Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Ymddiswyddiad y Parch ElwynI…
News
Cite
Share
Ymddiswyddiad y Parch Elwyn I Thomas. Bydd yn ddrwg gan lu eyfeillion Elwyn yn No a Gogledd Cymru ddeall ei fod wedi gorfod torri ei gysylitiad hapus â'i eglwys yn East Sheen, Llundain, oherwydd afieehyd parhaus. Bu Elwyn, er gwaethat ei lesgedd, yn llwydd- iatmas iawn am bedair blynedd a banner yn y maes hwn. Adeiladodd ytio un o'r neuaddau harddaf yn y Brifddinas, a rhestr o rai llai at wasanaeth pobl ifanc a'r Ysgol Sal. Dybloda yr eglwys a'r gynulleidfa. Efe, mae'n debyg, ddewiswyd i ddweyd gair ar ol Ossian yn ei angladd gyda'r Parch Justin Evans. Methodd fyned; ond darllenodd Justin y papur a anfonwyd gauddo.
Urddo Gweinidog yn Rhydyceisiaid.
News
Cite
Share
Urddo Gweinidog yn Rhydyceisiaid. Medi y 18eg a'r 14eg, neilltuwyd Mr Gwilym G Thomas, myfyrivw o Athrofa Oaerfyrddin, i gyflawn waith y weinidogaetb yn yr hen eglwys uchod. Y noson gyntaf pregethwyd gan y Parch T. J. Rees, Maesteg, a chan yr Ath o Oliver Stephens, B A., B D., Caerfyrddin, ar Natur Eglwys. Bore Mercher pregethwyd gan y Parch Bryniog Thomas, Caerau, Maesteg, a thradd- odwyd Cyngor i'r Eglwys gan y Parch W. Thomas, Llanboidy. Yn y prynhawn cafwyd yr hyn a gyfrifir yn wasanaeth mwyaf uniongyrchol yr urddo, dan lywyddiaeth y Parch D. G. Williams, Bethle- hem, St. Clears. Dechreawyd gan y Parch Ben Morris, Pontyberem; rhoddwyd hanes yr alwad gan Mr H. Griffiths, ysgrifennydd yr eglwys; holwyd y gofyniadau gan y Parch Esger James, Abertoifl (yn absenoldeb y Parch D. Cadfwleh Davies, St. Clears, oherwydd afieehyd). Atebwyd hwynt yn syml a chryno gan y gweinidog ieuanc. Dygwyd achos gweinidog ac eglwys yn ea perthynas S,'i gilydd at orsedd gras gan y Parch D. E Williams, Henllan; ac yn awyrgylch dyner y weddi gofynwyd i aelodau yr eglwys godi ar eu traed yn gadarnhad cyhoeddus o'u haddewid i gydweifchio a'r gweinidog, a chododd Mr. Gwilym G. Thomas, yntau, gan ddal i fyny ei law yn arwydd o'i ymrwymiad cyhoeddus i fod yn ff yddlon i'w ochr ef o'r cyfamod. Ar ol i'r holl wyddfodolion godi ar eu traed i arwyddo eu dymuniadau da i'r eglwys a'i bugail, canwyd emyn yn deisyf am fendith y nef ar yr undeb. Yn nesaf traddodwyd y cyngor i'r gweinidog ieuanc gan y Parch T. J Rees, gweinidog presennol mam-eglwys Mr Thomas, sef Saron, Maesteg. Cyn dwyn i derfyn y gwasanaeth syml ond difrifol a dymunol hwn, cafodd eyf- eillion o eglwys Saron gyfle i gyflwyno i'r gweinidog ieuane gwerth deg punt o lyfrau yn ddanghoseg o serch yr eglwys ato a'u dymun- iadau didwyll am ei lwyddiant yn y dyfodol. Teg yw nodi i holl ddiaconiaid Saron ynghydag amryw frodyr eraill a llu o ehwiorydd roddi eu presenoldeb yn yr urddiad. Rhoddodd y ddau frawd a gafodd gyfle i ddweyd gair y dystiol- aeth uchaf i gymeriad gloyw Mr Thomas o'i febyd. Terfynwyd y gwasanaeth yn dyner gan y Parch G. Higgs, B-A, Hendygwyn-ar-Daf. Yn yr hwyr pregethodd y Parchn Bryniog Thomas ac Esger James. Cafwyd hin ddymunol a chyfarfodydd bendithiol o'r dechreu i'r diwedd. Gwelsom yn bresennol, heblaw y personau a ennwyd, y Parchn Morgan Jones, B.A. (B), Whitland; R Gimblett (B), Salem; D. Morgans, Cana; T. Davies (B), Seion; D. Peregrine, B.A., Treleeh, ac amryw o arwein- wyr crefyddol y cylch. Boed bendith y net ar yr undeb. 6.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Peswch Gwichlyd. Bron metbu anadla, ond a jachwycl gan VENO'S LIGHTNING COUGH CURE. Mrs Murdoch, 3, Broad-street, Stirling, N.B., a ddywed Yr oeddwn yn dioddef oddiwrth bronchitis a diffyg anadl. Blinid fi gan besweh blin, ae yr oeddwn mor dagedig fel mai o'r braidd ar brydlau y gallwn gael fy anadl. Ni wnaeth moddion y meddyg un lleshad i mi, ond gwellhaodd Veno's B yn f aan. Yr wyf er yr adeg honno wedi defnyddio Veno's at fy holl blant, ac nid yw wedi ffaelu unwaith.' Ymddiriedwoh yn Veno's y gwna wella Peswch, Annwyd, Bronchitis, Anwydwst, Dyferwst a'r Pas. Prigitiu-Ilic, Is 3c, a 3s ym mhobnan.
LLYTHYRAU AT FY NGHYD-WLADWYR.
News
Cite
Share
LLYTHYRAU AT FY NGHYD- WLADWYR. Llyt&YR XIII. AnnwyIV MR. A MRS, Edwards, -Deallai eich pryder meddwl ynglyn a'r tri bachgen yna svdd gennych. Da gennyf glywed fod dau ohonynt eisoes yn yr ysgol gallolraddol, Hall ar fin mynd yno. Naturiol iawn yn awr yw i chwi geisio dyfalu a chynllunio pa beth i'w wneud ohonynt. Y mae'n dda dros ben gennyf eich bod wedi penderfynu gwneud eich goreu i roi'r addysg oreu iddynt, ac yn barod i fyned i gryn dipyn o aberth er gwneud hynny. Y mae gan lawer iawn ohonom achos diolch i rieni fu'n ffyddlon i'w dyledswydd yn y mater hwn, ond y mae achos ofni fod ysfa'r oes am bleser, a'r arian delir i fechgyn mewn gwahanol gylchoedd yn awr, yn temtio tadau a mamau i yrru eu bechgyn i weithio'n gynt nag y dylent. Edmygaf y modd y ceisiwch godi eick plant i fyny yn y gred mai amcan bywyd yw helpu eraill a gwneud rhywbeth i wella'r byd, ac mai amcan isel iawn yw amcan y dyn hwnnw sydd a'i fryd yn unig ar wneud arian. Gwreiddiwch hwynt yn y syniadau hyn fe wnant eu nerthu a'u cynnal ymha waith bynnag yr ymgymerant ag ef. Y mae'n dda gennyf eich bod yn ddigon hen ffasiwn (chwedl yr oes hon) i gredu mai'r alwedigaeth uchaf mewn bywyd yw'r weinid- ogaeth, a bod eich bryd ar i un o'ch plant fod yn weinidog. Beth bynnag ddywed yr oes hon, nis gall dyn godi'n uwch ar y ddaear na bod yn broffwyd y Duw byw Fe all, wrth gwrs, fod yn brofiwyd heb fod yn weinidog, er mai yn y weinidogaeth y disgwyliwn eu gweld. Cam- syniad mawr fyddai i chwi geisio gwthio eich plant yn y cyfeiriad yma. Rhowch addysg dda iddynt, ac arhoswch nes y teimlant hwy eu hunain yr alwad yn dod atynt. Efallai y bydd- ant yn y cyfamser wedi treulio rhai blynydd- oedd mewn galwedigaeth arall—goreu i gyd hynny. Fe fydd profiad mewn cylchoedd eraill yn help iddynt; ae os dewisant aberthu lie cysurus am y weinidogaeth, prof ant fod ysbrvd y gwirionedd ynddynt. Ac os na ddaw y weled- igaeth iddynt, nid y weinidogaeth yw eu lie. Digon tebyg y bydd un neu ragor o'ch bechgyn am fod yn athrawon. Nid oes gwell maes i ddyn sydd am fod o ddylanwad dros y goreu yn y wlad ac fe fydd galw mawr yn y dyfodol am athraw(vi allant siarad y Gymraeg fel eich plant chwi, ac a fyddant wedi en codi ar aelwyd grefyddol moesgar a choeth fel eich aelwyd chwi. Y mae'n alwedigaeth ardderchog i fachgen sydd yn hoff o astudiaeth. Y mae'r gyflog yn rheol- aidd a rhesymol, ac y mae'n sicr o godi'n syl- weddol yn y dyfodol agos ond na wawried y dydd yng Nghymru pan y penderfynir galwedig- aeth dyn yn unig neu'n bennaf gan y gyflog ellir ei disgwyl. Nid wyf yn deall yn hollol paham yr esgeulus- wyd y Gwasanaeth Gwladol (Civil Service) gy- maint gan blant Cymru. Bach yw'r gyflog yn ami i ddechreu, ond os gwna bachgen ei waith yn ofalus a thrwyadl, y mae dyrchafiad yn lied sicr, os yn araf, ac ni cheir gwell telerau, o bosibl, ar waith yn unman arall. Y mae yn waith cydnaws i fachgen nad yw'n hoff o waith cyhoeddus, ac fe synnech faint sydd gan y bobl hyn sydd yn gweithio'n dawel ac o'r golwg i'w wneud a bywyd gwlad, a pha faint o les neu o ddrwg allant wneud. Y mae galw mawr, ac fe fydd galw mwy, am fechgyn yn medru'r Gymraeg yn y Gwasanaeth Gwladol. Ar hyn o bryd dywedir ei bod yn amhosibl cael Cymry i lanw yr holl swyddi yng Nghymru, ac o gan- lyniad rhaid dwyn Saeson uniaith i'n gwlad ni. Clywais chwi yn son am wneud cyfreithiwr o un o'r bechgyn, Da iawn ond cofiwch lanw ei feddwl a'r syniad mai galwedigaeth yw er dwyn cyfiawnder i'r bobl (byddent mor dloted ag y bont), ac nid er gwneud arian. Y mae'r ffordd y mae ambell gyfreithiwr yn anrheithio tai gwragedd gweddwon mewn ffordd gyfreith- lon (?) yn warth i'n gwlad. Pa hawl sydd gan neb, pwy bynnag y bo, hawlio can punt am waith diwrnod. Rhowch Lincoln o'i flaen fel arwr. Fe wrthodai hwnnw wneud dim ag achos os na chredai'n gryf ei fod yn achos cyfiawn, a pherswadiai pobl ddelent ato i gadw o'r gyf- ralth os gallent mewn unrhyw fodd. Y mae'n dda dros ben gennyf glywed fod un neu ddau o'r bechgyn yn son am fynd yn fedd- ygon. Dyma waith a esgeuluswyd yng Nghymru i raddau anesgusodol. Y mae'n ddigon i dynnu dagrau o lygaid dyn i glowed hen wraig na fedr ond ychydig frawddegau o Saesneg yn ceisio egluro ei dolur i ryw Wyddel neu Ysgotyn Pa reswm fod meddygon ein gwlad i raddau mor helaeth yn estroniaid ? Da chwi, gwnewch eich goreu i'w calonogi yn eu huchelgais yn y mater hwn. Pa beth gwell all dyn wneud na 11eddfu poen corff ? ac os yn feddyg crefyddol, lleddfu hefyd boen meddwl ac ysbryd ? Dywedaf yn onest fy mod yn ami yn eiddigeddu at ein meddygon am fod ganddynt gystal cyfle i helpu eu eyfoedioil. Gofalwch eu dysgu yn anad dim mai galwedigaeth i aberthu, ac nid i bentyrru arian yw. Un o'r pethau hyllaf yn y greadig- th yw meddyg sydd yn meddwl mwv am ei 41 nag am ei waith. Gwn am feddyg gododd ddeg punt am waith dwy awr ar weinidog nad allai gynilo hynny mewn pum mlynedd, a gwelais feddyg yn danfon bil am £ 25 am waith ychydig oriau i weddw nad allai gynilo hynny mewn deg mlynedd. Yr oedd yn dda gennyf nad Cymry oeddynt. Ond fe glywais am ddau Gymro (o'r hyn leiaf, mewd enw os nid mewn iaith) yn gwneud cynddrwg neu waeth na hynny-un yn gofyn am £ 9 ar enedigaeth plentyn lle'r enillai y penteulu bunt yr wythnos, a'r llall (enillai o leiaf bum mil y flwyddyn) yn mynnu £ 20 o arian yn ei law cyn dechreu gwaith ar blentyn oedd ymron marw, a hynny oddiar deulw nad oedd eu holl eiddo (sef eu celfi) yn werth yr arian. Gorf. iddynt ^asglu'r arian ymhlith eu cyfeillion. Onid yw eich gwaed yn berwi i glywed fod y fath beth yn bosibl mewn gwlad Efengyl ? Meddyliwch am ein milwyr yn aberthu eu bywydau wrth y cannoedd, a chread- uriaid fel hyn yn mynnu ugain punt cyn cynnyg achub bywyd! Pan geir rhagor o fechgyn Cymru o ddelfrydaufuchel i'r alwedigaeth hon, disgwyliwn y cyfnewidia petham er gwell yn y mater hwn. Gadewch i'ch plant ddarllen Yr Hen Ddoctor (Ian Maclaren), a gwneud hwnnw yn arwr eu bywyd, os ant yn feddygon. Efallai fod yna anawsterau ariannol yn y mater hwn. Ychydig o gannoedd o bunnau sydd gennych, ac yr ydych am gadw rhywbeth ar gyfer eich hen ddyddiau. Wrth gwrs, fe ddaw'r gost i lawr yn is o lawer i blant Cymru yn awr, gan fod ysgol i feddygon wedi ei sef- ydlu yng Nghaerdvdd. Fe dal oddeutu £ 150 am ei ysgol am bum mlynedd (yn ychwanegol at ei gynhaliaeth). Pa niwed fyddai i chwi wneud cytundeb a'di bechgyn fel hyn eich bod yn codi polisi ar ei fywyd am bedwar neu bum cant, a'ch bod yn rhoddi'r polisi hwnnw iddo'n anrheg wedi iddo dalti'n ol yr arian weriwch arno yn ystod y pum mlynedd. Wedi gorffen ei gwrs fe enilla'n fuan o'r tri i'r pum cant y flwyddyn, ac nid yw ond teg i chwi gael eich talu'11 ol, a'i gyflog ef gymaint arall neu ragor a'ch un chwi. Ac os bydd efe farw cyn eich talu'n ol, fe'ch digolledir chwi. Wrth wneud hyn fe wneir i ffwrdd a'r petruster sydd yn y bachgen i adael i chwi fentro'r ychydig arian sydd gennych arno. Y mae yna lawer o alwedigaethau na soniais am danynt, i raddau am fod y llythyr wedi mynd yn faith, ac i raddau am y gwn mai nid gwneud arian yw delfryd eich teulu. t, Cofion goreu, A'r WEB YD.
Advertising
Advertising
Cite
Share
LIBANUS, CWMSYFIOG, MYNWY.-Cyn- haliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd hanner-blynyddol y Sul, Medi 24ain. Gwasan- aethwyd yn Gymraeg a Saesneg gan y Parch B.IC. Davies, Ynyshir. Cafwyd odfeuon hyfryd —pawb wedi mwynhau eu hun yn fawr Nos Lun, Medi 25ain, cynhaliwyd cwrdd diolch- garwch am y eynbaeaf. Cafwyd pregeth neilltuol o dda ar ein dyled i Dduw gan y Parch W Philllips, Pengam. Mwynhawyd ei wasan- aeth yn fawr. Arhosed bendith. DAVIES'S COUGH MIXTURE PESWCH I PBSWCB I Ni raid i neb ofni canlynisdau Anwyd a Pheswcb ond gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y t £ Bydd pob dyn yn feddyg i'w deulu at koll anhwyl- x derau y Gwddf a'r Frest, os bydd Dftvies's Cough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi oael iaohad ao yn gwneud en goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid cymeryd ond un dosh er profi ei ddylanwad union- gyrohol ert rhyddhau y Phlegm, yn clirio y Llais. yn cynhesu ae yn oryfhau y Frest, gan weithio pob Anwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DA VIBS'S COUGH MIXTURE Cat ASTHMA. Os gwyddooh am rywull yn dioddef oddiwrth Beswcb a Bronchitis, anrhegwoh ef a pbotelaid o Oouqh Mix. 1 vbb Hugh Davibs, ao fe'ch bendithio ryw ddydd. 18 lie a 2s ge y botel. HUGH DAVIEti CHEMIST, NAMTNLLEVISI ■ v. N ■ .yS