Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MAESTEG.

News
Cite
Share

MAESTEG. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs. Bowen, Carmel.—Chwith gennym gofnodi marwolaeth y chwaer hynaws a siriol Mrs. Bowen, priod hoff y Parch. W. R. Bowen, yr hyn a gymerodd le ym Maesteg, Gorflennaf 25ain. Yr oedd yn eglur ers misoedd fod barrug oer yr anialwch wedi ei chyffwrdd, ac fod y daearol dy yn graddol adfeilio ac nid oes yn aros mwyach i addurno cartref, i lonni ei phriod, ac i sirioli ei phlant, ond atgofion tyner llawer calon drom. Gwywodd yn yr haf, ac ehedodd i hinsawdd gynhesach i ddatblygu a pherarogli mewn Paradwys, lie mae yno yn dragwyddol haf.' Yn unol a'i dymuniad, rhoddwyd ei gweddillion 1 marwol i orffwys ym mynwent Hermon, Manor- deilo—yn nhawelwch tlws Dyfiryn Tywi. Ym- ddiriedwyd holl drefniadau'r angladd i gyfaill y teulu, y Parch. J. T. Parry, Maesteg. Bore Iau, cyn cychwyn o Maesteg, cafwyd gwasanaeth byr yn y ty, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn. W. T. Thomas (M.C.), Tabor; Iorwerth Jones (B.), Bethania; a J. T. Parry, Soar. Yna heb- ryngwyd ei chorff gan dorf o bobl i orsaf Maes- teg. Erbyn cyrraedd i orsaf Llandeilo, yr oedd yno nifer luosog yn disgwyl yr angladd, ac aed yn orymdaith bruddaidd i gyfeiriad ei chartref, Closglas, lle'r oedd y corff i aros dros 110s. Wedi cyrraedd y ty cafwyd gwasanaeth tyner iawn gan y Parch. J. T. Parry. Prynhawn drannoeth daeth torf ynghyd i'w hebrwng i dy ei hir gar- tref ym mynwent Hermon. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. Stephen Thomas, Salem a chynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn addoldy Hermon o dan lywyddiaeth y Parch. J. T. Parry. Darllenwyd rhannau o'r Ysgrythyr gan y Parch. D. B. Richards, Crugybar, ac offrymwyd gweddi ddwys gan y Parch. Volander Jones, Pentrety- gwyn. Yna pregethwyd yn nodedig o afaelgar ac effeithiol gan y Parch. W. Davies, Llandeilo. Nid anghofir yn fuan y bregeth gref a chyf- oethog hon. Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parchn. D. Eurof Walters, M.A., B.D., Abertawe; Penar Griffiths, Pentre Estyll; ac E.G. Rees, Abergorlech, gyda dwyster a thyner- wch neilltuol. Yn ystod y gwasanaeth canwyd amryw o eniynau cyfaddas i'r amgylchiad o dan arweiniad medrus Mr. Isaac Jenkins, arweinydd y gan yng Ngharmel. Cafwyd hefyd anerchiad tyner yn y capel gan Mr. Jacol) Jenkins, ysgrif- cnnydd ffyddlon eglwys Carmel, yn mynegi cyd- ymdeinilad y frawdoliaeth a'i gweinidog yn ei drallod blin. Danghosodd eglwys Carmel ei chydymdeimlad mewn dull sylweddol iawn. Aeth nifer luosog o'r aelodau yr holl ffordd i Lalldeilo; ac nid hynny yn unig, ond pender- fynodd yr eglwys-er clod by tho 1 iddi-i ddwyn holl dreuliau yr angladd. Nis gall gweithred fel hon lai na bod yn gysur mawr i Mr. Bowen, ac y mae'n sicr o brofi'n fendith gyfoethog ac arhosol ym mywyd yr eglwys ei hun. Diolch- odd Mr. Davies, Llandeilo, yn gyhoeddus iddi, dros y teulu oil, mewn ymadroddion pwrpasol am ei hysbryd rhagorol. Derbyniodd Mr. Bowen lu o lythyrau cydymdeimlad o bell ac agos. Bin gweddi yw am iddo ef a'i deulu bach a'r holl berthynasau, tra. yn unigedd a thywyllwch eu Gethseniane, gael nerth i ymostwng i'r ewyllys Dadol sydd y tucefn i bob cwpan chwerw, ac i ymddiried yn y cariad Tadol sydd yn peri i bopeth gydweithio er daioni i'r rhai sydd vii Ei garu Ef.

Y PARCH J. OSSIAN DAVIES.

MA ESY CWMWR.

Advertising

I%POB OCHR PR HEOL.