Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

-Trewyddel, ,Penfro...I

News
Cite
Share

Trewyddel, Penfro. I CVI'ARI'ODYDD SEFYPIXT GWEINIDOG. J Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd hynod elC1Y-\ nitinol yil 3  hre munol yn Nhrewyddel a Brynsalem ar y 2qain a'r 30am o Awst vngl?ti a sefydliad y Parch. T. E. Jones, diweddar o'r Efailisaf. Ym Mrynsalem nos Fawrth pregethwyd i lond capel o gynulleidfa astud yn hynod rymus gan y Parchn. E- Afan Jenkins, Moriah, a J. R. Davies, Pentyrch. Yr un adeg ym Methel. Tre- wyddel, pregethwyd gan y Parchn. R. Williams, Maenclochog, a H. T. Jacob, Abergwaun. Am 10 o'r gloch trannoeth dechreuwycl y gwasanaeth gan y Parch. J. Caerau Rees, D.D., Brynberian, a phregethwyd ar Ddyledswydd y Gweinidog gan y Parch. H. T. Jacob, ac ar Ddyledswydd yr Fglwvs gan y Parch. B. Davies, D.D., Castellnewydd Emlyn. Cafwyd dwy bregeth odidog. Neilltuwyd odfa'r prynhawn i groesawn a sefydlu'r gweinidog newydd. Dechreuwyd gan y Parch. T. Esger James, Aberteifi, ac ymgy- merwyd a llywyddiaeth y cyfarfod gan ysgrifen- nydd hyn o linellau. Ar ol rhoddi cipdrem ar hanes yr eglwys er ei sefydliad 225 mlynedd yn ol, galwodd ar y Parch. E. Afan Jenkins i draddodi anerchiad ar Gen- adwri'r Amseroedd at Ddilynwyr Mab Duw.' Yn dilyn cafwyd anerchiad gan y Parch. Rhys Williams ar Y Pwys i Aelodan Eglwys Ddnw ddiogelu Heddwych a Chydweithrediad.' Dau anerchiad amserol a gwerthfawr. Yna rhoddwyd hanes yr alwad gan Mr. J. Lewis ar ran Bethel, a chan Mr. G. P. Biddyr ar ran Brynsalem, mewn geiriau detholedig. Hefyd darllenodd Mr. Lewis lythyr oddiwrth y Parch. E. Griffith Davies, Palace-road, Llundain (un o blant disglair Trewyddel), yn dymuno'n dda i'r undeb. Wedi cael yr arwyddion o'r alwad a'r croesaw o du'r eglwysi, a'r arwydd o'r derbyniad o du'r gweinidog, gweddhvyd am fendith ar yr undeb gan y Parch. H. H.Williails, Llechryd. Siaradwyd ar ran eglwys Bfailisaf gan Mr. Roderick Lewis, ac ar ran eglwys Pentyrch gan Mr. R. Bassett. Dygodd y ddau dystiolaeth uchel iawn i Mr. Jones fel dyn, pregethwr a gweinidog yn ystod y saith mlynedd y bu'n llafurio yn y cylch. Rhoddasant air canmol- iaethus iawn hefyd i'w briod. Yr oedd amryw frodyr a chwiorydd wedi dod lawr yr holl ffordd i'r cyrddau er mwyn dangos en parch a'u cefnogaeth i Mr. a Mrs. Jones. Caf- wyd gair hefyd gan Mr. T. Jacob, Trcorci, fel un a adwaenai Mr. Jones er dyddiau bachgendod. Siaradwyd ar ran Undeb Ysgolion Sul Gog- ledd Penfro gan y- Parch. J. Evans, Gideon ar ran y Bedyddwyr gan y Parch. W. H. Jones; ar ran y Methodistiaid gan y Parch. D. Richards, Llandudocli; ac ar ran plant Trewyddel sydd ar wasgar gan Mr. G. P. Cooke Davies, Abertawe. Diolchodd Mr. Jones am yr holl eiriau caredig. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. J. Abel, B.A., Tyddewi. Dechreuwyd odfa'r hwyr gan y Parch. J. T. Gregory, Peniel, a phregethwyd gan y Parchn. J. R. Davies, Pentyrch, a Dr. Davies. Odfa i'w chofio'n hir. Yr oedd y canu o dan arweiniad meistrolgar Mr. D. Davies. Gwenodd y dydd yn hyfryd ar yr odfeuon, a gwenodd y Nef yn hyfrytach fyth. Yng nghof y neb sy'n fyw ni chafwyd dymunolach cyrddau. Huliodd. chwiorydd yr eglwys fyrddau llawn o ddanteithfwvd i'r llu dieithriaid o bell ac agos oedd yn bresennol. Heblaw y rhai a gymerodd ran, gwelsom yn bresennol y Parchn. J. Williams (B.), Aberteifi J. D. Hughes (B.), Blaenwaun; D. W. Phillips, (B.), Llandudoch; R. H. Williams, Tyrhos D. G. James, Fachendre J. Brynach Davies, Llan- fyrnach J. H. Evans, Trefdraeth E. P. Jones, periglor y plwyf, ynghycla'r myfyrwyr B. Morris, Bethesda, a Clement Davies (B.), Coleg Bangor. Hir, llwyddiannus a dedwydd a fo'r undeb. Llandudoch. E. J. LlyOYD.

Advertising

Marwolaeth Gynnar Cenhadwr.

PONTYPRIDD.I

I PENIEL, PENRHOS.

SARON, MAESTEG.

[No title]