Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Tabernacl, Pontycymer. i,
News
Cite
Share
Tabernacl, Pontycymer. i, Y Parch D. Sughes.—Diau y bydd yn llawenydd i In i ddeall tod y gwr atiowyl uchod yn hybu yn raddol wedi bod yn gyfyngedig i'w wely am beth amser. Wedi'r cyfnod maith o 24 mlynedd fel gweinidog yr eglwys, edrycha y frawdoliaeth ymlaen yn aiddgar at yr adeg y bydd ya rhodio eto yn ea plith megis cvut i'w harwain ym mborfeydd gras a gwirionedd. Artaith ddofn ym mron y tealu hefyd yw y ffaifch fod Mr ieuaa Hughes, y mab, dan yr enteric lever mewn ysbyty yn Salonica bell. Goreu'r nef fo'n nawdd iddo.
PONTARDUL AIS.
News
Cite
Share
PONTARDUL AIS. PRIODAS ARIAN YN HOPE. Nos Sul, Medi 17eg, terfynodd y Parch D. Lloyd Morgan, D.D., 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr egiwys Pregethodd Dr Morgan yn rymus, fei arfer, gan gymryd Act. xx. 26, 27, fel ei destyn. Ei fater oe-ld-, Y Gweinidog nad yw adolygu ei fywyd yn fraw iddo i wynebu y Farn.' (1) Am ei fod wedi gwneud ei oreu. (2) Am y gall ef fod wedi gwneud ei oreu, a'r goreu heb ddsiiiiaw o'i lafur. (3) Pan y mae'n cofio mai nid wrth ei lwyddiant ond wrth ei waith y bydd yn caei ei faruu. Cyfrifoldeb gweinidog Efengyl yn fwy ei bwys nag eiddo'r cadlywydd na'r gwlad- weinydd, am fod ca.dw en aid yn fwy pwysig ua diogelu bywyd. Ar ol gweinyddu'r Cyman Sanctiidd, rhodd- odd Dr Morgan grynhodeb llawn a diddorol o hanes yr eglwys yn y 11e, ac yn neilltuol ei gweithrediadau yn ystod blwyddi ei fageil- iaetb ef. Dechreuwyd pregethu yma yn 1808, a cfaorfforwyd yr eglwys Awst 22am, 1809. Deugain oedd ei rhif, ac o'r nifer yna mae tri yn aros, sef Mri Thomas Rees, Prospect place, yr aelod hynaf, ac Evan Hopkin, Forest View- dau ddiacon, a Mrs Davies, The Laurels. Y gweinidog cyntaf oedd Thomas Williams o Goleg Aberbonddu Urddwyd ef Chwefror 7fed, 1871, ac ymadawodd Ionawr, 1874 DiJyuwyd of gan yr aonwyl ddiweddar John Thomas, Merthyr (wedi hynny). Urddwyd ef o G'Jleg Caarfyrddin, Tachwedd 12fed, 1874, a llafuriodd yma yn ddiflin a llwyddianuus hyd Mehefl i, 1881. Yoa ymgymerodd y diweddar Barch T Penry Evans o Geinewydd â'r fugeiliaeth. Srfydlwyd Mr Brans yn Ebrili, 1882, a bu yma hvd ei farw yn 49 oed, Awst, 1888. Ar yr 20fed o Fedi, 1891, daeth y Parch D. Lloyd Morgan yma o'r Sciwen; ac y mae'r briodas wedi bod yn un lupus dros ben, a'r eglwys a'r lie a'r cylch wedi mawr fanteisio yn feddyliol, yn foesol ae yn ysbrydol ar ei ddyfodiad i'r He. Rhif yr eglwys yn 1891 oedd 451; oddiar hynny y mae tua mil o ychwanegiadau i'r rhestr. Derbyniodd 17 nos ei Gymundeb cyntaf yma. Darllenodd Dr Morgan yr 'alwad.' Dau yn unig—Mri Thomas Jones a John White, ysgrif ennydd yr eglwys —sydd yn aros o'r diaconiaid arwyddodd y gwahoddiad unfrydol i Dr Morgan yrasefydlu yu ein plitb. Casgkvld yr eglwys at wahanol achosion y swm o RO 639 3s 5c. ac oddiar hynny hyd yn awr 213,000 yn ychwan- egol. Saif yr eglwys yu y rhes flaeuaf ynglya & llawer schos. aa yn enwedig y Gymdeithas Genhadol. Y mae iddi safle uche1 a dvhmwad iachusol ymhlith eglwysi'r lie ac ymhlith ei chwioiydd yn yr Enwad. Y mae headweh a thangnefedd, a chydweithrediad ac anwyldeb rhwng bugail a phraidd yn ffynnu yn eiu plith. Cafwyd anerehiadau brwd a gonest gan amryw o'r brodyr yn llongyfarch Dr Morgan ar lwyddiant ei waith yn ystod y chwarter canrif, arucheledd ei bregethau, a'i ofal dros y bobl, yn enwedig plant yr Hope. Pasiwyd pleidlais unfrydol i gydnabod hyn oil yn y dyfodol agos mewn dull sylweddol ac arhosol Datganwyd yn fendigedig gan Miss Lizzie Williams, Llanwrtyd. a Mr Caredig Williams yn cyfeilio yn ei ffordd ddeheuig ei hun. Treuliwyd dwy awr gan y gweinidog a'r srvnulleidfa nas anghoflr yn faan. 10, frenid. bydd fyw byth I' CYFAILL.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BRIGHTEN YOUR HOME By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new- at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE LIST TO TOWNSHEND'S LTD., ERNEST STREET, BIRMINGHAM.
ABE RT I L E R I.
News
Cite
Share
ABE RT I L E R I. Marwolaeth Diacon —Bare dydd Llun, Medi 25ain, bu farw Mr Thomas Jones, diacon hynaf Gelli Crug. Yr oedd yn yr odfeuon dydd Sal, ac yn ei iechyd arferol; ond yn hwyr y dydd cymerwyd ef yn glaf, a chyu i'r wawr dorri bore LInn yr oedd ei ysbryd wedi hedeg fry i'r wlad lie nad oes nos o'¡ mewn. Yn ei farwol aeth fe goiiodd yr eglwys un o'i sylf icnwyr ac un o'i cholofnau cadarnaf. Un flynedd ar hugain yn ol daeth ytna o Dreharris i fod yn swyddog yng Nglofa'r Gray, ac yn fuan iawn ymunodd a nifer o Gymry selog i sefydlu achos Cymraeg yn y lie O'r dydd hWVDW hyd ei farw dygodd fawr set dros yr achos. Nid oedd neb yn fwy tfyddlorjs yn y gwahanol gyfarfodydd, neb yn fwy diflia gyda'r ieuainc yn yr Ysgol Sul, na neb yn fwy pwyllog a chywir ei tarn yng ngwahanol gynghorau'r eglwys. Perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ac yn ei farw fe gollodd Cymry Abertileri un o'r cymes'* iadau cryfaf. Gweiodd lawer o dywydd garw mewn bywyd. Collodd ei dad pan yn ieuane iawn, a gorfu iddo yn fore iawn gynorthwyo ei farn i fagu'r teulu amddifad. CoHodd gymat bywyd rai blynyddau yn ol ar ol hir nychtod ond dewy'r cytan ni siglwyd ei yiuddiriedaeth yn Nuw, ac ni laesodd ei ymdrech i hyrwyddo Teyrnas ei Arglwydd yn y byd hwn Dydd lau, Medi 28ain, claddwyd ei weddillion ym mynwent Blaenau Gwent, pryd y daatb tyrfa luosog yn nghyd. Gwasanaethwyd gan y Parchn J Marks Bvans, Tabernact; D. Phillips, Treharris; a T Gray Davies (M.C), Garmei. CydymdeÜnlir yn fawr a'i unig ferch yo ei galar, ac a'r eglwys y ba'n addurn iddi am gyhyd o ameer Cyfarfodydd Pregethu —Dydd Sul, Hydref laf, gwas-waetbodd y Parch Rhys Morgan Rhys, Ysfcradgynlais, i gynulleidfaoodd llaosog drwy'r dydd. Mwynhawyd ei weinidogaeth nerthol.
SARON, MAESTEG.j
News
Cite
Share
SARON, MAESTEG. Cymanfa Qanu.Sal, Medi 24ain, a'r nos Lun dilynol, cynhaliodd yr eglwys uchod ei Chymanfa Gallu flynyddol o dan arweiniad medrus ac effeithiol Mr I,V.J. Watkins, a chafwyd Cymanfa ragorol ymhob ystyr. Llywyddwyd cyfarfod y plant yn y bore gau Mr D. Hopkins. Canai y plant ar eu goreu. Yr oedd yn olygfa hardd i weled yr oriel yn llawn o blant wedi eu gwisgo yn drwsiadus, ac yn ateb gyda hwyl i Jaw yr arweinydd. Uchel ganmolwyd hwy am eu sylw, eu hymddygiad rhagorol a'u canu swynol o'r touau. Neilltuwyd cyfarfod y prynhawn a'r hwyr a nos Lun i'r rhai mewn oed, a llywyddwyd y gwakanol gyfarfodydd hyn gan Mri Evan Williams, B. Miles a'r Parch T. J. Rees. Cyehwysai y rliaglen chwaethus anthemau, tonau a salm-donau. Yr oedd ol diwylliant ar y canu—y lleisiau yn gyfoethog, y sylw yn dda, a'r ysbryd yn fyw iawn a gwresog- Yr oadd yma foliant mewn gwirionedd-eanu a'r ysbryd yn ogystal a'r deall. Cododd y brwdfrydedd yn uchel iawn yn rhai o'r odfeuon, nes y gwelwyd ef yn torri allan mewn chwyfio dwylaw a gorfoleddu, ac yr oedd yn anodd gorffen canu. Rhoddwyd datganiad gorffenedig o'r anthem 4 Er cof am dano Ef' a'r cydgan We never will bow down.' Cafwyd unawdau ac adroddiadau pwrpasol iawn yn ystod y cyfarfodydd gan blant ac aelodau o'r eglwys. Chwareuwyd ar yr organ gan Mr W. J. Richards, a hynny i foddlonrwydd cyffred- inol. Hefyd cawsom gynhorthwy a gwasanaeth y gerddorfa o dan arweiniad medrus Proff. Gomer Jones, R-C-M., Penybont- Arweiny d y rehearsals oedd nr D. J. Davies, A.C., ac y mae clod yn ddyledus iddo ef a'r cantorion am eu bod wedi paratoi cystal. Cafwyd Cymanfa a hir gofir, ac yr oedd y cynulliadau tuhwnt i bob disgwyliad—ugeiniau lawer nos Sul wedi gorfod troi yn ol o ddiffyg lie. Canmol mawr a chyffredinol svdd ar y Gymanfa. Sier yr erys ei dylanwad yn ddwfn a bendithiol. UN OEDD YNO.
iColen Caerfyrddin.
News
Cite
Share
Colen Caerfyrddin. Diolchir am ofod fach o'r TYST i ddiolch yn gynnes i eglwysi Annibynnol y wlad am eu cefnogaeth i'r Coleg uchod yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Er fod yr amgylchiadau yn anffafriol, ni pheidiodd yr Enwad goflo yn garedig am y Coleg. Er fod lliaws o'r efrydwyr wedi mynd, erys o hyd un ar ddeg. Y mae tri o fechgyn y bedwaredd flwyddyn wedi eu rhoi'n rhydd gan y tribunals, tra y mae yr wyth arall wedi eu gwrthod gan y meddygon, ac yn eu plith y rhai a dderbyniwyd eleni, sef y Mri Tom Jones, Llandysul; S. D. Griffiths, Llanstephan; a W. S. Griffiths, Wern, Aberafoa. V mae yna fyfyr- wyr perthynol i'r Coleg yn gwasanaethu ymhob un o'r rhannau lie mae'r rhyfel yn cael ei chario ymlaen yu gysylltiedig a chatrodau sydd yn cario arfau yn ogystal a rhai heb arfau. Saif eraill i fyny dros ddyledswydd (fel y gwelant hwy hi) drwy ddioddef mewn ffordd arall. Er mwyn y rhai sydd ar ol, barna'r awdurdodau mai doetk yw •aelw'r Oeleg ya agored- Efallai y kydd hynny'n fantais yn awr ac eilwaith i'r eglwysi. Gobeithio y byddant hwythau cystal a phara eto yn eu caredigrwydd. Bydd y myfyrwyr canlynol yn gorffen eu cwrs ym Mehefln nesaf :-Mri S. Phillips, Llanelli J. P. Martin, Neyland (Saesneg); Dan Lewis, Ynys- meudwy; D. E. Peregrine, Salem, Llandeilo; ac Ebenezer Davies. Glandwr, Penfro. Alilo Mr G. p. Nicholas, uu o fechgynydrydedd flwyddyn, wedi derbyn galwad daer ac unfrydol o St. Florence yn sir Benfro, ac wedi dechreu ar ei weinid- ogaeth yno er y gwanwyn. Hefyd y mae Mr Evan James, B.A., un o fechgyn y flwyddyn olaf, wedi derbyn gal wad daer o Lanharran ond nid yw wedi ei liateb. Mae Mr James ar hyn o bryd yn gwasanaethu gyda,'r Y.M.C.A. yng ngwersyll Caerdydd. E. D.
I LLANDEILO A'R CYLCH.
News
Cite
Share
I LLANDEILO A'R CYLCH. Pt-iodas.-Niledi 18fed, unwyd mewn glan briodas yn y Tabernacl Miss Myfanwy Davies, unig fercb y Parch W. Davies, ein gweinidog, a Mr Lewis Evans, Hazel- dene, Llanbedr. Gweinyddwyd gan y Parchn John Davies, Cadie (ewythr), a D-Bowen, Hermon, Manor- deilo, yng ngwydd lliaws mawr o dystion. Chwareu- wyd yr organ gan Miss Olwen Williams, organyddes y Capel Newydd. Fel eyduabyddiaeth fechan ac arwydd o serch tuag at Miss Davies am ei gofal o'r cystudd- iedig, y galarus a'r anghenus, cyflwynodd eglwys y Tabernacl iddianrheg o lestri te a choffi arian ynghyda cheque. Anrhegodd eglwys y Capel Newydd Miss Davies hefyd a tray arian a cheque. Derbyniodd hefyd anrhegion gwerthfawr oddiwrth liawa mawr o gyfeillion i'r teulu o bell ac agos. Treuliwyd y mis inel yn Llandudno. Gwns Mrs Evans ei chartref yn Hazeldene, Llanbedr. Collodion Eglwysig—Collwyd drwy angeu o eglwys y Capel Newydd yn ddiweddar y brodyr flyddlon a selog Thomas Williams (70 oed), William Jones (73), a Morgan Morgans (69), a'r chwaer hoff ac annwyl Mrs Davies, 10, Thomas-street (modryb gweinidog parchas Llaagynwyd). Cawsant oil angladdau mawr a pharchus. Gweinyddwyd ar yr acblysur gan y Parch W. Davies, gweinidog. Diddaned yr Arglwydd yr holl gysylltiadau yn nydd eu trallod. Heddwch i w llwch hyd ganiad yr udgorn. Y Cyfarfodydd Un(lebol.Ennill mae'r rhai hyn yn eu dyfnhad ysbrydol, a mynychir hwynt yn gryno gan holl aelodau y gwahanol eglwysi. Cymer ein gwein- idogion ran amlwg ynddynt. Prisir yn fawr eu fiyddlondeb a'u teyrngarwch iddynt ynghanol yr holl alw sydd arnynt. Bendith mwy eto ddilyno y cyfar- fodydd hyn yw dymuniad eu mynychwyr. Cyfarfodydd Diolchgarwch.—Gynhaliwyd y rhai hyn brynhawn a nos Iau, Hydref 5ed. Cafwyd cynulliadau lluosog, ac yr oedd ysbryd rhagorol yn meddiannu pawb ar yr wyl. Arweiniwyd gan ein gweinidog. Nos Fercher, Hydref lleg, y cynhal- iwyd cyfarfod Elim. Cyfarfodydd Blynyddol.—Hydret yr 8fed a'r 9fed, buliwyd y bwrdd gan y Parchn Emrys James, Aber- nant, a D. Eurof Walters, B.A., B.D., Abertawe, i dorfeydd lluosog. Pregethwyd yr Efengyl gydag arddeliad mawr Yr oedd y canu yn fendigedig dan arweiniad v brodyr Mri John Evans, B-JC. (mab Dr Dan Evans), a "John Williams, C.M. (brawd y diweddar genhadwr, y Parch D. Williams, Affrica). Chwareuwyd yr organ yn rhagorol gan Miss Olwen Williams, y Cafe. Arweiniwyd yn yr holl gyfarfodydd gan y gweinidog. Casglwyd dros £ 60. Dechreuwyd y gwasanaeth nos Lun gan y Parch D. Harries, diweddar weinidog Machen, yr hwn sydd ar fin ymadaal am yr Amerig Hwn, ya ol tystiolaeth ein gweinidog, oedd ei wasanaeth cyhoeddus olaf yn ein mysg yn y Capel Newydd, lie y mae ef a'i briod yn aelodau flyddlon a selog. Ca ein heglwys golled ar eu hoi, ac yn enwedig Elim, lie y bu Mr Harries yn hynod weithgar a defnyddiol. Dymuna pawb am i nodded y nefoedd fod drostynt. Croesawu'r Parch T. Thomas, gynt o Godreaman. —Derbyniwyd yn groesawus i'n plith yn ddiweddar y Parch T. Thomas a'i briod anowyl a pharchus gyda'r dymuniadau goreu am eu hiechyd, eu cysur a'u defnyddioldeb yn ein mysg yn ystod eu harosiad yn Llandeilo. Parha Mr Thomas o hyd i wasanaethu ei Dduw, ei Enwad a'i genedl, a diolch fod dynion fol efe yn parhau i fod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar hyd yn oed pan fyddant yn ymneilltuo am seibiant ac adferiad. Gobeithio y deuant yn fuan i'w cynefinol iechyd. Mati iddynt enw da a pharch mawr yn ein mysg. Llongyfarchiadau i'n Hysgolfeistri.-Haedda Mr John Williams, C.M., ysgolfeistr Ysgol y Cyngor, ein llongyfarchiadau trylwyraf ar ei waith yn cipio pedair ysgoloriaeth i'r Ysgol Ganolraddol. Felly hefyd Mr G. Gwyn Jones, B.A., prifathro Ysgol y Sir. am y result godidog a gafwyd am blant yr ysgol honno—yr oil ond dau o'r ymgeiswyr yn y gwahanol arholiadau wedi pasio. Rhagorol, ysgolfeistri Llandeilo. Dengy. hyn fod aelodau Pwyllgor Addysg y Sir wedi gwneud dewisiad rhagorol pan apwyntiwyd Mri Williams a Jones i ofalu am ein hysgolion, a'u bod ill dau yo nlvnwvr teilwne i'r rhai fu o'u blaen. Rhag eu blaen Yr elo t. TYWIFAB.
[No title]
News
Cite
Share
SOAR, ABERDAR.-Cynhaliwyd cyfarfodydd bIynyddol y no ucbod SuI a'r Llun, Hydref yr 8fed a'r 9fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn J. Bowen Davies, Abercwmboi, a Ben Davies, Ystalyfera. Cyfarfodydd da ymhob ystyr.