Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Mae'r Dr. Fort Newton wedi ateb yr alwad i'r City Temple yn gadarnhaol. Bydd yn dechreu ar doriad y flwyddyn newydd. Tebyg iawn y bydd y blaenoriaid yn cefnu ac yn gadael y llong i ofal y criw newydd. Gellid meddwl wrth y wasg drannoeth fod yr alwad yn un wresog anghyffredin, ond nid yw hyn yn twyllo neb sy'n deall. Un o wyr y wasg, sef Golygydd y Christian Commonwealth, sydd yn arwain y mwyafrif, ac, wrth reswm, rhwydd (drwy help y peiriant') yw taenu unrhyw stori fel hon ar led. Ond y gwir yw mai nobodies yw'r mwyafrif, ac y mae'r cewri sydd wedi dal pwys a gwres y dydd yn erbyn y drefn newydd. Mae'r gweinidog newydd yn sicr o fod yn gweled hynny hefyd, oblegid y mae yn rhagweled y bydd cyfyngder ariannol.' Swm y cwbl yw fod cwmwl ar hyn o bryd yn hongian uwchben y City Temple ac os nad oes yn y gweinidog newydd adnoddau heb eu darganfod eto, fe ellir-fel y dywedais o'r blaen ysgrifennu Ichabod uwchben y drws. >I< Nid yw'r Sais yn hoffi pregeth hir un fer sydd yn fwyaf dderbyiiiol--rhyw sermonette ddeg munud yn yr Eglwys Wladol, a dim dros hanner awr o bregeth yn y capeli. Tase Sais yn cael profiad o Gymanfa Gymreig ar yr hen linellau —dwy bregeth am saith y bore, tair am ddeg o'r gloch, dwy arall y prynhawn, a dwy os nad tair yn yr hwyr-buasai Ap Hengist wedi darfod am dano cyn hanner dydd. Wel, y mae Dr. Dixon, o gapel Spurgeon, wedi torri ei bregethau yn fyrrach yn ddiweddar. Ond yn lie bodloni'r bobl, fel arall y mae pethau yn troi allan, ac y maent wedi anfon petition i'r parchedig yn gofyn am fesur hir yn lie mesur byr. 0 hyn allan dywed yn blaen wrth y critics nad yw'n meddwl gwrando ar lais y cloc. Gwrendy yn hytrach ar arweiniad yr Ysbryd Glau ac os bydd y nefoedd yn rhoddi iddo dri chwarter awr o neges ar fore Sul, bydd y pregetliwr yn ufudd i'r alwedigaeth nefol heb hidio botwill corn am y critics. Felly, o hyn allan, mesur hir geir yn y Tabernacl, nid mesur byr. Pwnc ein bara beunyddiol yw'r pwnc mawr yn Iylundain yr wythnos hon. Y mae'r pris- oedd yn mynd yn uwch ac yn uwch o wythnos i wythnos. Amlwg fod rhywrai yn troi yn lladron wholesale. Ac y mae eisiau Haw gref y gyfraith ar war y creaduriaid haerllug hyn sydd yn pentyrru eu golud aflan wrth y mil- iynau Pan fo wy iar yn costio pedair ceiniog a thair ffyrling, mae'n aml^g fod yna arian anonest yn newid dwy law. Beth yw'r canlyn- iad ? Llawer o ganlyniadau, ond y gwaethaf yw fod toll ar fwydydd yn pwyso'n llawer trymach ar y tlawd nag ar y cyfoethog. Pan y mae'r dorth bedair ceiniog 3a 1 dringo i ardal y swllt, mae'n amlwg nas gall dyn cyffredin a'i gyflog fechan fforddio bara i'w blant heb son am enllyn. O'r diwedd y mae'r Senedd wedi symud, a Runciman yn rhoddi hint i'r profit- mongers fod clorian cyfiawnder wedi eu pwyso a'u cael yn brin. Yr oedd yn hen bryd symud, ac y mae eisiau synlud eto yn fuan, fuan, neu bydd yn rhaid i ni godi row. Dyna'r fasnach feddwol. Paham na waherddir hon ? Nonsense yw dweyd fod cwrw Burton- on-Trent a stout y Brifddinas Wyddelig yn angenrheidiau bywyd—moethau ydynt a moethau costus hefyd. Heb son am fynyddau o stwff bara gwerthfawr yn cael ei andwyo er mwyn gwneud brag, a miloedd o dunelli o siwgr dyna'r gost i'w brynu. a'r felltith i gorff ac enaid sydd yn canlyn. Gellid meddwl yn wvneb ffeithiau cliwerwon fel hyn y buasid yn marcio y fasnach feddwol allan fel yn haeddu svlyv end, hyd yma, nid oes atalfa ar ei gwastraff hi. er fod yr oriau gwerthu wedi eu cwtogi. Pel y dywedais fisoedd lawer yn ol, 'rwy'n credu mai o gyfeiriad Cricieth y daw ymwared i ni ar y mater hwn. Y mae hanes pethau tua Car- lisle a mannan eraill yn dangos fod y mater dan sylw a chya hir proffwydaf y ceir goruchaf- iaeth ar yr arch-elyn medclwol yn ein gwlad. Ar yr un pryd, gresyn fod y Iylywodraeth mor shy ac mor ofuus. Rhaid i ninnau fel dirwest- wyr fod yn gall. Mae'r gelyn mor gyfrwys. Y mae pethau fel pe'n gwella tua'r Iwerddon. Stroke yn ei lie oedd dewis Undebwr fel Mr. Duke yn ysgrifeunydd, oblegid Undebwr wedi troi yn Ymreolwr fydd yr ofleryn goreu i gario baner rhyddid i'r Ynys Werdd. Bu John Dillon yn siarad yn Whitefield's prynhawn Sul diw- eddat, a dangliosodd yn eglur iawn mor bell yw'r Sais o ddeall y Gwyddel. Mae'1' Sais a'r Gwyddel mar annhelyyg i'w gilydd ag y gall dan gymydog fod, ac y mae dull meistrolgar y Sais o lywodraethu y dull gwaetliaf yn y hyd lnewu lie fel yr Iwerddon. Rhaid ennill calou y Gwyddel cyn 3* ceir trefn ar bethaii. -Alae'l- Iwerddon lieddyw yn llawer mwy llwyddiannus o ran ei masnach nag y bu ers oesau, ond eto y mae lie i wella, ac y mac'r Ysgrifeunydd newydd fel pe wedi cael gafael ar ben v ffordd i galon Pat. O'i gael ef yn ffafriol i'r policy o ddechreu byd o'r newydd yn yr ynys anffodus hon, yna daw pobl gyndyn fel Lausdowne a'r cyffelyb yn fwy rhwydd eu perswadio. Ar y cyfan, nid yw pethau mor ddn ag y buont yn yr Iwerddon. Pwy sydd i gael votes ? Dyna'r pwnc mawr arall sydd yn cael cry 11 sylw yn y Senedd y dyddiau hyn. Mewn Ty amryliw,' gyda Gweinyddiaeth gymysgryw fel yr un bresennol, amhosibl cael dedfryd unfarn ar y mater. Gan hynny apwyntiwyd Pwyllgor yn cynrychioli pob plaid, a'r Speaker yn gadeirydd, i ddyfeisio cyn- llun fydd yn debyg o fodloni pawb. Ond gwelir eisoes nas gellir bodloni pawb. Myn rhai, os yw ein bechgyn yn deilwng i ymladd drosom a marw drosom, y dylasent gael vote. Dyna'r merched hefyd. Os yw rhain yn fit i weitin ) drosom gvda'r cvflegrau ac 3-11 yr ysbytai, &c., eu bod hwythau hefyd 3-11 haeddu'r vote. Cwestiwn arall ofyi-ii-iir ydyw, A yw'1' hogyn deunaw oed i gael vote ? Yinhob pen y mae piniwn ar y mater- ion pwysig hyn, ond efallai y ceir gweledigaeth eglurach bob yn dipyn. Ond y cwestiwn niawr ydyw, Pa fodd y bydd i'r etholwyr llewydd yna ddefnyddio'r dalent newydd ? Ai Tori ai Radical ai Socialist fydd y voter newj^dd ? 'Does neb all clclweyd. Yn y cyfamser ein dyledswydd bendant ni yw paratoi'r ffordd, fel y gwelom maes o law yr anialwch yn blodeuo yn ein plith, a'r nefoedd eto'n gwenu ar Brydain Fawr.

Y Milwyr Cymreig yn Ffrainc.

Cymer, Rhondda.