Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

WYNEBU'R ARGYFWNG.

News
Cite
Share

WYNEBU'R ARGYFWNG. At Olygydd Y Tyst. SYR,—Ni raid i neb fod yn graff hedclyw i ganfod fod Ymneilltuaeth Cymru mewn argyfwng pwysig rhyfeddol. Gwelir hyn yn hanes holl enwadau crefyddol Cymru yn ddiwahaniaeth, ac yn sicr mae'n amser i'r gwahanol enwadau deffro, a wynebu'r argyfwng hwn yn onest a chryf, yn ddoeth ac ystyriol. Nid yw'r Anni- bynwyr yn eithriad i'r enwadau eraill, a gwelir yn amlwg fod yr eglwysi'n gwywo dan ein dwylo er pob ymdrech wneir i'w cadw i fyny. Pa beth sydd i'w wneud yn wyneb hyn sydd bwnc dyrys a thywyll: ond y mae rhai pethau, yn ddiameu, sydd o fewn ein gallu, ond symud yn ddoeth a chryf. Heb son am fywyd ysbrydol yr eglwysi ar hyn o bryd, yr hwn sydd mewn gwir angen adfvwiad, y mae pethau eraill llai pwysig, efallai, ond cwbl hanfodol i grefydd, sydd eisian eu diwygio a'u gwella yn ein plith. Cymerer ynghyntaf y mater ariannol. Y mae cyllid yr eglwysi'n druenus o fethiantus. Y mae degau o eglwysi yn ochain dan y baich ariannol. Gresyn o beth fod eglwysi yn methu cael y ddau pen llinyn ynghyd,' ys dywedir, ond dyma'r sefyllfa. Peth arall yw prinder gweinidogion. Y mae llu o'r eglwysi ymhlith pob enwad yn methu sicrhau gweinidogaeth Sabothol briodol. Ai dyna sydd wrth wraidd y ffaith (hapus) fod drysau'r enwadau gwahanol yn cael eu cul-agor heddyw i weinidogion o enwadau eraill ? Mater arall yw methiant llu o eglwysi i sicrhau gweinidogion iddynt eu hunain. Pan gesglir y Gronfa Ganolog gan yr Annibynwyr, gwneir llawer o'r diffygion hyn i fyny ond, yn y cyf- amser, beth sydd i'w wneuthur ? Sut y mae mynd trwy'r argyfwng yma heb i'r achos orfod dioddef fel y mae heddyw ? Ymha Ie bynnag y mae Trysorfa'r Genhadaeth Gartrefol neu'r Achosion Gweiniaid, yr ydym o'r farn nad ydym yn gwario'r arian hynny i'r fantais oreu dan sefyllfa bresennol pethau. Onid oes modd trefnu'r eglwysi yn wahanol ac yn well, fel ag i symud rhai o'r pethau ag yr ydys yn cwyno o'u plegid heddyw. Mae'r amser wedi dyfod i'r enwadau fyned ati o ddifrif i gael mwy o undeb bywydol rhwng man eglwysi a'i gilydd. Ni ddeilliai dim ond mantais o hyn mewn argyfwng o'r fath ag yr a Ymneilltuaeth drwyddo ar hyn o bryd. Y mae nifer o eglwysi ymhob Cyfundeb y gallesid eu huno a'i gilydd er mantais iddynt eu hunain ac i'r Enwad yn gyffredinol. Gwyddom am eglwysi sydd wedi gorfod bod heb weinidog- aeth sefydlog ar hyd y blynyddoedd diweddaf oblegid eu hanallu. Paham na ellid uno, dy- weder, lie mae un neu ddwy eglwys yn rhy wan i gael gweinidog dan eu trefniant presennol- paham na ellid uno un arall atynt ? Trwy hynny gallasent sicrhau gweinidog a'i gadw yn anrhydeddus, a chael gwaredigaeth o'r pryder mawr y mae gwir garedigion eglwysi ynddo yn awr. A chaniatau na fyddai un gweinidog yn ddigonol i gyflenwi anghenion y pulpudau, onid allai'r cylch sicrhau supply unwaith neu ddwy- waith yn y mis yn ol ei allu ariannol. ? Gwyddom hefyd am eglwysi ag y mae iddynt weinidogion yn bod eisoes, ond sydd yn methu'n lan a'u cynnal fel y dymunent. Lie y mae eglwys neu ddwy eglwys felly, oni ellid ychwanegu eglwys arall at y cylch ? Wedi eu huno felly, gallasent sicrhau supply neu ddwy yn fisol at y weinid- ogaeth sefydlog. Oni fuasai cynllun o'r fath yn rhywbeth sylweddol i gyfarfod ag anghenion yr argfywng yr ydym yncldo'n bresennol ? Ychydig iawn yw nifer yr eglwysi yng Ngog- ledd Cymru sydd yn alluog i gynnal gweinidog- aeth ar eu pemiau eu hunain a mwy na hynny, methu cael y ddeupen yughyd y mae llu o'r cylchoedd lie y mae dwy eglwys yn eu gwneud i fyny a lie mae hynny'n bod, mantais ddi- gamsyniol fyddai uno mewn cylch lie y mae UIW'n gyfteus. Buasai yn fantais i bob achos eglwysig yn ogystal ag i'r eglwysi eu hunain. Dywedir fod uno felly i gymryd lie dan y Gronfa Ganolog pan y cesglir hi ond onid ellir nian- teisio ar yr egwyddor o uno yn y cyfamser hyd y cesglir y Gronfa honno ? Yr ydym o'r farn fod y mater hwn iiior bwysig fel y dylasai yr eglwysi roddi ystyriaeth briodol iddo ar un- waith. Beth sydd mor difrifol o druenus a gweld eglwysi ar newynnu yn chwilio pob congl teilwng ac annheilwng am eu cyllid ? Ond cael trefniant priodol i uno mwy, o'r eglwysi a'i gilydd, gellid gwneud gwell ac effithiolach gwaith. Dyma waith i'r gwahanol gynghorau eglwysig. Mae hyn yn brofiad i laweroedd heddyw ac y mae'n amser i ni draethu ein ?barii er mwYn crefydd a Duw. AXXIBYXXWR.

! Y GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOE…

iUndeb Ysgolion Sul Gogledd…

Y SABOTH DIRWESTOL, TACHWEDD…

Moriah, Ystrad Mynach,