Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

O'R FFOSYDD.

News
Cite
Share

O'R FFOSYDD. Headquarters, 115th Infantry Brigade, I 138th Welsh Division, B.E P., France. I MR GOL-Ar ddymuniad amryw o'r bechgyn, yr wyf yn ysgrifennu i ddatgan ein diolch gwresocaf i O. L.' am ddangos 'Y Teimlad Cymreig a'r Rhyfel' yn y TYST am Awst 3oain. Gobeithiwn gael dyfod gartref rhyw ddiwrnod i ysgwyd ei law a chraffu ar y dyn. Yr ydym yn credu fod ein cydwybodau ni yn llawn mor bur a disigl ag eiddo y gwrthwyn- ebwyr sydd newydd ddarganfod fod y fath beth yn eu meddiant. Mae gennym ni enw arall ar eu darganfyddiad. Yrunigwahaniaeth rhyngom ydyw fod galwad gwlad wedi cyrraedd ein cydwybodau i gynnyg ein cyrff, tra y mae llais gwlad mewn ing yn peri i'w cyrff hwynt i grynu a chreu gau-gydwybod i ymdrechu achub eu crwyn. Mae yr esgusodion adroddir o flaen y Tribunals yn warthus a chwerthinllyd, yn enwedig un frawd ieuanc oedd yn taeru ei fod yn aelod crefyddol ac vn nai i'r diweddar brifardd Tafolog. Bu'n agos i 'n trwynau ni waedu ar ol darllen amdano, achos feddyliasom ni erioed am y meirw, ond am ein hanwyliaid oedd yn fyw. Un o'r difyrrion goreu sydd gennym yn y trenches ydyw darllen y TYST a gwneud rhestr o'r bechgyn meddal yna sydd a chydwybodau mor ystwyth fel ag i lyncu pob rhinwedd can- moladwy feddant. Heblaw hynny, byddwn yn rhifo y gweinidogion a'r diaconiaid fydd yn eu cefnogi ac yn pardduo eu heneidiau eu hunain trwy sefyll i fyny drostynt. Os oes un o'r gweinidogion hyn yn gweddio drosom ni ar faes y gwaed, bydded iddynt dewi. Yr ydym ni yn credu, er mor fawr yw ein bai, a chyn lleied yw ein haeddiant, ein bod wedi cael y fraint o gyffwrdd a gwisg ein Prynwr, a 8icrwydd ganddo Bf fod gwobr i'w chael am gynnyg marw dros wlad, cartref a chydwybod. Ydwyf, yr eiddoch, &c., H. D. HUGHICS I fBrigade Quartmaster Sergeant. I

LLANELLI.I

[No title]

Advertising

ISCRANTON, PA, U.S.A.

[No title]

Advertising