Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

RIN cydymdeimlad llwyraf a. Pedrog yn Gwragedd Gweinidogion. ei alar dwys ar ol ei annwvl briod. Bu yn gystuddiol yn hir iawn, a'i nychdod yn drwm a blin. Ond daliodd yn siriol a ffyddiog drwy'r cwbl. Mae'r ergyd yn un drom iawn i'n hannwyl frawd yn ei wendid a'i gystudd ei hun. Nerthed a chysured yr Arglwydd ef yn ei drallod a'i alaeth, a rhodded iddo adferiad buan. —Sydyn ryfeddol oedd marwolaeth priod y Parch. J. Morgan Jones, Bargoed (gynt o Gaergwrle). Yr oedd yn ymddangos- iadol iach ac yn darllen y newyddiadur yn uchel i'w gwr pan y diffoddodd y fflam fywydol mewn eiliad. Chwaer annwyl oedd Mrs. Jones, ac nid anghofiwn yn fuan ei charedigrwydd i ni pan yn fyfyriwr ieuanc yn casglu. Yr oedd felly i bawb. Diddaned yr Arglwydd ein hannwyl frawd Mr. Jones, a chaffed Li gwmni a'i nerth am weddill y daith. » CROKSAWN yn galonnog y cylcliRrawn I Y Deyrnas.3 newydd, Y Deyrnas, a gyhoeddir ym Mangor. Mae iddo ei le a'i neees. Ceir ysgrifau gwych yn y rhifyn cvntaf gan y Prifathro T. Rees, yr Athrawon J., Morgan Jones a T. Gwynn Jones, a'r Parchn. J. T. Rhys a J. Puleston Jones. Cyfrwng y tangnefeddwyr ydyw'r Deyrnas, ond a ynghylch ei waith yn deg a gwrol, ac yn gyson ag egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth. Er y bwriadwn wrth- wynebu rhyfel a'i holl waith, a chefnogi heddwch hyd eithaf ein gallu, ni thybiwn fod heddwch yn amcan terfynol ynddo'i hunan. Troi allan i'r frwydr fwyaf oil yr ydym ninnau hefyd—i'r rhyfel yn erbyn drwg a phechod a cham a thrueni. Ond arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol." Da iawn. Duw yn rliwydd i'r Deyrnas.

Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.

I Dodgeville, Wis., America.

1-CYFARFODYDD.

Advertising

[ OSSIAN. i