Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

- I 0 FRYN I FRYN.j - i

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. ONID yw'r dyddiau hyn yn enbyd i Ymneilltu- Gweriniaeth Ymneilltuaeth. aetli ? Oni cha ei bygwth yn wir a'i gwerthu yn rhannol gan alluoedd cryfion ? Ac ysywaeth fod rhai ohonynt o'i mewn hi ei hun. Ond son ydym yn awr am Weriniaeth Ymneilltuaeth. Daeth y testyn hwn i ni y bore hwn, ac nid oedd wedi bod yn ein meddwl o'r blaen. Ar ein hunion awn i ddweyd rhywbeth yn ei gylch. Gweriniaeth ydyw tad Ymneilltu- aeth. Er mai hawdd ydyw dweyd i'r gwrth- wyneb, eto dewiswn ni en hamseru a'u perth- ynasu fel arall. Haws yw credu hyn, pe ond wrth ystyried mai tadaeth a mamaeth oreu Ymneilltuaeth ar hvd yr oesau ydyw Gwerin- iaeth. A chware teg i Ymneilltuaeth y mae hithau beunydd yn anrhydeddu ei rhieni. Nid ydyw'r defnydd a wnawn o'r Weriniaeth yn cau allan y Bendefigaeth. Ceir rhai gwerinwyr yn ceisio efelychu pendefigion, ac mae pendefigion yn hollol werinol. Neu yn ol y ddameg yn lylyfr y Barnwyr, ceisia'r fieren am orsedd ac yn ol Emerson, gwir yw fod dynion mawr yn ddynion bach—hynny yw, yn werinol. Erys y berthynas hon o hyd. Cyll Ymneilltuaeth ei gorsedd os cyll ei gwerin, a dioddefai'r werin yn fawr pe collai Ymneilltuaeth. Ymholir gan rai yn bresennol, A ydyw dydd- iau Ymneilltuaeth drosodd ? Ai nid ffurf ar ymgais ymhlaid Datgysylltiad a Dadwaddcliad ydyw Ymneilltuaeth ? Ac onid ydyw cael y blaenaf yn golli'r olaf ? Y mae'r ymholwyr hyn yn bobl i'w gwylio. Nid ydynt yn deall Ymneill- tuaeth nac ychwaith yn cydymdeimlo a hi. Gwylier hwynt yn fawr yn y dyddiau hyn. Dywedant Bellach yr ydych chwi Ymneilltu- wyr wedi cael yr hyn a geisiech. Y mae Datgy- sylltiad a Dadwaddoliad yn ffaith. Ni raid i chwi mwyach wrth eich Ymneilltuaeth. Ffurf i gyfnod ac i bobl ac i ddiben ydoedd eich Ym- neilltuaeth. Ond fe erys yr Eglwys Rydd o hyd, ac yr ydych chwithau yn aros yn Eglwys- wyr, er wedi darfod a bod yn Ymneilltuwyr. Bellach chwi a ddeuwch drosom atom ni, oblegid oddiwrthym ni yr aethoch chwi allan. Dowch yn ol yn awr. Os ydych chwi yn barnu, fel yr ydych yn gwneud, y byddwn ni fel Eglwyswyr yn well ar ol Datgysylltiad, caniatewch i ninnau feddwl y byddwch chwithau yn well ar ol gadael Ymneilltuaeth.' Felly y siaredir a ni heddyw. Ceir llawer o hyn yn Ymdaith Profiad' Mr. R. J. Campbell, M.A., sef yn ei lyfr diweddaraf. Un wedd ganddo ar ei bererindod yw, na fu Anghydffurfiaeth yn apelio ato ef o gwbl, ac na chadd ddim gan Anghydffurfiaeth fel y cawsai gan yr Eglwys Wladol a'r Babaeth. Bid sicr, fe gafodd y City Temple a'i chynulleidfa a'i chyflog gan Ymneilltuaeth. Ni a adawn BERERINDO-DAfvTH MR. CAMPBKIJ, i'r neb a'i myn ac mae'n ddigon tebyg na fyn neb mohoni, os bydd iddo ef ei hun ei mynnu. Cyfeiriwn ati am y duedd gudd sydd yn y llyfr i ddifrio Ymneilltuaeth drwy ei gosod allan fel rhywbeth wedi ei tlireulio allan, heb ynddi na swyn nac adeiladaeth i bobl o ysbrydolrwydd. a diwylliant. Yr ydym yn cael sampl ychwanegol yn y Genhadaeth Eghvysig bresennol. Honiad arweiniol hon yw ei bod yn genedlaethol, a'i bod yn fwy o genedlaethol nag o unigol. Nid oes a fynno'r Ymneilltuwyr a hi mor bell ag y mae cyd-ddealltwriaeth a chyd-gychwyniad yn mynd. Y mae'n amlieiis- I elinvm y caniatai Eglwysyddiaeth gydymgynghofiad yn hyn ag Ymneilltuaeth. Modd bynnag, mae'r symudiad mor bell ag y gwelir ef ar bapuran yn cymryd i fyny dair gwedd, sef y wedd genedlaethol a'r offeiriaclol a'r esgobyddol. Ac yn y teirplyg hyn ceir darlun go. gywir o'r Hen Fam.' Ni chytunir yn clda ac unol ar le'r lleygwr a'r fenyw yn y Genhadaeth, ond mae'r genedl a'r offeiriad a'r esgob, fel lle'r Drnidod Saiictaidd, yn an- ocheladwy yn y symudiad hwn. Nid oes dim i'w ryfeddu ato yn hyn. Y mae hyn yn eithaf priodol i Eglwys Esgobol. Pell ydym o gydymdeimlo a rheiny a led- awgryma mai cynnyg at wneud Deddf Datgy- sylltiad yn ddirym ydyw'r mudiad hWll. Ar yr un pryd, go awgrjaniadol ydyw ein gweld yn hollol unol yn yhiosod ar orthrwm Kesar- iaeth, ond yn ymosod ar bechod yn rhanedig. Bid sicr, buasai'n wrthun i Ymneilltuaeth i ddod allan a Chenhadaeth Genedlaethol, ond mae hyn yn weddus i'r Eglwys Wladol A hyn ydyw cred Esgobyddiaeth yr awron. Ni chydnebydd deilyngdod a hawliau cydradd y weinidogaeth Ymneilltuol. Yn wir, mae urddiad gweinidogion Ymneilltuaeth yn ddiystyr ac yn wendid yngolwg Esgobyddiaeth ac mae ein haddoliad yn oddef- adwy—a dyna i gyd ac mae ein pregethwyr yn hyfion ac yn rhyfygus. Adwaenom weinidog, yr hwn sydd heddyw yng Nghynxru. Dro yn ol rhoddodd, ei enw yn dyst ar bapur, ond gwrth- odwyd ei enw am mai nid tystiolaeth offeiriad y plwyf ydoedd. Ac fe erys hyn yn engliraifft i'r dyn hwnnw fod rhywrai yn edrych ar wir- ionedd yn ol swyddogaeth, ac nid yn ol dynol- iaeth a gwerth y gwirionedd ei hun. Sonnir llawer gennym am aduniad yr eglwysi. Pwy sydd i symud ? Nivsymuda'r Eglwys Wladol hanner cam. Erys hi megis yr oedd yn y de. chreuad, a honna mai hi yw'r wir Eglwys, a dywed ei bod yn cadw'r dtws led y pen i'r afradloniaid i ddod yn ol. Ebe un o'i horaclau dro yn ol Even if a re-union were possible, I cannot conceive how a true Churchman could desire it, for between the Church and Noncon- formity there is nothing in common.' Dyma rai o'r ffyrdd y ceisir difrio Ymneilltuaeth heddyw, ac mae ganddynt eu dylanwad ar weiniaid Ym- neilltuaeth. Ar yr un pryd, y mae perygl mwyaf Ymneilltuaeth yn yr Ymneilltuwyr eu hunain. Nis gall Eglwrysyddiaeth, yn gudd nac yn gyhoedd, ladd Ymneilltuaeth, ac adnebydd. Gweriniaeth hi yn lied dda. Yn y mudiad pres- ennol danghosir mai ofieiriadaeth ydyw Eglwys- yddiaeth, ac mai cadw sacramentiaeth ydyw cadw offeiriadaeth a chaiff Gweriniaeth fod yn edrychydd goddefol o dan law. Ni oddef Gweriniaeth hyn, ac mae rhyw gymBint o Werin- iaeth yn yr Eglwys Esgobaethol yn awr, ac maf eisoes yn taro'n drwm yn erbyn ei derfynau. Yr unig awyrgylch a etyb Weriniaeth ydyw Ymneilltuaeth. Y mae hi o'r cychwyn a'i llygad ar y werin, fel mae'r fam a'i llygad ar y plentyn. Piti fod Cymdeithas, o dan yr enwau o Sosial- wyr a Phlaid Llafur, i raddau'n colli golwg ar hyn. Arddanghosiaxl o hyn ydoedd Mr. Keir Hardie a'i olynydd ffyddlonaf hyd yn hyn yw Mr. Philip Snowden. Syniad y rhai hyn yw fod pob cwestiwn i droi o amgylch eu cwestiwn hwy, ac mae hwnnw yn rhy ddosbarthol a gor- mesol i fodyn gwestiwn gwerinol. Y mae Esgobyddiaeth mewn crefydd, a Dosbarthiad- aeth mewn gwleidyddiaeth, yn groes i Werin- iaeth. Y mae i Weriniaeth ei dwyfoldeb, a chyd- nabyddir honno gan Ymneilltuaeth.; ac wrth ei chydnabod, mae Ymneilltuaeth bron a gwneud cam a'r yehydig swyddogaeth a ddeil. Y mae gan Ymneilltuwyr ar hyn o bryd i ddysgu a chredu gyda llawer o frwdfrydedd fod YHNEIIJ/rUAETH YX FFURF BARHAOT, i grefydd. Y mae'n llawer mwy na bod yn gyf- nodol. Erys tra'r erys y werin a thra'r erys gwirionedd cyffredinol. Sonnir llawer am, y werin yn y rhyfel, ac am ddychweliad y werin o'r rhyfel, ac am barodrwydd yr eglwysi i'w derbyn. Gwerinwyr mwy nag o'r blaen a fydd y rhai hyn yn eu dychweliad, a Gweriniaeth a fynnant. Tybed y bydd y rhai hyn wedi dysgu mwy na ni wrth ddioddef a gwaedu, a ninnau mewn esmwythyd a rhyddid ? Y mae llawer mwy o ofii arNN-eiiiwyr y werin arnom nag sydd arnom o ofn y werin, yn enwedig yr arweinwyr hynny sydd yn gwthio eu cynlluniau ar y bobl ac yn cynnyg at rannu enwadau ac eglwysi er mwyn ffansiaeth a mympwy. Un o'r galluoedd gwaethaf i Ymneilltuaeth heddyw ydyw'r fath Ymneilltuwyr, a liwyut-b wv l yn arweinwyr hefyd. Ymgeledder Gweriniaeth Ymneilltnaeth yr eg- lwysi, nid drwy Gynghreiriaeth ac Undebaeth a Swyddogaeth pen ac inc a chwd a chadair, ond trwy fugeiliaeth gartrefol, ofalus a manwl ac ysbrydol. Gwna Datgysylltiad a Dadwaddol- iad Ymneilltuaeth yn fwy o anhepgor, ac nid yn llai, os ceir cadw'r bobl.

Advertising