Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
PESWCH AC ANNWYO. I Canmola Machine-gun Lance-Opl. VENO'S LIGHTNING COUGH CURB. Ysgrifenna Lance-Corporal D. J. Wallace, Machine- gun Section, 3rd South Wales Borderers -1 Blinid fi yn barhaus gan annwyd a pheswch, y rhai yn wir cis gallwn byth gael gwared oddiwrthynt, er fod gennyt gymysgoedd a phethau eraill. Perswadiwyd fi i dreio Vena's Lightning Cough Cure, ac yr oeddwn yn fwy nu boddlon gyda'r canlyniadau. Ar ol hynny nid oeddwl byth heb gyflenwad.' Ymddiriedwch yn Veno's y gwna walla Peswch, Annwyd, Bronchitis, Anwydwst, Dyferwst a'r Pas Prisiau-lllo, Is 3c, a Ss ym mhobman. For Sale, suitable for Lighting Large Building, ACETYLENE GAS PLANT IN good working order, with Double J-. Generators 30 inches by 6t inches, suitable for continuous working; one Gasometer 42 inches by 30 inches; one Purifier 30 inches by 9 inches, including all connections for supplying 32 Lights.—Apply to—DANIEL REES. B ancyreithin, Gorseinon.
AT EIN GrOHEBWTR.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT EIN GrOHEBWTR. APEL NEWYDD. I. Gwelir fod ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfod ohonom gwtogi a chynilo ein papnr. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfodydd preg- ethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &c. 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r cyfeillion sy'n anfon atom—yn Saesneg, fel i-heol-i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er mwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llythyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-17 GIVYNRHONDDA STREET, CAERDYDD. Y GOLYGYDD. Nid Objectoy.-Rhoddodd Sergeant Hughes ei enw a'i gyfeiriad yn llawn wrth ei lythyr. Onid teg fyddai i chwithau wneud yr un peth ? Ymddengys os gwnewch. Mewn Llaw.—-Cyfarfodydd Chwarterol Cyfun- deb Cymreig Penfro a Chyfundeb De Morgannwg —Pontlotyn—Achos Soar, Pontygwaith—Gog- ledd Ceredigioll-Ein Henwad yn Llanelli— Chware Teg-Siloh, Pontardulais—Eglwys Pen- dref, Bangor-Castellnedd a'r Cyleh--Brynberiin —Bontnewydd, Arfon--Undeb Ysgolion Tre- I ffynnon-Er cof am William Alwen 1,loyd, Manchester—Ymddiswyddiad y Parch Ehvyn Thcmas—Cyfarfodydd, &c.
[ OSSIAN. i
News
Cite
Share
OSSIAN. i Bu f, r annwyl a'r enwog Barch. J. Ossian Da vies yn ei gartref Y11 Shortlands, Kent,, y Saboth, Medi y 2 4aiii, yn 64 mlwydd oed. Chwarter canrif yn 01 yng Nghymm, ac am dymor maith wedi hynny yn Iyloegr, nid oedd bregethwr nac areith- iwr mwy ysgubol a hyawdl na mwy cyf- reithlon o boblogaidd nag efe, ac anwylid enw Ossian ar bob aelwyd Annibynnol trwy'r holl wlad. Nid anghofiwn byth' ei glywed am y tro cyntaf yn Ebenezer, Bangor, ar brynhawn Llungwyn, pan oeddym yn lleiicyii ieuanc yn ysgol Porth- aethwy yn paratoi ar gyfer y Col eg. Yr oedd y son am ei ddoniau pregethwrol rhyfeddol wedi cerdded o'i flaen, ond amheuwn a oedd neb o saint Arfon, er eu bod yn hen gynefin a doniau mwyaf Cymru ar y pryd, wedi dychmygu erioed. y gallasai neb siarad mor gyflym ac arllwys rhaeadr mor ysgubol o frawddegau cabol- edig ar eu. pennau mor ddidor am awr o amser. Cymerai ein hanadl ymaith ac er fod ei bregeth y pryd hwnnw yn llawn o feddwl ac yn fyw ei neges, eto yr effaith cyntaf arnom oedd rhyw syndod syfrdanol fod neb byw bedyddiol yn gallu parablu mor gyflym ac yn chwyrnellu heibio i ni yn y fath storm o hyawdledd. Credem ar y dechreu ei fod yn gwneud cam aruthrol ag ef ei hun ac a'i bregeth trwy dynnu'r sylw mor llwyr at ruthr ofnadwy ei dradd- odiad, ond buait y daliwyd ni yng ngafael y llifeiriarit ac y mwynhaem gynnwys a rierth ei neges am ei bod yn cael ei chytleu mor newydd a nerthol a chwyrn. Yr oedd yn ddawn newydd hollol, a thorrai ar draws bob syniad cyffredin am areithydd- iaeth y pulpud. Nid oedd yn canu, nid oedd yn bloeddio, ac eto yr oedd yn feistr ar cadence geiriau detholedig, ac ar fath ar sing-song o dri nodyn pan gynhesai oedd mor bell oddiwrth yr hwyl oedd gan Herber, er enghraifft, a deunod y gog oddi- wrth gan yr eos. Ac eto yr oedd yr effaith yr un mor ddwys, a'r swyn yr un mor felys. Ni newidiodd fawr ar y dull hwn tra yn pregethu yn Gymraeg, ond yn Saesneg yr oedd yn fwy araf o gryn dipyn, ac eto yr oedd mor eithriadol siaradwr ymysg y Saeson ag ydoedd ymysg y Cymry. Ar un adeg mae'u amheus gennym a oedd neb yn fwy poblogaidd nag efe yn y pulpud ac ar y llwyfan Seisnig. Ac mae ei gyfrol o bregethau Saesneg yn brawf o braffter a phrydferthwch medd- yliol ac ysbrydol ei weinidogaeth ogon- eddus. Yn Llanelli, ei ofal eglwysig cyntaf, yr oedd pan glywsom ef ym Mangor. Yr oedd wedi codi fel corned, yn sydyn ac ysblenydd, a nod athrylith ar ei berson a'i stori. Brodor o Aberteifi ydoedd, a brawd iddo yw'r hyawdl a'r doniol Ivy no 11 Davies, awdur ein llithiau byw a chraff o Fabilon Fawr.' Argraffydd oedd Ossian wrth ei grefft, a bu yn ei dilyn yn fore ym Merthyr. Daeth yn fuan yn olygydd y Fellten, a gyhoeddid ym Merthyr, ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol y De. Y pryd hwnnw yr oedd yn aelod yn Adulam, a'r galluog Tydfilyn yn weinidog iddo. Anogwyd ef ganddo i fyned i'r weinidogaeth, ac wedi tymor o ysgol yn Aberteifi derbyniwyd ef i Goleg Aber- honddu yn 1873. Yn 1876 aeth i'r Taber- Had, Llanelli, yn weinidog cyntaf i eglwys ieuanc. Yr oedd eisoes wedi gwrthod galwad o Grove-street, Lerpwl, i fod vn olynydd i Hiraethog, a chofiwn yn dda ddywediad y ffraeth Barch. W. Roberts, Great Mersey-street, i Grove-street geisio dal yr ocean (Ossian), ond mai'r diferion melys a gafodd.' Yr oedd W. Nicholson, gweinidog dilynol Grove-street, newydd gyhoeddi ei lyfryn, Y Diferion.' Tra bu Ossian yn Llanelli cerddodd dros Gymru gyfan i ddarlithio ar Y Bwystfil Rhuf- einig,' a dyna'r exposure mwyaf ofnadwy o'r Pab a'i grefydd glywsom yn ein bywyd. Byddai'n wasanaeth cenedlaethol i'w chy- hoeddi yn llyfryn heddyw. Nid hir y bu cyn i'r Saeson lygadu arno a'i ddenu drosodd. Mae dau fath ar Gymro yn mynd i'r pulpud Saesneg—un na wnai fawr ohoni ped arhosai yng Nghymru, a'r llall yn wr sydd wedi ennill ei le yn rheng flaenaf pregethwyr Cymru, ond sy'n dyheu am faes ehangach a chyfle gwell i wasan- aethu ei Feistr. A phan gofir am y modd y mae eglwysi Cymru wedi ymddwyn at a chydnabod eu gweinidogion, prin y gellir eu beio. Colled fawr i Gymru oedd colli Thomas Jones, Morlais Jones, Jansen Davies, Thomas Nicholson ac Ossian Davies, heb enwi ond y marw yn unig, ac mae'n amheus gennym a fuasent oil wedi trQi'n Saeson pe cawsent gyflog byw yn eu gwlad eu hunain. Un peth sy'n sicr—osgoisant ddibynnu ar old age pen- sion Mr. Lloyd George trwy adael eu gwlad, yr hyn nad all ddynion mor alluog a hwythau trwy aros yng Nghymru. Perth- ynai Ossian i ddosbarth y cewri, a chad- wasai ei le ar y pinacl uchaf ped arosasai gyda'r Cymry eithr fel arall y trefnwyd ei rawd. Ond parhaodd yn Gymro cynnes hyd y diwedd, ac nid oedd dim a'i llonnai yn fwy na chwmni ei frodyr Cymreig a chynnydd crefydd a chenedlaetholdeb Cymru. Er iddo wasanaethu yn olynol gyda'r Saeson yn Abertawe, Tollington Park, Bournemouth a Paddington, ni chollodd touch a'i genedl, ac nid angliof- iodd hi yn nydd ei lwydcl a'i ogoniant. Erys capel godidog Richmond Hill, Bournemouth, lie mae Dr. J. D. Jones yn awr yn gweinidogaethu mor llwyddiannus, yn gofgolofn ardderchog i ynni a nerth a llwyddiant Ossian yn y maes pwysig hwnnw. Dan ei fugeiliaeth ef yr adeilad- wyd y deml orwych, ac y tyfodd yr eglwys i'w bri a'i safle uchel. Ond costiodd hynny yn ddrad i Ossian, canys dyna'r pryd y dechreuodd ei iechyd ddirywio'n araf. Symudodd oddiyno i Paddington, Llun- dain, yn 1897, wedi llafurio yn Bourne- mouth am 10 mlynedd. Ymdaflodd i'w waith yma eto, ac ail-adeiladodd y capel trwy draul fawr, a llanwyd ef yn fuan a chynulleidfa enfawr ac eglwys gref. Eithr daliai'r clefyd i gynhyddu, a bu raid iddo ymneilltuo yn 1903. Llethot o drist i ni oedd ei glywed tua'r adeg honno'n dar- lithio yn Ebenezer, Caerdydd, a'r tafod tan wedi oeri ac arafu ac er fod y fflam mor eiriasol yn ei lygaid ag erioed, pallai y lleferydd ag ufuddhau i'r ewyllys, a gwaedai ein calon wrth wylio ei ymdrech a'i siom. Dyna'r tro olaf i ni ei glywed, ond gwelsom ef wedyn, a pharhai ei ysbryd mor fyw ac effro a difyr ag erioed. Ni d .,< f r*\ til-i AimLr-diLsMF- Wilt--