Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LERPWL. -I

News
Cite
Share

LERPWL. Y diweddar William Alwcn Lloyd.—Gyda gofid dwvs y cofnodwn farwolaeth y gwr uchod, a gymerodd le yn ei gartref, 4 Fonthill-road, Ler- pwl, Medi'r 13eg, 1916, ac a gladdwyd ym myn- went Longmoor Lane Medi'r i6eg, yn 77 mlwydd oed. Brodor o Lanelltyd, sir Feirionydd, ydoedd. Y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau, a'i bed- yddiodd, ac wedi treulio peth amser fel bugail defaid ar Gader Idris, dysgodd grefft llifiwr. Daeth i Lerpwl o Gorwen yn y flwyddyn 1870, a syrthiodd ei goelbren yfi eglwys Annibynnol Great Mersey-street, He y bu yn aelod ffyddlon am yn agos i saith mlynedd a deugain, ac yn flaenor medrus am un mlynedd a deugain. Yr oedd llawer o nodweddion yn cydgyfarfod yng nghynieriad ein hannwyl frawd. Diwylliodd ei feddwl yn egwyddorion y grefydd Gristionogol er pan yn ieuanc. Yr oedd yn byw yn Llan- elltyd mewn cyfnod diddorol—cyfnod pan yr I oedd dadleuon diwinyddol mewn bri, a phan yr oedd diddordeb y werin Gymreig ym mhync- iau crefydd. Clywsom ef yn atgofio'r amser hwn ar ei fywyd fel cyfnod ffrwythlawn er dyfn- hau egwyddorion crefydd i'r meddwl a'r deall. Amlwg iawn oddiwrth ei gymeriad amlochrog lddo wneud defnydd o'i amser hamddenol mewn astudiaeth fanwl a myfyrdod dwys, ac iddo o dan anfanteision addysg gyrraedd safle o ddy- lanwad fel llenor ac arweinydd eglwysig. Fel llenor ysgrifennodd lawer i'r newyddiaduron Cymreig, yn neilltuol i'r TYST. Cof gennym am yr ysgrifau diddorol ymddanghosodd ychydig J ainser yn ol yn y TYST, yn rhoddi hanes eglwys Great Mersey-street yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, ac a gyhoeddwyd wedi hynny ynglyn ag Adroddiad yr eglwys yn y flwyddyn ganlynol. Nid oedd neb mwy cymwys nag efe i ysgrifennu yr hanes hwn. Cymerai ddiddordeb mewn barddoniaeth. Cyfansoddodd lawer o benillion o dan y ffugenw Glan Alwen. Yr oedd y pen- IUlon hyn o nodwedd grefyddol, ac ar rai adegau oyddai'n cael y chwiorydd ieuainc i'w canu yn y gyfeillach grefyddol. Yr oedd hefyd yn gerddor, ac yn cymryd diddordeb yng nghan- ladaeth y cysegr. Etholwyd ef rai blynyddoedd yn ol yn gadeirydd Cymanfa Ganu Annibynnol Lerpwl a'r cylch, a chof gennym am yr anerch- lad gwresog ar Ganiadaeth y Cysegr a dradd- ?dodd o bulpud Grove-street, yn olrhain can- iadaeth y cysegr o'r Hen Destament i'll cyfnod nt. Bu hefyd yn gadeirydd yr Undeb Ysgolion, a thwrdd Chwarterol Undeb Annibynnol Lerpwl a'r cylch, a llanwai'r swyddi hyn gyda deheu- rwydd. Yr oedd yn meddu manteision per- sonol oedd yn ei addasu i fod yn arweinydd Uwyddiannus. Yr oedd yn meddwl y goreu am bawb, ac yr oedd ganddo ysbryd agored, di- genfigeii a digynnen. Fel y canodd Gwilym Mathafarn yn briodol iawn am dano yr wythnos Or blaen yn y Brython- Un na fagodd gellfigen-ydoedc1 Lloyd, Haeddol wr digynnen Ei dymer dda, gyda gwen Lonnai olwg Glan Alwen.' [l Pel arweinydd eglwysig yr oedd ei ragoriaeth bemiaf. Yr oedd llonder ei ysbryd 3-11 wefr- eiddiol, ac yn fantais neilltuol i eraill weithio gydag ef. Meddai graffter i ddeall y natur ddynol. Credai yn gryf bob amser mai ennill serch y bobl oedd y ffordd effeithiolaf i lwyddo symudiadau eglwysig. Yn ystod cyfnod maith ei arweinyddiaeth yn Gt. Mersey-street profodd ei hun, mewn heulwen ac ystorm, yn gymeriad eadarn. Cymerai afael yn yr awenau, a thrwy benderfyniad di-ildio dros yr hyn a gredai oedd yn wirionedd, arweiniai'r praidd i ddiogelwch. Ulwith fydd gennym ar oi ol. Bydd ei le yn jvag iawn yn Gt. Mersey-street, canys pwy bynnag fyddai ar ol, byddai'r diweddar frawd yn ei sedd bob amser, yn ei llenwi gydag addurn a ffyddlondeb diball. Sylwodd y Parch. D. Adams, B.A., yn y gladdfa nad ydym yn gwerth- tawrogi cymeriadau fel hyn yn ein cynulliadau eglwysig. Am eu bod yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd, yr ydym yn ymarfer a hwy, ac yn teimlo mai yma y dylent fod o hyd, heb ofio mai am dyiuor yn unig y maeut gyda ni, Pel yr engyl gwarcheidiol sydd yma am dymor. pan yn ymadael, a swn en hadenydd yn cilio, uynar amser yr ydym yn dod i deimlo eu gwerth.' Ar gais y teulu, daeth y Parch. D. Adams, B.A., i weinyddu yn y gladdedigaeth, t Yu cael ei gynorthwyo gan y Parchn. T. Price Davies, Albert Jones, B.A., O. L, Roberts, J. Owen (Anfield-road), Myles Griffiths (Bonsfield- street) a W. Roberts (Trinity-road). Darllenodd Mr. Adams lythyrau oddiwrth y rhai canlynol, yn gofidio eu bod yn methu bod yn yr angladd Dr. Peter Price, B.A., Rhos; Dr. Owen Evans, Lerpwl; Parchn. W. Pari Huws, B.D., Dol- gellau; W. Thomas, Bootle; J. Alun Morris, Bradford Hugh Parry, Ellesmere; Mri. W. 0. Jones, I/langefni lJoyd, Ty'nygongl; J. F. Morgan, Old Colwyn Iorwerth Morris Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth; ac Undeb Ysgolion Sabothol IYerpwl a'r Cylch. Y galarwyr oedd Mrs. W. A. Lloyd (gweddw), Mr. a Mrs. Holland, Miss H. Jones, Miss Williams, Mrs. Pritchard, Mrs. Williams (Birkenhead), Mrs. Humphrey Lloyd, Glynceiriog—nithoedd Dr. Evan Lloyd (Towyn), Mri. James, Robert Lloyd, a Richard James o Ddolgellau-neiaint Mri. John Williams, Thomas Phillips, E. Lloyd, James Owen, Hugh Foulkes (cyd-flaenoriaid), a lliaws eraill o'r gwahanol enwadau crefyddol. Nos Saboth, Medi r I7eg, traddododd Dr. Oliver, Treffynnon, bregeth goffa yng nghapel Gt. Mersey-street, i gynhulliad lluosog. Sylwodd y Doctor ar ragoriaethau Mr. Lloyd fel arweinydd eglwysig, ei dalentau disglair, a'i hunanymrodd- iad i wasanaethu Crist, a'i ffyddlondeb yng ngwaith yr eglwys. Cafwyd ychydig eiriau yn effeithiol iawn gan Mr. R. Vaughan Jones, o eglwys y Methodistiaid, Stanley-road, unawd gan Miss Maggie E. Roberts, a chwareuwyd y Dead March in Saul' ar yr organ gan Mr. E. H. Edwards, yr organydd. Datganodd y blaen- oriaid eu cydymdeimlad a'r weddw yn ei galar, gan hyderu y bydd hi a'r teulu yn rhoddi eu hymddiriedaeth yn y Goruchaf, o'r lie y daw ein nerth a'n cymorth. T.P.

Advertising

Family Notices

DAMEG. I

NODION 0 SCRANTON, U.D.A.,