedl. A gwella'r ydym. o hyd. Ni phenodir athrawon iddynt oni bydd yn ei faes gymaint o awdurdod ar ei bwnc ag unrhyw athraw yn y Brifysgol. 0 ran hynny, graddedigion prif- ysgolion Cymru, Rhydychen a Germani ydynt. Felly, ni fedraf fi ddim yn fy myw ymdeimlo a'r gwaradwydd fel rhai o'm brodyr ynglyn a gair y Freinlen. Yr wyf yn deall fod y Bwrdd Diwinyddol yn eymeradwyo sefydlu pedair Cadair ymhob aii. o'r tri Choleg, sef yn y pynciau: Hanes yr Eglwys, Athroniaeth Crefydd, Hanes Crefyddau., a Groeg y Testament Newydd. Fe fabwysiedir cymeradwyo'r un peth gan Bwyllgor a etholodd Cyfundeb Annibynwyr Arfon. Nid enwa Pwyll- gor Arfon y pedair Cadair wrth eu henwau, eithr geilw hwy yn Gadeiriau i addysgu ochr wyddonol' pynciau Syllabus- y B.D., gan ych- wanegu, ond heb ymyrryd a daliadau credo bersonol, na gofyn prawflwon crefyddol.' Nid wyf yn sicr fy mod yn deall ystyr hyn oil. Ond hyn sydd eglur na ofynnir am gredo bersonol nag argyhoeddiad crefyddol y sawl a etholir i Gadeiriau Diwinyddol y Brifysgol. Fe wyr darllenwyr y TYST ei fod yn arfer o'r blaen yn y Colegau Diwinyddol, a hynny'n ddiweddar iawn, fel y gwyr Pwyllgor Arfon yn well na neb, i ofyn am gredo bersonol ac argyhoeddiad crefyddol. Bu Cymru hyd yn awr, yngham neu gywir, yn lied fanwl ar broli'r rhai oedd 3m mynd i. borthi'r wyn.' Mwyach ni bydd gofyn hyd yn oed 'A wyt ti yn fy ngharu i ? 0 dan hudlath y Brifysgol fe aeth y llwybr cul' yn dragwyddol heol.' Ie, ond yr esboniad yw mai ochr wyddonol' yn unig a fwriedir ei ddysgu. Fe fyddai'n dda gennyf pe dysgai'r doethion siarad a Chymru yn ei hiaith ei hun. Beth a feddylir wrth ochr wyddonol' yr Epistol at y Rhufeiniaid, er enghraifft ? Neu ynteu beth a feddylir wrth yr ochr amAyddonol iddo ? Nid oes gennyf ond dyfalu mai iaith yr Epistol yw'r ochr wyddonol,' ac mai meddwl yr Epistol yw'r rhywbeth anhysbys arall. A fwriedir cyf- yngu Groegwr y Testament Newydd ym Mhrif- ysgol cenedl y Cymry i esbonio'n wyddonol y geirynnau gar a 'nun' ? Yn y Brifysgol, os yn rhywle, y disgwylia'r genedl weled gwr yn taflu goleu Uachar goreu dysg, dawn ac awen ar feddyliau mawr llyfrau loan a Phaul Apostol. Ond ymddengys na chaiff athro'r Testament Newydd wneuthur hynny a Phaul ac loan rhag bod yn owwyddonol! ym Mhrifysgol y genedl Ychydig o gyfle a gaffai'r Dr. T. C. Edwards, petasai byw, i weled y cyfnod gwyddonol! Cyfeirio at Hanes yr Eglwys, y mae'n debyg gennyf, yn bennaf y mae'r darn a ganlyn o Adroddiad Arfon Mae gwahaniaeth" pendant rhwng dysgu ffeithiau ac egwyddorion hanes yn ddiduedd a chymell ac hyrwyudo athrawiaethau neu fywyd crefyddol.' Teilwng o Mr. Gradgrind y sonia Dickens am dano. Teach these boys and girls facts facts alone are wanted in life,' ebr y dysgawdwr hwnnw. Pa athro hanes gwerth ei halen sydd yn dysgu hanes yn ddiduedd ? Un o haneswyr goreu'r Eglwys Gristionogol ydyw Dr. Gwatkin, arholwr B.D. Cymru hyd yn ddiw- eddar. Dyma ran o'i ragymadrodd i'w lyfr, Early Church History No attempt has been made to conceal personal opinions. The mere annalist may be able to do it, but the historian cannot, unless he accepts theories of determin- ism which turn Universal Law into universal nonsense by refusing to recognise the plainest facts of universal experience.' Fe ddeellir erbyn hyn paham na cliefnogir sefydlu Cadair mewn Pynciau Athrawiaethol—nid yw hynny'n wydd- onol.' Eto, fe gydilabyddir inai'r ochr grefyddol neu ymarferol' yw'r pwysicaf ar gyfer gwaith y weinidogaeth. Athrawiaeth fyw i'w phregetliu yw cangen uchaf pren gwybodaeth w-edi'r cwbl. Ond caeir honno allan o'r Brifysgol. Ai cymyn- wyr coed a gwehynwyr dwfr i'r athrawon Diw- inyddol ydyw athrawon y Brifysgol i fod ? Yr wyf yn deall yr anhawster yn iawn. Ac yn awr y mae'r Colegau Diwinyddol fel y maent yn awr yn gwnawd o gnawd ac asgwrn o asgwrn corff crefyddol y genedl, ac yn rhydd i athraw- iaethu. Ilefvd, yn ei pherthynas a'r Brifysgol, y mae'11 boddloni gofynion gwyddonol' honno. Pa ateb, fellv, a roddir i'r rhai sydd yn credu ei bod yn well fel y mae ? Ond y mae gwaith y Colegau Diwinyddol yn ormod. O'r goreu, gofynnwch am ragor o gymortli, a chwi a'i cewch. Ond beth am fuddiannau'r genedl fel corfi ? Y mae Adroddiad Arfon yn paratoi ar gyfer Bangor (lle'r eisteddodd y Pwyllgor). Y mae athrawon y Colegau Enwadol i fod yn athrawon Diwiuyddol Coleg y Brifysgol hefyd, a holl athrawon Diwinyddol o fewn cylch y Brifysgol i fod yn Ysgol Ddiwinyddol gyflawn ac eff eithiol.' Ond fel y mae vn awr, nid yw pob Coleg Diwin- yddol yng Nghymru o fewn cylch prifysgol, nac ychwaith felly, mi dybiaf, i fod yn Ysgol Ddiw- inyddol gyflawii ac effeithiol.' Ond chware teg, y maent yn y frawddeg nesaf yn sicrhau rhyddid cyilawn i unrhyw goleg Diwinyndol a ddewiso aros yn ei safle bresennol heb golli dim o'r breintiau a ganiateir iddo yn awr.' Fe gyd-, nebydd y Brifysgol o dan yr oruchwyliaeth newydd felly ddau rywogaeth: (a) Ysgol Ddiw- inyddol gyflawn ac efieithiol, a (b) Golegau a ddewiso aros fel y maent A welodd Pwyllgor Arfon neu'r Bwrdd Diwinyddol y tramgwydd- neu'r joho ? Wrth gwrs, y mae'n rhaid symud y Colegau Diwinyddol i gyd o bob eliwad i un o'r tair tref-Caerdydd, Aberystwyth neu Fangor. Eu symud 3-mhellach oddiwrth yr eglwysi. Yr hen syniad oedd fod eglwysi yn rhan mor han- fodol o addysg y myfyrwyr ag yd\rw'r athrofa. Y mae'r colegau fel y maent 3-11 gweddu syniad yr oes—y Bala, Aberhonddu, Caerfyrddin, &c., yn y wlad Bangor, Aberystwyth, Caerdydd 3-11 y dref. Fe gyrheiddir pobman, a gwell byth a fydd fel y daw myfyrwyr un enwad yn fwy rhydd tuagat enwad arall. Y mae'r gwerinwr a chanddo ryw afael mewn addysg ddiwinyddol i ennill drwy hyn. Ond ewch a hwy i gyd i'r un fan, ac ymhen cenhedlaeth fe fydd y Colegau Dhvinydelol i'r gwerinwr yr hyn yw'r Brifysgol yn awr-ryw museum, a'r myfyrwyr yn ddim mwy real na chelain Pharo o'i fewn. Pa mor ami y gwel gwerinwyr Caerfyrddin, Penfro ac Aberteifi fyfyrwyr diwinyddol wedyu ? Fe all hyn, cofler, fod yn ddifrifol i Gymru. Nid yw'r un peth yn wir am un genedl 11a gwlad arall hyd y gwn i. I orffen, nid wyf yn gweled 11a all y Brifysgol wneuthur llawer mwy nag a wna i hyrwyddo addysg ddiwinyddol drwy sefydlu ysgoloriaethau a chymrodaetliau fel yr awgryma y Bwrdd Diwinydd.ol, a hYllUY drwy ei chyf- ryngau presennol. Yh ddiameu, y mae angen mwy o ysbryc1 ymchwil ym myd Diwinyddiaeth. Ni ddylai'r wlad symud mewn mater mor bwysig a hwn cyn ei wyntyllu yn hir, ac yn ddyfal, ac Y11 yr Ysbryd Glan. Yr eiddoch, Rhymni. FRED JONKS.

iCwmerfin, Ceredigion.

Afiechyd y Parch. T. Roberts,…

Advertising