Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y WERS SABOTHOL. j t- î

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y WERS SABOTHOL. j t î 4 Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. ? I A f X Gan y Pareh. D. OLIVER, D.D., A Gan y Parch. D. OLIVER, D. D  Treffynnon. } & t f I TACHWKDD sed. —• Lflongddrylliad ym Melita I (Malta) .—Actau xxvii. 39 i xxviii. 6. Y TbsTyn EURAIDD. Yr Arglwydd a wared eneidiau Ei weision a'r rhai oil a ymddiriedant ynddo Ef, nid anrheithir hwynt.Salm xxxiv. 22. Rhagarweinioj,. I VN y Wers flaenorol cawn hanes y llong yn ymladd a'r gwyntoedd. Deallasant eu bod yn agoshau at y tir, ac yna, rhag i'r llong daraw yn sydyn wrth y tir a myned yn ddarnau, tafl- asant allan yr angorau i'w dal hi. Meddyliai'r morwyr nas gallasai'r llong ddal yn gyfan am noswaith, ac felly, o dan yr esgus 0 fyned i fwrw angorau o'r pen blaen i'r llong i'w chadw rhag cael ei dwyn mewn cyfeiriad peryglus gan y llanw, gollyngasant i waered y cwch gyda'r amcan o ddianc i'r lan, a gadael y teithwyr a'r carcharorion i'w tynged. Deallodd Paul eu hamcan, ac apeliodd at y canwriad a'r milwyr, gan mai dan eu hawdurdod hwy yr oedd y llong, am iddynt rwystro'r morwyr i ddianc i'r lan. Y morwyr oedd yn deall pa fodd i gymryd gofal o'r llong, a buasai eu hymadawiad hwy yn golled i'r gweddill. Br fod sicrwydd wedi ei roddi i Paul na chollid bywyd neb, eto yr oedd hyn i gael ei ddwyn oddiamgylch drwy arfer moddion. Wedi cael rhybudd Paul, tor- rwyd rhaffau'r cwch, a syrthiodd i'r mor cyn i'r morwyr fyned iddo. Profodd y morwyr hyn eu hunain yn llwfriaid pan ddylesant ddangos eu hunain yn wrol. Pan yr ydoedd yn dyddhau anogodd Paul hwynt oil i gymryd lluniaeth, gan eu bod yn aros ar eu cythlwng ers dyddiau. Dywed Oblegid hyn sydd er eich diogelwch chwi canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddiar eich pen.' Wedi i Paul ddiolch i Dduw, digonwyd hwy a lluniaeth, ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol. Ysgafnhasant y llong trwy fwrw'r gwenith i'r mor, er mwyn iddi dynnu llai o ddwfr, ac felly gobeithient y gall- I asent ddyfod yn nes i'r lan. ESBONIADOL. I Adnod 39. A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tit ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio y llong iddi.' Cyf. Diw., 'A hwy a ymgyngorasant, a allent hwy yrru'r llong ami.' A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir. Y mae'n beth rhyfedd nad oedd neb o'r morwyr yn adnabod Malta. Rhaid eu bod wedi en gyrru i ran anadnabyddus o'r ynys. Ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi. Cilfach ag iddi lan wastad neu draeth tywodlyd, ac nid creigiog. Dywedir fod y fath le yn awr yni Malta ar gornel ogledd-ddwyreiniol yr ynys. Gelwir ef St. Paul's Bay. Wedi ymgynghori, penderfynasant yrru'r llong i'r gilfach hon. Adnod 40.—'Ac wedi iddynt godi yr angorau.) hwy a ymollyngasant i'r m6r, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.' Cyf. Diw., 'A chan daflu ymaith yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y mor, gan ollwng ar yr un pryd rwymau'r llywiau; a chan godi'r hwyl flaen i'r gwynt, hwy a aethant i'r traeth.' Tor- asant y rhaitau oedd yn dal y llong wrth yr angorau. Rhwymid y Uywiau tra byddai'r llong wrth angor fel nad ysgogai. Yr oedd ganddynt ddau lyw-un bob ochr i'r llong. Pan ddechreuid hwylio, gollyngid y llywiau yn rhydd. Codwyd y flaen-hwyl (main-sail) i'r gwynt. Yr amcan oedd ganddynt mewn golwg ydoedd cyrraedd y traeth. Adnod 41.-Ac wedi i ni syrthio ar le deufor- gyfarfod, hwy a wthiasant y llong a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog eithr y pen ol a ymddatododd gan nerth y tonnau.' Cyf. Diw., Eithr y pen ol a ddechreuodd ymddatod gan ffyrnigrwydd y tonnau.' Ac wedi i ni syrthio ar le deufor-gyfarfod. Rhwng ynys fechan Salmonetta a Malta. Yma y bernir i'r llong daraw. Dywed Smith, yn ei ddarlun- iad o fordaith Paul, fod natur y llecyn hwn yn rhoddi cyfrif am y dull y cymerodd y llong- ddrylliad le. Glynodd y pen blaen iddi yn y llaid, ond ymddatododd y pen ol gan nerth y tonnan. Adnod 42.—' A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.' A chyngor y milwyr oedd. Yr oedd y milwyr yn gyfrifol am y carcharorion, ac yn ol cyfraith Rhufain, rhoddid i farwolaeth bob un a adawai i garcharor ddianc. Ofn y gosb hon, yn ddiau, oedd yn peri iddynt fwriadu lladd y carcharorion. Adnod 43. Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r mor, a myned allan i'r tir.' Cyf. Diw., 'A archodd i bawb a fedrai nofio fwrw eu hunain dros y bwrdd, a myned yn gyntaf i'r tir.' Ond y canwriad, yn. ewyllysio cadw Paul. Mae'n amlwg fod Paul wedi dylanwadu'n fawr ar feddwl y canwriad, a bod ganddo barch dwfn iddo. Yr oedd yn gweld pe buasai'r milwyr yn gweithredu yn ol eu cyngor, y buasai'n rhaid i Paul hefyd golli ei fywyd. Am liynny, er mWYll Paul, efe a ragflaenodd y llofruddiaeth. Yr oedd cyd-garcharorion Paul yn ddyledus am eu byw- ydau iddo ef. Rhydd orchymyn i bawb a allent nofio i fwrw eu hunain i'r mor, a myned yn gyntaf i'r tir, fel y gallent fod o gynhorthwy i eraill hefyd nad allent nofio i gyrraedd y tir. Tybir gan rai fod Paul ymysg y rhai a allent nofio, ac mai yn ol ei gyfarwyddyd ef y pender- fynwyd ar y cynllun hwn. Adnod 44' Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.' Cyf. Diw., 'A'r lleill, rhai ar ystyllod, a rhai ar bethau eraill o'r llong. Ac felly y digwyddodd iddynt oil ddianc yn ddiogel i'r tir.' Lleill. Y rhai nad allent nofio-rhai ar ystyllod, eraill ar ryw ddarnau o'r llong. Daethant bawb yn ddiogel i dir yn ol gair Paul. Dyma'r ped- werydd llongddrylliad i Paul. Pen. xxviii. Adnod 1. Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.' Cyf. Diw., 'Ac wedi i ni ddianc, yna y gwybuom mai Melita y gelwid yr ynys.' Wedi iddynt ddyfod yn ddihangol i dir, deallodd y morwyr, neu hysbyswyd hwy gan y brodorion, mai Melita y gelwid yr ynys. Gelwir hi yn awr Malta. Gorwedd tua 60 milltir i'r de o Sicily, ym Mor y Canoldir. Adnod 2.—'A'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dan, ac a'n derbyniasant ni oil oher- wydd y gawod gynrychiol, ac oherwydd yr oerfel.' Cyf. Diw., Oherwydd y gwlaw presennol, ac oherwydd yr oerfel.' A'r barbariaid. Barbar- iaid y galwai'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid bawb nad oedd o'u cenedl hwy. Y mae'n amlwg nad oeddynt anwariaid. Arferir y gair yn gyfystyr a dieithriaid. Tybir mai trefedigion o Phenicia oeddynt. Dangosasant garedigrwydd mawr iddynt. Cyneuasant dan, a rhoddasant dderbyn- iad croesgwgar iddynt oil. Y gawod gynrychiol. Neu, y gawod bresennol. Golygir y gwlaw pres- ennol oedd wedi bod yn disgyn arnynt, ac yr oedd y tymor o'r flwyddyn yn oer. Danghosodd y brodorion eu caredigrwydd trwy ymdrechu eu gwneud mor gysurus ag y gallent. Adnod 3.—'Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friw-wydd, a'u dodi ar y tan, gwiber a ddaeth allan o'r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.' Cyf. Diw., Gwiber a ddaeth allan oherwydd y gwres.' A cwedi i Paul gynnull ynghyd lawer 0 friw-wydd. Neu fan-goed, er mwyn cadw'r tan i fyny. Diau fod eraill hefyd yn casglu, ond efe oedd yn arwain. Gwiber. Y rhywogaeth fwyaf gwenwynig o seirff. Daeth allan o'r briw-wydd wedi ei dadebru gan y gwres. Yr oedd o'r blaen mewn marw-gwsg gan yr oerfel. Ymlynodd yn llaw Paul trwy ei frathu, a dal ei gafael ynddi. Adnod 4.—' A phan welodd y barbariaid y bwystfil ynghrog wrth ei law ef, hwy a ddywed- asant wrth eu gilydd, Yn sicr llawruddiog yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o'r m6r, ni adawodd dialedd iddo fyw.' Cyf. Diw., Yn sicr, llofrudd yw'r dyn hwn er iddo ddianc o'r mor, eto ni adawodd cyfiawnder iddo fyw.' Gwyddent am natur gwenwynig brathiad y wiber, a disgwylient ei weled yn marw. Gan ei fod yn garcharor, daethant i'r casgliad mai llof- rudd ydoedd. Er iddo Iwyddo i ddianc o'r m6r heb foddi, eto ni adawodd cyfiawnder dialeddol 1 iddo fyw. Nid oedd ganddynt amheuaeth na IJ fuasai brathiad y wiber yn angheuol i Paul, a l disgwylient ei weled yn syrthio'n farw. Adnod 5. 'Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i'r tan, ac ni oddefodd ddim niwed.' Cyf. Diw., Er hynny, efe a ysgydwodd,' &c. A ysgydwodd y bwystfil i'r tan. Gwnaeth hyn yn hollol hunan- J feddiannol. Nid oedd wedi ei ddal gan ddychryn. i Hwyrach ei fod yn cofio addewid Crist i'w ddis- I gyblion gyda golwg ar seirff, a'r addewid ben- dant yr oedd wedi gael y cawsai bregethu'r j Efengyl yn Rhufain. Felly nid oedd i farw cyn -l cyrraedd yno. Adnod 6.— Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir-ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai j duw oedd efe.' Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo chwyddo. Dyma oedd canlyniad cyffredin brathiad y wiber—math o enynniad oedd yn achosi marwolaeth. Neit syrthio yn ddisymwth 1 yn jarw. Marw yn y fan cyn i un ennyniad gym-i ryd lie. Wedi hir-ddisgwyl. Parhau i ddisgwyl, 1 gan nad oedd dim amheuaeth yn eu meddwl nad marw fuasai. A gweled nad oedd dim niwed í yn digwydd iddo. Nid oedd ei law yn dechreu < enynnu a chwyddo. Ymddanghosai yn berffaith j iach. Hwy a M???MSSM? eu meddwl. Newidias- j ant en meddwl am Paul. Yn lie credu mai dyn 4 Uofrnddiog ydoedd, dywedasant mai duw oedd efe. Credent nas gallasai neb fyw ar ol cael ei frathu gan wiber ond duw. Rhaid fod ganddo allu goruwchnaturiol. GOFYNIADAU AR Y Wers. 1 i. Paham y tybiodd y morwyr cu bod yn ;| agoshau at y lan ? | 2. Beth oedd yr amcan mewn golwg wtth fwrw'r angoralt allan ? 3: Eglurwch y modd y bwriadai'r morwyr ddianc. Pa fodd y rhwystrwyd hwy ? 4. Gan fod Paul wedi cael sicrwydd am j ddiogelwch, paham yr oedd yn rhaid iddo eu 1 i gyrraedd eu hamcan ? 5. Paham y cynghorodd Paul hwy i gymryd J| rhwystro lluniaeth ? 'j 6. Beth oedd yr amcan wrth daflu'r gwenith dros y bwrdd i'r mor ? 7. Pa fodd yr esbonnir y ffaith nad oedd y |1 morwyr yn adnabod y tir ? Pa Ie ydoedd ? 1 8. Paham y cynghorodd y milwyr ladd y |J carcharorion ? Pa fodd eu gwaredwyd ?  9. Pa gynllun a gymerasant i fyned i'r l&n ? |j Beth ddigwyddodd iddynt ar y làn ? 1 10. Pa beth a ddigwyddodd i Paul ? Pa ddy- j lanwad gafodd hynny ar y trigolion ?

Family Notices

Advertising