Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Peidiwch a Gadael Merthyr…

Advertising

CYFARFODYDD CHWARTEROL

News
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFLTNDBB^DWYRAIN CAERFYRDDIN. i. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yng Nghapel y Groes, Cilycwm, nos Fawrth a dydd Mercher, Awst 2gain a'r 3oain. Cynhadledd bore Mercher, am 11 o'r gloch, dan lywyddiaeth Mr. David Harries, 70 New-road, Llanelli. Dechreuodd y Parch. T. M. Price, trwy weddi. feriDarllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Penderfynwyd cynnal y cwrdd nesaf yn Salem, Llandeilo, yn ol y gylchres, a bod y Parchn. S. Harries, Cilycwm, i bregethu ar fater i'w ben- derfynu gan Salem, a T. Jones, Pwll, Llanelli, i bregethu ar Salm xlvi. 1, a D. J. Davies, B.A., Capel Als, i bregethu ar y Cymundeb. Pasiwyd Ein bod yn derbyn y brawd ieuanc y Parch. D. J. Davies, B.A., Capel Als, Llanelli, yn aelod o'r Cyfundeb i fod yn gyfrannog yn ein breintiau a'n cyfrifoldeb, gan ddymuno iddo ef a'r eglwys dan ei ofal lwyddiant ysbrydol mawr yn eu cylch eang a phwysig. Wedi siarad brwdfrydig gan y Parchn. W. Davies, Llandeilo, J. Evans, Bryn, a Mr. J. Nicholas, Llanymddyfri, pasiwyd yn unfrydol. a rhoddodd y Cadeirydd i'r gweinidog ieuanc ddeheulaw cymdeithas y Cyfundeb. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn gweled y Parch. Rowland Evans, Walsall, yn bresennol, a'i fod yn cyflwyno iddo ddymuniadau da a chroesaw y Gynhadledd. Cyflwynodd y Parch. Joseph Harry, Llanym- ddyfri, Mr. D. Hopkins, Penrock, Llanymddyfri, fel un oedd wedi ei godi i bregethu yn rheol- aidd yn Salem, Llanymddyfri. Penderfynodd y Gynhadledd ei dderbyn a'i gydnabod fel un o bregethwyr cynorthwyol y Cyfundeb. Penodwyd y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, yn Ysgrifennydd Ystadegol y Cyf- undeb. Penderfynwyd eiu bod yn dymuno ar eglwysi r Cyfuncleh drefnu Saboth cyn diwedd y flwyddyn i wneuthur casgliad at y Drysorfa Gynortliwyol, a'n bod yn gwerthfawrogi ymdrech egniol ein Cadeirydd dros y mudiad yn y Cyfundeb. Fod y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, a'r Parch. W. Davies, Llandeilo, yn cael eu dewis i beii- derfynu'r swm o arian a ddylem dalu i Gapel y Groes i'w cynorthwyo i dalu treuliau'r Cwrdd Chwarter. Pasiwyd Ein bod fel Cyiihfidledd o weii-iict- ogion a chynrychiolwyr o'r gwahanol eglwysi yn dymuno datgan ein llawenydd, ynghyda chyflwyno ein llongyfarchiadau i'r Parch. D. Lewis (Dewi Medi), Dock. Llanelli, ar ddiwedd llwyddiannus ei hanner can mlynedd yn y wein- idogaeth. Ein bod yn dymuno datgan ein hed- mygedd o'i gymeriad disglair, ei alluoedd uwch- raddol, ei weinidogaeth feddylgar ac efengyl- aidd, ac hefyd o'i wasanaeth fel llenor a bardd i'w Enwad a'i genedl am gynifer o flynyddoedd. Tra yn diolch i'r Arglwydd am ei wasanaeth yn v gorffennol, gweddiwn am iddo ef a'i briod hawddgar a ffyddlawn. gael blynyddoedd lawer eto o gysur ac o ddefilyddioldel) er bendith i'r eglwys, er llawenydd i gylch eang o gyfeillion ac er gogoniant i Dduw.' Penodwyd y brodyr canlynol i ffurfio penderfyniad llongyfarchiadol, sef y Parchn. W. Davies, Ilandeil) J. Volander Jones, Pentretygwyn D. Rhydderch, B.A. Cadeirvdd ac Ysgrifellnydcl y Cyfundeb. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a r ieuluoedd oedd mewn galar, cyfyngder a thrallod oblegid y rhyfel mawr hwn, a'n bod yn dymuno ar Dduw i'w ddwyn i derfyniad buan. Penderfynwyd cyflwyno'r mater o gyhoeddi Adroddiady Cyfundeb eleni i ystyriaeth y Pwyll- gor Cyllidol. I z"1 Terfynwyd trwy wedeli gan y Parch. W. Davies Llandeilo. Yr oedd yn bresennol y Parchn. W. Davies, Llandeilo D. Richards, Myddfai D. Bowen, Hermon W. Bowen, Penygroes D. Rhydderch, B.A., Capel Seion D. J. Davies, B.A., Capel Als, a J. Evans, Bryn, Llanelli; Joseph Harry, Llanymddyfri; D. Richards, Crugybar; D. J. Moses, B.A., Tycroes T. Davies, Llangennech G. G. Williams, Gwynfe; J. Volander Jones, Pentretygwyn S. Harris, Cynghordy; T. M. Price, Llanon E. G. Rees, Abergorlech; J. Davies, Tabor G. Jones, Capel Newydd Hendy Mri. D. Harries, Llanelli; J. Nicholas ac E. Williams, Llanymddyfri, ac eraill. Pregethodd y Parch. D. J. Davies, Capel Als, nos Fawrth. Drwg gennyf nad ydyw enw r brawd arall bregethodd yn' fy meddiant. Am 2 prynhawn Mercher dechreuwyd yr odfa gan y Parch. J. Davies, Tabor, a phregethodd y Parchn. T. Davies, Llangennech, ar Ddirwest, a D. B. Richards, Crugybar, ar Cloffion y Pyrth,' ar gais y Gynhadledd. Pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch iddynt am eu pregethau da a'u ffyddlondeb i ddyfod a'u traddodi. Dechreuodd y Parch. D. Bowen, Hermon, odfa'r hwyr, a phregethodd y Parchn. D. J. Moses, B.A., Tycroes, a T. M. Price, Llanon. Cawsom gyfarfodydd da iawn, cynulliadau lluosog, astud a hawddgar, a phregethodd y gweinidogiou gyda nerth. Yr oedd yr eglwys a'r gweinidog caredig wedi gwneuthur trefiliadau lielaeth ar ein cyfer. Mwynhasom ein hunain yn fawr. Pasiwyd pleidlais gynnes o ddiolch i'r chwiorydd siriol am weini arnom, ac i'r frawd- oliaeth am drefnu cerbydau i gario ymwelwyr a gweinidogioli yn ol a blaen o'r orsaf. Da gennym gyfarfod a'r Parch. S. Harries, y gweinidog ffyddlawn, ymhlith pobl ei of al, y rhai hefyd ydynt bobl ei gysur. Mae Mr. Harries yn bregethwr ardderchog iawn, ac yn llawn doethineb a gras Duw. Llawenydd ganddo ydoedd y cvfleustra i groesawu Cwrdd Chwarter y Cyfundeb, i'r hwn y mae efe yn ffyddlon. Dymunwn iddo ddyfodol inwy llwyddiannus hyd yn oed na'i orffeniiol disglair. Rhodded yr Arglwydd iddo wrth fodd ei galon, a cliyflawned 11i lioll gyngor.' Gobeithio fod ymweliad y Cwrdd Chwarter wedi gadael arogl esmwyth ar ei ol. JOHN EVANS, Ysg.

CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD.

Advertising

GLOYWI'R GYMRAEG.