Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
NODION 0 SCRANTON, U.D.A.,
News
Cite
Share
NODION 0 SCRANTON, U.D.A. Cawsom hin bur wlyb yn y gwanwyn ac yll, uechreu'r haf, a bu'r rhai amheus yn ofni'n fawr na chawsem adeg addas i fwrw'r had, ac wedi ei fwrw y buasai'n pydru yn y ddaear. Ond cafwyd tymor hau, ac yn ystod y chwech wyth- nos diweddaf y mae'r hin wedi bod yn eithr- iadol boeth a sych. Meddvlier am yr hin- fesurvdd yn myned i fyny hyd at y cant yn y cysgod am ddyddiau'n olynol. Yr oedd pawb hyd o fewn ychydig ddyddiau yn cwyno a thuchan ar y gwres. Cawsom wlaw a gwynt mawr tua wythnos yn ol, a disgynnodd y gwres ddeg ar hugain o raddau mewn cynifer a hynny o funudau. Heddyw y mae'n braf, a gobeithio fod y gwres eithafol wedi mynd heibio am eleni eto. Mae miloedd yn y dinasoedd mawrion yma yn dianc i'r mYllvddoedcl ac i lannau'r mor ar yr adegau hyn. Nid oes llawer o lewyrch ar ddim yn gymdeithasol a chrefyddol tra y pery yr hin yn gynnes. Cynhelir gwyliau gan y C}-niry yng ngwahanol rannan'r wlad yn ystod yr haf. Cynulliadau yn yr awyr agored ydynt. Traddodir areithiau i ganmol ein cenedl, a chenir ein hoff donau ac emynau. Er y cyhoeddir ef yn ddydd i'r Cymry, Saesneg yw iaith gyhoeddus yr wyl yn y rhan amlaf o'n dinasoedd. Ceir hwyl Gymreig i siarad yr hen aeg pan yn eistedd ac yn ymgomio wedi i'r cyfarfodydd dorri fyny. Cawsom un felly y Sadwrn diweddaf yn y ddinas hon, ac un cyffelyb yng nghymdogaeth Wilkes Barre yr wythnos flaenorol. Mae llawer yn Gymry ar ddydd Gwyl Dewi ac un dydd ynghanol yr haf nad ydynt yn teimlo diddordeb mawr yn ein cenedl na'n hiaith ar nnrhyw acleg arall o'r flwyddyn. Mae'r gair wedi dyfod inni focl y brodyr y Parchu. D. Parri Jones, Ferndale, a T. J. Jones, Bedlinog, wedi hwylio am y wlad yma, ac yn ymyl glanio, os nad ydynt wedi cyrraedd. A'r cyntaf i Farrell, Pa., a'r ail i Granville, N.Y. Mae disgwyliad mawr am danynt yn y ddau le gan y ddwy eglwys. Gobeithio 11a siomir yr un ohonynt, ac na rwystrir un o'r ddau rhag cyflawtii ei ymrwymiadau. Y mae Cymanfa Gymreig Dwyreinbarth Penn- sylvania eleni yn cael ei chynnal yn y Tabernacl, Scranton, ar y dyddiau Medi isfed dros y i8fed. Darperir i roddi croesaw mawr iddi gan yr eglwys a'i gweinidog, y Parch. W. R. Edwards. Efallai y gall yr olaf o'r clyfodiaicl uchod fod yn y cyfarfcdydd. Gwelsom yn y Drych fod y Parch. W. Caradog -j Jones, D.D. (diweddar o Utica, ond yn awr o Rome), wedi bod yn anhw3rlus, ac wedi bod oddicartref yn Asbury Park, lie poblogaidd iawn ar lan y mor yn uhalaitli New Jersey, er mwvii adgyfnerthiad. Gwelsom trwy yr un cyfrwng ei fod wedi dychwelyd i Rome wedi llwyddo yn ei amcan, ac wedi declireu ar ei weinidog- aeth y Stil diweddaf. Felly gwag yw pulpud Bethesda, Utica, ar hyn o bryd. Da gennym hysbysu cyfeilliun lluosog y Parch. 0. Lloyd Morris ddaeth yma o Birmingham ychydig flynyddoedd yn ol ei fod yn gwneud yn dda yma. Wedi bod am ychydig yn cynorth- wyo ei dad-yng-nghyfraith, y Parch. T. C. Edwards, D.D., pan yn wael ei ieclml, aeth i Lima, Ohio, i cglwys Saesneg, ac oddiyno aeth i Ypsilanti, Michigan, lie y mae mewn parch a bri mawr. Din as yw hon lie v mae llawer o ysgolion uwchraddol, ac y mae Mr. Morris yn ei elfen yn vmdroi ymhlith y myfyrwyr hyn, ac yn eu cyfarwyddo yn ffyrdtl moesoldeb a chrefydd. Ychydig ainser 3-11 ol cafodd wahodd- iad cviines i fyned yn weinidog i Ottawa, Illinois, a chynygiwyd iddo swm anrhydeddns o gyflog a phersondy ond dewisodd aros 311 v fan lie y mae. Mae wedi gwneud ciinv iddo ei hun fel bardd, pregethwr a bugail er pan y mae yn y wlad hon. Mae'r byd gwleidyddol yn gynhyrfus yn y dyddiau hyn. Y mae ynigeiswyr y gwahanol bleidiau yn mynd o gwmpas i nodi diffygion ei gilydd yn fwy na dweyd yr hyn a amcanaut hwy wneud pe cawsent eu dewis 3-11 arweinwyr ac yn ben ar ein gwlad. Cynhyrfus yw hi ar gyfifiuiau Mexico. Mae llawer o'n miiwyr 3-110, ac y maent yn ceisio'n daer gan ddyniou addas i ymrestru, ond araf iawn y maent yn ateb y ceisiadau. Pe deuai hi' 11 gyfyngder aruom, yn sicr y byddai rhaid arfer gorfodaeth i gad nifer digonol i wrth wynebn gelyn cyffredin ei nerth. Amharod iawn yw'r wlad yma i fyned i felly nag oedd Piydain ddwy fhuedd yn (jl. Ond nid oes ynwyf argyhoeddiad personol fod galw j araom i ymyrryd yn helyntion Mexico. Mae'r
POB OCHR I'R HEOL.\
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
POB OCHR I'R HEOL. (1) Nos lau, Hydref l'lfed, yn y Taberuacl, Pontardawe, o dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. H. Seiriol Williams, cynhaliwyd cyfarfod didclorol iawn. Cyflwynwyd anercliiadau i dri o swyddogion yr eglwys-—-Mri. David A. Williams, Thomas James a David Lewis—fel cydnabydd- iaeth o barch yr eglwys a'i gweinidog iddynt, a gwerthfawrogiad o'u llafur a'u sel a'u ffyddlon- deb ynihlaid yr achos. Wele dri o wyr sydd wedi bod yn swyddogion yn yr eglwys niewn gwa- hanol ffyrcld er 1879, ac wedi treulio deugain mlynedd yng Nghwm Tawe yn Ymneilltuwyr cryfion ac aiddgar. Y mae'r tri wedi cyd-lafurio am bymtheng mlynedd ar hugain gyda chrefydd, ac yn sicr y mae gwasanaeth fel hyn yn haecl.du sylw. Clywsom fod yno gyfarfod difyr a da odiaeth. Hir oes iddynt i gadw drws Tv yr Arglwydd yn llydan agored yn y cwm poblog, ac i fod yn gynhalwyr bfeichiau gweision Duw yn y lie, (2) Melys yw'r newydd am y Parch. Rhys J. Huws-ei fod yn gwella a chryfliau ar ol yr ymosodiad diweddaf ar ei iechyd. Y mae Mr. Hnws wedi rhoi ei oren i'w Enwad a'i genedl mewn llawer ffordd. Yr oedd yn bregetliwr angherddol drwy'r blynyddoedd, a meddwl ffres a thanllyd gaiiddo-ineddwl yn gwreichioni i bob cyfeiriad. Nid oedd neb newyddach ei ddull o feddwl nag efe. Canodd lawer fel bardd hefyd., a chaneuon blasus ydynt. Ysgrifennodd yn helaeth ac yn rymus, a bu wrthi'n ddygn gydag Eisteddfod y Plant. Da gan bawb ddeall fod y pregethwr a'r bardd a'r gweithiwr difefl hwn eto'n hybu, ac yn sirioli'r rhai sy'n gweini arno mor dyner. (3) Talfor Drwg gennym ddeall am ei gys- tudd yntau. Brawd rhywiog, annwyl, diymhon- gar iawn yw'r Parch. Talfor Phillips o'r Llan, Ffestiniog. Pwy fu'n mynd i Gymanfaoedd Ffestiniog nas gwybu am garedigrwydd tawel a dirwysg y gweinidog ffyddlon hwn ? I bwy y mae parch yn y gymdogaeth honno ? I neb yn fwy nag iddo ef. Da iawn, le, eithriadol dda yw yngolwg ei bobl. Enillodd hwy oil a'i was- anaeth ffyddlon a dilol, ac a'i gariad a'i gyd- ymdeimlad. Hyderwn y caiff wellhad buan, ac y daw eto i'w nerth cynefin, canys gwr canol oed yw Talfor, a blynyddoedd meithion o ddefn- yddioldeb o'i flaen. (4) A mi yn nhy Mrs. Herber Evans y dydd o'r blaen, wele'r neges brudd fod Mr. Jonah Evans o Bontseli wedi gorffen ei daith, a chvr- raedd i'r un byd a'i frawd enwog Dr. Herber Evans. Dyna'r ddau debycaf i'w gilydd a wel- ais erioed, 'rwy'n meddwl, o ran golwg allanol. Ac yr oedd llawer o hyawdledd digymar ei frawd yn Jonah Evans. 0 ran taldra, o ran safiad, o ran ffurf y wyneb a'r pen, o ran llais, ac o ran yr arian byw oedd yn y ddau—rhai tebyg i'w gilydd oeddynt. Mae'n amheus gennyf a oedd leygwr yn yr holl wlad a chymaint ystor o hyawdledd ynddo ag oedd yn yr hynafgwr o Bontseli. Anfynych y torrai allan, hwvrach, ac y rhoddai efe ollyngdod iddo—ond yr oedd yno. Cyrhaeddodd oedran lied deg, ac wele efe weith- ion yn gorffwys yn dawel. Ni welir eto ym mro Bryn Seion y gwr hwnnw nas gallai neb edrvch arno heb deimlo ei sylw'n cael ei gaethiwo, Huned yn heddychol wedi'r yrfa egniol. (5) Cyrhaeddodd y Parch. Ellis Jones, o Ebenezer, Bangor, ben ei chwarter canrif fel gweinidog yr eglwys, a nos Fercher diweddaf dathlwyd yr amgylchiad gan ffyddloniaid Eben- ezer trwy eistedd ohonyut oil i gyd-swpera. Yna cafwyd cyfarfod i adolygn'r pnm mlynedd ar hugaiu, a Llew Tegid yn y gadair. Siarad- wyd. gan yr holl swyddogion ymron, a chaed crynhodeb nodedig o haues y cyfnod hwn gan Mr. Jones ei hUll. Rhoddir iddo anerchiad eto yn anrlieg yn y man. 'Adnewyddwyd y capel oddimewn yn ystod ei weinidogaetli ef. Bu nifer fawr o fyfyrwyr yr Athrc-fa yn aelodau yn yr eglwys yn y cyfnod hwn. Ceid ynddi hen swydclogion cedyrn a ffyddlon hefyd, a llawer ohonynt erbyn hyn wedi gorfien y daith ond y mae gwyr grvums eto yn arcs. Bu Mr. Ellis Jones yn olygydd y Tyst Dirwestol, yr hwn a gyhoeddid yn y Bala, am flynyddoedd, ac y mae'n egniol iawn gyda Dirwest. Dymunwn iddo chwarter canrif arall neu well yn y dref bwysig lie y mae. (6) (6) Ymddengys fed yn well gan deuln'r diw- eddar Broffeswr J. M. Davies, M.A., o Goleg Bala-Bangor, gael gofalu am feddrod yr Athro annwyl eu hunain, fel nad oes angen felly am symud ymhellach tuagat ddodi eolofn arno gan yr hen fyfyrwyr a chyfeillion eraill. 0 barch digymysg i'r Proffeswr, bid siwr, y meddyliasom am synmd, fel y gwnaed droion a gwyr enwog a gwasanaethgar eraill yn ein Henwad. Ond y mae'n rhaid parchu teimladau y plant a'r teulu, a chan mai gwell ganddynt gael gofalu eu hunain am fedd eu rhieni, yn eu hamser a'u ffordd eu hunain, nid oes angen dweyd dim yn rhagor. Hyderaf na fu i'r bwriad da oedd y tu ol i'm cyfeiriad at y peth-yr hwn a ategwyd yr wyth- nos ddiweddaf gan H.T.J. o Fangor—fod yn archoll yn y byd i'r teulu. Drwg gennyf fyddai meddwl hynny.. (7) Y mae Cymdeithas Siarad Cymraeg yn cael dodi ei sylfeini i lawr. Cefnogir hi yn aidd- gar gan Syr Owen Edwards, Proffeswr J. Morris Jones, Mr. Timothy Lewis (Darlithydd yn y Gymraeg yn Aberystwyth), Mri. John Beynon a Dewi Fychan (o Gaerdydd), Mr. Beriah G. Evans, ac eraill sydd wedi bod yn gweithio gyda'r Gymraeg ac ar hyd a lied y wlad y mae'r teimlad yn cryfhau fod eisiau mudiad syml i gadw'r iaith. Bu Cymry Cymreig Caer- dydd yn gweithio ar y llinellau iawn, ond fod y mudiad heb gydio fel y m'eddyliwyd yn y wlad ben-bwy-gilydd. Gweithiodd Cochfarf a Dewi Fychan ac Ifano yn dda gyda'r Gym- deithas hon, Ffurfiwyd caughennau yma a thraw, a gwnacd gwaith gwiw iawn. Yr un oedd amcan Syr Owen Edwards hefyd gydag Urdd y Delyn, yr hon a ffurfiwyd ynglyn a Chymru'v Plant: ac y mae aelodau o Urdd y Delyn i'w cael heddyw sydd yn Gymry i'r gwraidd. (8) Nid oes angen mynd ar draws yr un gym- deithas arall, a phell ydys o fychanu gwaith yr un ohonynt. Y mae'r Cymrodorion a'r C yin- deithasau Llenyddol ac Undeh y Cymdeithasau Cymraeg ac eraill wrthi'n gwneud gwaith rhag- orol a gwir angenrheidiol. Ochr yn ochr ft hwl, ac heb y rhith lleiaf o awydd am sylw na chyd- nabyddiaeth na chyhoeddusrwydd personol na dim, y mae y rhai sydd gyda Chymdeithas Siarad Cymraeg. Gall pawb ymliob man sydd yn Gymry ymuno, ac un nod syml sydd i'r mudiacl-siarad ein hiaith ein hunain yn unig i a phawb fedro Gymraeg. Gwneud hyn o dan bob amgylchiadau, gartref ac oddicartref, mewn pwyllgor a chyngor a chynhadledd, yn y coleg a'r capel a phobman, G w YJVF A.