Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgoi Cymru.) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A LL.D. DECHREUA'R Tymor nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 3ydd, 1916. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar yr igeg o fis Medi, 1916. Am fanylion pellach ymofynner a— J. H. DAVIES, MA.. Cofrestryd BRIGHTEN YOUR HOME FOR CHRISTMAS By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new- at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE I,IST TO TOWNSHEND'S LTD., ERNEST STREET, BIRMINGHAM.
APEL NEWYDD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
APEL NEWYDD. I. Gwelir fod ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfod ohonom gwtogi a chynilo ein papur. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau tê, cyfarfodydd pregethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fatli, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwu orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &cl. 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r cyfeillion sy'n anfon atom-yn Saesneg, fel rheol—i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er mwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llytliyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fa'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-17 GLYNRHONDDA STREET, CAERDYDD. Y GOIYGYDB. Mewn Liaw.-Cyfarfod),dd Chwarterol Cyfun- deb Ceredigion a Chyfundeb Dwyrain Morgan- nwg—Undeb Eglwysi Lerpwl, Manchester a'r Cylch—Casnewydd — Rhanbarth Penybont- ar- Ogwy—Bethania, Dowlais-Llanbedr, Dyffryn Conwy—Bethlehem, Caerdydd—Kinmel Park— Horeb, Ceredigion-Caerdydd-Ruyton a Wilc(,t -Horeb, Peiimaenmawr-Pontlotyi-i- Cellanwr -J. T. Jones—-Cyfarfodydd, &c.
.I BWLCHNEWYDD, CAERFYRDDIN.…
News
Cite
Share
BWLCHNEWYDD, CAERFYRDDIN. I Pregethwyd yng nghwrdd blynyddol yr eglwys hon eleni gan y Parchn. D. J. Lewis, B.A., Tumble, a Ben Davies, Llandysul. Mae'r hen eglwys barchus uchod yn gwisgo gwedd lewyrchus o dan weinidogaeth ffres ac amserol y Parch. E. B. loyd.1
--.-....-..-..I PRYNU'R FASNACH…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL GAN Y PARCH. J. T. RHYS, ABERTAWE. HYSBYS i ddarllenwyr y TYST yw fod y Blaid Ddirwestol ym Mhrydain yn ddiw- eddar wedi ymranri.11 yn ei herbyn ei hun.' Achos yr ymraniad yw gwahan- iaeth barn ar y cwestiwn o bryniant y fasnach feddwol gan y \Vladwriaeth. Y mae'r ymraniad yn perygln nid yn unig y Cymdeithasau Dirwestol, ond, peth sydd yn fil pwysicach, yr achos dirwestol ei hun. Amcan yr erthygl hon yw gosod allan paham y dylai pob un sydd yn hiraethu am weld meddwdod yn ein gwlad ymhlith y pethau a fu, a sobrwydd yn lledaenu a llwyddo'n llewyrchus yn y wlad, gefnogi'r cynllun hwn i sicrhau'r diwvgiad angenrheidiol. 1. Nid oes fawr obaith y bydd y Senedd yn fodlawn pasio un mesur arall digonol, ond mae rhesymau cryf dros gredu fod y Senedd yn (fafriol i'r mesur yma. Yn y 60 mlynedd cyn i'r rlivfel arswyd- lawn yma dorri allan gwnaed nifer fawr o ymdrechioii i ddeddfu'n effeithiol yn erbyn y fasnach feddwol. Rhydd y diw- eddar Mr. Edward Smith, Y.H., Bewdley —un o'r Annibynwyr mwyaf selog, ac un o'r dirwestwyr mwyaf aiddgar a adnabum i erioed-yn ei bamffled, A Plea for State Purchase, fanylion am rai o'r ymdrechioii hyn yn y 62 mlynedd diweddaf. Dengys fod ymdrechion wedi eu gwneud gan Ryddfrydwyr a Cheidwadwyr, yn Nhy'r Cyff redin a Thy'r Arglwyndi, gan Aelodau unigol a chan y Llywodraeth, ac fod pob ymdrech wedi troi'n fethiant. Yr oedd y cynlluniau yn ffrwyth llawer iawn o astud- iaeth fanwl ac efrydiaeth eang yr oeddynt yn cael eu cefnogi gan resymau anwad- adwy, gan ddynioit oedd fawr eu sel dros ddirwest, a gwariwyd arian mawr er sicr- hau llwyddiant. Ond er yr angen di- amheuol a'r vmdrech ddiflino ac hunan- aberthol, yn ofer ac am ddim y llafur- iwyd. Yn wir, credaf nad gormod dweyd fod gorchfygiadau parhaus fel hyn bron wedi digalonni'r dewraf. Y ffaith hon o fethiant pob ymdrech barodd i Mr. Lloyd George ddweyd yn y Senedd llynedd Mae pob Llywodraeth sydd wedi cyfiwrdd erioed ag alcohol wedi llosgi ei bvsedd yn y fflamau eirias. Pan Ilosc,li ei bysedd yn geisiwch ymosod arno, mae pob ffordd wedi ei chau ag atalfeydd o wifrau bachog, a thu ol iddynt nwydau a rhagfarnau ac amcanion o'r nodwedd fwyaf dinistriol wedi eu pentyrru ar eu gilydd ac yn barod i ff rwydto.' Yn yr un cysylltiadau, a bron am yr un rhesymau y dywedodd hefyd Yr wyf yn barod i gymryd Pledge gwleidyddol i beidio cyfiwrdd a'r ddiod mwy.' Felly, mae'r sawl sydd yn credu mai peth hawdd yw cael mesur trwydd- edol effeithiol drwy'r Senedd yn profi nad yw'n gwybod fawr am hanes y mudiad, neu mae yn oreuafwr anfeddyginiaethol. Fel cyn y rhyfel, felly wedi i'r rhyfel dorri allan, yr un peth yw tynged dirwest yn y Senedd. Yr oedd, ac y mae, rhes- ymau newyddion neilltuol dros wahardd y fasnach yn y cyfnod eithriadol ac ofn- adwy hwn. Galwyd yn gryf ac yn eglur gan lu mawr o'n harweinwyr mewn mas- nach, yn yffyddin ac yn y llynges am lwyrwaharddiad dros dymor y rhyfel, eto yn ofer. Yn wir, gellir dweyd am y Prifweinidog Ti a guddiaist dy hun a chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.' Gwnaeth cenhedloedd eraill, megis Nor- way, Sweden, Denmark, Belgium, Ger- mani a Thwrci, ac yn enwedig Ffrainc a Rwsia, bethau anhygoel, ond bodlonodd ein Llywodraeth ni ar y mesurau lleiaf. Gwnaeth bethau chwyldroadol ynglyn a'r banciau, y rheilffyrdd, a gwasanaeth mil- wrol ond pan ddaeth at broblem y ddiod, taflodd yr holl gyfrifoldeb ar y Board of C ontral Mae ein methiant yn y gorffennol yngl yn a phob ymdrech, a hynny dan amgylch- iadau mor ffafriol, yn ein hamddifadu o unrhyw sail dros hyderu am fesurau effeithiol ar linellau poblogaidd yn y dyfodol agos. Pa seiliau sydd dros gredu y rhydd y Llwodraeth ystyriaeth fwy ffafriol i State Purchase ? Y ffaith hysbys fod Mr. Lloyd George wedi mabwysiadu'r cynllun hwn, ac fod iddo lawer o gefnogwyr yn y Cabinet, a llu mawr yn y Senedd. Mae y wasg ar y cyfan wedi derbyn yr awgrym gyda chymeradwyaeth gyffrediitol. Mae cefnogaeth gref i'r mudiad ymhlith pob plaid, pob enwad a phob dosbarth yn y deyrnas. Mwy na'r cwbl, mae rhai o arweinwyr y fasnach ei hun yn fodlon i'r mesur hwn, am y diogelir drwyddo eu buddiannau hwy. Mae bodolaeth y Coali- tion Government yn rhoi gobaith am gytun- deb terfynol boddhaol i broblem nad oes fawr obaith am ei setlo mewn un ffordd arall, ac am hynny mae'r cynllun yn deilwng o gefnogaeth. 2. Mae lie cryf i gredit y buasai'n bosibl sicrhau dan awdurdod Wladol lawer o well- iantau gwerthfawr ar unwaith, ac y buasai yn bosibl sicrhau llwyrwaharddiad lawer yn gynt nag y gellir disgwyl heb State Control. Mae'r wlad hon ymhell ar ol llawer o wledydd eraill yn ei ddeddfau trwyddedol, yn enwedig Norway, Sweden a Rwmania. Dyma rai o'r gwelliantau a ddylid gael yn ddioed yma (1) Lleihau nifer y cyfleusterau i gael diodydd. Yr oedd yng Nghymru yn 1915 ar gyfer poblogaeth o 2,025,202 ddim llai na 6,180 o dai lie y gellid gael diodydd. Yr oedd yn sir Frycheiniog ar gyfer pob- logaeth o 59,287 gynifer a 364 o'r cyfryw gyfleusterau. Yr oedd ym Mhontfaen (Cowbridge) un tafarn ar gyfer pob 108 o'r trigolion! Buasai un tafarn ar gyfer pob mil o bobl yn rhoi digon o gyfleustra i'r mwyaf sychedig. (2) Lleihau'r oriau y caniateir i'r taf- arnau fod yn agored. Ni fuasid yn gwneud cam mawr a neb pe gwneid yr oriau pres- ennol yn rheol barhaol. (3) Gwneud i ffwrdd a'r grocers' licenses. Dyma'r trap mwyaf cyfrwys, mwyaf creu- lawn a mwyaf llwyddiannus i ddal y gwragedd. (4) Ni ddylid caniatau neb dan 2 lain oed i groesi trothwy tafarn na chlwb. (5) Ni ddylid caniatau merched na gwragedd i weini mewn bar. (6) Ni ddylid caniatau neb i brynu heb drwydded i brynu, fel y gwneir yn rhai o brif drefi Scandinavia. Yr oedd y swm a yfid o wirodydd yn Gothenburg yn 1912 yn 8.53 litres y pen yn 1914 nid oedd ond 4.32. Mae'r gwelliant i'w briodoli i'r Andre Permit System. MaQ llu o fesurau eraill yigellir eu