Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHANBARTH PENYBONT. I

News
Cite
Share

RHANBARTH PENYBONT. I Y Drysorfa Gynorthwyol.-Llon iawn ydym o'r dadebriad ynglyn a'r uchod sydd eto yn yr adran hon. Y mae tair eglwys arall wedi bod yn gofyn am addewidioa ac wedi casglu, sef Ji Tabernael, Penybont; Peniel, Bryneethin; a Bethania, Cwmogwy. Cafwyd amryw symiau I anrhydeddus, yr hyn sydd wedi bod yn gryn galondid i hyrwyddwyr y mudiad. Tabernael, Penybont.-Y Parchn D. J. Lewis, B.A., Tumble, a W. Justin Evans, Llundain, fu'n pregethn yma yng ngwyl flynyddol yr eglwys, Medi 19eg a'r 20fed. Ar ddechreu chweched flwyddyn y gweinidog dyfal, y Parch H. E. Rogers, B A., anrhegwyd ef eto & chyf- rolau drudfawr. Onid min yw hyn ar gleddyf lor i ladd y gau ? Aed y gras hwn i randiroedd eraill. Pwy anrhydeddir nesaf? Edrycha'r frawdoliaeth ymlaen yn hyderus at agoriad eu neuadd newydd, yr hon fydd yn gyfleus at gynnal yr Ysgol Sul a chyrddau amrywiol eraill o dan nawdd yr eglwys. Saron, Treoes.—Y Parchn H. Seiriol Williams, Pontardawe, a Gwilym Raes, B.A Merthyr, fa yn gwasanaethu yr eglwys uchod eleni yn ei phrifwyl, a chafwyd gwledd. Y Diweddar Barch J. Hughes (B), Nantymoel. -Gorffenodd y proffwyd ffyddlon hwn i'r Arglwydd ei yrfa yn 65 oed-yr un oedran a'i gymydog annwyl, y Parch Aelfryn Roberts- ar yr 20fed o Fedi, wedi gwasanaethu Saron am 35 mlynedd, ac ar derfyn deugain mlynedd yn y weinidogaeth. Adwaenid ef trwy Dde a Gogledd fel dawn hylithr, gwresog a melas ei barabl, clir ac efengylaidd ei gyfansoddiad, ac ami y coffeir am odfeuon gwlithog gafodd ar Iwyfan Undeb, Cymanfa, ac uchelwyliau eglwysi. Eithr nid oedd un pulpud mwy cysegredig ganddo na'r eiddo ei huu, ac ui fu eglwys a gweinidog yn anwylach o'i gilydd mewn unrhyw en wad. Collodd y cylch ei esgob yn syrthiad y bersonoliaeth urddasol hon i'r bedd, a galar dwfn sydd mewn llawer calon o'i golli. Bethel Newydd, Heolycyw —Hydref 3ydd a'r 4ydd, bu y Parchn T. M Rees, Castellnedd, a J. Llewellyn (M.O), Penybont, yn efengylu yng ngwyl flynyddol yr eglwys uchod i gynulliadau lluosog ar hin ddrycinog. Peniel, Bryneethin.-Sal a Llun, yr 8fed a'r 9fed, bu y Parchn T. E Roberts, Ynysgau, Merthyr, ac Emrys J Morgans, B.A, B.D., Pontypool, yma yn traddodi yn y ddwy iaith Efengyl hedd i'r lliaws torfeydd ddaeth i'r wyl. Bythefnos cyn hynny bu Mr R. Oswald Davies, B A., Coleg Caerfyrddin, yma yn preg- ethu yng nghyrddau diolchgarwch yr eglwys. Betharan, Brynmenyn.—Gwelsom gyfeiriad gan Gwylfa at ordoiniad ei gymydog hoff, y Parch D. Lewis (Dewi Medi) 4 tua Brynmenyu hanner canrif yn ol. Gallwn sicrhau Gwylfa mai nid tua' Mrynmenyn yr urddwyd Mr Lewis, eithr yn y capel ddyga yr enw uchod, yn Mehefin, 1866. Cofir gan lawer yn y cy!ch hwn am ei weinidogaeth felus yn ystod ei rawd yn y fangre hon. Hawddamor I medd ami un yma wrth gyrraedd ohono y talar anrhydeddus.

Peniel, Pontl I i w. I

CYFARFODYDD. I

Advertising

Moriah, Ystrad Mynach,