Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
IIICYFUNDBB MEIRION.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
II CYFUNDBB MEIRION. Cynlialiwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Blanegryn, dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 26ain a'r iyain. Cyfarfu'r Gynhadledd am 2 o'r gloch o dan lywyddiaeth y Parch. Rhys Da vies, Corris. i. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. B- J. Davies, Llanuwchllyn. 2. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. 3. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. Robert Griffith o'r Ty Cenhadol. Yn ei lythyr gofynnai a fyddai Cymru yn fodlon cymryd y cyfrifoldeb a'r anrhydedd o sefydlu Cenhadaeth newydd ymhlith Mahometaniaid Gorllewin Mada- gascar. Bod yr awgrym yn cael ei wneud ganddo fel cenhadwr Madagascar, ac nid fel cynrychiol- ydd Cymru. Pasiwyd i'r Ysgrifennydd ohebu a'r eglwysi yn y sir er trefnu taith, os yn bosibl, i Mr. Griffith gyda'r amcan hwn. 4. Pasiwyd i roddi i'r Parch. Thomas Griffith, Salem, lythyr trosglwyddiad i Gyfundeb Lerpwl a Manceinion. 5. Cymeradwywyd adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth Gartrefol: (i) Bin bod yn derbyn tender Mr. H. Evans, Bala, am argraffu'r Adrodd- iad. (2) Fod y rhai canlynol i gasglu'r flwyddyn hon at y Genhadaeth Gartrefol:—Dosbarth y Bala: Mr. J. P. Jones, Bala, a'r Parch. D. Roberts, Llandrillo. Dosbarth Ffestiniog: Mr. J. R. Jones (Gerallt) a'r Parch. John Hughes, Jerusalem. Dosbattli Dolgellau: Mr. Griffith Price, Corsygarnedd, a'r Parch. J. Cynfal Jones, Borth. Dosbarth Towyn Mr. J. Evans, Dolau- gwyn, a'r Parch. E. Evans, Llanegryn. 6. Trefnwyd i'r Parch. Ivan T. Davies, Blan- drillo, roddi anerchiad yng Nghynhadledd y cyfarfod nesaf ar y pwnc, Cenedlaetholi'r Fas- nach Beddwol.' Hefyd, fod y Parch. J. Hughes, Jerusalem, i bregethu yn y cyfarfod ar bwnc rhoddedig gan yr eglwys. 7. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch T. Talfor Phillips, ysgrifennydd y pwyllgorau, yn ei waeledd, gan ddymuno ei adferiad buan. Hefyd, datganwyd cydymdeimlad Wr Parch. J. Pritchard, Druid, ein cyn-ysgrifennydd, yn ei lesgedd. Hefyd, pasiwyd i anfon cydymdeimlad Cyfarfod Chwarterol Meirion a Mrs. Ossian Davies ar farwolaeth ei phriod, yr hwn oedd yn un o brif bregethwyr y deyrnas yn ei ddydd. 8. Cafwyd anerchiad brwd gan y Parch. D. M. Davies, Abertawe, ar ran y Blyfrfa a'i gwaith. Nododd nifer o lyfrau a chyhoeddiadau'r Enwad, a galwodd sylw neilltuol at Dywysydd y Plant ac Adroddiad yr Undeb. Ceisiai am y trefniant goreu'n bosibl yn yr eglwysi i hyrwyddo a lled- aenu llenyddiaeth y Llyfrfa. 9. Dewiswyd Mr. Walter Davies, Arthog, i fod yn gynrychiolydd dros y Cyfarfod Chwart- erol yng Nghynhadledd Ddirwestol Gwynedd yn yr Abermaw. 10. Cafwyd gair ar ran y Drysorfa Gynorth- wyol gan Mr. J. R. Jordan, Bala. 11. Pasiwyd cydymdeimlad y Gynhadledd ag amryw deuluoedd mewn trallod. 12. Gorffennwyd trwy weddi gan y Parch. D. M. Davies. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. R. Evans, Aberllefeni, ar y pwnc, Dysgeidiaeth y Testament Newydd am Gydwybod a'i Hawl- iau,' a chan y Parch. John Hughes, Jerusalem. Bore Mercher gan y Parchn. D. M. Davies, y Llyfrfa, a Bewis Davies, Corwen. Y prynhawn gan y Parchn. George Davies, B.A., Brynbow- ydd, a J. D. Richards, Trawsfynydd. Y nos gan y Parchn. Rhys Davies, Corris, a T. Talwyn Phillips, B.D., Bala. Cafwyd croesaw siriol gan yr eglwys yn Llan- egryn a'i gweinidog parchus. Cynygiodd Mr, R. Jones, Manod, a chefnogodd Mr. Walter Davies, Arthog, ddiolchgarwch cynnes y cyfar- fod iddynt am y darpariadau haelfrydig. Yr oedd yno gynulleidfaoedd lluosog yn yr holl odfeuon, a hyderwn i'r eglwys a'r ardal dderbyn j o gyflawnder bendith Efengvl Crist. Brynbowydd. CiEORGE DAVIES, Ysg.
CYFUNDBB ARFON.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFUNDBB ARFON. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod ym Mhendref, Caernarfon, Medi 27a.iu a'r 28ain. Y Gyrnhadledd am 10 o'r gloch bore yr ail ddydd dan lywyddiaeth Mr. R. E. Williams, Peiimaenmawr. Methodd Mr. Isaac Eclwards, y Cadeirydd am y flwyddyn, fod yn bresennol. Dechreuwyd gan Mr. Beuno Jones, Bontnewydd, i. Darllenwjrd a chadarnhawyd y cofnodion. 2. Derbyniwyd cyfraniadau'r eglwysi, a phas- iwyd i'r Trysorydd anfon at yr eglwysi 11a chyf- ranasant ddim yn ystod y flwyddyn. 3. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal ym Methel. 4. Darllenwyd gohebiaethau oddiwrth (a) Ys- grifennydd y Drysorfa Gynorthwyol; (b) Cym- deithas Genhadol Llundain (pasiwyd i wahodd y Parch. Robert Griffith i gyfarfod Ionawr) (c) Pwyllgor Coleg Aberhonddu ynglyn a Diwin- yddiaeth a'r Colegau Cenedlaethol. 5. Pasiwyd Fod y Gynhadledd hon yn barnu fod penodiad y Ddirprwyaeth Frenhinol i edrych i mewn i waith Prifysgol Cymru yn gofyn am ail-ystyried perthynas Diwinyddiaeth a'r Brif- ysgol, a dymuna ddatgan (a) Fod safle bresennol Diwinyddiaeth yng Nghymru, ac yn arbennig yn y Brifysgol, yn anfoddhaol; (b) Fod angen gwell cyfleusterau i athrawon a myfyrwyr mewn Diwinydcliaeth wneud gwaith o'r radd uchaf.' Penodwyd y personau calilynol yn bwyllgor i ystyried y mater ymhellach, gan eu hawdurdodi i gyhoeddi eu hadroddiad yn ddioed :—Y Prif- athro T. Rees, M.A. yr Athrawon J. M. Jones, M.A., a T. Rhys, B.A. y Parchn. D. Stanley Jones, Keinion Thomas, Owen Jones, Ellis Jones, Penllyn Jones, R. E. Davies, James Jones, Dr. Phillips, M.A. Proff. J. E. Llovd, M.A. Mri. Beriah G. Evans, W. G. Thomas, Y.H., D. J. Williams, M.A., Isaac Edwards, W. J. Parry, Y.H., R. E. Williams, a'r Ysgrifennydd yn gynhullydd. 6. Y Prifathro T. Rees, M.A., i lywyddu Cyn- hadledd yr Ysgol Sul yn y prynhawn. 7. CyfLwynwyd adroddiad Is-bwyllgor Dirwest gan y Parch. J. Ellis Williams. Derbyniwyd. 8. Etholwyd yn Gadeirydd am y flwyddyn nesaf Mr. T. R. Williams, Y.H., Trefriw ac ar y gwahanol Is-bwyllgorau ;—Pw^dlgor Trefnu Athro J. M. Jones, M.A., a Llew Tegid. Ysgol Sul Parch. D. Griffith, Bethel, a Mr. J. Parry, B.A., Bethesda. Dirwest: Parch. Ellis Jones, Bangor, a Mr. Samuel Williams, Dwygyfylchu. Genhadaeth Gartrefol: Parch. J. Luther Thomas a W. E. Humphreys, Bangor. Cymanfa'r Sir Parch. H. R. Williams, Colwyn Bay. Cymanfa Gwynedd Mr. John Williams, Bangor. Cymanfa Dyffryn Conwy Parch. J. Ellis Williams, Ban- gor. Arholwyr ymgeiswyr am y weinidogaeth Parch. J. Luther Thomas a Mr. L. D. Jones (Llew Tegid). Cynrvchiolydd ar Bwyllgor y Caniedydd Mr. T. R. Williams, Y.H., Tre- friw. Ail-etholwyd y swyddogion ynglyn a'r Genhadaeth Dramor. 9. Pasiwyd pleidlais o longyfarchiad i'r Parch J. Ellis Williams ar ei waith yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i'r Parch. I. Williams, Bontnewydd, ar orffeniad 50 mlynedd yn y weinidogaeth. 10. Diolchwyd i Mr. Isaac Bdwards am ei wasanaeth yn y Gadair yn ystod y flwyddyn, gyda dymuniad am iddo draddodi ei anerchiad yn y cyfarfod nesaf. 11. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a Mrs. Edwards, Blanfairfechan (colli ei phriod); Mrs. Jones, Gerlan (colli ei thad) teulu y diw- eddar Mr. Griffith Thomas, Dwygyfylchi Mri. W. E. Roberts, Maesydrei, Henry Evans, Caer- narfon, R. T. Jones, Blandudno, a H. Owen, Bangor (colli meibion yn y rhyfel). 12. Diolchwyd i'r Parch. Camwy Evans a'r eglwys ym Mhendref am eu derbyniad siriol a chroesawus. 13. Terfynwyd gan y Parch. L. Williams, Bontnewydd. Am 2 o'r gloch cynlialiwyd LynhacUecld ynglyn a'r Ysgol Sul. Cyflwynwvd adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul gan yr ysgrifennydd, Mr. W. J. Roberts, C.M., Penmaenmawr. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn, James Jones a D. Stanley Jones. Nos Fercher pregethwyd gan yr Athro J. M. Jones, M.A., a nos Ian gan y Parch. J. Buther Thomas. HnNRY JONES, Ysg.
GWEDDI AR RAN Y MII.WYR CYMREIG.
News
Cite
Share
GWEDDI AR RAN Y MII.WYR CYMREIG. ARGJAVYDD, bechgyn Cymru cadw, Gedwir draw gan ryfel erch Cadw'u cyrff, a'u henaid cadw, Rhag i'r fagnel fferu' u serch. Rho Dy Ysbryd Rhag i'r rhyfel ladd eu dawn.' Yn y ffosydd oer, didostnr, Gwywa llu mewn gwayw i'r llawr; IJeithter daear letha'u natur 0 fachludiad haul i'r wawr. Rho Dy Ysbryd I'w gwresogi yn y ffos. Ar y mor, heb forio llawer, Eraill wyliant am yr awr Pan gwyd Heddwch eto'i fancr Ar ol buddugoliaeth fawr. Rho Dy Ysbryd Uwch y don i'w cadw'n fyw. Dos i'r gwersyll at rai'n dechreu,—■ Dysg lwy 'ddechreu gyda Thi Arwain hwy i'r hyn sydd oreLL-- Goreu yn Dy olwg Di. Rho Dy Ysbryd I'w disgyblu yn y ffordd. Cofia'r rhai sy'n gwasanaethu Pob un 'n01 y ddawn a ga'dd Pawb a alwyd i aberthu, Cadw hwy rhag cael eu lladd. Rho Dy Ysbryd Er eu cadw hwy yn faw. Cadw'r oil a/th law'll dtliogcl, Dwg hwy 'nol i'w cattref trist: Dangos iddynt nad yw rhyfel Ddim wrtli allu Iesu Grist. Rho Dy Y s brycl Fel cant hwj^thau'r gallu IUMI. Arglwydd, trenged rhyfel hagar, Golclia'r byd a gwaed y Groes Bydded Iesu'll Deyrn y ddaear, Fel y delo'r Buraidd Oes. Rho Dy Ysbryd I nefoli daear lawr. Pontycymer. DAVID HUGHES.
JIWBILI Y PARCH. D. AFAN GRIFFITH,…
News
Cite
Share
JIWBILI Y PARCH. D. AFAN GRIFFITH, TrOEDRHIWDABAR, AWST 16, 1916. F el Gweínidog. f j YN Nhroedrhiwdalar hen, Am hanner calirif Ilaivii, Gweinidog da i Grist A fu yn ftyddlon iawn Fel haul a'i wres yn llonder byw Bu Afau Griffith dros ei Dduw. I Fel Cynghorwr Sir> Yiig ngwaith y Cyngor Sir, Wrth drafod pwrs y wlad, Fuliebei-ioedmwypur I'r werin a'illeshad Er llwyddo i gael cynUuuiau gwell, Gair Afan Griffith gerddai 'mhell. Fel Ysgrifennydd Coleg Aberhonddu. Pel Ysgrifennydd gwych I'r hen Athrofa wiw, Trodd lawer pwyllgor sych Yn entertainment byw Hi chwerthin iach a'i synll wyr cfyf Ddistawodd lu o glebrwyr hyf. Fel Ysgrifennydd Ariannol yr Undeb. Pel swyddog codi'r doll' Dros Independia. fawr, Fe fynnai yn clcligoll Bob dimai goch i lawr Cyhoeddai'r ddeddf trwy'r blwyddi iiiaith: Na thalo'i ran, ni fwyta chwaith.' Y Cristion Garlre. Y Cristl G(?Yti'4, I' A Ond goreu'r Cristion pur II Yn Nhroedrhiwdalar hen, A erys oesau hit I Fel heulwen ar ei gwen Bydd Afan Griffith byth yn byw Yn Nhroedrhiwdalar dros ei Dduw. Aberdar. J. GRAWYS JONES
Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
0 dan yr argyhoeddiad dwfn y dylai'r En wad yng Nghymru, er mwyn buddiannau goreu Pulpud y dyfodol, fanteisio ar y cyfle presennol i sicrhau i'w fyfyrwyr fanteision addysg rhagor- ach a pharatoad mwy effeithiol at waith y wein- idogaeth, argymella'r Pwyllgor y penderfyn- iadau uchod yn galonnog i gymeradwyaeth gwahanol awdurdodau'r Ellwad, gan annog eu mabwysiadu a'u danfon i Ddirprwyaeth Fren- hinol Prifysgol Cymru gan gynadleddau a phav, vll- gorau'r Enwad yn gyffredinol. HENRY JONES, vsg.