Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYFUNDEB DEHAUJ MORGANNWG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB DEHAUJ MORGANNWG. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod ym Methesda, Llangynwyd, nos Fercher a dydd Iau, Medi'r 27aiii a'r 28ain, 1916. Llyw- yddwyd y Gynhadledd bore Iau gan y Parch. R. O. Evans, Castellnedd. Wedi i'r Parch. D. Williams, Mynydd Cynffig, ddechreu drwy weddi, f penderfvnwvd i. Cadarnhau cofnodion y cwrdd diweddaf. 2. Fod lie cynhaliad y cyfarfod nesaf ynghyda darllenydd y papur i'w adael i'r Ysgrifennydd. 3. Dewiswyd y Parch. E. Cynlais Williams, Dyffryn, Maesteg, i bregethu yn y cyfarfod nesaf ar y Genhadaeth. 4. Derbyniwyd y Parch. T. Gwyn Thomas, Briton Ferry (S.), yn aelod o'r Cyfundeb drwy lythyr o Gyfundeb Cymreig Brycheiniog, a hefyd y Parch. Aneurin Davies, B.A., B.D., ar ei sef- ydliad fel gweinidog eglwys Addoldy, Glynnedd. Derbyniwyd hwy yn gynnes a chroesawgar. 5. Cafwyd gan y Parch. E. Davies, Seven Sisters, adroddiad ynglyn a'r Drysorfa Gynorth- wyol, a chan Mr. John Morris, Briton Ferry, eiddo'r Drysorfa Fenthyciol. 6. Darllenwyd a derbyniwyd adroddiad Mr. J. Phillips, Y.H., Aberafon, o weithrediadau Pwyllgor y Caniedydd.' 7. Mabwysiadwyd mewn distawrwydd dwys bleidleisiau o gydymdeimlad a'r Parchn. J. Williams, Abergwynfi D. Rees, Rock; a W. R. Bowen, Maesteg, yn eu profedigaethau chwerwon, ynghyda tlieulu y diweddar Syr Thomas Rees Price. 8. Penodwyd y Parch.. J. T. Hvans, Capel y Glyn, i gynrychioli'r Cyfundeb yng Nghymanfa Ddirwestol y De. ti9. Cefnogwyd cais eglwys Canaan, Maesteg, at Bwyllgor y Gronfa. 10. Yna cafwyd papur gwir ddiddorol a budd- ioi ar hanes eglwys henafol ac enwog Bethesda, Llangynwyd, gan y gweinidog, y Parch. D. Davies, a siaradwyd ar y papur yn gymeradwyol iawn gan y Cadeirydd; Parchn. D. Morris, Porthcawl; D. Williams, Elim; D. Johns, Canaan, a Mr. Zechariah Jenkins, Soar, Maes- teg. Diolchwyd i Mr. Davies am y papur. Di_ weddwyd gan Mr. Zechariah Jenkins. .r- -i' .¡"lL "dri-i.P'h-Y4'k 'æ,>& Y MODDION CYHOEDDUS. Pregcthwyd y noson gyntaf gan y Parch. Evan Jones, Cwmafon; prv" nhawn Ian gan v Parch. J. H. Thomas, Port Talbot, ar y pwnc rhoddedig, sef Trugaredd Duw ac yn yr hwyr gan y Parchn. D. Jones, Cymer, ac R. O. Evans, Castellnedd. Amheuthun oedd cael dyfod i hen ardal gy- segredig Llangynwyd, a bod ar ben y mynydd mewn mwy nag un ystyr. Caed Cynhadledd a chyfarfodydd ag arnynt eneiniad amlwg. Ben- dith gyfoethog fyddo ar y bugail a'r praidd careaig. R. O. EVANS, Ysg.

CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

, CYMRODD.' - -

CADW'R GYMRAEG.II

Y PARCH. J. EVANS (IOAN 0…

Advertising

Advertising