Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFARFODYDD CHWARTEROL - -___.,-_._-…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB DWYRAIN DINBYCH A PFLINT. Cynhaliwyd Cyfarlod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb uchod yn Rhostyllen, nos Fawrth a dydd Mercher, Hydref 24aiii a'r 25am. Cafwyd oedfa effeithiol iawn nos Fawrth am 7 o'r gloch ar y Genhadaeth, o dan weinidogaeth y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth. Am 10 bore Mercher cynhaliwyd y Gynhadledd o dan lywyddiaeth y Parch. W. Daniel, Tan- yfron, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreu- wyd trwy ddarllen Gair Duw a gweddi gan Mr. D. Jones, Hartsheath. Darllenwyd a chadamhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Derbyniwyd yn aelodau newyddion Mri. J. R. Ellis ac Edward Williams, diaconiaid ffydd- lon yn Rhostyllen. Hefyd y Parch. George Jones, Salem, Rhos. Dygwyd tystiolaeth uchel iawn i Mr. Jones fel pregethwr cymeradwy iawn a brawd cynnes ei ysbryd, a llawen yw gweld y fath arwyddion ffafriol o ddyfodol disglaer yng ngwasanaeth ei Arglwydd. Croesawyd ef yn gynnes i'r cylch gan y Cadeirydd. Y Pwyllgor Cenhadol.—-Cyflwynodd y Parch. J. Talwrn Jones, Brymbo, adroddiad o waith y Pwyllgor hwn :(a) Fod gweinidog o'r Cyfun- deb i fyned i wasanaethu ymhlith y milwyr yn Litherland a'r cylch. (b) Ein bod yn dymuno ar y Swyddfa Rhyfel i benodi caplaniaid Cym- reig i Wersyll Litherland a'r cylch. (of Fod cyfres o gyfarfodydd gweddi a. chenhadol i'w cynnal am wythnos trwy'r Cyfundeb. (d) Ein bod yn awgrymu i bob eglwys dreulio'r Sul cyn casglu at y Genhadaeth yn Sul Cenhadol. (e) Fod y tri sydd yn cynrychioli'r Genhad- aeth Dramor yn y Cyfundeb i roddi adroddiad o hanes eu hymweliadau a'r eglwysi yng Nhgy- nhadledd y Cwrdd Chwarter. (/) Ein bod yn cymeradwyo penderfyniad Pwyllgor Cenhadol Gogledd Cymru, sef Ein bod yn annog y Cyfar- fodydd Chwarterol i ofyn i'r lleoedd y cynhelir Cymanfa Bregethu flynyddol y ddwy sir i drefnu oedfa Genhadol, a gwahodd cynrychiolydd y Gymdeithas i annerch y Gymanfa. Ar gynyg- iad y Parch. J. Talwrn Jones, ac eiliad y Parch. R. Roberts, Rhostyllen, cymeradwywyd yr adroddiad hwn, ag eithrio mater y milwyr yn Litherland. Ynglyn a'r mater liwnnw, cynyg- iodd Mr. John Roberts, Rhos, a chefnogodd y Parch. T. E. Thomas, fod y Parch. J. Talwrn Jones yn ymweled e Litherland i weled y cyf- leusteran sydd yno i weinidog i gyflawni gwaith ymhlith y milwyr. Derbyniodd y Gynhadledd y cynllun gyflwyn- wyd gan y Parch. J. Talwrn Jones i gario ymlaen y mudiad Efengylaidd yn yr eglwysi, a hyfryd oedd gweled arwyddion o benderfyniad i wneud y mudiad yn llwyddiant er cael deffroad yn yr eglwysi yn yr argyfwng presennol. Pwyllgor yy Ysgol Sul a Dirwest.—Cynwynodd y Parch. H. W. Parry adroddiad o waith y Pwyll- gor hwn. Yr Ysgol Sul :—(1) Darllenodd ad- roddiad arholwyr Yr Undeb, a chyfeiriodd at safle anrhydeddus Bethlehem, Rhos, yn yr arholiad, gan fod Mr. James Edwards wedi ennill y fedal aur yn y IV. Ddosbarth Mr. Penry T. Edwards wedi ennill yr ail wobr, sef medal a gold centre: a Iorwerth G. Williams, Maggie Jane Williams a Gwyneth Hughes wobrwyon o lyfrau yn yr II. Dosbarth. (2) Dymunol fyddai trefnu i roddi adroddiad y ddwy sir o arholiadau yr Undeb yn y Gymanfa. (3) Dymuno ar y Gynhadledd i fabwysiadu y cymhellion geir ar y rhaglen, sef trefnu i gael cyfarfod arbennig ynglyn a'r Ysgol Sul yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf. Dirwest :—(1) Dewisir deuddeg o ber- sonau-chwech gan Bwyllgor Cymanfa Gwyn- edd, a chwech gan Gymdeithas Ddirwestol y De, i ymgynghori gyda'r aelodau Scneddol dros Gymru ar faterion Dirwestol. (2) Dymuno galw sylw eglwysi a swyddogion Gobeithluoedd (a) At y SufDirwestol, Tachwedd i2fed. (b) At arholiadau blynyddol Cymanfa Gwynedd, Ion- awr 26ain, 1917. Rhenuir yr ymgeiswyr i dri dosbarth, sef thai dan 18, 15 a 12 oed. Y llaw- lyfrau i'w cael gan y Parch. J. G. Davies, The Manse, Rossett. (3) Dymuno ar y Gynhadledd i ddewis brawd i ddarllen papur yn y cyfarfod nesaf ar bwnc mawr Dirwest heddyw, sef Pryn- iad y Fasnach Feddwol gan y Llywodraeth.' (4) Dymuno ar y Gynhadledd awduidodi y Trys:>rydd i roddi pum swllt i Gymanfa Ddir- wpstcl y Sir a deg swllt i Gymaaia Gwynedd. Cymeradwywyd yr adroddiad. Derbyniodd y Gynhadledd adroddiad Mr. H. V. O. Cook o waith Pwyllgor Pristiant eiddo yr Enwad; a'r eiddo Mr. T. Lloyd Williams. Gwrecsam. o eiddo Pwyllgor y Ar gynygiad Mr. Cock, ac eiliad Mr. D. Jones, Hartsheath, pasiwyd i ystyried y priodoldeb o gael Cymanfa Ganu Edwysirol ar y 'Caniedydd newydd. Pasiwyd fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i'w gynnal yn Salem, Coedpoeth fod y Parchn O. J. Owens, Ponciau, i bregethu ar bwnc o ddewisiad yr eglwys, a.'r Evan Roberts, Pentrefoelas, i roi anerchiad ar yr Ysgol Sul.' Y Drysorfa Gynorthwyol.—Cyflwynodd Mr. D. Jones ei adroddiad o safle bresenol y mudiad hwn yn y Cyfundeb. Deallwyd fod Bethlehem, Rhos bron gorffen casglu yr addewidion, a chymhell- wyd yr eglwysi eraill yn daer i uno yn fuan. Ar gyngyiad Mr. T. Lloyd Williams, ac eiliad y Parch. T. E. Thomas, penderfynwyd penodi tri brawd i ymweled a'r eglwysi, a dewiswyd y Parch. T. E- Thomas, a Mri. Thomas Jones, Y.H.. Gwrecsam, a D. Jones. Dewiswyd (a) Mr. Isaac Roberts, Nant, Coed- poeth, yn Gadeirydd am y flwyddyn nesaf. (b) Mr. Jarrett Harrison, Brymbo, yn Drysor- ydd. (c) Y Parch. J. W. Rowlands, Nant, yn Archwiliwr. (d) Mr. J. Wilcoxon, Talwrn, ar Bwyllgor y Gronfa. (e) Mr. T. Lloyd Williams, Gwrecsam, ar Bwyllgor y Caniedydd.' Pwyll- gar yr Ysgol Sul a Dirwest-y Parchn. Evan Roberts, Pentrefoelas T. E. Thomas, Coed- poeth; J. Howells, Ponciau; George Jones, Salem, Rhos; J. D. Jones, A.T.S., Brynteg; a Mri. D. Jones, Hartsheath; Samuel Moss, Coedpoeth; J. P. Davies, Gwrecsam; a Jacob Edwards, Rhos. Pwyllgor Cenhacld-Parchn. J. Milton Thomas, Fron; J. Talwrn Jones, Brymbo; W. Williams, Ponciau; a Mii. Isaac Roberts, Nant R. Ingman, Pontybodcin Isaac Smith, Y.H., Rhos; Thomas Owen Williams, Salem, Coedpoeth Evan Roberts, Brynteg E. Davies, Cenfybedd; ac R. Bates, Rhosymedre. Dewiswyd y Parchn Peter Price, B.A., D.D., a J. D. Jones i arholi pregethwyr. Darllenodd yr Ysgrifennydd lythyr oddiwrth y Parch. Henry Jones, Ysgrifennydd Cyfarfod Chwarterol Arfon, ynghylch y cynygiad i sefydlu Cadeiriau mewn Diwinyddiaeth yn y Colegau Cenedlaethol; a phenodwyd y Parchn. T. E. Thomas, Peter Price, B.A., D.D., a J. Howells i ymgynghori ar y mater, a chyflwyno adroddiad, i'r Gynhadledd nesaf. Trwy gynorthwy y tri brawd. hyn ac ystyriaeth yr hcU aelodau, hyderir y gellir dyfod i tarn unol ar y mater pwysig hwn yn y cyfarfod nesaf. Cododd y brodyr ar eu traed i fynegi eu gofid oherwydd y bywydau ieuainc gwerthfawr a goll- wyd ar faes y frwydr fawr-eu hedmygedd o'u gwrcldeb a'u hunanaberth, a'u cydymdeimlad diffuant a'r teuluoedd sydd yn en galar oherwydd colli eu hanwyliaid yn y gyflafan cfnadwy. j -Pei,tderlyniad.Ar gynygiad y Parch. J. T. j Jones, pasiwyd Ein bod fel Gynhadledd, yn cynrychioli 33 o eglwysi Annibynnol Dwyrein- barth Dinbych a Fflint, yn protestio yn erbyn gwaith y Swyddfa Rhyfel yn symud y milwyr Cymreig o Gymru i Loegr a'r Iwerddon am eu disgyblaeth filwrol, a'u hysgar oddiwrth eu gilydd yn y fyddin a'u gosod ymhlith estroniaid. A'n bod yn apelb at y Swycldfa Rhyfel i gadw'i haddewid i Gyrmu trwy adael i'r fyddin Gym- raeg gael ei disgyblu yng Nghymru gan Gymry, a'u bod i'w cadw gyda'i gilydd yn y fyddin, yr hyn yw eu rhesymol hawl.' Pasiwyd i'r Ysgrifennydd anfon llythyrau o gydymdeimlad a'r brodyr canlynol yn eu prof- edigaethau, sef Mr. J. Wilcoxon, Talwrn, Coed- poeth, ar ol colli ei fab yn y rhyfel; y Parch. T. Roberts, Wyddgrug; y Parch. J. O. Williams (Pedrog), ac eraill. Gohiriwyd anerchiad y Cadeirydd ar ei ym- adawiad o'r gadair hyd gyfarfod y prynhawn oherwydd prinder amser. Terfynodd y Parch. J. Mostyn, Abersoch, trwy weddi un o'r Cynhadleddau mwyaf dymunol. I Y GYFEILLACH. I Yn y prynhawn, am 2 o'r gloch, cafwyd Cyfeill- ach o dan lywyddiaeth y Parch. W. Daniel. Dechreuwyd trwy ddarllen Gair Duw a gweddi gan Mr. Thomas O. Williams, C eCtp,-)eth. Ar ol hyuny, rhoddodd y Cadeirydd ei anerchiac1 gohiriedig ar y mater, Y Dyfodol Newydd yn galw am Eglwys Newydd.' Cafwyd anerchiad gwerthfawr iawn, oedd yn dangos yn eglur eangder m-ddwl, gweledigaeth bill cyclnabydd- iaeth fanwl a symuriadau meddyli 1 a chyin- deithasol yr oes, a'r oil yn cael eu mynegi mewn ysbryd cynnes a gwerthfawr ac mewn iaith rymus a thlws. Ar gynygiad Dr. Piice, yr hwn ddygodd dystiolaeth uchel i'r anerchiad. pa 1 d pi 1 lcUS o Idiolchgarwch cynnes i Mr, Dc 1 1 am dalli) a'i wasanaeth gwerthfawr fel Cadeirydd deheig ar hyd y flwyddyn hefyd, ein bod yn gofyn iddo gyhoeddi yr anerchiad yn y Dysgedydd, ac, os yn bosibl, ei gael yn bamffledyn i'w gwasgaru trwy'r eglwysi. Ar ol yr anerchiad, cafwyd agoriad dvinunol iawn gan Mr. David Jones ar bwnc y gyfeillach, sef Presencldeb Duw gyda'i Bobl.' Siaradodd amryw o'r brodyr gyda'r rhwyddineb a'r goleuni sydd yn ffrwyth arweiniad diamheuol yr Ysbryd Glan, yn eu plith y Parch. J. Mostyn, Abersoch, yr hwn oedd ar ymweliad, ac a groesawyd yn garedig i'n plith, a'r Parch. T. Jones (M.C.), Rhostyllen. Cafwyd cyfeillach a hir gofir, ac a fydd yn ffynhonnell o ysbrydiaeth i weithio yn y winllan. Pwysleisiai yr holl frodyr y nerth a'r gwroldeb sydd yn dod o'r ymwybyddiaeth o'r presenoldeb DW3rfcl. Diolchwyd i Mr. Jones am ei agoriad effeithiol. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. O. J. Owens. Ynyr hwyr, am 6.30. cynhaliwyd oedfa oedd yn goron ar yr oil. Dechreuwyd trwy ddarllen Gair Duw a gweddi cldwys a phwrpasol gan y Parch. George Jones, a phregethwyd gan y Parch. D. R. Jones, Cerrygydruidi m, ar y mater dewisedig gan yr eglwys, sef Phil. ii. 5. Cafwyd ganddo bregeth nodedig o feddylgar, byw ac eneiniedig. Ar ei ol, pregethodd Dr. Price, Rhos, gyda nerth—nerth meddwl ac ysbryd sydd yn adnabyddus trwy Gymru oil. Diau fod Duw yn y lie hwn. CYllulleidfa o ffyddloniaid y cylch oedd yno, yn bennaf. a honno yn gynull- eidfa dda iawn, a hyfryd iawn oedd bod yno. I)i lchwyd i'r ddau frawd gan y Parch. T. E. Thomas, yr hwn a arweiniai y cyfarfod. Rhoddodd eglwys Rhostyllen y croesaw goreu i'r cyfarfod mewn sirioldeb a danteithion. Eglwys gymharol fechan ydyw, wedi llafurio ar hyd y biynyddoedd yn wyneb anhawsterau mawr. Y.mae yno gapel hardd a chyfleus iawn a festri gyfaddas, a godwyd er coifadwriaeth am yr anfarwol Williams o'r Wern, yr hwn a fu yn byw am flynyddoedd yn Talwrn yn yr ymyl, ac a hunodd yn yr Iesu mewn ty cyfagos. Ar ol vmdde 1 o'r weinidogaeth yn y Rhos, sefydlodd y Parch. R. Roberts yma, a bu o gynorthwy mawr ac adfywiad i'r eglwys fechan. Ychydig flynyddoedd yn ol, rhoddodd y swm o £ "200 tuagat y ddyled, ac y mae ei bresenoldeb wedi bod yn gefn nmhrisiadwy i'r eglwys. Hyfryd i bawb oedd ei weled wedi cael adferiad digonol i'w iechyd i fod yn bresenol yn yr holl gyfar- fodydd, ac yr oedd m:)r siri 1 ac icuanc ei ysbryd ag erioed. Edrychodd ymlaen at y cyfarfodydd hyn, ac amlwg oedd ei fod yn ymyl Duw. Par- haed cysgod y Goruchaf drosto hyd y diwedd, ac nid oes amheuaeth na bydd yn myned i mewn i'r porthladd tawel yn ei lawn hwyliau. Cynygiodd y Parch J. T. Jones, ac eiliodd Mr John Parry, Salem, bleidlais o ddi lchgarwch cynhesaf i'r chwiorydd, ac yn neilltuol Mrs. Roberts, am eu croesaw a'u sirioldeb, ac ateb- wyd ar eu rhan gan y Parch. R. Roberts yn ei ffordd hapus arferol. Cyfeiriodd at y cynorthwy sylweddol a gafodd yr eglwys i glirio treuliau'r cyfarfod gan Mr. Th ',mas joncs,Y.H Gwrecsam. a brawd caredig arall. Hefyd, gwnaed casgliad neilltuol wrth y bwrcld ciniaw o dros £ 1 i'w cynorthwyo, fel rhwng hyn a llafur yr eglwys rhyddhawyd hi o bob pryder. Hyderwn y bydd yr eglwys yn medi ffrwyth toreithiog o ymweliad y Cyfarfod Chwarterol, ac y bydd yn myned rhagddi mewn nerth a dylanwad. J J. D. JONES, Ysg.

Advertising