Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

! • AT Y BEIRDD. I

News
Cite
Share

AT Y BEIRDD. I Cyrhaeddodd llu o gyfansoddiadau oddiar pan yr anfonais air o'r blaen. Diolch i'r beirdd am wrando ar un cyngor, sef ymgroesi rhag canu i J dysteb ac angladd am un dydd a blwyddyn. Canodd rhai ohonynt i destynau go ryfedd yn eu lie hefyd. Cofier mai'r Swyddfa sy'n gyfrifol am gadw darnau yn hir heb eu cyhoeddi. Emyn, Clyw, 0 Dad.'—Dlithrig ac amserol. Emyn, Cariadi Crist.—Mae'r wisg yn ddigon da oddigerth y gair magi.' Ceisiwch ei ganu, a gwelwch mor anodd yw. Mwy o newydd-deb yn y syniadau y tro nesaf. Perygl mawr ein hemynau yw eadw yn yr hen rigolau. Pa anwiredd a gafodd eich tadau ynof Rhaid i chwi gynnyg eto. Methais weled ond ychydig iawn o berthynas rhwng y gan a'r testyn, ac y mae'r brychau yn lluosog-- er enghraifft, Pwy edliwia i ei Chrewr ? Try i ei bob amser yn i'w.' Daeth rhywrai drwy yr anhawster trwy ddywedyd idd ei Yn debyg idd eu Harglwydd '—ond condemnir 'idd' fel gwrthuni erbyn hyn. Gwnai'r llinell y tro fel hyn—' Pwy edliwia i'w Chreawdwr ? Syl- wch eto ar Pwy oludog yn ei barlvyr.' Pa oludog,' wrth gwrs, sy'n gywir. Llawer o gyffelyb bethau a yrrodd y gan i'r fasged.T |T] Dewis bethau jy Nhad.-—-Syniad hapus dros ben. Ond aethoch yn syth i'r fagl unwaith. 'A chafodd ynddo bethau hair 'Rol darfod pethau'r byd.' Croeswch y mynydd ar eich union i Rymni, a gofynnwch i'r Parch. Fred Jones am egluro'r gwahaniaeth rhwng bair' a bery.' Ond mae gennych y cysur o wybod fod un o'n prifeirdd yn gwingo yn yr un fagl a chwi— Cei ddogn a bair, cei ddigon byth.' Chwiliwch am dano yn y Caniedydd.' Rhaid i mi ei newid, er i'r odl fyned yn deilchion. Golygydd y Parddoniaeth.—Tri neu bedwar o feirdd difyr a medrus dros ben wedi canu i mi I Nid ystyriaf hwynt yn deilwlig, o'r testyn, a rhaid" iddynt orffwys gyda'i gilydd ar waelod y fasged. Y Milwr yn Marw.—Cymeradwy, os gellir cael lie i ddarn cyn hired. Chwi sylwch ar gyfnewid- iad neu ddau. Plas,' nid palas,' yw'r hen ffurf. I Bias Gogerddan heb dy dad.' Ar ol y Gawod.-Y wisg yn dlos, ond y syn- iadau a rhywbeth yn anghyffwrdd o'u cwmpas. Rhaid i mi gyfaddef na welais erioed mo'r gair droddiau.' Hefyd beth am perwyut' yn yr ystyr o bersawr ? Iylygriad gwerinol un dal- aith' y byddai'r Athro J. Morris Jones yn ei alw. Can dda er hyn. Bedd y Milwr, &c.-Englyn campus, gydag awgrym o'r bai rhy debyg yn y drydedd linell. Y De sy'n iawn ar y gair wylodd.' Yn y llinell i Gruffydd John, Ond dy enaid i weini,' gwelwch fod dwy d yn ateb un, a myn yr awdur- dodau fod dwy d yn cyfateb i t mewn swn ond methaf yn lan a dygymod a hyn. Ni byddaf fi na neb o'm pobl yn gwneuthur dwy d yn t. Ond gwyliwch pan yn anfon at rywun llai tru- garog na mi. Cwdwm Cady.Rhagorol o dyner a chryf. Y Gynghanedd.-—'Nid ydych yn feistr ami eto. Dyma'r darnau goreu, wedi cyfnewid ychydig arnyiit-- Mun ydyw, 0 mae'n hudol-a hoenus, Gynghanedd ddymunol A rhoddi difyr waddol Wnaiff i'r hwn aiff ar ei hoi.' Golud can Gwlad y cenin, Gwir a 111 el a geir o'i min.' Daw meistrolaeth o hir ymarfer. Na cherwch y byd,' &>c.—Cymeradwy, wedi peth trwsio. Dros bechadur,' é<).'c.-O'l' braidd y gwna hwil Stro. Tynnwch dros bechadur allan o bob inell, a gwelwch nad oes dim newydd ar ol. Yr Hen Gapel.-Testyli da, a'r rhan fivyaf o'r gan yn gymeradwy. Y Saboth.—Cymeradwy. Gwyliwch o hyn allan linellau fel- Diwrnod cerdda heddwch.' p Diwrnod gwelir llachar wawr,' &c. Mae angen y rhwng diwrnod a'r ferf a'i dilyn. Gwelwch paham y mae Diwrnod caru'r dwyfol yn wahauol. Gadawyd y cwbl fel yr oedd y tro hwn. Clychan'r Grug.—Rliagorol clyna'r peth i'r dim.

-__-I LAWR A'R FASNACH.

-! MARWOJuAETH NEDDIE. I

HUGH WIIJJAMS ANWYJ,

Diaconiaid, Siloh, Glandwr,…

Advertising