Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Diaconiaid Siloh, Glandwr,…

News
Cite
Share

Diaconiaid Siloh, Glandwr, Abertawe. (Parhad o'r Rhifyn diwcddaf). I Samuel Hughes (Sam y Gof).—Yr oedd ef yn gymeriad gwreiddiol—rhyw gymysgedd o Gymro a Sais, heb fod y naill a'r llall yii iawn. Yr oedd yntau'n selog dros yr Ysgol Sul ac yn aelod selog ohoni. Ym mlynyddoedd cyntaf yr achos yn y lie dilynai gyfarfodydd undebol eglwysi'r cylch i adrodd rhannau o'r Beibl ac holwydd- oregau oddiar ei gof. Cedwid y cyfarfodydd hyn yn rheolaidd bob chwech wythnos yn. eglwysi gweinidogaeth y Parch. Daniel Evans, Mynydd- bach. Yr oedd Samuel Hughes yn gyfeillgar iawn a Mr. Evans, a thalai ymweliadau mynych ag ef yn ei gartref ym Mrynffynnon ar Graig Trewyddfa, a byddai'n aros yn hwyr yn ei gym- deithas. Deuai Air. Bvans i hebrwng Newythr Sam hyd hen gapel y Ddinas, ac wedi sefyll ychydig fan honno, troent yn eu hoi tua Bryn- ffynnon, ac yn ol eto hyd y Ddinas. Pan gyr- haeddai Newythr ei gartref ar Brynhyfryd byddai Modryb Sian yn anil yn ei ddwrdio am fod mor hwyr. Un noson cymerodd yr hen wraig gydag ef i Brynffynnon, a tlira yr oedd y ddau hen bererin yn mwynhau'r gymdeithas, cafodd y ddwy wraig hwythau hwyl dipyn yn hapus, fel pan gyrhaeddodd yr hen gwpwl gar- tref yr oedd yn hwyrach nag arferol. Ar ol hyn darfyddodd grwgnach yr hen chwaer. Bu Modryb Sian am ryw amser yn cadw siop fach. Pan fyddai hi allan cymerid ei lie gan Newyrth Sam, ac ar yr adegau hynny byddai masnach go fyw yn y shop. Shopwr o urdd John Jones, Talysarn, oedd Newyrth Sam. Rhowch werth ceiniog o oranges, Newythr,' ebai'r bachgen. Wre, bacen i, tyma petwar i ti. Os o's racor i bod, dere miwn pan bo Mot Shan yn ty.' Yr oedd yr hen frawd yn gynnes iawn ei ysbryd, ac weithiau'n angherddol yn ei weddiau. Cofiaf ef un prynhawn Sul yn nhy yr hen chwaer Mary Richards yn un o hen dai bychain Siloh-road. Yr oedd yno le cynnes eisoes. Aeth yr hen ber- erin ar ei liniau, a gweddïai ar ran ei blant (yr oedd rhai ohonynt yn galed a diystyr iawn). Ni chlywais erioed ddim yn fwy angherddol; weithiau yn Gymraeg ac weithiau yn Saesneg, a'r hen chwaer gynnes yn y gwely yn porthi'r an nes yr oedd yno le rhyfedd. Pan wedi ei gaethiwo i'w dy gan henaint a methiant, daeth y Parch. R. Thomas, Hanover (cyn-weinidog yr eglwys), i'r ardal, ac aeth Mr. Monger ag ef o gwmpas i ymweld a rhai o'r hen aelodau oedd yn glaf. Galwasant yn nhy fy rhieni, a chefais orchymyn gan fy mam i arwain y ddau fon- heddwr i dy yr hen frawd. Yr oedd ar y pryd yn bur wael ei iechyd ac yn isel ei brofiad. Pan welodd y ddau yn dod i fewn, torrodd allan mewn Ilais cryf, wylpfus 0 Mr- Thomas anwl, arnon ni of on bod yn Tad yn ala ni i'r gwely heb ddim canw'll.' Diferodd yr hen wein- idog falm i'w glwyfau ac wedi darllen a gweddio, tawelodd yr ystorm, a daeth i deimladau gwell. Teimlaf yn bur hyderus, wedi'r cwbl, i'r hen dad gael goleu yn y glyn,' a'r 'Archofleiriad mawr i dorri grym y dwr.' Evan Grifftilt.-Glowr oedd y gwr diwyd a gweithgar hwn, ac yn selog gyda phob rhan o waith yr eglwys. Priododd a gwraig weddw oedd yn aelod o eglwys Ebenezer, Abertawe, ac mewn cysylltaid a'r eglwys honno y treuliodd weddill ei oes yn ffyddlon. Rees Dafydd.—lithol wyd ef yn y flwyddyn 1848, yr un adeg a'r hen frawd David Rees, Byddent yn newid ei gilydd yn y gwaith, a hwy ill dau fyddent yn arwain y cyrddau wyth- nosol yn absenoldeb y gweinidog. Dyn caredig, diniwed oedd, heb lawer o ddyfnder o unrhyw fath ynddo. Bu'n gyhoeddwr yr eglwys am beth amser, a byddai'n gwneud ambell i dro trwstan-fel y bydd y rhywogaeth hwnnw yn gwneud weithiati-iiiegis Bydd dyn dieithr o North y Gogledd yn pregethu yma nos Fawrth,' neu Bydd cwrdd gweddi yn nhy William Richard bore saith am Saboth.' Collodd ei swydd a'i aelodaeth am dymor, ond dychwelodd i'w Ie yn edifeiriol, a bu farw mewn tangnefedd. Joseph Evans .-Gwr bychan o gorffolaeth, ac yn ddiwyd fel crefyddwr a. masnachwr. Cyf- rwywr (saddler) oedd wrth ei alwedigaeth, a chadwai nifer o weithwyr. Yr oedd yn adna- byddus i holl amaethwyr Dlangyfelach, y rhai a dramwyent y ffordd honno i farchnad Abertawe. Dilynodd ei dad yn y fasnach, ac hefyd fel ysgrifennydd yr eglwys am flwyddi hir. TLU- iodd ef a'r hen frawd ffyddlon Rees Elias, y trysorydd, lawer noson ddiwyd i gadw pob cyf- rifon perthynol i'r eglwys. Efe liefyd oedd ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a gwelid ef yn gynnar yn hwylio tua'r Ysgol i gael llyfrau pob dosbarth yn barod ar y bwrdd erbyn y deuai yr athraw. Un o swyddogion 1848 oedd yntau, a rhoddodd ddivvrnod o wasanaeth da i grefydd. Crefyddwr distaw oedd. Bu farw yn y flwyddyn 1873, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Mynyddbach. (l'w barhau.)

ENGDYNION I

CYFDWYNEDIG I

Aberdar a'r Cylch.

Dim Siomiant.